Derbyn cyflwyniad gan Medrwn Môn.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Lyndsey Campbell-Williams, Prif Swyddog Medrwn Môn i’r cyfarfod.
Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd bod Medrwn Môn yn un o 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) sy’n cael eu hariannu ledled Cymru i gefnogi grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol. Nododd bod Medrwn Môn yn sefydliad trydydd parti strategol gyda’r Awdurdod hwn ac mai prif amcan y sefydliad yw helpu a hybu gwirfoddolwr a chefnogi sefydliadau trydydd parti ledled yr Ynys. Mae Medrwn Môn hefyd yn cynorthwyo’r Cyngor â ‘Llunio Lleoedd’, ‘Cynghreiriau Lleol’, Cynlluniau Trafnidiaeth mewn Cymunedau ynghyd â’r fenter Ynys ‘Oed-Gyfeillgar’. Aeth ymlaen i nodi bod Medrwn Môn yn arwain y cynllun atal tlodi mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol.
Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod Medrwn Môn yn asiantaeth annibynnol sy’n darparu cyngor i sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i’w galluogi i weithio’n fwy effeithiol. Dywedodd bod gwaith craidd Medrwn Môn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y trefniadau ariannu presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth, 2025; mae achos busnes wedi cael ei lunio ar draws y 19 CGS i sicrhau cyllid am gyfnod o ddwy flynedd - 2025/2027. Fe amlygodd mai ffocws a phryder y grwpiau cymunedol yw sicrhau cyllid cynaliadwy i’w galluogi i ariannu gweithgareddau yn eu cymunedau. Derbyniodd 11 Grŵp Cymunedol gefnogaeth yn 2023/2024 i ddenu gwerth £353,000 o gyllid gan sefydliadau ariannu h.y. y Loteri Genedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cymru. Cefnogodd Medrwn Môn 84 grŵp yn ychwanegol i ddenu cyllid gwerth cyfanswm o £200,000 yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir i sicrhau’r Grant Gwirfoddoli Ieuenctid, y Grant Mannau Cynnes, Gweithgareddau’r Hydref a Llunio Lleoedd. Aeth ymlaen i ddweud bod Medrwn Môn wedi cynnig sesiynau hyfforddi rhad ac am ddim a bod canran uchel o bobl wedi cymryd mantais ohonynt. Nodwyd bod Grwpiau Cymunedol wedi derbyn £1.9m o gyllid gan sefydliadau ariannu mawr gyda chymorth Menter Môn a bod £313k wedi cael ei ddosbarthu o gronfeydd allweddol h.y. cyllid SPF i gefnogi Cynghreiriau Cymunedol. Dywedodd bod Medrwn Môn wedi ailstrwythuro ei staff craidd i gefnogi Cynghreiriau Cymunedol. Cyfeiriodd at y gwasanaethau gwirfoddol a ddarparwyd gan Medrwn Môn h.y. Carlinc, Cynlluniau Tro Da, Technoleg a Gofal, Linc Cymunedol Môn. Dywedodd bod y berthynas waith rhwng Medrwn Môn a’r Cyngor Sir ymhlith y gorau ar draws y Cynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghymru.
Fe wnaeth y Pwyllgor godi’r pwyntiau a ganlyn –
· Codwyd cwestiynau ynglyn ag elfennau pwysicaf gwaith Medrwn Môn yng nghyd-destun tlodi. Mewn ymateb dywedodd Prif Weithredwr Medrwn Môn mai’r prif her yw sicrhau cyllid craidd i gefnogi grwpiau cymunedol fel y gallant ddarparu gweithgareddau yn eu cymunedau a bod yn gynaliadwy yn y tymor hir.
· Codwyd cwestiynau ynghylch y newid yn y math o gymorth y mae unigolion a sefydliadau gwirfoddol lleol ei angen a p’un a yw’n rhagweld cynnydd yn y galw dros y blynyddoedd nesaf. Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr bod Medrwn Môn wedi ailstrwythuro ei staff i fynd i’r afael â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau craidd. Nododd bod yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar gyfleusterau cymunedol yn ogystal ag unigolion a bod trafodaethau wedi cael eu cynnal ynglŷn â chynaliadwyedd rhai grwpiau cymunedol a p’un a ddylid uno rhai grwpiau o fewn cymunedau. Aeth ymlaen i ddweud bod cynnydd wedi bod yn y galw am y gwaith prosiect craidd a ddarperir gan Medrwn Môn yn dilyn y pandemig.
· Cyfeiriwyd at y grwpiau cymunedol a ddaeth i ben yn ystod y pandemig. Holwyd p’un ai a oes unrhyw ystadegau ar gael ynglyn â faint sydd wedi dod i ben a faint sydd wedi parhau h.y. yn ystod y flwyddyn i bum mlynedd ddiwethaf. Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog bod gan Medrwn Môn gronfa ddata sy’n dangos y tueddiadau a pham bod rhai gwahanol grwpiau wedi dod i ben ac wedi bod yn cael trafferth ymdopi. Mae’r staff craidd yn gallu gweld yr wybodaeth fel y gallant dargedu adnoddau i fynd i’r afael ag anghenion cymunedau penodol. Dywedodd yr Arweinydd bod pob sefydliad sector gwirfoddol yn cael trafferth sicrhau cyllid a chadw a denu’r gwirfoddolwyr sydd eu hangen i gefnogi’r gweithgareddau y maent yn eu darparu.
· Codwyd cwestiynau ynghylch beth arall y gellid ei gyflawni pe byddai’r adnoddau ar gael a p’un a fydd pob un o’r Cynghreiriau Cymunedol yn gallu parhau yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog bod cyllid craidd yn hanfodol er mwyn gallu cefnogi grwpiau cymunedol; mae’n allweddol cadw staff i gefnogi’r grwpiau hyn er mwyn gwella cyfleusterau a gweithio’n fwy effeithlon i greu cymunedau cynaliadwy.
· Codwyd cwestiynau ynghylch Cydlynwyr Asedau Lleol a p’un ai a ydynt yn cydweithio ag Aelodau Etholedig. Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr bod pedwar cydlynydd ar yr Ynys a’u bod yn gweithio â’r Cynghreiriau Cymunedol. Dywedodd mai’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw y byddant yn bwrw gwreiddiau yn eu cymunedau a bydd hyn yn rhan o’r cynllun datblygu ar gyfer y dair blynedd nesaf.
· Codwyd cwestiynau ynghylch sut y gellid gwella’r cydweithio rhwng y Cyngor Sir a sefydliadau. Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog bod y berthynas waith rhwng Medrwn Môn a’r Awdurdod wedi bod mewn bodolaeth ers dros ddeuddeg mlynedd. Rhoddodd enghreifftiau o gydweithio mewn gwahanol ardaloedd ar yr Ynys a gyda gwasanaethau o fewn y Cyngor Sir.
· Codwyd cwestiynau ynghylch sut y gall Aelodau Etholedig gefnogi gwaith Medrwn Môn fel sefydliad sector gwirfoddol. Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog mai’r prif bwynt cyswllt yw’r Cynghreiriau Cymunedol. Nododd mai Medrwn Môn yw’r unig Gyngor Gwirfoddol Sirol sy’n gweithio ag Aelodau Etholedig a Chynghorau Tref a Chymuned i ddarparu cymorth a hyfforddiant. Aeth ymlaen i ddweud bod Medrwn Môn yn barod i gefnogi a chynorthwyo prosiectau lleol mewn cymunedau os yw’r Aelodau Etholedig yn meddwl y byddai hynny o gymorth.
· Codwyd cwestiynau ynghylch rhannu gwybodaeth am gynlluniau cludiant mewn ardaloedd gwledig. Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog eu bod wedi bod yn gweithio â’r Adran Briffyrdd yn ddiweddar a bod ystadegau wedi cael eu rhannu i roi gwybod ble mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu a pha mor aml mae’r gwasanaethau bysiau’n cael eu defnyddio. Nododd bod Medrwn Môn wedi ariannu astudiaeth dichonadwy fel bod y Cynghreiriau’r ymwybodol o’r ardaloedd a allai elwa o drafnidiaeth cymunedol. Bydd y canlyniadau tymor byr a hir yn cael eu trafod rhwng y Cyngor a’r llwybrau ariannu a bydd rhaid iddynt fynd i’r afael ag anghenion cludiant cymunedau a rhannu cyfleusterau â Chynghreiriau eraill. Dywedodd y Prif Weithredwr er bod y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i rannu gwybodaeth gyda chymunedau, nid yw pawb yn eu defnyddio, ac mae rhai heb fynediad i’r platfformau hyn, felly mae rôl y Cynghreiriau Cymunedol yn bwysig er mwyn rhannu gwybodaeth â thrigolion.
· Cyfeiriwyd at ymgynghoriad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar y Cynllun Cludiant. Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog y bydd y trafodaethau yn gysylltiedig â’r astudiaeth dichonolrwydd o anghenion cludiant cymunedau a gwblhawyd gan Medrwn Môn yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Cludiant Rhanbarthol. Holwyd p’un ai a fydd Medrwn Môn yn rhannu gwybodaeth am ymgynghoriad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru â phobl sydd heb fynediad at blatfform cyfryngau cymdeithasol neu sydd methu mynd i hwb cymunedol neu lyfrgell i ymateb i’r ymgynghoriad. Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr y bydd sesiynau ffocws yn cael eu cynnal i roi gwybod i bobl am yr ymgynghoriad Cynllun Cludiant a bydd Medrwn Môn yn rhannu’r sylwadau â’r Bwrdd Uchelgais yn dilyn hynny.
· Holwyd p’un ai a oedd problemau o ran recriwtio gwirfoddolwyr. Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr mai Benllech a Seiriol sydd â’r nifer uchaf o wirfoddolwyr ar yr Ynys. Fodd bynnag, dim ond dau wirfoddolwr sy’n gysylltiedig â’r cynllun Car Linc drwy Medrwn Môn ac mae hyn yn gallu bod yn heriol.
Diolchodd y Cadeirydd i Brif Swyddog Medrwn Môn am ei chyflwyniad.
PENDERFYNWYD nodi’r cyflwyniad gan Medrwn Môn.
Dogfennau ategol: