Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi’r gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2025/26 i’r Pwyllgor Gwaith ei hadolygu cyn ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio, Cyllid a Thai a adroddodd bod cyllideb gyfalaf o £44.294m yn cael ei chynnig a bod y rhaglen a’r gyllideb wedi cael eu nodi ar dudalen agoriadol yr adroddiad. Fe all y gyllideb gyfalaf newid yn ystod y flwyddyn wrth i grantiau ychwanegol gael eu dyrannu ac wrth ymgeisio am grantiau a bydd gyllideb yn cael ei haddasu’n unol â hynny.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y cyswllt rhwng y strategaeth gyfalaf, y gyllideb gyfalaf a’r strategaeth rheoli trysorlys o ran darparu fframwaith ar gyfer cefnogi a rheoli amcanion a gwariant cyfalaf y Cyngor. Mae’r sefyllfa o ran y gyllideb gyfalaf wedi bod yn heriol ers tro ac er bod y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 £401k yn uwch na’r dyraniad ar gyfer 2024/25, sef y cynnydd sylweddol cyntaf y mae’r Cyngor wedi’i dderbyn ers nifer o flynyddoedd, nid yw’n gwneud iawn am werth is y cyllid hwnnw yn sgil chwyddiant. Mae Tabl 1 yn yr adroddiad yn rhagweld y bydd £32.378m o gyllid cyfalaf ar gael yn erbyn rhaglen gyfalaf sydd werth £44m. Bydd y diffyg o £11.91m yn cael ei ariannu drwy fenthyca digefnogaeth, £10.623m o’r CRT a £1.293m i’r Gronfa Gyffredinol. Er bod hyn yn newid mewn strategaeth, gan nad yw’r Cyngor wedi benthyca heb gymorth o’r blaen oni bai bod cynlluniau’n sicrhau arbedion digonol i dalu’r costau benthyca, mae’n dal i fod yn ddarbodus wrth fenthyca a bydd yn gwneud yn siŵr bod benthyciadau’n ddichonadwy o safbwynt refeniw. Mae’r benthyciadau’n hanfodol i alluogi’r Cyngor fuddsoddi yn ei asedau. Mae angen gwella nifer o’r asedau hyn ac nid yw’r cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru’n ddigonol i gwrdd â’r costau hyn. Mae benthyca digefnogaeth ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru at ddibenion priffyrdd ond nid yw’r manylion wedi’u cadarnhau eto.
Adroddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y pwyllgor wedi ystyried y Rhaglen Gyfalaf a’r Gyllideb ar gyfer 2025/26 yn ystod ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2025 yn ogystal cyn i’r setliad terfynol gael ei gyhoeddi a chadarnhaodd bod y pwyllgor, ar ôl nodi nad oes unrhyw ffynonellau ariannu sylweddol eraill ar gael i’r Cyngor i ariannu prosiectau mawr ac eithrio'r CRT sydd wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau CRT yn unig ac nad oes modd ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall, wedi cefnogi’r cynigion ar gyfer y gyllideb gyfalaf.
Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith gydnabod gwerth posib y prosiectau cyfalaf i’r gweithlu a chwmnïau lleol a nododd bwysigrwydd tendro ar gyfer contractau cyfalaf er budd yr economi leol. Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith gydnabod arloesedd a menter y Swyddogion wrth sicrhau grantiau cyfalaf.
Penderfynwyd Argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol i’r Cyngor llawn ar 2025/26:-
£’000
Cynlluniau 2024/25 a Ddygwyd Ymlaen
– Cronfa Gyffredinol 6,439
Atgyweirio / Disodli Asedau 6,304
Diweddaru Systemau Gwresogi gan
ddefnyddio’r cyllid grant Gwres Carbon Isel 4,463
Cymunedau Dysgu 152
Cynlluniau Lliniaru Llifogydd 330
Caergybi : Trawsnewid yn seiliedig ar
Ddiwylliant a Threftadaeth 4,367
Safleoedd ac Adeiladau Datblygu Economaidd 200
Seilwaith Gwastraff 1,445
Cyfrif Refeniw Tai 20,594
Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig 2025/26 44,294
Cyllidir Gan:
Grant Cyfalaf Cyffredinol 2025/26 2,661
Benthyca â Chefnogaeth Cronfa Gyffredinol 3,118
Cymunedau Dysgu – Benthyca Digefnogaeth 152
Cronfa Wrth Gefn Derbyniadau Cyfalaf 500
Cronfeydd Wrth Gefn Clustnodedig 1,160
Grantiau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru 14,816
Benthyca Digefnogaeth - Cronfa Gyffredinol 1,293
Gwarged Cyfrif Refeniw’r CRT 5,488
Grantiau Allanol y CRT 4,483
Benthyca Digefnogaeth y CRT 10,623
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2025/26 44,294
Dogfennau ategol: