Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, oedd yn cynnwys diweddariad fel ag yr oedd ar 31 Ionawr, 2025, ar yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad diwethaf ar 28 Tachwedd 2024, i’w ystyried gan y pwyllgor. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu llwyth gwaith presennol Archwilio Mewnol a’i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byw a chanolig wrth symud ymlaen. Darparwyd clawr ar wahân gyda chopïau o’r adroddiadau sicrwydd terfynol i aelodau mewn perthynas â Datblygu Tai (Sicrwydd Rhesymol) a Recriwtio a Chadw (Sicrwydd Rhesymol). Roedd trydydd darn o waith a gwblhawyd yn ystod y cyfnod yn cynnwys ymchwiliad yn ymwneud â’r Gwasanaethau Eiddo, a gynhaliwyd mewn ymateb i honiadau o ffafriaeth mewn perthynas â chaffael gwaith trydanol, ond nid oedd barn sicrwydd yn berthnasol.
Rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg drosolwg o'r ddau adroddiad sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod a chadarnhaodd fod cynllun gweithredu wedi'i lunio a'i gytuno gyda'r rheolwyr i fynd i'r afael â'r materion / risgiau a chyfleoedd a godwyd ym mhob achos. Ymhelaethodd ar yr ymchwiliad mewn perthynas â Gwasanaethau Eiddo a dywedodd, er nad oedd yr honiadau o ffafriaeth yn cael eu cadarnhau, roedd cyfleoedd i gryfhau rheolaethau risg twyll wedi'u nodi a bod canfyddiadau'r adolygiad yn cael eu hadrodd i'r Prif Weithredwr, yr Aelod Portffolio, y Pennaeth Gwasanaeth, a'r Swyddog Monitro. Cyfeiriodd at flaenoriaethau tymor byr a chanolig Archwilio Mewnol, gan gynnwys gwaith sy’n mynd rhagddo, fel y crybwyllwyd ym mharagraff 25 yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau ar gyfer y tymor hir, a darparodd grynodeb i’r pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â datblygiadau gan gynnwys cyflwyno safonau archwilio mewnol byd-eang newydd, cod ymarfer newydd CIPFA ar gyfer llywodraethu archwilio mewnol mewn awdurdodau lleol a ddaeth i rym 1 Ebrill 2025, a’r diweddariad gan CIPFA a SOLACE i’r canllawiau ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â chwblhau adolygiad ar effeithiolrwydd ei system rheoli mewnol a pharatoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Wrth ystyried yr adroddiad, nododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth -
· A oedd yr adborth i’r Gwasanaethau Tai o adolygiad ar Ddatblygiadau Tai yn cynnwys unrhyw argymhelliad penodol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer monitro gwerth am arian.
Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg wrth y pwyllgor fod yr adolygiad wedi dangos er bod y Cyngor ar ben ffordd i fodloni ei darged prynu’n ôl o ran nifer yr eiddo sydd wedi’u caffael, mae absenoldeb asesiad hyfywedd ariannol ffurfiol yn ei gwneud hi’n anodd dangos gwerth am arian mewn perthynas â’r Cynllun Prynu’n Ôl. I’r perwyl hwn, byddai polisi caffael prynu’n ôl ffurfiol yn cryfhau trefniadau llywodraethu ac yn mireinio’r dull ar gyfer prynu eiddo’n ôl, gan gynnwys yr ystyriaethau anariannol sy’n cael eu hystyried wrth brynu adeiladau a oedd gynt yn eiddo i’r Cyngor yn ôl.
· Mewn perthynas â’r adolygiad ar recriwtio a chadw staff, a’r heriau o ran recriwtio mae’r Cyngor yn eu hwynebu o ran gallu denu ymgeiswyr addas, dylid cwblhawyd dadansoddiad ar y bwlch sgiliau gyda’r bwriad i hysbysu colegau i dargedu’r meysydd hynny lle ma diffyg sgiliau.
Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod gan y Cyngor bartneriaethau cryf gyda cholegau lleol a rhanbarthol, a’i fod yn cydweithio gyda nhw ar raglenni a chynlluniau i fodloni anghenion sgiliau lleol o fewn y Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â’r gweithlu gofal. Un o’r prif broblemau yw’r diffyg mewn unigolion sy’n ymgeisio am swyddi o fewn y Cyngor. Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y Cyngor yn cynnal cyfweliadau ymadael i gael adborth gan staff sy’n gadael.
Cytunodd y pwyllgor â’r argymhelliad i gwblhau darn o waith er mwyn edrych ar y buddion mae gweithio ar y cyd â cholegau lleol a rhanbarthol wedi’u darparu o ran galluogi’r Cyngor gyflawni ei anghenion recriwtio a sgiliau a llenwi swyddi.
· I ba raddau mae’r gwahaniaeth tâl rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat ar gyfer swyddi cyffelyb yn rhwystr mewn awdurdodau lleol, ac a oes angen adolygu’r strwythur graddio yn y Cyngor er mwyn galluogi’r Cyngor i ddenu’r staff cywir.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gallu’r Cyngor i newid ei lefelau tâl wedi’i gyfyngu gan fod y graddfeydd tâl yn cael eu gosod yn genedlaethol gan Y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol (NJC) yng Nghymru a Lloegr. Mae’r graddfeydd tâl yn cynnwys graddfeydd gwahanol a phwyntiau graddfa sy’n cyd-fynd â chyflogau penodol. Yn ychwanegol, mae’r cynllun Gwerthuso Swydd, lle mae pob swydd yn cael ei asesu’n systematig a’i sgorio gan asesydd allanol, hefyd yn golygu bod cwmpas cyfyngedig i newid lefelau tâl i gystadlu â’r sector preifat.
· Mewn perthynas ag archwilio cwyn yn erbyn Gwasanaethau Eiddo, bod yn rhan o’r broses archwilio neu peidio, dylai achwynydd gwrdd â Swyddogion i ddarparu gwybodaeth bellach a/neu helpu gydag ymholiadau os y’u gwahoddir i wneud hynny, ac a ddylai presenoldeb fod yn amod i barhau â’r archwiliad.
Cynghorwyd y pwyllgor fod yr achwynydd, yn yr achos hwn, wedi siarad â’r Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a bod rhaid i Archwilio Mewnol ei archwilio ar gais yr Aelod Portffolio a’r Swyddog Monitro.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a yw’r Cyngor yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriad presennol ar yr ychwanegiad i ganllawiau CIPFA a SOLACE ar adolygu’r system rheoli mewnol a pharatoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod yr ymgynghoriad wedi cael ei drosglwyddo ymlaen at y Rheolwr Cynllunio Perfformiad a Rhaglen Corfforaethol sy’n gyfrifol am baratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Penderfynwyd nodi canlyniad gwaith Archwilio Mewnol, y sicrwydd a ddarparwyd a’r blaenoriaethu wrth symud ymlaen.
Cam ychwanegol - gofyn i’r Cyngor ystyried archwilio’r buddion mae gweithio ar y cyd â cholegau lleol a rhanbarthol wedi’i gynnig o ran galluogi’r Cyngor i fodloni ei anghenion recriwtio a sgiliau, a llenwi swyddi.
Dogfennau ategol: