Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, oedd yn darparu diweddariad ar gynnydd wrth weithredu’r camau gwella a nodwyd yn yr Adroddiad Hunan-asesiad ar gyfer 2023/24, i’w ystyried gan y pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd y Cyngor, a gadarnhaodd mai dim ond dau allan o’r chwe maes a nodwyd fel mannau i’w gwella a’u monitro o fewn yr Adroddiad Hunan-asesiad Corfforaethol ar gyfer 2023/24 sydd ar ei hôl hi, gyda phob camau arall un ai wedi’i gwblhau neu ar ben ffordd. Mae’r amserlen ar gyfer cyhoeddi strategaeth rheoli asedau mân-ddaliadau erbyn Mawrth 2025 wedi llithro, ac argymhellwyd y dylid sefydlu grŵp tasg a gorffen trawsbleidiol er mwyn gwneud cynnydd â’r strategaeth, tra bo gwaith i ad-drefnu asedau’r cyngor yn parhau. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu system rheoli cyfleusterau â gefnogir gan gyfrifiadur, rhoi prosesau ar gyfer adeiladau gwag/dros ben a gwarediadau ar waith, yn ogystal â datblygu set ddata cyflawn ar asedau er mwyn cefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd am yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer paratoi strategaeth rheoli asedau mân-ddaliadau newydd, cynghorwyd y pwyllgor bod strategaeth ddrafft newydd wedi’i pharatoi i gymryd lle’r strategaeth honno oedd ar waith tan 2021, ond gohiriwyd y broses ddemocratig i’w chymeradwyo oherwydd etholiad llywodraeth leol yn 2022. Pe byddai’r grŵp tasg a gorffen y penderfynu cefnogi’r strategaeth ddrafft bresennol, pan fyd y grŵp yn weithredol, heb wneud unrhyw addasiadau sylweddol, mae’n bosibl y gellir cwblhau’r strategaeth o fewn ychydig fisoedd. Byddai’n rhaid trafod unrhyw newidiadau sylweddol neu newid trywydd/dull wrth wneud gwaith pellach, yn ogystal ag amserlen hirach. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y gofynnwyd i’r Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol gyflwyno enwebiadau ar gyfer aelodaeth y Grŵp Tasg a Gorffen.
Cyfeiriwyd at faes rhif chwech yn yr adroddiad diweddaru, sy’n nodi’r camau penodol i fynd i’r afael â’r heriau o ran cynllunio gweithlu. Gwnaed cais i gael diweddariad a throsolwg ar y sefyllfa gyffredinol bresennol o fewn y Cyngor mewn perthynas â recriwtio a chadw staff, ac a oes gan y Cyngor drefniadau unigol, neu ar y cyd â phartneriaid a sefydliadau addysgiadol lleol, er mwyn bodloni gofynion staffio yn y dyfodol.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod sefyllfa staffio’r Cyngor yn sefydlog ar hyn o bryd. Mae’r Cyngor yn gallu denu a chadw staff da, ac mae’n darparu profiadau a datblygiad gyrfaol iddynt. Mae peth bryder ynghylch pwyntiau sengl o fethiannau o fewn y system, lle mae absenoldeb neu ddiffyg unigolion gydag arbenigedd a gwybodaeth benodol mewn maes arbennig yn achosi goblygiadau ehangach ar gyfer y Cyngor, o ran cynnal safon y gwasanaeth. Er bod Penaethiaid Gwasanaeth yn ymwybodol o bwysigrwydd cynllunio gweithlu o fewn eu gwasanaethau, gall y Cyngor wneud mwy fel sefydliad i wella ei broffil fel cyflogwr ac amlygu’r hyn y gall ei gynnig i ddarpar weithwyr o ran hyblygrwydd gwaith, hyfforddiant, a chyfleoedd dilyniant. Mae cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg gan Lywodraeth Cymru, sy’n bwriadu mynd i’r afael â’r heriau o fewn y sector addysg, yn cael ei adolygu, ac mae cynllun hyfforddai y Cyngor ei hun yn targedu meysydd ble mae bylchau, fydd yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau’n sefydlog. Yn y dyfodol, efallai bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar rai o’r prif rolau o fewn y sefydliad, er mwyn sicrhau y gall ddenu’r doniau cywir mewn farchnad gystadleuol, lle disgwylir i bennaeth gwasanaeth arbenigo mewn sawl maes.
Cyfeiriodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid at nifer o gynlluniau o fewn y Cyngor i gefnogi’r gwaith o recriwtio, gan gynnwys y Rhaglen Denu Talent, sy’n cynnig profiadau i unigolion weithio yn y Cyngor. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn o fewn y Gwasanaethau Oedolion; argaeledd cyllid SCWWDP er mwyn helpu i ddatblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol a pherthynas gref y Cyngor gyda Phrifysgol Bangor o ran darparu’r cwrs MA mewn Gwaith Cymdeithasol. Cadarnhaodd y bydd y cynllun hyfforddiant corfforaethol yn canolbwyntio ar feysydd/swyddi o fewn y Cyngor lle mae bylchau amlwg, gan bwysleisio ar ddull ‘meithrin eich talent eich hun’. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig rhaglenni rheoli a datblygu arweinyddiaeth yn fewnol ar gyfer staff. Nododd bod cyfradd cadw staff y Cyngor yn 82%. Gwnaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol friffio’r pwyllgor ar fuddsoddiad y Cyngor mewn mesurau recriwtio a hyfforddi, a sut mae hynny wedi helpu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i sefydlogi’r gweithlu. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mai recriwtio staff technegol yw’r her fwyaf o ran recriwtio i’r gwasanaeth. Er bod y dull ‘meithrin eich talent eich hun’ yn creu canlyniadau, mae risg y bydd pobl yn cael eu denu gan drefniadau gweithio hybrid a chyfleoedd â thâl uwch ym mhellach i ffwrdd.
Mewn ymateb i gwestiwn am yr heriau o ran recriwtio yn y sector addysg uwchradd, yn enwedig disgyblaethau gwyddoniaeth, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd angen adolygu cynllun strategol y gweithlu addysg gan Lywodraeth Cymru, sy’n mynd i’r afael â’r heriau hyn, yn ofalus. Gwnaed ymdrechion cenedlaethol i wella proffil y proffesiwn addysgu, ac mae’r ymdrechion hynny’n parhau.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd y Cyngor, fod lleoliad gwaith cadarnahol yn ffactor allweddol ar gyfer cadw staff presennol, yn enwedig yn y Cyngor. Mae’r sesiwn anwytho ar gyfer staff newydd yn amlygu’r cyfleoedd dilyniant gyrfaol a dysgu a datblygu sydd ar gael yn y Cyngor, a bod cynllunio gweithlu yn ffurfio rhan o bob hunan-asesiad blynyddol gwasanaethau. Dywedodd bod heriau recriwtio yn amlwg yn y sector llywodraeth leol, yn enwedig mewn perthynas â swyddi arbenigol sy’n golygu mwy o gystadleuaeth i grŵp cyfyngedig o ymgeiswyr, sy’n pwysleisio pwysigrwydd hyrwyddo’r Cyngor fel cyflogwr.
Penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol nodi’r cynnydd yn erbyn y camau gwella a nodwyd yn yr Adroddiad Hunan-asesiad ar ôl craffu ar yr adroddiad diweddaru a derbyn sicrwydd mewn perthynas â’r materion a godwyd.
Dogfennau ategol: