Eitem Rhaglen

Cyllideb Refeniw Drafft 2025/26

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y cynigion cychwynnol drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2025/26 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, a dywedodd fod y cynigion cychwynnol drafft ar gyfer y gyllideb wedi cael eu cyflwyno’n llawn i gyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 15 Ionawr 2025. Cafodd y cynigion eu harchwilio a’u herio’n fanwl mewn trafodaeth gynhwysfawr gan aelodau’r pwyllgor, yn ogystal ag Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a oedd wedi derbyn gwahoddiad i’r cyfarfod. Cyflwynodd grynodeb o’r sefyllfa gan ddweud bod y setliad drafft ar gyfer llywodraeth leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Rhagfyr 2024 yn rhoi cynnydd o 3.6% i Ynys Môn (0.7% yn is na chyfartaledd Cymru a’r 16eg cynnydd uchaf o blith y 22 awdurdod yng Nghymru). Er bod y setliad yn well na’r disgwyl, mae’n llawer is na’r hyn sydd ei angen i gwrdd â’r cynnydd mewn costau sy’n wynebu’r Cyngor ac, ar ôl darparu ar gyfer y prif newidiadau yn y gyllideb, sy’n cael eu hesbonio yn adran 4 o adroddiad y Swyddog Adran 151, mae’r Cyngor yn wynebu bwlch ariannol o £10.791m cyn gwneud unrhyw newidiadau i’r Dreth Gyngor. Pe byddai’r Cyngor yn ceisio cwrdd â’r diffyg dim ond drwy gynyddu’r Dreth Gyngor, byddai angen cynnydd o 20.6% yn y Dreth Gyngor. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn derbyn nad yw hyn yn ddewis realistig ac nid yw’n gam y byddai’n dymuno ei gymryd. Cynnig y Pwyllgor Gwaith felly yw defnyddio cyfuniad o arbedion cyllidebol, defnyddio arian wrth gefn a chodi’r Dreth Gyngor er mwyn llunio cyllideb gytbwys, rhywbeth y mae’n rhaid i’r Cyngor ei wneud yn unol â’r gyfraith. Mae cyllideb refeniw ddrafft gychwynnol o £195.234m yn cael ei chynnig ac mae’n cynnwys arbedion o £699k, defnyddio £2m o arian wrth gefn a chynnydd o 9.5% yn y Dreth Gyngor (yn cynnwys 0.65% ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân). Byddai hyn yn golygu cynnydd o £2.87 yr wythnos yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D. Gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynigion cychwynnol drafft ar gyfer y gyllideb er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a’r bwriad yw cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 22 Ionawr a 7 Chwefror. Roedd y Cynghorydd Robin Williams yn annog trigolion Môn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a lleisio eu barn er mwyn dylanwadu ar gynigion terfynol y gyllideb cyn ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 6 Mawrth. Ychwanegodd na fyddai’r setliad terfynol yn cael ei gadarnhau tan fis Chwefror ac y byddai unrhyw newidiadau yn sgil hynny, a’r effaith ar y gyllideb arfaethedig, yn cael eu hystyried bryd hynny.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai adroddiad ar yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac y byddai’r pwyllgor hwnnw’n ystyried cynigion terfynol y gyllideb ac adborth y cyhoedd yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2025. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod wedyn, ar 27 Chwefror, i argymell cyllideb derfynol ar gyfer 2025/26 i’r Cyngor Llawn ei chymeradwyo. Roedd hefyd yn annog trigolion Môn i ddarllen adroddiad y gyllideb ac edrych ar weddarllediad o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r rhesymau dros y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor o ran llunio cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, bod y pwyllgor wedi cyfarfod ar 15 Ionawr 2025 ac ar ôl ystyried yr holl ddogfennau cyllideb a gyflwynwyd ac ymatebion Aelodau Portffolio a swyddogion perthnasol i’r materion a godwyd mewn perthynas â manylion ac effaith y cynigion unigol, penderfynwyd cefnogi’r cynigion cychwynnol drafft ar gyfer cyllideb 2025/26, fel y cawsant eu cyflwyno, er mwyn gosod cyllideb gytbwys a’u hargymell i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arnynt.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Fowlie ac aelodau Sgriwtini am y drafodaeth lawn ac addysgiadol a gafwyd yn y cyfarfod ar 15 Ionawr. Cyfeiriodd at un o’r materion sylfaenol a godwyd yn y cyfarfod, sef sut oedd modd cyfiawnhau cynnydd o 9.5% yn y Dreth Gyngor er bod y Cyngor wedi derbyn mwy o arian. Roedd y Cyngor wedi derbyn setliad gwell na’r disgwyl, ond esboniodd y Cadeirydd y byddai angen setliad o 9% gan Lywodraeth Cymru er mwyn i’r Cyngor barhau i ddarparu ei wasanaethau craidd ar y lefel bresennol, heb orfod gwneud unrhyw arbedion a chadw’r cynnydd yn y Dreth Gyngor cyn ised â phosib, ond cynnydd o 3.6% a dderbyniwyd yn hytrach na 9%. Oherwydd bod bwlch yn y gyllideb – y gwahaniaeth rhwng y cyllid y mae’r Cyngor wedi’i dderbyn a’r hyn y mae’n rhaid iddo wario er mwyn darparu gwasanaethau yn 2025/26, mae llunio cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26 wedi bod yn heriol. Er nad yw unrhyw aelod yn dymuno codi’r Dreth Gyngor neu dorri gwasanaethau, pwysleisiodd y Cadeirydd nad oes fawr o opsiynau ar gyfer cydbwyso’r gyllideb a bod angen i Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru roi cydnabyddiaeth ariannol briodol i’r gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol os yw’r gwasanaethau hynny am barhau i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol.

 

Ar gais y Pwyllgor Gwaith, a oedd yn awyddus i’r cyhoedd ddeall y math o heriau y bu’n rhaid i’r Cyngor fynd i’r afael â nhw er mwyn cydbwyso cyllideb 2025/26, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y pwysau sy’n wynebu’r Cyngor oherwydd bod costau nwyddau a gwasanaethau’n codi, codiadau cyflog, gan gynnwys cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a newidiadau yng nghyfraniadau YG y cyflogwr, ynghyd â thwf yn y galw am wasanaethau’r Cyngor, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol plant ac oedolion a chynnydd mewn digartrefedd. Esboniodd y Swyddog Adran 151 beth oedd effaith yr holl ffactorau hyn ar osod y gyllideb a nododd nad yw’r Cyngor yn gallu rheoli nifer o’r elfennau hyn, a’r unig beth y mae’n gallu ei wneud yw ceisio eu rheoli cystal â phosib.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sut y gall y galw am ofal cymdeithasol i blant ychwanegu’n sylweddol at gostau’r Cyngor, yn enwedig mewn achosion cymhleth lle mae anghenion y plant yn golygu bod angen gofal arbenigol mewn lleoliadau costus oddi ar yr Ynys. Mae’n rhaid i’r Cyngor ymateb i’r galwadau hyn a darparu ar eu cyfer. Esboniodd bod y Cyngor yn ceisio cyfyngu ar effaith pwysau o’r fath trwy gryfhau ei ddarpariaeth ei hun, yn bennaf trwy ddatblygu Cartrefi Clyd ar yn ynys a darparu ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i blant a’u teuluoedd er mwyn atal problemau rhag datblygu’n broblemau mwy difrifol. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd fod pwysau tebyg i'w weld ym maes gofal cymdeithasol oedolion gan fod poblogaeth sy’n heneiddio sydd ag anghenion cynyddol gymhleth yn golygu bod mwy o alw am wasanaethau’r Cyngor.

 

Nododd y Swyddog Adran 151 nad yw’r heriau y mae’r Cyngor yn gorfod eu rheoli’n unigryw i Fôn a bod cynghorau ledled Cymru’n profi’r un pwysau ar eu cyllidebau. Mae arwyddion yn awgrymu bod y rhan fwyaf o gynghorau’n ystyried cynnydd uwch na chwyddiant yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/26 ac mae nifer yn argymell cynnydd rhwng 8% a 9.5% neu fwy. Treth Gyngor Ynys Môn oedd yr isaf yng Ngogledd Cymru yn 2024/25 ac roedd £80 yn is na chyfartaledd Cymru. Ychwanegodd hefyd y byddai’r bil Treth Gyngor terfynol ar gyfer 2025/26 yn cynnwys praesept yr heddlu, er mwyn cwrdd â chostau’r heddlu yng Ngogledd Cymru, a phraesept y cynghorau tref a chymuned, i gwrdd â gofynion cyllidebau’r cynghorau tref a chymuned er mwyn iddynt ddarparu’r gwasanaethau sydd dan eu gofal. Esboniodd hefyd sut y gallai agweddau’n ymwneud ag economi ehangach y DU, yn ogystal â materion byd-eang, ddylanwadu ar y rhagolygon cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn 2026/27 a thu hwnt. Mae disgwyl i adolygiad gwariant y Llywodraeth yn y gwanwyn eleni ddarparu sicrwydd ynglŷn â’r mater, a’r gobaith hefyd yw y bydd yn cynnwys rhagolygon cyllid ar gyfer y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys cyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru, er mwyn caniatáu i gynghorau’n Nghymru gynllunio’n well ar gyfer y tymor canol, yn hytrach na chynllunio fesul blwyddyn, a dyma’n union y bu cynghorau’n pwyso amdano trwy Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru.

 

Yn y sylwadau clo, nododd aelodau’r Pwyllgor Gwaith fod datblygu’r gyllideb ar gyfer 2025/26 wedi bod yn broses hir a heriol dros fisoedd lawer. Nodwyd hefyd bod y fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu arian i gynghorau yng Nghymru yn rhoi cynghorau mwy gwledig gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, tebyg i Ynys Môn, dan anfantais a’i fod wedi derbyn setliad is na’r cyfartaledd o gymharu â dyraniad cynghorau trefol yn ne Cymru yn bennaf.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

 

·         Y gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2025/26 o £195.234m.

·         Cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 8.85%, ynghyd â 0.65% i dalu’r Ardoll Tân yn rhoi cyfanswm o 9.50% gan fynd â thâl Band D i £1,721.70.

·         Cynnig yn ffurfiol i gadw’r premiwm ar gartrefi gwag ac ail gartrefi ar 100%.

·         Bod £2.000m yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor a chronfeydd wrth gefn clustnodedig er mwyn mantoli cyllideb refeniw 2025/26.

 

Dogfennau ategol: