Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad

  Derbyn y Rhybuddion o Gynnig isod gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes: -

 

  “Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i fabwysiadu polisi hollgynhwysfawr o wrthwynebiad i ddatblygiad ffermydd solar yng nghefn gwlad Ynys Môn.”

 

   “Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn, o ganlyniad i’r ansicrwydd o fewn y diwydiant amaethyddol, i gadarnhau ei ymrwymiad i amaeth ar Ynys Môn drwy sicrhau bod yr holl waith trwsio angenrheidiol i adeiladau amaethyddol yn Stad Mân-ddaliadau y Cyngor Sir yn cael ei gwblhau fel mater o frys. Yn ogystal, bod adolygiad o’r fformiwla cyllido  ar gyfer y Stâd Mân-ddaliadau yn cael ei chychwyn.”

 

  Derbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Derek Owen: -

 

”Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i geisio cyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Ed Miliband, er mwyn ei alluogi i gadarnhau dyddiad dechrau ar gyfer prosiect Wylfa Newydd ar safle Wylfa yng Nghemaes.

 

Safle Wylfa yw’r gorau yn Ewrop ar gyfer lletya gorsafoedd pŵer niwclear neu orsafoedd.

 

Mae hyn yn dilyn y llythyr a anfonwyd gan Gyngor Cymuned Llanbadrig yn ceisio atebion.”  

Cofnodion:

·     Cyflwynwyd – Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes:-

 

‘Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i fabwysiadu polisi hollgynhwysfawr o wrthwynebiad i ddatblygiad ffermydd solar yng nghefn gwlad Ynys Môn.’

 

 

Cafodd y cynnig hwn ei dynnu'n ôl.

 

·     Cyflwynwyd – Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes:-

 

‘Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn, o ganlyniad i’r ansicrwydd o fewn y diwydiant amaethyddol, i gadarnhau ei ymrwymiad i amaeth ar Ynys Môn drwy sicrhau bod yr holl waith trwsio angenrheidiol i adeiladau amaethyddol yn Stad Mân-ddaliadau'r Cyngor Sir yn cael ei gwblhau fel mater o frys. Yn ogystal, bod adolygiad o’r fformiwla cyllido ar gyfer y Stâd Mân-ddaliadau yn cael ei chychwyn’’.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes bod y Cyngor yn arfer gwerthu mân-ddaliadau i ariannu gwaith cynnal a chadw ar weddill y ystâd. Mae gwerthu mân-ddaliadau’n lleiniau’r cyfleoedd i bobl sydd â diddordeb ym myd amaeth i rentu mân-ddaliad. Dywedodd bod hanner yr incwm rhent o’r ystâd bellach yn mynd i gronfa ganolog y Cyngor; ond yn y gorffennol roedd yr holl incwm yn mynd i’r gronfa ganolog.  Mae tenantiaid yn gorfod aros misoedd, a thros flwyddyn mewn rhai achosion, i waith trwsio a chynnal a chadw gael ei wneud. Cyfeiriodd at un mân-ddaliad a oedd wedi bod yn wag ers blwyddyn a hanner.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y Cyngor yn falch o fod yn berchen ar yr ail ganran uchaf o fân-ddaliadau yng Nghymru. Dywedodd bod yr ystâd yn hollbwysig i   ffyniant yr ynys. Mae’n heriol dod o hyd i gyfalaf i gynnal a chadw’r ystâd ac nid oes cyllid penodol ar gael gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd y bydd Cynllun Strategol yn cael ei lunio o fewn y Cyngor yn gysylltiedig â’r ystâd mân-ddaliadau ac y bydd ef fel Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet Cyllid a’r Aelod Cabinet Materion Gwledig  i ofyn am ganiatâd i ryddhau cyllid cyfalaf o’r gyllideb gyfredol er mwyn cynnal a chadw adeiladau ac anheddau yn yr ystâd mân-ddaliadau ac i wireddu gweledigaeth sero net y Cyngor erbyn 2030. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod gan y Cyngor 92 o denantiaid a bod yr ystâd dros 6,000 o aceri. Nododd ymrwymiad y Cyngor i’w ystâd mân-ddaliadau a’r diwydiant amaeth ar yr Ynys, sy’n cyfrannu i’r economi wledig a chefnogi pobl ifanc i ffermio. Dywedodd bod £300k yn cael ei fuddsoddi ar hyn o bryd i gynnal a chadw a gwella’r ystâd. Bydd y Polisi Strategol ar gyfer Mân-ddaliadau yn weithredol am gyfnod o ddeng mlynedd ac mae Gweithgor trawsbleidiol wedi cael ei sefydlu i weld sut y gellir moderneiddio’r ystâd a mynd i’r afael â’r problemau ariannol i sicrhau dyfodol i’r ystâd mân-ddaliadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod amaeth yn bwysig i economi’r Ynys, ac roedd yn croesawu’r ffaith bod Gweithgor wedi cael ei sefydlu i drafod yr ystâd mân-ddaliadau. Nododd y bydd y Cynghorydd Kenneth P Hughes yn cynrychioli’r Grŵp Annibynwyr Môn ar y grŵp hwnnw gan mai ef sydd â’r ganran uchaf o fân-ddaliadau yn Ward Talybolion. Holodd pam bod ôl-groniad mewn gwaith cynnal a chadw ar hyn o bryd. Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y bydda’r manylion yn cael eu hanfon at yr Aelodau maes o law.

 

Dywedodd y Cynghorydd Douglas M Fowlie bod Mân-ddaliadau’r Cyngor yn cyflwyno pobl ifanc i’r diwydiant amaeth. Cyfeiriodd at bolisïau amgylcheddol dadleuol Llywodraeth Cymru a dywedodd bod ffermwyr a thenantiaid yn wynebu rheoliadau llym yn gysylltiedig â storio dŵr budr a thail ar eu ffermydd.  Holodd a oedd y Cyngor wedi cynnal arolwg i weld a yw ei ffermydd yn cwrdd â meini prawf y Llywodraeth ac ynghylch y cymorth allanol sydd ar gael i denantiaid. Holodd hefyd pwy fyddai’n atebol pe byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gosod dirwy ar ffermydd sydd ddim yn cwrdd â’r rheoliadau amgylcheddol llym. Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo nad oedd ganddo’r ffigurau manwl wrth law, ond roedd yn sicr bod y Cyngor yn gweithio ar gynllun i gwrdd â’r rheoliadau a dywedodd y bydd y manylion ar gael maes o law. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu ynglŷn â’r cyfrifoldebau / rhwymedigaethau yn gysylltiedig â storio dŵr budr a thail ar ffermydd. Dywedodd na all y Cyngor gynnig cymorth ariannol i denantiaid ond y gellid codi’r mater yn y llythyr y mae’r Arweinydd yn bwriadu’i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru y soniwyd amdano eisoes. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones am Bleidlais wedi’i Chofnodi. Yn unol â pharagraff 4.1.18.5 yng Nghyfansoddiad y Cyngor mae’n rhaid i 9 Aelod ofyn am Bleidiais wedi’i Chofnodi. Nid oedd digon i gefnogi’r cais ac felly ni chynhaliwyd Pleidlais wedi’i Chofnodi.

 

Yn dilyn pleidlais unfrydol:-

 

Derbyniwyd y Cynnig.

 

·     Cyflwynwyd – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Derek Owen :-

 

‘Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i geisio cyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Ed Miliband, er mwyn ei alluogi i gadarnhau dyddiad dechrau ar gyfer prosiect Wylfa Newydd ar safle Wylfa yng Nghemaes.

 

Safle Wylfa yw’r gorau yn Ewrop ar gyfer lletya gorsafoedd pŵer niwclear neu orsafoedd.

 

Mae hyn yn dilyn y llythyr a anfonwyd gan Gyngor Cymuned Llanbadrig yn ceisio atebion.’

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor sicrwydd i’r Cyngor o’i ymrwymiad i ddenu datblygiad i safle Wylfa. Ers cael ei ethol yn Arweinydd dywedodd ei fod wedi cwrdd â’r Arglwydd Hunt a’i fod wedi’i wahodd ef a Mr Michael Shanks AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net,  i Ynys Môn.  Rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd i’r Cyngor y byddai’n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Mr Ed Milliband MP yn ei wahodd i Ynys Môn i weld y safle rhagorol yn Wylfa.

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen bod angen dybryd am fuddsoddiad yng Ngogledd yr Ynys a bod angen atebion ynghylch dyfodol safle Wylfa.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones i’r Arweinydd am ei ymrwymiad cadarn i ddenu datblygiad i safle Wylfa, boed yn  adweithydd mawr neu adweithyddion modiwlar bach (SMRs). Dywedodd bod Great British Nuclear wedi prynu safle Wylfa a bod angen penderfyniadau ynglŷn â dyfodol y safle. Yn ystod cyfarfod yn Nhŷ’r Cyffredin dan y lywodraeth flaenorol penderfynwyd na fyddai’r mater yn cael ei lywio gan wleidyddiaeth. Dywedodd bod blaenoriaethu’r llywodraeth bresennol yn cynnwys sicrwydd ynni a chwrdd â thargedau carbon ynghyd â sicrhau bod diwydiant niwclear y DU yn ganolog i gynhyrchu ynni. Bydd Cynhadledd Cymdeithas y Diwydiant Niwclear yn cael ei chynnal ar 5 Rhagfyr, 2024 a’r gobaith yw y bydd dyfodol safle Wylfa yn cael ei drafod bryd hynny.

 

Dywedodd y Cynghorydd Pip O’Neill bod rhaid ystyried y ganran uchel o bobl sy’n gwrthwynebu ynni niwclear er eu bod yn derbyn bod angen dybryd am swyddi ar yr Ynys, yn enwedig yng Ngogledd yr Ynys. Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor bod ganddo bryderon ynglŷn ag effaith gwastraff ymbelydrol o safle o’r fath ar genedlaethau’r dyfodol.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn parchu barn y rheiny sydd yn gwrthwynebu cyfleusterau niwclear.  Mae angen i’r Cyngor darbwyllo’r rheiny sydd ag amrywiaeth barn ar y mater a pharchu’r farn honno er mwyn sicrhau bod economi’r ynys yn llewyrchus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Pip O’Neill bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei ddiwygio i ofyn am gadarnhad a fydd cyfleuster niwclear yn cael ei adeiladu yn wylfa ai peidio yn hytrach na gofyn am ddyddiad dechrau. Eiliwyd y cynnig i ddiwygio’r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro nad oedd y cynnig yn dderbyniol ac mai’r unig newid fyddai’n dderbyniol fyddai ychwanegu neu ddileu geiriau.

 

Tynnodd y Cynghorydd Pip O’Neill  ei gynnig i ddiwygio’r Rhybudd o Gynnig yn ôl.

 

Yn ystod y bleidlais:-

 

Pleidleisiodd y Cynghorydd Ken Taylor yn erbyn y Cynnig. Fe wnaeth y Cynghorydd Arfon Wyn atal ei bleidlais.

 

 Derbyniwyd y Cynnig.