Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, oedd yn amlinellu perfformiad ariannol cyllideb refeniw’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3, blwyddyn ariannol 2024/2025, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd bod y Gwasanaethau Oedolion wedi bod yn tanwario a bod y ddarpariaeth wedi gwella yn y tymor byr er gwaethaf wynebu heriau o orwariant yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo i gasglu dyledion Treth Gyngor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer 20254/2025 yn gadarnhaol. Dywedodd fod cyllideb y Gwasanaethau Oedolion dal yn anweddol gan fod y gwasanaeth wedi clirio ôl-groniad o asesiadau ariannol oedd wedi creu incwm ychwanegol yn y trydydd chwarter, oedd wedi cyfrannu at wella’r sefyllfa ariannol ar gyfer y gwasanaeth. Dywedodd fod pryderon yn bodoli mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant yn gorwario dros £2 filiwn, gan fod mwy o blant yn dod i ofal a chostau cynyddol cysylltiedig â lleoli plant y tu allan i’r sir. Dywedodd fod adnoddau ychwanegol wedi’u hadlewyrchu yng nghyllideb 2025/2026 ar gyfer y Gwasanaethau Plant. Cyfeiriodd at Dabl 5 o fewn yr adroddiad a’i fod yn amlygu’r newid mewn galw am wasanaethau o fewn y Cyngor; nododd, oherwydd swyddi gwag o fewn yr Awdurdod, mae wedi bod yn anodd recriwtio ac mae hyn wedi creu arbedion untro yn ystod 2024/25. Aeth ymlaen i ddweud fod y ffioedd incwm wedi cynyddu o fewn y Gwasanaethau Priffyrdd a Hamdden. Yn ogystal, mae sawl eiddo wedi trosglwyddo’n ôl i brif premiwm y Dreth Gyngor yn dilyn newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2023, i feini prawf llety gwyliau sy’n gymwys ar gyfer cyfraddau busnesu; gan nad yw’r eiddo hyn yn brif annedd y perchnogion, mae’n eiddo yn destun ffi 200% o’r dreth gyngor, wedi’i ôl-ddyddio i fis Ebrill 2023. Disgwylir y bydd apeliadau’n cael eu cyflwyno, a bydd rhai eiddo yn trosglwyddo’n ôl i gyfraddau busnes, ar ôl gosod yr eiddo am y 182 diwrnod gofynnol. Mae oddeutu hanner yn incwm ychwanegol sydd wedi’i greu wedi’i roi mewn cronfa wrth gefn sydd wedi’i chlustnodi, ac a fydd yn cael ei defnyddio i ariannu unrhyw ad-daliadau yn ystod 2025/26.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd fod y gorwariant o fewn y Gwasanaethau Plant yn bryderus gan fod mwy o blant yn dod i ofal a’r costau cynyddol o roi plant mewn lleoliadau y tu allan i’r sir. Cyfeiriodd at lwyddiant darpariaeth Cartrefi Clyd ar yr Ynys, a’r angen i gynyddu’r ddarpariaeth wrth brynu mwy o eiddo er mwyn gallu lleoli plant ar Ynys Môn. Cytunodd Arweinydd y Cyngor fod darpariaeth Cartrefi Clyd wedi bod yn llwyddiant o ran galluogi plant i fyw yn eu cymunedau Cymreig sydd hefyd yn arwain at arbed adnoddau mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir.
Gofynnodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a fydd yr amrywiad o 10% o fewn Datblygu Economaidd a Thechnoleg Gwybodaeth yn cario drosodd i Chwarter 4. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr amrywiad o fewn Technoleg Gwybodaeth yn bennaf oherwydd nifer o swyddi gweigion o fewn y gwasanaeth, ond mae'r swyddi hyn bellach wedi eu llenwi a rhagwelir na fydd yr amrywiad yn cynyddu ymhellach o fewn y gyllideb. Mae Datblygu Economaidd yn cynnwys y Gwasanaeth Hamdden sydd wedi elwa o'r contractau ynni newydd a ddaeth i rym ar 1 Hydref, 2024. Fel defnyddiwr ynni mawr, mae'r Gwasanaeth Hamdden wedi elwa'n fawr o'r gostyngiad mewn prisiau ynni. Mae'r Gwasanaeth Hamdden hefyd wedi gweld cynnydd mewn incwm gyda mwy o bobl yn mynychu'r canolfannau hamdden. Mae'r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth wedi'i hadolygu ar gyfer cyllideb 2025/2026. Mae aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn dymuno llongyfarch staff Môn Actif ar eu gwaith o fewn y canolfannau hamdden ac o fewn y cymunedau.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A, B a C mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma, a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2024/2025;
· Nodi crynodeb y cyllidebau Wrth Gefn ar gyfer 2024/2025, a nodi yn Atodiad CH;
· Nodi’r gwaith o fonitro costau asiantaeth ac ymgynghori ar gyfer 2024/2025 yn Atodiadau D a DD;
· Cytuno i weithredu Ffioedd a Thaliadau newydd ar gyfer 2024/2025, ac addasiadau iddynt, fel y manylir yn Atodiad E.
Dogfennau ategol: