Eitem Rhaglen

Derbyn unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu'r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:-

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Mike Doran a Mr Mark Wade sydd wedi derbyn cymeradwyaeth swyddogol yn ddiweddar gan yr elusen bad achub (RNLI) am achub dringwr a oedd wedi syrthio i'r môr yn Ynys Arw. Cyflwynwyd tystysgrifau i'r ddau yng Ngorsaf Bad Achub Caergybi i gydnabod hyn.

 

·     Llongyfarchiadau i Mrs Ann Harries Jones o Undeb Amaethwyr Cymru am ennill Gwobr Aur Pencampwr y Gymraeg mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae Mrs Harries Jones wedi darparu gwasanaethau yswiriant yn Gymraeg ar yr Ynys ers dros 30 mlynedd.

 

·     Llongyfarchiadau hefyd i MônActif ar ennill y wobr ‘Effaith ar Nofio a Diogelwch Dŵr Ysgolion’ yn ddiweddar. Cyflwynwyd y wobr gan Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer Gweithgareddau Dŵr, yn eu gwobrau blynyddol yng Nghaerdydd.  Cafodd MônActif ei gydnabod am ei lwyddiant wrth drefnu cyfres o ddigwyddiadau 'Nofio'n Ddiogel' ledled yr Ynys.

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Twm Tudur o Ynys Môn a fu’n llwyddiannus yn ddiweddar ar raglen "Y Llais".

 

·     Llongyfarchiadau i Miss Gwen Edwards a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2025.

 

·     Llongyfarchiadau i Mr Gorwel Owen o Lanfaelog a enillodd wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau Cerddoriaeth Gymraeg y Selar y mis hwn. Mae'r wobr yn cael ei rhoi i artistiaid sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymraeg dros nifer o flynyddoedd.

·     Llongyfarchiadau i Mr Will Young o Gaergybi sy'n aelod o Mencap Môn ac sydd ar daith gyda’r theatr ar hyn o bryd yn chwarae rhan Lennie yn "Of Mice and Men". Dyma'r ail dro iddo chwarae rhan Lennie, yn dilyn taith theatr lwyddiannus arall yn 2017.

·     Llongyfarchiadau hefyd i Ms Gwenllian Howe o Frynteg. Mae’n gyn-aelod o Fand Ieuenctid Biwmares a bellach yn fyfyrwraig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Gwenllian wedi cael ei dewis i fod yn rhan o Fand Pres Ieuenctid Ewrop a bydd yn chwarae ochr yn ochr â cherddorion ifanc o 14 o wledydd eraill pan fyddant yn dod at ei gilydd yn Stavanger, Norwy ym mis Mai.

·     Estynnwyd dymuniadau gorau i Mr Kevin Williams (Kev Bach) sydd wedi gadael Capital Radio ar ôl 27 mlynedd ar radio 103 gyda Champion, Heart a Capital. Mae Kevin yn un o leisiau mwyaf adnabyddus yr Ynys ac mae wedi rhoi llwyfan i'r Gymraeg dros y blynyddoedd yn ogystal â chefnogi nifer o ddigwyddiadau lleol.

·     Llongyfarchiadau i Gôr Ieuenctid Môn a enillodd wobr Côr Cenedlaethol Hŷn y Flwyddyn Barnardo's yn Neuadd Symffoni Birmingham yn ddiweddar.

*          *          *          *

Cydymdeimlwyd â theulu Ms Marged Esli a fu farw'n ddiweddar. Roedd hi'n actores ac yn awdures adnabyddus ac fe'i magwyd yng Ngwalchmai.

*          *          *          *

Cydymdeimlwyd â theulu'r cyn-Gynghorydd Sir ac Aelod o Senedd Cymru, Mr Peter Rogers a fu farw'n ddiweddar.

Talodd y Cynghorwyr Jeff Evans ac Aled Morris Jones deyrnged i'r diweddar Mr Peter Rogers am ei waith fel Cynghorydd Sir ac Aelod o Gynulliad Cymru a'i gyfraniad i'r gymuned ffermio.

*          *          *          *

Cydymdeimlwyd â theulu'r Cyn-gynghorydd Sir Glyn Jones a fu farw'n ddiweddar. Roedd Mr Jones yn Gyn-gadeirydd y Cyngor ac yn Aelod Portffolio Tai tra bu'n gwasanaethu ar y Cyngor.

Talodd y Cynghorydd Aled Morris Jones deyrnged i'r diweddar Mr Glyn Jones am ei waith fel Cynghorydd Sir a Chyn-gadeirydd y Cyngor a'i waith fel Aelod Portffolio Tai.

          *          *          *

    Cydymdeimlwyd hefyd â theulu’r Cyn-gynghorydd John Rowlands a fu farw'n ddiweddar.  Roedd Mr Rowlands hefyd yn Gyn-gadeirydd y Cyngor ac yn cynrychioli Ward Llangoed.

    Talodd y Cynghorydd Carwyn Jones deyrnged i'r diweddar Mr John Rowlands am ei waith fel Cynghorydd Sir a Chadeirydd y Cyngor.  Gwasanaethodd y Cynghorydd Rowlands hefyd fel Cynghorydd Sir ar hen Gyngor Sir Gwynedd gan gynrychioli Wardiau Llanddona a Llangoed.

*          *          *          *

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o'r Cyngor Sir neu Staff a oedd wedi cael profedigaeth. Safodd Aelodau a Swyddogion mewn tawelwch i gofio amdanynt.