Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolwr Hyfforddi a Datblygu yr Adran Adnoddau Dynol ar y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu i Aelodau ar gyfer 2024/25.
Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod Tîm Hyfforddi’r Adran Adnoddau Dynol wedi bod yn cydweithio â’r Gwasanaethau Democrataidd ar y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu, sydd wedi’i rhannu i’r penawdau canlynol: Hyfforddiant Mandadol; Cyffredinol; Iechyd a Lles; Ar Gais a modiwlau E-Ddysgu.
Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod 39 o gyfleoedd wedi cael eu cynnig i aelodau etholedig ers mis Ebrill 2023, 24 yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Dywedodd bod mwy o bwyslais wedi bod ar hyfforddiant mandadol, a bod y canlyniadau’n gadarnhaol. Nodwyd bod mwy wedi cymryd mantais o’r hyfforddiant Iechyd a Diogelwch a bod 34 allan o 35 wedi mynychu eleni o gymharu â 26 y llynedd. Cynhelir hyfforddiant pellach ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar 3 Rhagfyr 2024.
Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod TGCh yn dal i fod yn faes blaenoriaeth, a bod y sesiynau hyfforddi 1:1 wedi bod yn hynod effeithiol. Rhannwyd holiadur gyda’r aelodau yn dilyn yr hyfforddiant ond roedd nifer yr ymatebion yn siomedig. Mae’r trafodaethau â Chymunedau Digidol Cymru yn parhau er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddi pellach yn y maes hwn. Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod yr aelodau etholedig wedi gofyn am sesiynau wedi’u teilwra, ac y bydd y ceisiadau hynny’n cael eu hystyried. Yn y cyfamser, bydd yr aelodau’n cael cyfle i fynychu cyrsiau hyfforddi ar faterion corfforaethol, sy’n cael eu cynnig i staff.
Nodwyd bod diweddariadau chwarterol ar bresenoldeb yn ystod sesiynau hyfforddi yn cael eu rhannu â’r Gwasanaethau Democrataidd ac yna’r Arweinwyr Grŵp maes o law. Yn ddiweddar, cyflwynwyd sesiynau hyfforddi rhithwir ynghyd â fideo dwyieithog ar Iechyd a Diogelwch, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus. Fe wnaeth y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu annog yr aelodau i gysylltu â hi os oes ganddynt unrhyw bryderon neu adborth i’r Tîm Hyfforddi yn dilyn sesiynau hyfforddi.
Roedd un aelod o’r Pwyllgor yn poeni bod yr hyfforddiant ar gael yn y Gymraeg yn unig. Dywedodd yr aelod y dylai’r Cyngor, fel Cyngor dwyieithog, ddarparu hyfforddiant yn y Saesneg, a bod peidio â gwneud hynny’n mynd yn groes i Hawliau Dynol. Nodwyd bod hyfforddiant ar gael yn ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod cyfieithiad Saesneg ar gael i’r rhai sy’n gwrando yn Saesneg.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn â darparu hyfforddiant dwyieithog. Dywedodd y Rheolwr Hyfforddi a Datblygu bod yr opsiwn i gynnal sesiynau Saesneg yn cael ei ystyried, ond bod hynny’n anodd yn yr hinsawdd bresennol gan y byddai’n arwain at gostau ychwanegol. Ynglŷn â TGCh a thermau cymhleth, dywedodd y byddai’n anfon cais yr aelod ymlaen at y darparwr i ofyn am fwy o hyblygrwydd o ran cyfieithu a defnyddio ieithwedd haws ei deall.
Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth bod sesiynau hyfforddi 1:1 yn cael eu cynnal yn iaith ddewisol yr aelod. Dywedodd nad oedd unrhyw gwynion wedi dod i law yn gysylltiedig â diffyg sesiynau hyfforddi drwy gyfrwng y Saesneg.
Awgrymwyd y dylid trafod y mater yn ystod cyfarfod o’r Arweinwyr Grŵp, ac y dylid gofyn am eglurhad ar y mater a godwyd ynglŷn â thorri Hawliau Dynol.
PENDERFYNWYD y byddai’r Pennaeth Democratiaeth a’r Rheolwr Hyfforddi a Datblygu yn trafod y mater ymhellach, ac yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn.
Dogfennau ategol: