Eitem Rhaglen

Diogelu Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd bod Diogelu’n gyfrifoldeb i bawb. Mae gan bob gwasanaeth a phob gweithiwr, waeth be fo’u rôl, gyfrifoldeb dros ddiogelu pobl. Cyfeiriodd at y data yn yr adroddiad sy’n amlygu faint o staff a gwblhaodd yr hyfforddiant mandadol yn ystod 2023/2024.  Aeth ymlaen i ddweud y bydd Cynllun Gweithredu newydd yn cael ei gyflwyno ynghyd ag adolygiad o’r Polisi Diogelu Corfforaethol a’r Cynllun Hyfforddi yn ystod Ch4.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr adroddiad yn amlygu cyfrifoldeb y Cyngor Sir i sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr yn ymwybodol o ddiogelu wrth eu gwaith o ddydd i ddydd a’u bod yn gwybod sut i godi pryder. Cynhaliwyd adolygiad o’r Cynllun Diogelu Corfforaethol a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill, 2025.  Bydd y Cyngor yn parhau i sicrhau ymarfer effeithiol, yn cynnwys gosod safonau clir ac effeithiol a gofynion cydymffurfiaeth contractau ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus allanol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor drafod y materion a ganlyn-

·     Codwyd cwestiynau ynghylch rôl y Dirprwy Brif Weithredwr fel pencampwr gwrth gaethwasiaeth. Mewn ymateb dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ei fod yn aelod o Fwrdd Diogelwch Cymunedol ar y cyd â Chyngor Gwynedd a’i fod yn  mynychu cyfarfodydd diogelu rhanbarthol a bod y Prif Weithredwr yn mynychu cyfarfodydd diogelu cenedlaethol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod diogelu’n cynnwys sawl maes (h.y. caethwasiaeth, prevent, trais yn erbyn menywod a genethod) a bod gwahanol Swyddogion o’r Cyngor yn mynychu gwahanol gyfarfodydd. Nododd bod rhaid sicrhau bod y Swyddogion priodol yn mynychu’r cyfarfodydd a rhannu gwybodaeth.

·     Mae’r adroddiad yn nodi bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymweld â phob Gwasanaeth yn y Cyngor yn ddiweddar i hyrwyddo sut mae diogelu’n gyfrifoldeb i bob gwasanaeth yn y Cyngor.   Codwyd cwestiynau ynglŷn â phwy a oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliadau hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod ganddo gyfrifoldeb statudol fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o Ddiogelu Corfforaethol ac yn deall beth y mae hynny’n ei olygu.  Dywedodd ei fod wedi bod mewn cyfarfodydd gydag Uwch Reolwyr, gradd 8 ac uwch, i amlygu materion diogelu ac i gael rhyw amcan o anghenion gwasanaethau penodol. Cyfeiriodd at ‘Teulu Môn’ sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, sy’n rhoi dulliau ymyrraeth gynnar ac atal sy’n canolbwyntio ar deuluoedd ar waith. Nododd y gall unrhyw un gysylltu â ‘Teulu Môn’ i roi gwybod am unrhyw broblemau.

·     Codwyd cwestiynau ynglyn â pha sicrwydd y gellir ei roi bod yr Awdurdod Lleol yn cwrdd â’i oblygiadau Diogelu Corfforaethol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod polisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith sydd wedi’u sefydlu yng ngwasanaethau’r Cyngor ac fe all staff hefyd gymryd rhan mewn hyfforddiant rheolaidd, fodd bynnag nid yw hyn yn golygu nad oes risg y gallai plentyn neu oedolyn gael ei gam-drin.

·     Cyfeiriwyd at yr adroddiad sy’n nodi bod angen adolygu’r hyfforddiant diogelu ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion. Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod angen cryfhau’r hyfforddiant  diogelu ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion a’u hatgoffa am Teulu Môn. Dywedodd y Prif Weithredwr bod Cynllun Hyfforddi ar gyfer Aelodau Etholedig ar gyfer 2025/26 a bod modd iddynt ofyn am hyfforddiant ychwanegol drwy eu Arweinydd Grŵp.   

·     Codwyd cwestiynau ynghylch sut fydd y Cyngor yn sicrhau bod busnesau a gwasanaethau lleol yn mynd ati’n rhagweithiol i rannu gwybodaeth a datblygu ymyraethau i gefnogi diogelu corfforaethol fel y nodir yn yr adroddiad, gan fod y sefydliadau hyn mewn sefyllfa unigryw i adnabod arwyddion cam-fanteisio a gwahanol fathau o gamdriniaeth. Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr eirfa diogelu briodol wedi cael ei chytuno ac y bydd yr hyfforddiant ar gael i’r sefydliadau hyn maes o law h.y. gwestai, bwytai, siopau trwyddedig, gyrwyr tacsi, lletyai Gwely a Brecwast, sinemâu neu safleoedd trwyddedig eraill a all ddod i gysylltiad â phlant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed.  Amlygwyd y gellir defnyddio Teulu Môn i rannu pryderon a bod Teulu Môn yn mynd i ddigwyddiadau cymunedol ac ysgolion i godi ymwybyddiaeth o ddiogelu. Aeth ymlaen i ddweud bod contractau’r Cyngor bellach yn cynnwys paragraff sy’n amlygu’r ffaith bod yn rhaid i gontractwyr lynu wrth bolisïau Diogelu’r Cyngor. 

·     Codwyd cwestiynau ynghylch y mesurau sydd ar waith i sicrhau bod staff yn cwblhau’r hyfforddiant Diogelu Corfforaethol a sut y caiff hyn ei fonitro. Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod data ynglyn â nifer y staff sydd wedi cwblhau’r pum modiwl mandadol ar ddiogelu ar gael yn yr adroddiad.  Dywedodd bod y data’n amlygu bod angen gwella cydymffurfiaeth mewn ysgolion a bod yr hyfforddiant yn berthnasol i bob aelod o staff sy’n gyfrifol am redeg yr ysgol o ddydd i ddydd nid dim ond athrawon. Bydd hyfforddiant diogelu yn cael ei ddarparu yn yr ysgol i bawb sydd ei angen fodd bynnag gan fod trosiant staff yn uchel fe all fod yn anodd targedu pob aelod o’r staff. Holwyd p’un a ddylid darparu hyfforddiant gloywi pob dwy flynedd yn hytrach na phob pedair blynedd fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mewn ymateb dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod y Gwasanaeth Addysg ac ysgolion yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru sy’n nodi y dylid cwblhau’r hyfforddiant diogelu pob pedair blynedd.  Fodd bynnag, mae’r ysgolion yn paratoi rhestr o’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i lywodraethwyr ac fe allant ddewis cymryd mantais o’r cyfleoedd hynny ai peidio.  Aeth ymlaen i ddweud bod yr ysgolion hefyd yn cadw cofnod o bwy sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant diogelu.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod llawer o waith wedi cael ei wneud gan yr Adran Adnoddau Dynol dros y tair blynedd ddiwethaf er mwyn gwella’r wybodaeth. Rhaid darparu’r hyfforddiant i bob aelod o’r staff ac mae hyn yn gallu bod yn heriol gan fod yn rhaid i’r staff hefyd gwblhau eu gwaith dydd i ddydd yn ogystal. 

·      Holwyd p’un a ddylid hepgor ysgolion o’r data ar yr hyfforddiant diogelu mandadol sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad gan fod ganddynt eu cofnodion eu hunain a chan bod y niferoedd yn is o lawer o gymharu â gwasanaethau eraill. Cyfeiriwyd hefyd at y ffaith bod llai o staff ysgol wedi cwblhau’r cwrs diogelwch seiber o gymharu â gwasanaethau eraill. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod y data a gyflwynwyd ar yr hyfforddiant diogelu yn ymwneud â 2023/24 a bod yn rhaid cydnabod bod staff ysgol yn rhan o staff corfforaethol yr Awdurdod a’u bod hefyd yn rhan o’r gweithdrefnau diogelu allweddol. Nododd bod prosesau ar waith i wella data mewn ysgolion.   Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y gellid trefnu Sesiwn Briffio i Aelodau Etholedig ar y modd y mae ysgolion yn cyfrannu at y trefniadau Diogelu Corfforaethol.

·     Nodwyd y dylai’r data gynnwys gwybodaeth am yr hyfforddiant diogelu mandadol a gwblhawyd gan Aelodau Etholedig.

·     Cyfeiriwyd at addysg ddewisol yn y cartref a holwyd p’un a ydi’r Cyngor yn monitro’r plant yma a p’un a oes gan y Cyngor adnoddau digonol i ymweld â hwy yn y cartref. Fel Cadeirydd y Panel Sgriwtini Corfforaethol, dywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones bod y Panel yn derbyn adroddiadau rheolaidd ar addysg ddewisol yn y cartref a bod Swyddogion Addysg yn ymweld â’r plant yma yn y cartref. Nododd bod perthynas glos rhwng yr Adran Addysg a’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gysylltiedig ag addysg ddewisol yn y cartref.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng yr Adran Addysg a’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, a rhoddodd sicrwydd bod gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol weithlu digonol. Fodd bynnag, mae’r ddeddfwriaeth yn nodi na ellir gorfodi’r rhiant i ganiatáu mynediad. Aeth ymlaen i ddweud bod y Gwasanaeth Dysgu a’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar addysg ddewisol yn y cartref.  Byddai’n well gan yr Awdurdod weld Athrawon a Gweithwyr Cymdeithasol yn cwrdd â theuluoedd plant sydd/fydd yn derbyn addysg yn y cartref, ond ni dderbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd bod y mater hwn yn cael ei godi dro ar ôl tro gyda Llywodraeth Cymru gan fod mwy a mwy o blant, o bob cwr o Gymru, yn derbyn addysg yn y cartref. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod Sesiwn Briffio Aelodau wedi cael ei chynnal yn ddiweddar ar addysg ddewisol yn y cartref. Nododd bod canllawiau a gofynion cenedlaethol yn gysylltiedig ag addysg ddewisol yn y cartref.  Mae Swyddog yn y Gwasanaeth Dysgu sy’n gyfrifol am addysg ddewisol yn y cartref. Pan fydd plentyn ei gofrestru ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref mae’r Swyddog yma ac Athro yn ymweld â’r teulu yn y cartref ac yn trefnu sesiynau addysg ac yn darparu sesiwn blynyddol ar ddiogelu yn unol â’r gofynion cenedlaethol. 

·     Holwyd ynglŷn â’r strategaethau fydd yn cael eu defnyddio i sicrhau ymatebion cynhwysfawr wrth ymgynghori â phlant a phobl ifanc, er mwyn deall eu profiadau hwy o fod yn rhan o drefniadau diogelu sy’n canolbwyntio ar y plentyn.  Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod prosesau ar waith i gefnogi plant gan eu bod yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn yr ysgol. Nodwyd bod modd i ysgolion gysylltu â ‘Teulu-Môn’ os ydynt yn poeni am blentyn. Dwedodd ei fod ef a’r Rheolwr Diogelu yn rhan o’r Fforwm Penaethiaid a'u bod yn gallu rhannu profiadau a phryderon ynglyn â diogelu. Aeth ymlaen i  ddweud nad yw pob plentyn yn fodlon rhannu eu profiadau ag athro ond efallai byddant yn fodlon siarad â Gweithiwr Ieuenctid neu Eiriolwr, os oes ganddynt eiriolwr.  Dywedodd bod gwahanol fforymau ar gael le gall plant a phobl ifanc fynegi eu pryderon a bod gan Barnardos a’r NSPCC linellau cymorth.   Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod gwasanaeth Cwnsela ar gael yn y Gwasanaeth Dysgu a bod pob ysgol ar yr ynys wedi cwblhau’r hyfforddiant Deall Trawma. Aeth ymlaen i ddweud y bydd yr hyfforddiant diogelwch seiber hefyd yn cael ei ystyried.

·     Holwyd p’un a oes modd cysylltu â Teulu Môn yn ddienw. Mewn ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mai rôl Teulu Môn yw cynnig cyngor a chymorth a derbyn atgyfeiriadau pan fo hynny’n briodol. Hoffem feddwl y byddai pob gweithiwr proffesiynol yn fodlon rhannu eu pryderon â’r teulu (pa fo hynny’n briodol) cyn ffonio Teulu Môn er mwyn i ni fod yn agored â’r teuluoedd yr ydym ni’n gweithio a hwy. Nododd bod risg y gallai pobl roi gwybodaeth faleisus os ydynt yn cysylltu’n ddienw, a bod angen tystiolaeth i gefnogi unrhyw bryderon. Holwyd faint o amser y mae’n ei gymryd i ymateb i bryderon. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod hynny’n dibynnu ar natur y pryder. Yn y lle cyntaf bydd yr Heddlu’n cael gwybod a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar y cyd. Nododd mai’r Heddlu fydd yn arwain mewn argyfwng ond y bydd y gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn bresennol.  

·     Holwyd p’un a ydi’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol yn trafod materion diogelu yn yr un modd ag y mae’r Panel Sgriwtini Addysg. Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai’r Panel Sgriwtini Addysg a’r Panel Sgrwtini Gwasanaethau Cymdeithasol drafod y gwaith o graffu ar adroddiadau Diogelu Corfforaethol yn y dyfodol.   Yna gall Cadeiryddion y Paneli adrodd yn ôl i’r Fforymau Cadeiryddion/Is-gadeiryddion Sgriwtini cyn cyflwyno’r adroddiadau  i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

Ar ôl archwilio’r wybodaeth a rannwyd ac adolygu datblygiadau yn ystod y 9 mis diwethaf, PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau Diogelu Corfforaethol yn llawn.

 

CAMAU GWEITHREDU:

·         Gwahodd y Fforwm Cadeiryddion / Is-gadeiryddion Sgriwtini i ystyried cyfraniad y Panel Sgriwtini Addysg a’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol i’r gwaith o graffu ar adroddiadau Diogelu Corfforaethol cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio. [Gweithred i’r Rheolwr Sgriwtini].

·         Sicrhau bod yr Aelodau Etholedig a staff yn rhoi blaenoriaeth i fynychu hyfforddiant mandadol ar ddiogelwch seiber.

·         Trefnu cyflwyniad yn ystod Sesiwn Briffio Aelodau ar gyfraniad ysgolion i drefniadau Diogelu Corfforaethol yr Awdurdod. [Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc].

·         Ystyried strwythur yr adroddiadau Diogelu Corfforaethol, ac yn benodol rhoi blaenoriaeth i gynnwys gwybodaeth ar wahân ar drefniadau diogelu mewn ysgolion.

 

Dogfennau ategol: