Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol 2023/24 Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad blynyddol 2023/24 y GCAR - CGC.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2023/24 gan Wasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS) i’w ystyried gan y pwyllgor.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd y Cyngor, fel un oedd yn rhoi trosolwg o weithgarwch y gwasanaeth yn ystod 2023/24. Mae gan y Cyngor ddyletswyddau cynllunio ac ymateb i argyfwng dan y ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol, ac mae’n brif ymatebwr. Mae’r Cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau drwy gydweithio ag awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru drwy’r gwasanaeth hwn, gyda Chyngor Sir y Fflint yn awdurdod cynnal. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at weithgarwch rhanbarthol yn ystod y flwyddyn, mewn perthynas â rheoli digwyddiadau ac ymateb i argyfyngau, yn ogystal â gweithgarwch o fewn y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru. Diolchodd y Cynghorydd Gary Pritchard i’r holl staff oedd wedi bod ynghlwm â’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan ganmol y cydweithio â’r bartneriaeth werthfawr.

 

Gwahoddwyd Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru i wneud sylw, a dywedodd mai’r gwasanaeth rhanbarthol yw’r unig un o’i fath yng Nghymru, ac ers ei sefydlu mae’r gwasanaeth wedi creu arbedion sylweddol ar gyfer y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, wedi lleihau dyblygiadau a sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael ar gyfer awdurdodau lleol.

 

Wrth graffu ar yr adroddiad blynyddol, aeth y pwyllgor ati i drafod y materion canlynol –

 

·         Roedd y pwyllgor yn ceisio sicrwydd mewn perthynas â diweddaru’r ddogfen a symud y mater yn ei flaen, ar ôl nodi problemau diweddar mewn perthynas â chau’r ddwy bont ar Ynys Môn, a gan fod yr unig gynllun wrth gefn ar gyfer sefyllfa pan fydd y ddwy bont wedi cau ar yr un pryd wedi’i dyddio o 2011.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio at Argyfwng, ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf i Sgriwtini, fod y Prif Weithredwr wedi codi’r mater gyda’r Fforwm Gwydnwch Lleol (LRF) mewn llythyr at Gadeirydd y Fforwm, a bod grŵp tasg a gorffen wedi’i sefydlu er mwyn edrych ar y sefyllfa. Cadarnhaodd bod y ddogfen o 2011 yn rhestru cyfrifoldebau pob asiant yn ystod digwyddiad lle byddai’r ddwy bont wedi cau ar yr un pryd, a bod angen ei diweddaru er mwyn adlewyrchu trefniadau cyfredol a sicrhau bod yr holl asiantaethau perthnasol wedi’u cynnwys ac yn cael mewnbwn.

 

Rhoddwyd y ddogfen ddiwygiedig ar waith yn ystod ymarferiad a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2024 yng Nghanolfan Fusnes Llangefni. Trafodwyd y materion a’r opsiynau o ran ymateb i gau’r ddwy bont, gan sicrhau mynediad i’r gwasanaethau brys. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn adolygu opsiynau ar gyfer stacio Cerbydau Nwyddau Trwm (HGVs), ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnig mewnbwn ar y mater hwn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith sylweddol wedi’i wneud mewn cyfnod byr o amser, ac er y byddai’r ymateb i argyfwng yn llawer mwy grymus erbyn hyn o gymharu â blwyddyn yn ôl, mae’n rhaid gwneud gwaith pellach, yn enwedig mewn perthynas â stacio Cerbydau Nwyddau Trwm. Mae’r unig gynllunio ar gyfer stacio Cerbydau Nwyddau Trwm yn dyddio’n ôl i gyfnod Brexit, a byddai’n cymryd pythefnos i roi ei brif elfennau ar waith ac yn ddiwerth mewn argyfwng. Er ei bod yn rhwystredig nad oes cynllun diwygiedig wedi’i baratoi hyd yma, mae cynnydd wedi mynd rhagddo ers anfon llythyr at yr LRF mewn perthynas â’r ymateb i gau Porthladd Caergybi yn ystod Storm Darragh, er enghraifft, arwyddion i rybuddio gyrwyr i beidio a gwneud y daith i’r porthladd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y cynllun stacio Cerbydau Nwyddau Trwm presennol yn cynnig capasiti cyfyngedig ger yr A55 yng Nghaergybi, ac nid yw’n mynd i’r afael â’r heriau ynghlwm â chau’r ddwy bont sy’n effeithio ar wydnwch yr ynys gyfan. Mae angen cynllun ar gyfer Ynys Môn, yn cynnwys Caergybi a’r cysylltiad â’r tir mawr, yn ogystal â chydnabyddiaeth rhanbarthol i’r mater hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach, cyfeiriodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo at y berthynas weithredol rhwng y Cyngor ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, ac eglurodd y sefyllfa o ran trefniadau stacio Cerbydau Nwyddau Trwm ar gyfer y tir mawr, gan ddweud mai’r rheswm am yr oedi o ran paratoi cynllun ar gyfer Ynys Mon yw methiant ar lefel genedlaethol i werthfawrogi pwysigrwydd y pontydd sy’n cysylltu’r ynys, a’r effaith gwirioneddol o gau un, neu’r ddwy pont, a’r porthladd.

 

·         Prif flaenoriaethau Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru

 

Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol fod y gwasanaeth yn edrych ar flaenoriaethau’r LRF er mwyn sicrhau aliniad, a sicrhau bod yr holl faterion sy’n ymwneud a Gogledd Cymru wedi’u crybwyll. Mae cwblhau’r cynllun adfer yn flaenoriaeth yn ogystal â pharhad gwaith mewn perthynas â llygredd arfordirol a pharatoi cynllun sy’n bodloni anghenion y pump awdurdod lleol sydd ag arfordir. Bydd gwaith, mewn perthynas â’r pontydd, yn parhau yn ogystal â darparu hyfforddiant. Mae adolygu parodrwydd y gwasanaeth a sicrhau bod ei gynlluniau’n gyfredol hefyd yn flaenoriaethau ar gyfer y chwe i wyth mis nesaf.

 

·         Yr hyfywedd o gynnig darpariaeth i hysbysu’r cyhoedd o’r amseroedd gorau i groesi drosodd i’r tir mawr er mwyn osgoi tagfeydd ar y pontydd o ganlyniad i longau’n cyrraedd neu’n gadael y porthladd o fewn y cynllun wrth gefn.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio at Argyfwng fod Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi cynnal adolygiad ar gyfnodau prysuraf Pont Britannia pan roedd Pont Menai wedi cael ar gyfer gwaith atgyweirio, yn ogystal â’r opsiynau ar gyfer rheoli traffig, e.e., gosod goleuadau rheoli traffig ar y slipffordd sy’n ymuno â’r pont. Cadarnhaodd y byddai’n mynd â’r ymholiad yn ôl i Traffig Cymru fel y gwasanaeth gwybodaeth traffig ar gyfer cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru i ganfod a oes modd rhannu’r data perthnasol yn ehangach.

 

·         Yr arbedion a wnaed drwy gydweithio’n rhanbarthol er mwyn darparu gwasanaeth cynllunio at argyfwng er mwyn cyflawni cyfrifoldebau’r awdurdod lleol dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, a rheoliadau perthnasol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol, yn ystod digwyddiad difrifol e.e., stormydd, bydd y gwasanaeth yn mynd i Bencadlys yr Heddlu ar ran yr awdurdodau lleol er mwyn cydlynu eu hymatebion a darparu gwybodaeth gan bartneriaid amlasiantaethol, gan arbed amser i chwe swyddog gwahanol. O ran cyllid, mae’r gwasanaeth wedi lleihau costau, ac ers 2014 nid yw wedi profi cynnydd ac mae wedi dychwelyd 5% yn ôl i’r rhanbarth yn flynyddol. Mewn amser, bydd rhaid i’r gwasanaeth adolygu ei strwythurau er mwyn gwneud arbedion pellach. Eleni, mae’r gwasanaeth wedi cefnogi’r Cyngor i brofi amrywiaeth o’i gynlluniau parhad busnes wrth gefn er mwyn sicrhau eu bod yn rymus ac yn addas at eu diben.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod y rôl gydlynol a ymgymerwyd â hi gan y gwasanaeth rhanbarthol yn ystod stormydd diweddar wedi galluogi Swyddogion y Cyngor i aros ar Ynys Môn, a thrwy hynny, darparu ymateb gwell i drigolion drwy gysylltu ag aelodau lleol, uwch reolwyr a swyddogion yn y gymuned.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod adolygiad ar y gwasanaeth wedi’i gwblhau’n fewnol gan Gyngor Sir y Fflint, lle cynhelir y gwasanaeth, a bod hynny wedi arwain at arbedion yn bennaf drwy leihau staff. Mae cydweithio yn cynnig gwydnwch gwell ac yn rhoi’r arbenigedd i’r Cyngor na fyddai ar gael fel arall. Yn sgil y strwythur rhanbarthol, mae’r Cyngor yn gallu canolbwyntio ar ei ymateb gwirioneddol yn hytrach na gorfod cydlynu â phartneriaid strategol.

 

·         Rôl y gwasanaeth rhanbarthol o ran delio gyda llygredd ac ymwneud â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan gynnwys cyfrannu at gynlluniau wrth gefn mewn achos o ddigwyddiadau niwclear.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rhanbarthol fod y gwasanaeth yn cael ei gynrychioli ar is-grŵp amgylcheddol yr LSF, sy’n gweithio gyda CNC drwy’r grŵp ar faterion llygredd. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda CNC fel y rheolydd ar safleoedd mae ynghlwm â nhw, megis rheoli digwyddiadau mawr a safleoedd peryglus. Mae un o swyddogion y gwasanaeth yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol gyda ffocws diwydiannol, ac mewn perthynas â hynny, mae’r swyddog yn mynychu cyfarfodydd â grŵp rhanddeiliaid Wylfa a Thrawsfynydd er mwyn bod yn ymwybodol o ddigwyddiadau, yn ogystal â grwpiau cenedlaethol er mwyn edrych ar arfer gorau. Pe byddai problem ar un o’r safleoedd hyn, byddai’r swyddog yn rhan hollbwysig o’r cynllun oddi ar y safle y byddai’n rhaid ei baratoi ar gyfer y safle dan sylw.

 

Ar ôl craffu ar yr adroddiad diweddaru, ac ar ôl clywed sylwadau’r Swyddog i’r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol nodi cynnydd gwaith Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer 2023/24.

 

Camau ychwanegol y cytunwyd arnynt –

 

·         Gofyn i’r Prif Weithredwr ysgrifennu llythyr pellach at Gadeirydd yr LRF er mwyn cyflymu’r broses o baratoi cynllun stacio Cerbydau Nwyddau Trwm ar gyfer Ynys Môn.

·         Gofyn i’r Swyddog Cynllunio at Argyfwng, mewn ymgynghoriad â Traffig Cymru, ddarparu data llif traffig ar Bont Britannia i aelodau.

·         Gofyn i’r Rheolwr Gwasanaeth Rhanbarthol ddarparu gwybodaeth i aelodau am yr arbedion a wnaed drwy’r gwasanaeth, a’r gwerth am arian.

·         Gofyn i’r Rheolwr Gwasanaeth Rhanbarthol ddarparu diweddariad i aelodau ar ddatblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer safleoedd niwclear.

·         Bod yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2024/25 yn dangos sut mae’r gwasanaeth rhanbarthol wedi lleihau dyblygu ar gyfer bob un o’r cynghorau cyfansoddol.

 

Dogfennau ategol: