Eitem Rhaglen

Sut gall y CYSAG gyflawni ei ddyletswyddau yn y dyfodol

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Addysg.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Addysg adroddiad briffio yr oedd wedi ei anfon at bob un o Benaethiaid ysgol Ynys Môn yn gofyn am sylwadau ar gynnig i gynorthwyo’r CYSAG i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o ran monitro safonau Addysg Grefyddol ac addoli ar  y cyd mewn ysgolion lle byddai CYSAG yn casglu adroddiadau hunanarfarnu o fewn cylch 3 blynedd a fyddai’n golygu y byddai ysgolion unigol yn cyflwyno adroddiad i’r CYSAG bob tair blynedd yn seiliedig ar y patrwm a awgrymir yn yr adroddiad.  Dywedodd y Swyddog bod penaethiaid cynradd wedi ystyried y cynnig a’u bod yn barod i’w fabwysiadu ond y byddent yn gwerthfawrogi cael rhybudd o ba bryd y byddai angen yr adroddiadau.  Nid oedd penaethiaid uwchradd wedi ystyried y mater hyd yma.  Y bwriad oedd y byddai’r Swyddog Addysg yn cydgysylltu gydag 16 o ysgolion cynradd a dwy ysgol uwchradd bob blwyddyn i ofyn iddynt gyflwyno adroddiadau hunanarfarnu i’r CYSAG.  Dywedodd Miss Bethan James fod y cynnig yn golygu y byddai’r CYSAG yn gallu archwilio 5 adroddiad hunanarfarnu bob blwyddyn ac y gallai hefyd ystyried gwahodd pennaeth i annerch y CYSAG yn y mis dilynol.

 

Cytunwyd i dderbyn y cynnig fel ffordd o gynorthwyo’r CYSAG i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o ran monitro safonau Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd yn ysgolion Ynys Môn.

 

Cam Gweithredu yn codi:  Bod y Swyddog Addysg yn gweithredu’r system yn amodol ar gael cytundeb y penaethiaid uwchradd.

 

Rhoddodd Miss Bethan James gyflwyniad i’r Aelodau ar fodel drafft ynghylch sut y gallai’r CYSAG fonitro safonau o gofio, dan y system newydd dan y GwE, nad oes unrhyw gyfrwng i swyddogion gysylltu gydag ysgolion i bwrpas rhoi atborth i’r CYSAG ar y ddarpariaeth o Addysg Grefyddol a’r trefniadau ar gyfer addoli ar y cyd.  Cyfeiriodd at yr ystyriaethau isod:

 

           Sut y gall y CYSAG gasglu gwybodaeth a’r ffynonellau sydd ar gael.

           Y pro fforma hunanarfarnu y mae’r CYSAG wedi ei fabwysiadu i gael gwybodaeth gan ysgolion ar eu hunanasesiad o’r canlyniadau mewn Addysg Grefyddol; ansawdd y ddarpariaeth AG ac ansawdd y trefniadau ar gyfer addoli ar y cyd.

           Yr angen i hunanarfarniadau ysgolion adlewyrchu’r iaith arolygu yn y defnydd o ymadroddion gwerthuso ac i adlewyrchu dealltwriaeth o’r hyn a olygir gan Estyn trwy gyfeirio a chyfrannau

           Cyhoeddiadau sydd wedi eu dylunio i gefnogi athrawon yn eu dealltwriaeth o safonau a gweithgareddau AG.

           Holiadur y gofynnodd i Aelodau’r CYSAG ei gwblhau i ddangos eu dealltwriaeth o AG a sut y gellid monitro safonau.

           Yr adolygiad thematig o Addysg Grefyddol a gynhaliwyd gan Estyn yn seiliedig ar sampl o ysgolion trwy Gymru(nid oedd ysgolion o Wynedd ac Ynys Môn yn rhan o’r sampl) a oedd yn canolbwyntio ar y ddarpariaeth AG yn CA3 a’r ddarpariaeth AG statudol i ddisgyblion 14-16 oed, o dan y teitl Addysg Grefyddol mewn Ysgolion Uwchradd.  Mae’r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad yn benodol ar gyfer ysgolion a dau ar gyfer Llywodraeth Cymru.

 

           Aeth Miss Bethan Jones ymlaen i ddiweddaru Aelodau’r Cysag ar y sefyllfa mewn perthynas â’r Marc Ansawdd ar gyfer AG.  Mae’r system marc ansawdd wedi ei datblygu yn Lloegr a rhoddwyd caniatâd i addasu’r meini prawf ar gyfer Cymru ac mae Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi cytuno i wneud y gwaith hwn.  Dywedodd y Swyddog ei bod yn ffordd i’r ysgolion gael cydnabyddiaeth allanol am eu gwaith yn y maes AG a’i fod yn declyn defnyddiol o ran hunanarfarnu.  Mae ffi o gwmpas £400 i £500 yn daladwy ar gyfer yr achrediad ac unwaith y mae’r ysgolion wedi bod trwy’r broses maent yn gymwys i weithredu fel achredwyr eu hunain.

 

           Cadarnhaodd Miss Bethan James y byddai Cynhadledd Cymdeithas CYSAGau Cymru yn cael ei chynnal yn Nhrefforest, Caerdydd ar 10 Hydref, 2013.

 

Rhoddodd Aelodau’r CYSAG sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd a chanolbwyntiodd y drafodaeth wedyn ar argaeledd cymorth proffesiynol i’r CYSAG dan y corff rhanbarthol GwE newydd i’w gynorthwyo i gyflawni a chwrdd â’i ddyletswyddau statudol mewn perthynas ag AG ac addoli ar y cyd a ffurf a natur bosib y gefnogaeth honno. Rhodwyd gwybod i’r Aelodau fod y trefniadau cefnogaeth ar gyfer CYSAGau Gwynedd ac Ynys Môn yn parhau i fod dan drafodaeth.  Rhoddodd yr Aelodau sylw i fodelau posib ac roedd consensws fod corff CYSAG Ynys Môn o’r farn ei fod angen cefnogaeth trwy atborth o ymweliadau ysgol iddo fel y gall gyflawni ei gyfrifoldebau’n effeithiol. Cytunwydfelly y byddai’r CYSAG yn gofyn i’r AALl ymdrechu i sicrhau fod y trefniadau cefnogaeth broffesiynol y mae’n eu comisiynu gan y GwE ar gyfer y corff CYSAG yn cynnwys cyswllt swyddogion gydag ysgolion.  Roedd yr Aelodau yn awyddus iawn i roi gwybod i’r ysgolion uwchradd am argymhellion yr adroddiad adolygiad thematig gan Estyn ar AG mewn ysgolion uwchradd ac yn awyddus iddynt hefyd roi sylw i’r argymhellion ynddo.  Awgrymodd y Swyddog Addysg bod y pum pennaeth uwchradd yn trafod yr argymhellion ar y cyd.

 

Trafododd yr Aelodau gynrychiolaeth y CYSAG ar Gynhadledd Cymdeithas CYSAGau Cymru Gyfan ym mis Hydref.  Cytunwyd y byddai’r Athro Euros Wyn Jones yn mynychu ar ran y Grŵp Enwadau Crefyddol ac y byddai’r Cadeirydd yn cynrychioli grŵp Aelodau Etholedig yr AALl unwaith y caiff ei benodi/phenodi.

 

Cytunwyd i

 

           Nodi'r datblygiad hyd yma.

           Gofyn i’r AALl geisio sicrhau bod y trefniadau cefnogaeth broffesiynol y mae’n eu comisiynu gan y GwE ar gyfer y CYSAG yn cynnwys cyswllt swyddogion gydag ysgolion.

           Gofyn i’r Swyddog Addysg ddwyn sylw ysgolion uwchradd yr Ynys at y chwe argymhelliad perthnasol sy’n codi o Adolygiad Thematig Estyn o AG mewn ysgolion uwchradd, gydag argymhelliad bod y Penaethiaid Uwchradd yn cyfarfod i ystyried yr argymhellion.

           Bod yr Athro Euros Wyn Jones yn mynychu Cynhadledd CySAGau Cymru ym mis Hydref 2013 ar ran y Grŵp Enwadau Crefyddol ac y byddai’r Cadeirydd yn cynrychioli Aelodau Etholedig yr AALl unwaith y caiff ei benodi/phenodi.

 

Camau Gweithredu’n codi:

 

           Bod y Swyddog Addysg yn rhoi gwybod i’r Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes am ddymuniadau’r CYSAG mewn perthynas â natur y trefniadau cefnogaeth broffesiynol ar gyfer y corff.

           Bod y Swyddog Addysg yn anfon gwybodaeth am argymhellion Adolygiad Thematig Estyn ynghylch AG mewn ysgolion uwchradd i benaethiaid uwchradd yr Ynys gydag argymhelliad eu bod yn cwrdd i drafod yr argymhellion mewn perthynas â’r ysgolion.

 

Dogfennau ategol: