Eitem Rhaglen

Adolygiad Canol Blwyddyn o Reoli'r Trysorlys 2024/25

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151  i sylw’r pwyllgor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran rheoli’r drysorlys ar 30 Medi 2024.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod sefyllfa Rheoli’r Trysorlys y Cyngor wedi aros yn sefydlog a bod y Cyngor wedi cadw at y dangosyddion darbodus a osodwyd yn Natganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25. Ni ymrwymodd y Cyngor i unrhyw fenthyca allanol newydd yn ystod y cyfnod er mwyn arbed ar y llog taladwy ac mae wedi parhau i gynnal ei strategaeth o ddefnyddio benthyca mewnol i ariannu gwariant cyfalaf. Fodd bynnag, wrth i gronfeydd arian parod gael eu defnyddio, mae swm yr arian dros ben yn lleihau a thrwy hynny mae’n lleihau’r arian sydd ar gael i’w buddsoddi a lefel y benthyca mewnol y gellir ei gefnogi sy’n golygu ei bod yn debygol y bydd angen benthyca allanol ychwanegol yn y dyfodol i ariannu’r rhaglen gyfalaf. Mae’r enillion ar fuddsoddiadau hyd at 30 Medi 2024 wedi bod yn gadarnhaol ac amcangyfrifir y bydd llog yn dderbyniadwy am y flwyddyn gyfan ar y buddsoddiadau gweithredol yn y cyfnod a ragwelir yn £1.322m. Crynhoir perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwe mis hyd at 30 Medi 2024 yn Nhabl 4 yr adroddiad. Mae sefyllfa gyfalaf y Cyngor wedi’i nodi yn Nhabl 5 yr adroddiad ac yn dangos y disgwylir i’r gyllideb gyfalaf danwario o £6.550m am y flwyddyn. Bydd prosiectau sydd wedi tanwario, a'r cyllid sy'n eu cefnogi, yn cael eu cario ymlaen i 2025/26.

 

Wrth adolygu’r adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion canlynol –

 

  • Y rhesymau pam mae benthyciad sy’n dyddio’n ôl i 1969 yn dal yn daladwy ac a fyddai’n fanteisiol setlo’r benthyciad.

 

  • Yr incwm/arbedion y disgwylir drwy osod paneli solar ar adeiladau'r Cyngor gan ddefnyddio cyllid benthyciad Salix unwaith y bydd y benthyciadau wedi'u had-dalu'n llawn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 15 fod y Cyngor yn cymryd benthyciadau tymor hir am wahanol resymau gan gynnwys ar gyfer prosiectau seilwaith megis ysgolion newydd ac efallai bod y benthyciad o 1969 at y diben hwnnw. Er bod y benthyciadau y mae'r Cyngor wedi'u cymryd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, daw setliad cynnar ar gyfer benthyciadau PWLB gyda thâl ad-dalu cynnar a all fod yn uwch nag unrhyw arbediad a wneir. Os nad oes gan y Cyngor yr arian dros ben i dalu'r benthyciad, yna byddai'n rhaid iddo fenthyca i wneud hynny a allai fod ar gyfradd uwch na'r benthyciad gwreiddiol. Ychwanegodd, fel rhan o gwrdd â’r meini prawf cymhwyso ar gyfer benthyciad Salix, fod rhaid i brosiectau gael eu cefnogi gan achos busnes sy’n dangos yr arbediad/incwm disgwyliedig dros gyfnod o 10 mlynedd neu lai a bod y wybodaeth mewn perthynas â’r prosiectau paneli solar, er nad oedd ar gael yn syth, ar gael.

 

Cafwyd enghreifftiau, fel rhan o’r canlyniadau, gyda’r meini prawf gweithredu ar gyfer tri Salix, mae’n rhaid dweud eu bod wedi cefnogi gan y busnes i’w wneud dros gyfnod o 10 mlynedd neu lai a bod y wybodaeth mewn prosiectau panel solar er nad oedd ar gael, ar gael.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adroddiadau rheoli trysorlys hefyd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith, er hwylustod adrodd ac oherwydd yr amserlen mae templed y Pwyllgor Gwaith wedi'i ddefnyddio. Mae adroddiadau diweddaru chwarterol ar reoli'r trysorlys hefyd yn cael eu paratoi erbyn hyn ac mae'r adolygiad wedi'i ddirprwyo gan y Pwyllgor Gwaith i'r Aelod Portffolio Cyllid. Mae’r adroddiad chwarterol wedi’i gwtogi a gellid ei ddefnyddio fel sail ar gyfer adrodd i’r pwyllgor hwn. Awgrymodd y Swyddog Adran 151 y dylai anfon copi o adroddiad diweddaru Rheoli'r Trysorlys ar gyfer Chwarter 1 2024/25 at y Cadeirydd i weld a yw ei fformat yn bodloni anghenion y pwyllgor hwn yn well.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad, gweithgaredd y trysorlys, a’r dangosyddion darbodus ar 30 Medi 2024 ac anfon yr adroddiad ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylw pellach.

 

Gweithredoedd ychwanegol-

 

·      Darparu gwybodaeth i'r pwyllgor am yr incwm/arbedion y rhagwelir y bydd gosod paneli solar ar adeiladau'r Cyngor gan ddefnyddio arian Salix yn ei gynhyrchu.

·      Gofyn i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 anfon copi o adroddiad diweddaru Chwarter 1 2024/25 ar Reoli'r Trysorlys at y Cadeirydd am adolygiad o'i fformat.

 

Dogfennau ategol: