Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’n arferol adolygu’r taliadau mewn perthynas â gwasanaethau gofal cartref bob blwyddyn, er mwyn cyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau pensiwn a budd-daliadau.
Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y cyd-destun ar gyfer pob categori o’r ffioedd a thaliadau ac esboniodd y rhesymau tu ôl i’r ffi arfaethedig ym mhob achos. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor Gwaith ynglŷn â heriau recriwtio yn y gwasanaethau gofal cartref y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr heriau hynny’n parhau a chyfeiriodd at y prif ffactorau, sef natur y gwaith, oriau anghymdeithasol a chyfraddau tâl anghystadleuol. Mewn ymateb i gwestiwn pellach am effaith y cap o £100 a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar y swm y mae cynghorau’n cael ei godi am ofal a chymorth yn y cartref, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y cap wedi’i gyflwyno naw mlynedd yn ôl erbyn hyn a phe byddai chwyddiant wedi cael ei ychwanegu byddai’r gost dros £150 erbyn heddiw. Mae’r cap yn golygu hefyd bod bwlch rhwng costau gofal preswyl a gofal yn y gymuned ac mae cleientiaid sy’n derbyn gofal a chymorth yn y gymuned yn talu llai am y ddarpariaeth nag y byddent mewn lleoliad gofal preswyl, a gallai hynny ddylanwadu ar benderfyniadau pobl ynglŷn â’u gofal ac efallai eu bod yn aros yn y gymuned yn hirach nag y dylent. Gall y gwahaniaeth yn y costau fod yn sylweddol mewn rhai achosion, a gellid ystyried bod hynny’n annheg, yn enwedig os yw’r modd gan unigolyn i dalu.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Alun Roberts bod y mater wedi’i godi gyda Gweinidog Iechyd blaenorol Llywodraeth Cymru a chafwyd addewid y byddai’r mater yn cael ei adolygu, ond nid yw hyn wedi digwydd. Roedd trafodaeth ddiweddar rhwng Aelodau Portffolio a’r Gweinidog Iechyd newydd ym mis Rhagfyr y llynedd yn fwy cadarnhaol a’r gobaith yw y gwelir rhyw fath o weithredu mewn perthynas â’r mater hwn maes o law.
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
Dogfennau ategol: