Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses ar gyfer gosod Cyllideb 2025/26, ynghyd â materion allweddol a chwestiynau ar gyfer Sgriwtini, er mwyn arfarnu cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb refeniw. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fyddai’n cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Ionawr 2025 ac a oedd yn cynnwys y gyllideb refeniw dros dro ar gyfer 2025/26 ac ystyriaethau cysylltiedig, ynghlwm yn Atodiad 1.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, a nododd fod y setliad dros dro ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2024, yn well na’r disgwyl. Roedd cynnydd o £410.3m yn lefel cyffredinol y cyllid ar gyfer Cymru, sef cynnydd o 7.3% mewn termau arian parod. Roedd y setliad drafft yn darparu cynnydd o 3.59% ar gyfer Ynys Môn (0.7% yn is na chyfartaledd Cymru a’r 16eg cynnydd uchaf o blith y 22 awdurdod) ac mae’n gadael diffyg o £10.791m ar ôl cynnwys y prif newidiadau yn y gyllideb, yn unol ag adran 4 yn yr adroddiad ar y gyllideb, a chyn gwneud unrhyw newid i’r Dreth Gyngor. Er mwyn cau’r bwlch trwy godi’r Dreth Gyngor yn unig, byddai angen cynnydd o 20.6% yn y Dreth Gyngor, ond mae’r Pwyllgor Gwaith o’r farn nad yw hynny’n ddewis realistig a byddai defnyddio arian wrth gefn y Cyngor i gau’r bwlch yn gwagio’r cronfeydd. Ni ellir cwrdd â diffyg o’r maint hwn drwy wneud arbedion chwaith. Cynnig y Pwyllgor Gwaith, felly, yw y dylid defnyddio cyfuniad o arbedion cyllidebol, defnyddio arian wrth gefn a chynyddu’r Dreth Gyngor er mwyn cwrdd â’r diffyg.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, er bod y cynnydd yn y setliad i’w groesawu, nid yw’n ddigon i gwrdd â’r holl bwysau ar gyllideb y Cyngor. Costau Yswiriant Gwladol yw’r prif bwysau ar y gyllideb ac mae peth ansicrwydd ynglŷn â chyllid ychwanegol i gwrdd â’r costau hyn a’r amseru, ac mae’r galw am wasanaethau, yn enwedig yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion lle mae’r galw gan gleientiaid yn gallu newid yn sylweddol, yn golygu ei bod yn bwysig i’r Cyngor fod yn ddarbodus wrth reoli cyllid ac nad yw’n gorymrwymo ei arian wrth gefn. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn awyddus i warchod y gyllideb ysgolion yn 2025/2026 gan iddi wynebu toriadau yng nghyllideb 2024/25, a chafodd y gyllideb hyfforddeion corfforaethol ei thorri hefyd a’r bwriad yw cadw’r premiwm ar dai gwag ac ail gartrefi ar ei lefel bresennol, sef 100%. Mae cynigion drafft y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb, fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, yn cynnwys cynnydd o 9.5% yn y Dreth Gyngor (yn cynnwys ardoll y Gwasanaeth Tân o 0.65%), darparu arian ychwanegol i gwrdd â galw cynyddol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, amddiffyn cyllidebau ysgolion trwy ariannu cynnydd mewn costau yn llawn, defnyddio premiwm y Dreth Gyngor i gefnogi prynwyr tro cyntaf, darparu cyllid ychwanegol ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol er mwyn eu galluogi i gwrdd â chostau staff ychwanegol yn 2025/26, gostwng cyllidebau gwasanaeth a defnyddio £2m o gronfeydd y Cyngor i gydbwyso’r gyllideb. Cyflwynir canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus i’r Pwyllgor Sgriwtini ym mis Chwefror, cyn i’r Pwyllgor Gwaith lunio ei gynigion terfynol ar gyfer y gyllideb a gyflwynir i’r Cyngor Llawn ar 6 Mawrth 2025.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y misoedd o waith oedd wedi cael ei wneud i lunio’r gyllideb ddrafft sy’n bodloni gofynion statudol gan ei bod yn cael ei hariannu trwy’r prif ffynonellau sydd ar gael i’r Cyngor, sef y Grant Cynnal Refeniw, y Dreth Gyngor a defnyddio arian wrth gefn. Mae nifer o risgiau’n parhau i fod ynghlwm â’r gyllideb, fel y manylir arnynt yn adran 6 yn yr adroddiad, a bu’n rhaid gwneud rhagdybiaethau yn eu cylch er mwyn llunio’r gyllideb. Maent yn cynnwys costau staff, sy’n dod i gyfanswm o £100m o’r gyllideb, a dyfarniadau cyflog 2025/26 sydd eto i’w cytuno ar gyfer athrawon a staff nad ydynt yn athrawon. Er bod yr adroddiad yn nodi beth fyddai’r effaith ar y gyllideb refeniw o beidio â chynnwys amcangyfrif digon uchel ar gyfer cynnydd mewn tâl, mae’n bwysig hefyd nad yw’r Cyngor yn gorddarparu ar gyfer y costau hyn yn y gyllideb gan y byddai’n rhaid ariannu’r orddarpariaeth a byddai’n rhaid i drethdalwr ysgwyddo cost ddiangen. Y nod yw creu cyllideb sydd yn seiliedig ar ffeithiau ac amcangyfrifon rhesymol o gostau’r Cyngor, ond heb fod yn rhy geidwadol chwaith. Atgoffodd y Swyddog Adran 151 yr aelodau y byddai bil Treth Gyngor terfynol trethdalwyr Môn hefyd yn cynnwys treth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a threth cynghorau tref/cymuned. Mae’r setliad ar gyfer 2025/26 yn golygu fod sefyllfa’r Cyngor yn well na’r rhagolygon gwreiddiol, ond mae ansicrwydd sylweddol yn parhau ynglŷn ag ariannu llywodraeth leol yng Nghymru yn 2026/27 a thu hwnt gan fod pwysau ar Lywodraeth San Steffan i leihau costau yn y sector cyhoeddus a gallai hynny olygu fod cynghorau’n wynebu gorfod torri eu cyllidebau a’u gwariant unwaith eto yn 2026/27. Y gobaith yw y bydd yr Adolygiad o Wariant yn y Gwanwyn yn taflu goleuni ar y mater ac y bydd y broses o ddyrannu arian yn newid hefyd er mwyn i gynghorau allu cynllunio’n well, gan gynnwys cyhoeddi’r setliad yn gynharach a rhoi arwydd o beth fydd y dyraniad mewn blynyddoedd i ddod.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y gwaith helaeth a wnaethpwyd ar gyllideb 2025/26 a nododd bod aelodau’r Pwyllgor Gwaith a swyddogion wedi ymrwymo cryn dipyn o amser i’r gwaith ers gwanwyn y llynedd, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, a chynhaliwyd sesiynau briffio ar gyfer yr holl aelodau etholedig. Oherwydd nad oedd gwybodaeth bendant ar gael ar y pryd, bu’n rhaid cynnwys nifer o ragdybiaethau yn y gyllideb a gwelwyd yn ddiweddarach bod nifer ohonynt yn agos iawn i’w lle, a hynny oherwydd profiad ac arbenigedd broffesiynol y tîm Cyllid, staff arall y Cyngor a’r Pwyllgor Gwaith. Mae’r holl opsiynau wedi cael eu hystyried, gan gynnwys torri costau a pheidio â darparu rhai gwasanaethau, a chan gadw mewn cof fod gwahanol agweddau o’r hyn a ddarperir gan y Cyngor yn cael eu defnyddio a’u gwerthfawrogi gan breswylwyr Ynys Môn.
Cyflwynodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, adroddiad ar ganlyniad cyfarfodydd y Panel ar 19 Rhagfyr 2024 a 9 Ionawr 2025 i ystyried y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer cyllideb refeniw 2025/26. Ar ôl ystyried y dogfennau a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ac ymatebion yr Aelodau Portffolio/Swyddogion i’r materion a godwyd, penderfynodd y Panel gefnogi’r cynigion a’u hargymell, fel y’u cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Y cynigion oedd –
· Cyllidebau Ysgolion a sicrhau fod ysgolion yn derbyn cynnydd sy’n cwrdd â’r cynnydd mewn costau
· Cyllidebau’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, ynghyd â darpariaeth i ariannu pwysau ychwanegol ar y gyllideb
· Y gyllideb Hyfforddeion Corfforaethol (£340k)
Codwyd y materion canlynol gan y pwyllgor yn ystod y drafodaeth a ddilynodd ar gynigion cychwynnol y gyllideb a derbyniwyd ymatebion gan yr Arweinydd, yr Aelodau Portffolio a’r Prif Weithredwr er mwyn darparu sicrwydd ac eglurhad –
Hysbyswyd y pwyllgor bod y Gwasanaeth Addysg yn gweithio’n agos â’r adran Gyllid er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn cael ei hariannu’n deg trwy’r fformiwla ariannu. Mae ffyrdd o gynyddu capasiti Canolfan Addysg y Bont er mwyn derbyn mwy o ddisgyblion yn cael eu hystyried, gan gynnwys adleoli uned, gan olygu y byddai’r dyraniad ariannol hefyd yn cynyddu. Mae’r AALl yn ymwybodol hefyd bod nifer o blant yn dymuno cael eu derbyn i Ganolfan Addysg y Bont, yn ogystal ag ysgolion prif lif sy’n darparu ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol, ac mae’r AALl yn trafod gyda phenaethiaid a swyddogion i nodi darpariaeth amgen. Hysbyswyd y pwyllgor hefyd fod cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol i'r pwysau o fewn y system anghenion addysgol arbennig ac mae Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio wedi codi’r materion hyn mewn trafodaethau yn y Gymdeithas Llywodraeth Leol, mewn perthynas â’r angen i sicrhau buddsoddiad priodol yn y system er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol ddarparu’n unol â’r ddeddfwriaeth a sicrhau cynaliadwyedd y system yn y tymor hir. Mae hwn yn fater cymhleth a strategol sy’n effeithio ar fwy nag un ardal benodol neu awdurdod lleol. Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hynny a chadarnhaodd fod y Pwyllgor Gwaith yn llwyr ymwybodol o’r pwysau ar Ganolfan Addysg y Bont, a phob ysgol, oherwydd cynnydd yn nifer y dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol, a dyna’r rheswm am y cynnig i warchod cyllidebau ysgolion yn 2025/26.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y fformiwla yn dyrannu arian ar ddwy lefel, sef un i gwrdd â chost adeilad yr ysgol a’r llall i gwrdd â chost y dysgwyr yn yr ysgol. Mae’r gost fesul disgybl yn uwch mewn ysgol fach gan fod y costau sefydlog yn cael eu rhannu rhwng llai o ddisgyblion. Mae’r costau hynny’n cael eu cynnwys yn y gyllideb, ond wrth i niferoedd disgyblion ostwng, mae’n anoddach cynnal dosbarthiadau gan olygu fod mwy o ddosbarthiadau oedran cymysg mewn ysgolion bach. Er bod y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a’r Aelod Portffolio ar gyfer Addysg yn cydnabod y pwysau ar ysgolion a’u bod yn gwerthfawrogi fod y gyllideb arfaethedig yn gwarchod ysgolion, nododd yr Arweinydd bod yr awdurdod cyfan o dan anfantais oherwydd y fformiwla ariannu genedlaethol a’i fod, fel cyngor gwledig llai sydd â demograffeg hŷn, wedi derbyn setliad is na’r cyfartaledd gan fod y data a ddefnyddir i benderfynu ar y dyraniad yn cynnwys y boblogaeth; mae hyn yn ei dro yn effeithio ar beth all y Cyngor ei ariannu.
Er bod y setliad yn well na’r hyn a gynlluniwyd cyn yr Etholiad Cyffredinol, esboniodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod, trwy Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru, y byddai angen setliad o 9% ar gynghorau yng Nghymru dim ond i gynnal gwasanaethau ar eu lefel bresennol, a hynny cyn cynnwys y cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol a newidiadau i’r Yswiriant Gwladol. Mae cyfran y Cyngor o’r gronfa ariannu wedi cynyddu gan 3.6% ac er bod y diffyg ariannol, cyn gwneud unrhyw addasiadau/arbedion, yn gostwng i £10.791m, o gymharu ag amcangyfrif gwreiddiol o £18m, fel y nodir yn yr adroddiad, nid yw’n ddigon i gwrdd â’r holl bwysau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, a dyna pam fod angen defnyddio’r ffynonellau sydd ar gael i’r Cyngor i gau’r bwlch, trwy gynyddu’r Dreth Gyngor a defnyddio arian wrth gefn. Mae’r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor yn uwch na chwyddiant gan fod y Dreth Gyngor yn ariannu 30% o’r gyllideb, tra bod y 70% arall yn cael ei ariannu gan Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru.
Hysbyswyd y pwyllgor fod y galw am ofal cymdeithasol i blant wedi cynyddu, ynghyd â’r costau, ac yn ogystal â chynyddu’r gyllideb i gwrdd â chwyddiant mae angen cywiro’r gyllideb hefyd ac mae swm ychwanegol o £2.24m wedi’i gynnwys yn y gyllideb i’r perwyl hwnnw. Gall lleoliadau gofal plant greu costau sylweddol gan fod y galw’n fwy na’r ddarpariaeth a gallant fod yn anodd eu rheoli. Gan fod y sefyllfa yn y gwasanaethau Oedolion wedi sefydlogi, a chan fod cyllideb y gwasanaeth wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bwriedir peidio â dyrannu cyllid ychwanegol i’r gwasanaeth yn 2025/26, heblaw am gynnydd i gwrdd â chwyddiant a phwysau demograffeg a bydd disgwyl i’r gwasanaeth reoli’r galw oddi mewn i’r gyllideb bresennol. Mae cynnydd mewn digartrefedd yn rhoi pwysau ar gyllidebau’r Cyngor hefyd, ond mae’n cael ei reoli gan y Gwasanaethau Tai trwy gynnig darpariaeth arall, yn hytrach na llety gwely a brecwast costus. Mae arian grant yn cynorthwyo ysgolion i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ond nid yw’n ddigon i dalu costau staff. Hysbyswyd y pwyllgor hefyd bod arian cyfalaf dan bwysau gan nad yw’r arian wedi cynyddu yn unol â chostau ers nifer o flynyddoedd, gan olygu na fu’n bosib i'r Cyngor fuddsoddi’n ddigonol yn ei adeiladau a’i galedwedd TG, ac mae costau trwsio a chynnal a chadw wedi codi oherwydd hynny.
Hysbyswyd y pwyllgor bod rhaid seilio’r gyllideb ar amcangyfrifon a rhagdybiaethau oherwydd bod ansicrwydd ynghylch nifer o agweddau, megis dyfarniadau cyflog, y galw am wasanaethau, newidiadau demograffig a ffactorau economaidd ehangach mewn perthynas â chwyddiant a chyfraddau llog. Mae’r gyllideb yn cael ei llunio gan ddefnyddio cyllideb y flwyddyn flaenorol fel man cychwyn cyn ychwanegu unrhyw newidiadau sy’n hysbys, ac mae amcangyfrifon yn cael eu gwneud yn seiliedig ar brofiad a ffeithiau hanesyddol, gan olygu fod y gyllideb yn seiliedig ar ragdybiaethau gwybodus. Esboniodd y Swyddog Adran 151 y broses a chyfeiriodd at y gwahanol elfennau gofal cymdeithasol Plant sy’n cael eu hariannu e.e. darpariaeth ar yr ynys, gofal maeth mewnol ac annibynnol a lleoliadau tu allan i’r sir, y rhagdybiaethau a wnaethpwyd a’r newidiadau a all ddigwydd mewn perthynas â’r rhagdybiaethau hynny, yn enwedig mewn perthynas â nifer y plant sydd angen gofal, cymhlethdod yr achosion a’r costau sydd ynghlwm â nhw. Cadarnhawyd bod y cynnydd o £3.122m yng nghyllideb y Gwasanaethau Plant yn cynnwys cywiriad o £2.24m yn y gyllideb ar gyfer 2024/25 i adlewyrchu’r cynnydd mewn achosion a chynnydd mewn costau, £400k ar gyfer costau tâl, yn ogystal â thua £440k i gwrdd â chwyddiant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y pwyllgor hefyd fod y gwasanaeth yn bwriadu cyflymu’r broses o ddarparu Cartrefi Clyd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan fod deddfwriaeth i ddileu elw o ofal plant ar fin cael ei chyflwyno a allai effeithio ar nifer ac argaeledd lleoliadau gofal.
Mewn perthynas â’r bwriad i resymoli gwasanaethau dydd ar gyfer cleientiaid ag anableddau corfforol ac anableddau dysgu, atgoffwyd y pwyllgor bod y Cynllun Strategol Moderneiddio Gwasanaethau Oedolion wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, a’i gefnogi ganddo, ym mis Tachwedd 2024, ac mae’n nodi camau cadarn i gwrdd â heriau gwasanaeth yn y dyfodol, gan gynnwys fforddiadwyedd ac addasrwydd, a thrawsnewid a moderneiddio elfennau o’r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r diben yn y dyfodol, gan gynnwys parhau i roi’r pwyslais ar leoli gwasanaethau dydd mewn lleoliadau cymunedol, yn hytrach nac mewn adeiladau penodol, er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu gymryd rhan mewn gweithgareddau prif lif a’u cynnwys ym mywyd bob dydd yn eu cymunedau.
Er bod mesur buddion camau ataliol yn anodd, hysbyswyd y pwyllgor y byddai costau’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn sylweddol uwch oni bai am y rhaglenni ataliol ac ymyrraeth gynnar a ddarperir gan y gwasanaeth i helpu a chefnogi plant a’u teuluoedd er mwyn sicrhau nad yw eu hanghenion yn datblygu’n broblemau mwy difrifol. Cyfeiriwyd hefyd at y gefnogaeth a ddarperir i bobl sydd â dementia a nodwyd bod canolfan dementia’n cael ei chreu yng Nghlan Hwfa. Eglurodd y Swyddog Adran 151 bod y cynigion ar gyfer cynhyrchu incwm yn ymwneud yn bennaf â chynyddu’r ffi ar gyfer casglu gwastraff gardd, ac ni welwyd unrhyw effaith ar nifer y tanysgrifwyr yn sgil codi'r ffi y llynedd, ynghyd â gwella a moderneiddio prosesau casglu incwm yn y gwasanaeth Morwrol mewn ymateb i argymhellion adolygiad archwilio mewnol. Rhannodd y Penaethiaid Gwasanaeth fanylion ynglŷn ag oblygiadau’r cynigion a thynnwyd sylw hefyd at y ffi a godir ar gwmnïau cyfleustodau gan y Gwasanaeth Priffyrdd i gau ffyrdd er mwyn i’r cwmnïau hyn wneud gwaith yn gysylltiedig â chyfleustodau. Rhagwelir na fydd cymaint o gyfleoedd i gynyddu’r ffynhonnell incwm benodol hon ar ôl 2025/26.
Hysbyswyd y pwyllgor bod y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor wedi penderfynu cynyddu’r premiwm yn raddol er mwyn arfarnu effaith cynnydd yn y premiwm yn yr awdurdod hwn ac mewn awdurdodau cyfagos ar y niferoedd sy’n talu’r premiwm yn ardal yr awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn argymell bod awdurdodau lleol yn ymgynghori ynglŷn â chodi’r premiwm dros 100% ac y dylid cynnal yr ymgynghoriad o leiaf chwe mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’r cynnydd yn ymwneud â hi, gan olygu nad oes digon o amser i’r Cyngor godi premiwm y Dreth Gyngor o fwy na 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. Rhoddwyd sicrwydd bod lefel y premiwm ar dai gwag yn cael ei ystyried yn wyneb nifer y bobl sydd ar y gofrestr tai cymdeithasol, ond mae’r Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol hefyd y gallai codi’r premiwm ar ail gartrefi olygu bod perchnogion ail gartrefi’n cofrestru eu heiddo ar gyfer trethi busnes, gan olygu bod y Cyngor yn colli’r premiwm a’r Dreth Gyngor.
Hysbyswyd y pwyllgor bod swyddogion ar ddeall y byddai’r Trysorlys yn ariannu costau YG ychwanegol staff a gyflogir yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol, er nad oes cadarnhad o hynny eto. Byddai Llywodraeth Cymru’n derbyn arian trwy’r fformiwla Barnett, er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r achos bod Cymru’n teilyngu mwy o arian nag a ddarperir trwy’r fformiwla. Mae cyllideb 2025/26 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer grant o £2m i Ynys Môn, er bod yr amcangyfrif o’r gost yn £2.25m, a bydd rhaid i’r Cyngor gwrdd ag unrhyw wahaniaeth o’r balansau cyffredinol. Bydd elfen o’r gost i’r trydydd sector a darparwyr yn cael ei gynnwys hefyd yn y ddarpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Oedolion. Bu’r Cyngor hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru, trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i gynnwys cyllid gwaelodol yn y setliad terfynol er mwyn lleihau’r effaith ar gynghorau sy’n derbyn setliad is na chyfartaledd Cymru. Pe byddai cyllid gwaelodol yn cael ei gynnwys a bod yr awdurdod wedyn yn derbyn cyllid ychwanegol, byddai’r Pwyllgor Gwaith yn edrych ar yr adborth o’r ymgynghoriad fel rhan o’r broses, er mwyn gweld beth yw barn y cyhoedd am flaenoriaethau gwasanaeth.
Hysbyswyd y pwyllgor bod cyfraniad o arian wrth gefn y Cyngor yn ffordd o bontio rhan o’r diffyg ond mae’n golygu hefyd fod penderfyniadau anodd ynghylch gwariant parhaus yn cael eu gohirio i’r flwyddyn ganlynol. Gellir defnyddio arian wrth gefn hefyd i gwrdd ag unrhyw orwariant yn y gyllideb. Fel rheol gyffredinol, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi gosod isafswm o 5% o’r gyllideb refeniw net fel isafswm rhesymol ar gyfer y balansau cyffredinol er mwyn ymateb i’r risgiau sy’n wynebu’r Cyngor. Mae balansau cyffredinol y Cyngor yn iach ar hyn o bryd ac mae grantiau ychwanegol a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru, a nodir yn Nhabl 3 yn yr adroddiad, wedi helpu sefyllfa ariannol y Cyngor ac mae’n fod yr arian a neilltuwyd at ddibenion sydd bellach yn cael eu cyfarch gan y grantiau yn gallu cael ei ychwanegu at y balansau cyffredinol. Nid yw parhau i ddefnyddio arian wrth gefn yn gynaliadwy yn y tymor hir ac mae llai o gyfle i wneud hynny, gan olygu y bydd rhaid i’r Cyngor edrych ar sut mae’n rheoli ei gyllideb a sut mae’n darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddo. Ni chyhoeddir setliad terfynol Llywodraeth Cymru tan fis Chwefror a gallai newid, ac yn ogystal â hynny, mae adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan ym mis Mawrth 2025 yn debygol o effeithio ar gyllideb 2026/27.
Er bod sicrwydd wedi’i roi, nodwyd nad oes fawr o fudd mewn derbyn nifer o wahanol safbwyntiau a bod angen elfen o barhad mewn perthynas â holiadur y llynedd er mwyn dadansoddi tueddiadau.
Yn dilyn trafodaeth, cynigiwyd y dylid cefnogi cynigion cychwynnol drafft ar gyfer y gyllideb, fel y cawsant eu cyflwyno ac ynghyd â’r elfennau a amlinellwyd gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid a Thai ac a gymeradwywyd gan y Panel Sgriwtini Cyllid, yn unol ag adroddiad Cadeirydd y Panel, ac y dylid eu hargymell i’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â gweithredoedd ychwanegol mewn perthynas â chraffu ymhellach ar y cynnig i resymoli gwasanaethau dydd ar gyfer cleientiaid ag anableddau corfforol ac anableddau dysgu, yn benodol Gweithdy Mona, ac ychwanegu cwestiwn am ystod oedran ar holiadur yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Awgrymodd y Prif Weithredwr fod y cynnig yn y gyllideb i resymoli gwasanaethau dydd ar gyfer cleientiaid sydd ag anableddau corfforol ac anableddau dysgu’n cael ei gynnwys fel eitem ar gyfer Sesiwn Friffio Aelodau. Yn dilyn hynny, cynigiwyd yr awgrym hwn fel gwelliant. Derbyniwyd y gwelliant ac yn y bleidlais a ddilynodd, derbyniwyd yr argymhelliad.
Ar ôl craffu ar gynigion cychwynnol y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2025/26, ac ar ôl ystyried y materion a godwyd yn y trafodaethau a’r ymatebion a gafwyd gan y Swyddogion a’r Aelodau Portffolio, penderfynwyd cefnogi’r cynigion cychwynnol drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2025/26, fel y’u cyflwynwyd, a’u hargymell i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion hynny, fel a ganlyn:
Gweithredoedd ychwanegol a gytunwyd –
(Bu i’r Cynghorydd R. Llewelyn Jones atal ei bleidlais)
Dogfennau ategol: