Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi’r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/26 i’w hadolygu a’u cytuno gan y Pwyllgor Gwaith yn derfynol ynghyd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai a roddodd drosolwg o’r cefndir gan ddweud bod y setliad gwreiddiol yn cynnig 3.6% o gynnydd ar gyfer Ynys Môn a bod y Pwyllgor Gwaith o’r herwydd wedi cynnig cyllideb ddrafft gychwynnol o £195.243m ar gyfer 2025/26 a oedd yn cynnwys defnyddio £2m o falansau cyffredinol y Cyngor, lleihau’r gyllideb £699m a chynyddu’r Dreth Gyngor 9.5%. Oherwydd cyfyngiadau amser, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus byr ar y cynnig ac mae’r canlyniadau wedi’u crynhoi yn Atodiad 3 o’r adroddiad. Cyhoeddodd Lywodraeth Cymru’r setliad terfynol ar 20 Chwefror 2025 a oedd yn cynnwys cyllid gwaelodol o 3.8%, ac o ganlyniad dyrannwyd £277k yn ychwanegol i Ynys Môn. Bydd y Cyngor hefyd yn derbyn grant pellach i helpu cynghorau yng Nghymru i gwrdd â chostau gofal ym maes gwasanaethau cymdeithasol i oedolion. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams bod y Pwyllgor Gwaith, yn sgil y cyllid ychwanegol ac ar ôl ystyried ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus, yn cynnig diwygio ei gynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb drwy beidio â chodi tâl gwasanaeth ar unedau diwydiannol a busnes, peidio â lleihau nifer y dyddiau y mae canolfannau ailgylchu’r Cyngor ar agor, lleihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor (yn cynnwys Ardoll y Gwasanaeth Tân) 1% i 8.5% a dyrannu £217k er mwyn cwrdd â chostau adnewyddu offer TG mewn ysgolion yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams bod y Pwyllgor gwaith wedi cynnwys darpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn y cynnig cychwynnol ar gyfer y gyllideb, ac felly gellir defnyddio’r grant yn rhywle arall a bydd yn cael ei ddefnyddio i leihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor i 8.5% sy’n golygu mai Ynys Môn fydd â’r ail gynnydd lleiaf allan o holl gynghorau’r Gogledd. Gyda’r newidiadau, mae’r Pwyllgor Gwaith yn cynnig cyllideb refeniw net o £195.443m.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y newidiadau rhwng setliad cychwynnol a setliad terfynol Llywodraeth Cymru a bod y data sy’n llywio cyllid grant wedi arwain at ostyngiad o £34k yn y cyllid grant ar gyfer Ynys Môn ac y bydd hynny’n cael ei wrthbwyso â’r £277k yn ychwanegol yn y cyllid gwaelodol o 3.8%. Yn amodol ar gadarnhad, rhagwelir y bydd y grant ychwanegol y bydd Ynys Môn yn ei dderbyn ar gyfer costau gofal cymdeithasol oedolion oddeutu £700k. Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb. Dywedodd bod rhai’n ffafrio defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn hytrach na chynyddu’r Dreth Gyngor i gwrdd â’r bwlch cyllidol tra bo eraill wedi dweud y dylai’r Cyngor gael ei reoli fwy fel busnes. Mae defnyddio balansau i gydbwyso’r gyllideb yn cynnig datrysiad dros dro, fodd bynnag gan mai dim ond unwaith y gellir gwario’r arian nid yw’r dull hwn yn gynaliadwy yn yr hirdymor ac nid yw’n mynd i’r afael â’r pwysau cyllidol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu, ac er bod manteision yn gysylltiedig â rhedeg y Cyngor fel busnes, nid yw’n fusnes ac nid oes ganddo’r rhyddid i fynd i’r afael â heriau cyllidol yn yr un modd ag y gallai busnes drwy leihau costau, codi mwy o dâl a pheidio â darparu gwasanaethau. Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at y gwasanaethau nad yw’r Cyngor yn codi ffi amdanynt, a’r ffioedd sy’n cael eu gosod yn allanol ac nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth drostynt e.e. ffioedd gofal cartref sydd wedi cael eu capio ar £100 yr wythnos gan Lywodraeth Cymru er gwaetha’r gost gynyddol i’r Cyngor yn gysylltiedig â darparu gofal, a’r ffioedd y mae’r Cyngor yn eu sybsideiddio er mwyn sicrhau eu bod yn fforddiadwy i ddefnyddwyr gwasanaeth e.e. cinio ysgol a ffioedd canolfannau hamdden. Hefyd, mae gan y Cyngor ddyletswyddau statudol ac mae’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol iddo ddarparu pob math o wasanaethau hanfodol. Felly, mae’n rhaid i’r Cyngor gydbwyso ei gyllideb drwy ddefnyddio’r Grant Cymorth Refeniw gan Lywodraeth Cymru, cronfeydd wrth gefn a’r Dreth Gyngor.
Adroddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y pwyllgor wedi ystyried cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllideb 2025/26 yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2025 cyn i’r setliad terfynol gael ei gyhoeddi. Cadarnhaodd y Cynghorydd Douglas Fowlie nad oedd unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gael i’r pwyllgor bryd hynny a bod y pwyllgor wedi cefnogi’r cynigion a gyflwynwyd ar y pryd, a oedd yr un fath â’r cynigion drafft cychwynnol a gyflwynwyd ym mis Ionawr. Roedd y pwyllgor hefyd wedi argymell bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i bwyso arnynt i gynnig setliadau ariannol pob tair blynedd yn hytrach na setliadau blynyddol er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i gynghorau a’u helpu i gydbwyso eu cyllidebau’n well.
Wrth ddiolch i’r pwyllgor Sgriwtini am ei gyfraniad cadarnhaodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, y byddai’n ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â darparu setliadau aml-flynyddol a dywedodd bod y mater wedi cael ei drafod a’i gefnogi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Aeth ymlaen i amlygu pryderon ynglŷn ag amseriad y setliad a dywedodd nad oedd y setliad terfynol wedi cael ei gyhoeddi tan ar ôl cyfarfod y pwyllgor Sgriwtini ar 19 Chwefror ac felly dim ond cyfnod byr o amser oedd gan y Cyngor i osod ei gyllideb derfynol a’r Dreth Gyngor cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd. Cyfeiriodd hefyd at bryderon nad yw’r setliad yn ddigon i gwrdd â’r pwysau ariannol y mae’r cynghorau yng Nghymru yn eu hwynebu a bod CLlLC wedi lobïo am gyllid gwaelodol sy’n uwch na 3.8%. Ychwanegodd bod cyllid grant ychwanegol yn cael ei gyhoeddi’n hwyr a bod hynny'n cymhlethu'r mater gan fod yn rhaid ei ymgorffori i gynlluniau terfynol y Cyngor yn hwyr yn y broses o osod y gyllideb. Gan fod y Pwyllgor Gwaith eisoes wedi clustnodi adnoddau yn y gyllideb ddrafft gychwynnol i ymorol am gostau Gwasanaeth Cymdeithasol, gellir defnyddio’r cyllid grant ychwanegol i leihau’r Dreth Gyngor a tra bo’r Pwyllgor Gwaith yn gwerthfawrogi nad yw cynyddu’r Dreth Gyngor yn opsiwn poblogaidd a’i fod yn anodd i nifer o bobl, mae’n un o’r ychydig opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor i gydbwyso ei gyllideb.
Wrth adolygu’r cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb, roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r cyllid ychwanegol ond pwysleisiwyd bod angen sicrwydd ar y cyngor hwn a chynghorau eraill yng Nghymru ac y byddai setliadau tymor hwy yn cynnig hynny, yn ogystal â gwell setliadau sy’n mynd i’r afael yn llawn â’r heriau ariannol y mae’r cynghorau yn eu hwynebu. Cyfeiriodd yr aelodau at y gost gynyddol o ddarparu gwasanaethau, yn benodol gofal cymdeithasol i blant, ac at y datrysiadau arloesol y mae’r Cyngor eisoes wedi’u cyflwyno i leiniau'r costau hyn megis y ddarpariaeth Cartrefi Clyd. Amlygwyd rôl bwysig y gwasanaethau cymdeithasol o ran cefnogi’r Gwasanaethau Iechyd a nodwyd y dylid cydnabod y rôl honno’n ariannol ac y dylid gwneud hynny’n mewn modd mwy priodol a chynaliadwy yn hytrach na thrwy grantiau un tro. Yn yr un modd, fe wnaeth aelodau’r Pwyllgor Gwaith gydnabod gwerth gwasanaethau ataliol a thra bod y mwyafrif o’r gwasanaethau hyn yn anstatudol maent yn hanfodol i lesiant cymunedau ac i leihau’r pwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd yn enwedig ar Ynys Môn lle mae mwyafrif y boblogaeth yn bobl hŷn. Aeth y Pwyllgor Gwaith ymlaen i amlygu ei fod, wrth lunio ei gynigion ar gyfer y gyllideb, wedi ceisio amddiffyn gwasanaethau hanfodol megis addysg a gofal cymdeithasol a gwasanaethau i bobl bregus a’i fod wedi ceisio dod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng torri gwasanaethau, defnyddio cronfeydd wrth gefn a chodi’r Dreth Gyngor. Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i bawb a oedd wedi bod ynghlwm â’r gwaith o ddatblygu’r gyllideb sydd wedi bod yn broses hir a heriol.
Penderfynwyd -
- Peidio â gweithredu’r cynnig i ddechrau codi tâl gwasanaeth ar gyfer unedau diwydiannol a busnes yn 2025/26.
- Peidio â gweithredu’r cynnig i ostwng nifer y diwrnodau y mae canolfannau ailgylchu'r Cyngor ar agor yn 2025/26
- Lleihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor 1% i 8.5% ar gyfer eiddo Band D (7.85% ar gyfer Gwasanaethau’r Cyngor a 0.65% i gwrdd â chynnydd yn ardoll y Gwasanaeth Tân).
- Dyrannu £217k er mwyn cwrdd â chostau adnewyddu offer TG mewn ysgolion yn y dyfodol
· Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor gadw o leiaf £9.75m o falansau cyffredinol.
Dogfennau ategol: