· Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru – adroddiad cenedlaethol.
· Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru – adroddiad lleol Cyngor Sir Ynys Môn ac ymateb rheolwyr
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiadau Archwilio Cymru, mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol yng Nghymru, i’w ystyried gan y pwyllgor. Cyflwynwyd adroddiad cenedlaethol, oedd yn asesu cynaliadwyedd ariannol cynghorau Cymru, ar y cyd ynghyd ag adroddiad lleol a oedd yn canolbwyntio ar Gyngor Sir Ynys Môn. Roedd adolygiad Archwilio Cymru yn edrych ar y strategaethau i gefnogi cynaliadwyedd ariannol hirdymor cynghorau, dealltwriaeth cynghorau o’u sefyllfa ariannol a threfniadau adrodd cynghorau i gefnogi trosolwg rheolaidd o’u cynaliadwyedd ariannol.
Aeth Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad ar gyfer Archwilio Cymru, ymlaen i edrych ar y negeseuon allweddol o’r adolygiad cenedlaethol a nodi bod risgiau sylweddol i gynaliadwyedd cyllid llywodraeth leol sy’n debygol o gynyddu dros y tymor canolig heb gamau i’w lliniaru er bod y pwysau ar gyllid llywodraeth leol wedi effeithio’n wahanol ar gynghorau a gwasanaethau. Amlygodd yr adolygiad yr angen i gynghorau ddatblygu cynlluniau ariannol hirdymor mwy cadarn i fynd i’r afael â bylchau ariannu yn y dyfodol ac i sicrhau cynaliadwyedd ariannol ac i fabwysiadu strategaethau trawsnewid tymor hir i ymdrin â’r heriau ariannol maent yn eu hwynebu. Daeth yr adolygiad o Gyngor Sir Ynys Môn i'r casgliad penodol bod gan y Cyngor drefniadau da i ymateb i heriau ariannol yn y tymor byr i'r tymor canolig ond nid yw wedi ffurfioli'r gwaith o gynllunio a goruchwylio ei gynaliadwyedd ariannol tymor hwy. Argymhellodd yr adolygiad y dylai'r Cyngor ddatblygu strategaeth ariannol tymor hir sy'n cefnogi ei ddealltwriaeth o'i sefyllfa ariannol yn y dyfodol ac sy'n llywio'r gwaith o drawsnewid a blaenoriaethu gwasanaethau.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y setliad cyllid blwyddyn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â chostau cynyddol a galw cynyddol sy’n anodd eu rhagweld ac sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn golygu bod cynllunio tymor hir a defnydd strategol o gronfeydd wrth gefn yn her. Mae cynghorau wedi codi pryderon ynghylch amseriad y setliad ariannu yn ogystal â natur tymor byr y setliad a’r gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb drwy ddarparu amcangyfrif o gyllid dros sawl blwyddyn yn hytrach nag am flwyddyn ar y tro, er mwyn galluogi’r Cyngor i gynllunio ar gyfer y tymor hwy. Mae’r Cyngor wedi defnyddio ei gronfeydd wrth gefn i fantoli’r gyllideb am y ddwy flynedd ddiwethaf fel ffordd o osgoi toriadau sylweddol mewn gwasanaethau a allai fod yn ddiangen os bydd y dirwedd ariannol yn gwella, tra’n sicrhau hefyd ei fod yn cadw digon o arian wrth gefn i allu ymateb i heriau pe bai’r sefyllfa ariannol yn gwaethygu. Cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 fod y Cyngor yn datblygu strategaeth ariannol tymor hir ar yr amod bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth am y rhagolygon ariannu ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
· Cydnabu'r pwyllgor fod cynllunio ar gyfer y tymor hir yn yr hinsawdd ariannol bresennol yn heriol i'r Cyngor yn enwedig o ystyried nad oes sicrwydd ynghylch cyllid y tu hwnt i'r flwyddyn uniongyrchol. Roedd yr aelodau'n teimlo bod y disgwyliad y byddai'r Cyngor yn datblygu strategaeth ariannu tymor hir yn ymestyn dros ddwy neu dair blynedd yn afrealistig, oni bai y gall Llywodraeth Cymru roi sicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol a setliadau aml-flwyddyn.
· Roedd y pwyllgor hefyd yn cydnabod, er gwaethaf yr heriau, y gall y Cyngor wneud rhywfaint o gynnydd wrth gynllunio ar gyfer y tymor hir drwy archwilio gwahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau’n fwy cost-effeithiol, defnyddio data demograffig i wneud penderfyniadau gwybodus, cydweithio â chynghorau a sefydliadau eraill i rannu adnoddau ac arbenigedd, a defnyddio technoleg i leihau costau.
· Roedd y pwyllgor yn cydnabod y cyfleoedd economaidd a buddsoddi a allai ddeillio o Borthladd Rhydd Ynys Môn a datblygiad posibl Wylfa a allai liniaru'r heriau ariannol sy'n wynebu'r Cyngor yn y dyfodol.
· Gofynnodd y pwyllgor am eglurhad ynghylch sut mae Archwilio Cymru yn cynnig bod y Cyngor yn defnyddio ei gronfeydd wrth gefn yn strategol i gynllunio ar gyfer y tymor hwy o dan yr amgylchiadau presennol.
Dywedodd Mr Alan Hughes, Archwilio Cymru, er y gellir defnyddio'r cronfeydd wrth gefn i gwrdd â diffyg ariannol, y gellir eu defnyddio hefyd i gefnogi prosiectau trawsnewid hirdymor i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau. O fewn cwmpas yr adolygiad dangosodd asesiad y ddau ar hugain o gynghorau yng Nghymru fod cynghorau ar gamau gwahanol o addasu i'r heriau ariannol y maent yn eu hwynebu gyda rhai yn fwy datblygedig nag eraill. Er y cydnabyddir bod cynllunio ar gyfer y tymor hir yn heriol a’i bod yn ddealladwy y byddai cynghorau am geisio osgoi torri gwasanaethau yn y gobaith o setliadau gwell i ddod, mae risgiau o beidio â chymryd camau amserol gan gynnwys disbyddu cronfeydd wrth gefn i bwynt tyngedfennol. Mae cynghorau'n wynebu cydbwysedd anodd wrth barhau i ddarparu gwasanaethau ar y lefel bresennol tra'n rheoli eu cynaliadwyedd ariannol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 15 mai dim ond am gyfnod y bydd y cronfeydd wrth gefn yn cynnal y Cyngor wrth iddo geisio trawsnewid gwasanaethau a heb ddarpariaeth mwy o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, nad yw wedi’i gynnwys yn adolygiad Archwilio Cymru, mae’r Cyngor yn gyfyngedig o ran yr hyn y gall ei wneud i wella ei asedau ffisegol ac o ganlyniad, darparu gwasanaethau. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 enghreifftiau o sut mae’r Cyngor wedi defnyddio’r adnoddau cyfalaf sydd ar gael iddo i wella gwasanaethau a gwella effeithlonrwydd trwy ddatblygu tai gofal ychwanegol ar gyfer pobl hŷn a defnyddio technoleg o fewn y ddarpariaeth honno i leihau costau ac adeiladu ysgolion modern newydd yn lle nifer o ysgolion llai, a thrwy hynny, leihau’r ystâd ysgolion a chostau cynnal a chadw cysylltiedig. Byddai mwy o arian cyfalaf yn galluogi’r Cyngor i fuddsoddi ymhellach mewn uwchraddio ei adeiladau e.e. canolfannau hamdden i wella effeithlonrwydd ac i wasanaethu trigolion a chymunedau’r ynys yn well. Os gwireddir y cyfleoedd all ddeillio o Borthladd Rhydd Môn a datblygiad safle Wylfa, fe allai wella sefyllfa ariannol y Cyngor yn enwedig o safbwynt cyllid cyfalaf.
Mewn trafodaeth bellach, cadarnhawyd bod y Cyngor ynghyd â chynghorau eraill yng Nghymru drwy CLlLC wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru ers peth amser am gyllid digonol i lywodraeth leol gan gynnwys gwell cyllid cyfalaf a threfniadau ariannu gwell. Amlygodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, fod y Cyngor wedi bod yn ymladd tanau pwysau uniongyrchol gan adael prin ddigon o sgôp ar gyfer cynllunio tymor hir am lawer o'i amser fel deiliad y portffolio Cyllid.
Ar ôl ystyried yr adroddiadau, penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cymryd sicrwydd o ymateb y Cyngor, ei fod yn deall ei sefyllfa ariannol a’i fod yn datblygu strategaeth ariannol tymor hir, yn amodol ar awgrym tymor hir o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
(Ataliodd y Cynghorydd Aled M. Jones rhag pleidleisio)
Dogfennau ategol: