Eitem Rhaglen

Cyllideb 2025/2026

(a)  CYLLIDEB REFENIW 2025/2026

 

I dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror  2025.

 

(b)  CYLLIDEB GYFALAF 2025/2026

       

I dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 27 Chwefror 2025.

 

  (c)  GOSOD Y DRETH GYNGOR 2025/2026

 

I dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / 

Swyddog Adran 151.

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 29 Chwefror, 2024 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod hon wedi bod yn gyllideb heriol i'w chyflwyno.  Nododd fod y setliad terfynol yng Nghymru yn cynnwys llawr, a oedd yn codi’r isafswm cynnydd i awdurdodau lleol i 3.8%.  Gan mai cynnydd o 3.6% oedd setliad dros dro Ynys Môn, mae setliad terfynol Ynys Môn wedi cynyddu o £277k, i £135.881m.  Pe bai'r Cyngor yn ceisio gwneud iawn am y diffyg yn y gyllideb trwy’r Dreth Gyngor yn unig, byddai'n golygu codi'r Dreth Gyngor o 20.6%.   Yn ogystal â hyn, nododd y setliad terfynol y dylid rhoi grant pellach o £30m ledled Cymru, a fyddai'n rhoi cymorth i dalu'r costau sy'n wynebu awdurdodau lleol ar gyfer costau gofal cymdeithasol gwasanaeth oedolion.   Bydd y £30m ychwanegol hwn yn darparu oddeutu £750k i'r Cyngor hwn mewn cyllid grant ychwanegol. Mae wedi galluogi'r Cyngor i gynyddu'r cronfeydd wrth gefn i'w defnyddio o £2m i £2.459m i gydbwyso'r gyllideb.  Yn sgil y cyllid ychwanegol ac o ystyried yr ymatebion o’r ymgynghoriad cyhoeddus, dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi cynnig y newidiadau canlynol i’r 

gyllideb arfaethedig gychwynnol, sef peidio â gweithredu'r cynnig i gyflwyno ffioedd gwasanaeth ar gyfer unedau diwydiannol a busnes, peidio â gweithredu'r cynnig i leihau nifer y diwrnodau y mae canolfannau ailgylchu'r Cyngor ar agor a neilltuo £217k i dalu costau newid offer TG mewn ysgolion yn y dyfodol. Eglurodd, gan fod y Pwyllgor Gwaith eisoes wedi gwneud darpariaeth ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn y gyllideb arfaethedig gychwynnol, gellir defnyddio'r cyllid grant mewn mannau eraill a gellir ei ddefnyddio i helpu i ostwng y cynnydd yn y Dreth Gyngor i 8.5% (7.85% ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor a 0.65% ar gyfer y cynnydd yn ardoll y Gwasanaeth Tân) gan wneud cynnydd Ynys Môn yr ail isaf o gynghorau Gogledd Cymru.  O ganlyniad bydd tâl Band D yn £1,705.95, cynnydd o £133.65 (£2.57 yr wythnos)).

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai at y Gyllideb Gyfalaf o £44.294m ar gyfer 2025/2026.  Mae sefyllfa'r gyllideb gyfalaf wedi bod yn heriol ers tro ac er bod y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 £401k yn uwch na dyraniad 2024/25, dyma'r cynnydd sylweddol cyntaf y mae'r Cyngor wedi'i dderbyn ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, nid yw'n gwneud iawn am yr erydiad yng ngwerth y cyllid oherwydd chwyddiant ac o ystyried bod deunyddiau adeiladu wedi cynyddu dros 100% dros y blynyddoedd diwethaf.

 

At hyn, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ariannu awdurdodau lleol yn briodol a bod angen edrych ar y fformiwla a ddefnyddir yng Nghymru i ddosbarthu adnoddau i awdurdodau lleol. 

 

Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai yr argymhellion i'r Cyngor llawn fel y gwelir yn (a), (b) ac (c) o'r adroddiadau.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau wneud sylwadau a gofyn cwestiynau. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor, Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr Aelodau Portffolio perthnasol, y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i gwestiynau a materion a godwyd gan y pwyllgor yn y drafodaeth ddilynol fel a ganlyn:-

 

·         Mae'r cynnydd parhaus yn y Dreth Gyngor yn anghynaliadwy gan fod pobl yn cael trafferth talu eu Treth Gyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn ynghyd â chynnydd mewn prisiau ynni ac mae rhai pobl o'r farn mai'r unig wasanaeth maen nhw'n ei dderbyn gan y Cyngor yw gwagio eu biniau. Dylai'r ddwy lywodraeth ystyried proses decach o gasglu'r Dreth Gyngor.

 

Mewn ymateb cytunwyd bod angen adolygu'r system Dreth Gyngor ond mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â'r system bresennol.  Mae'r gyllideb eleni wedi bod yn heriol ac wedi arwain at ddefnyddio cronfeydd wrth gefn, rhai toriadau i wasanaethau a'r cynnydd yn y Dreth Gyngor i gydbwyso'r gyllideb.  Gan fod y boblogaeth yn heneiddio, mae'r galw am wasanaethau i oedolion yn cynyddu ac mae hynny wedi arwain at orwariant o fewn y gwasanaeth. Nodwyd bod sylwadau wedi'u mynegi ar y cyfryngau cymdeithasol bod angen i'r Awdurdod gael ei weinyddu'n debyg i fusnes.  Rhaid i Awdurdodau Lleol ymateb i anghenion gofal y rhai sy'n agored i niwed ac nid yw’n gallu gwrthod person sydd mewn angen mawr am gymorth.

 

Wrth fynd i'r afael â'r sylwadau ynglŷn â dim ond casglu biniau trigolion a wneir gan y Cyngor, amlinellodd yr Arweinydd y gwasanaethau statudol a ddarperir gan y Cyngor. 

 

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i dynnu sylw at ddiffyg cyllid priodol gan Lywodraethau'r DU sy'n arwain at lai o adnoddau i'w dosbarthu i lywodraeth leol.   Nodwyd bod yr awdurdod hwn yn Gyngor ymatebol a gall ymateb i sefyllfaoedd gwahanol fod yn risg ac yn wendid. 

 

Mewn ymateb, tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cyngor hwn yn Awdurdod effeithlon ac effeithiol sydd â'r gyfradd Dreth Gyngor isaf yng Ngogledd Cymru.  Mae Archwilio Cymru wedi canmol y Cyngor mewn Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ddiweddar am y ffordd y mae wedi perfformio gyda'r gyllideb refeniw dros y blynyddoedd a'r defnydd darbodus o gronfeydd wrth gefn i gau'r bwlch yn y broses pennu'r gyllideb.  Dywedodd yr Arweinydd fod angen setliad gan Lywodraeth Cymru am sawl blwyddyn yn hytrach na dibynnu ar setliadau blynyddol.

 

·         Cyfeiriwyd at Gynllun y Cyngor 2023-2028 sy'n tynnu sylw at yr amcanion strategol i hyrwyddo cyfleoedd ac i ddatblygu economi'r Ynys.  Gallai'r Ynys elwa o Gyllid Codi’r Gwastad, statws Porthladd Rhydd, Parc Ffyniant, datblygiad newydd ar safle’r 2Sisters yn Llangefni, potensial Wylfa Newydd a Pharc Gwyliau Penrhos yng Nghaergybi ond mae'n ymddangos nad yw'r cyfleoedd i bobl ifanc aros a gweithio ar yr Ynys yn cael eu gwireddu a’u bod o ganlyniad yn symud i ffwrdd i weithio. 

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd fod Cynllun y Cyngor yn gynllun 5 mlynedd, a gobeithio y bydd y cyfleoedd yn cael eu gwireddu i sicrhau dyfodol gwell i drigolion yr Ynys.  Fodd bynnag, mae cyfleoedd datblygu yn cymryd amser i’w gwireddu, a sicrhaodd fod gwaith parhaus yn cael ei wneud i fwrw ymlaen â'r prosiectau hyn a restrir uchod.

 

·         Dylid ymchwilio i'r cynnydd cenedlaethol mewn llety gwyliau sy’n cael eu gosod ac sy'n osgoi talu'r Dreth Gyngor a allai gynhyrchu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol.  Mynegwyd bod rhai eiddo’n manteisio ar ardrethi busnes.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod gwaith yn mynd rhagddo i gyflogi person i adolygu'r llety gwyliau sy’n cael eu gosod.  Ar hyn o bryd mae'r Swyddfa Brisio yn gwerthuso rheolau newydd ar gyfer gosod llety gwyliau yng Nghymru a bydd angen i fusnesau sy’n gosod llety gwyliau gael eu defnyddio am 182 diwrnod y flwyddyn i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Swyddog Prisio yn adolygu'r eiddo sy'n talu ardrethi busnes ar eu heiddo ar hyn o bryd, a byddant yn dychwelyd i bremiwm llawn y Dreth Gyngor os nad ydynt yn bodloni rheolau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod y llety gwyliau. 

 

·         Mae'r premiwm o 100% ar gartrefi gwag wedi arwain at deuluoedd lleol o Gymru yn cael trafferth talu'r taliadau ar ôl etifeddu eiddo teuluol. Nid yw rhai teuluoedd yn gallu rhentu na gwerthu'r eiddo oherwydd costau adnewyddu ac nid yw rhai teuluoedd eisiau gwerthu’r cartrefi teuluol a etifeddir ganddynt.   Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr incwm a gynhyrchir o'r premiwm ar ail gartrefi a chartrefi gwag wedi cynhyrchu £6.3m i'r Cyngor hwn.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a  Gwasanaethau Tai fod y premiwm 100% ar gartrefi gwag yn gymhelliant i annog pobl i adnewyddu, gwerthu neu rentu eu heiddo fel eu bod ar gael i bobl fyw yn y tai hyn.  Mae lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag wedi’i gadw ar 100% ar gyfer 2025/2026 er bod opsiwn i godi'r premiwm hyd at 300%.  Dywedodd yr Arweinydd fod 800 o bobl ar y rhestr tai cymdeithasol a bod 800 o eiddo gwag cyfatebol ar hyn o bryd a bod argyfwng cenedlaethol a lleol o ran digartrefedd a thlodi. 

 

·         Cyfeiriwyd at effeithlonrwydd ynni ysgolion ar yr Ynys gyda chostau gwresogi Ysgol Corn Hir, Llangefni yn £40k am chwarter.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr mai costau gwresogi Ysgol Corn Hir oedd £42,800 am dri chwarter ers mis Ebrill y llynedd.

 

·         Cyfeiriwyd at lwyddiant Tai Clyd i ganiatáu i blant a phobl ifanc sydd mewn gofal allu byw a derbyn eu haddysg yn eu cymunedau lleol.  Holwyd pam fod rhai plant mewn gofal yn dal i orfod cael eu lleoli y tu allan i'r sir sy'n gostus.

 

Mewn ymateb, dywedodd Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd fod y lleoliadau y tu allan i'r sir ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen gofal arbenigol oherwydd profiadau o drawma, anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl difrifol.  Cyfeiriodd at lwyddiant darpariaeth Tai Clyd ar Ynys Môn a dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd mwy o ddarpariaethau o'r fath yn y dyfodol.  Nododd fod 161 o blant a phobl ifanc yng ngofal y Cyngor ar hyn o bryd. 

 

Pleidleisiodd 24 o blaid, 7 yn erbyn ac ni wnaeth unrhyw un ymatal.

 

PENDERFYNWYD:-

 

• Cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2025/2026.

• Derbyn y Penderfyniad drafft ar y Dreth Gyngor fel y nodir yn (c) yn yr Agenda:-

 

1.       PENDERFYNWYD

 

(a)           Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu Cyllideb 2025/26, yn Adran 5, fel Strategaeth Cyllideb o fewn yr ystyr a roddir yn y Cyfansoddiad, ac i gadarnhau y daw’n rhan o’r fframwaith cyllidebol ac eithrio’r ffigyrau a ddisgrifir fel rhai cyfredol.

(b)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu cyllideb refeniw 2025/26 fel y’i nodir yn adroddiad y Gyllideb 2025/26 ag Atodiad 1 ac Atodiad 2.

 

 (c)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu cyllideb cyfalaf fel y’i nodir yn adroddiad Cyllideb Cyfalaf 2025/26.

 

(ch)    Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Cyllid 151 y pŵer i wneud addasiadau rhwng penawdau yng Nghyllideb Arfaethedig Derfynol 2025/26 yn Atodiad 2 er mwyn cyflawni penderfyniadau’r Cyngor. Hefyd, dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y pŵer i drosglwyddo hyd at £50k yr eitem o’r gronfa wrth gefn gyffredinol. Bydd unrhyw eitem sy’n fwy na £50k angen cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith cyn y gwneir unrhyw drosglwyddiad o’r gronfa wrth gefn gyffredinol.

 

(d)     Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, ym mlwyddyn ariannol 2025/26, y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng penawdau fel a ganlyn

 

(i)           pwerau heb gyfyngiad i wario pob pennawd cyllidebol unigol yn Atodiad 2 Cyllideb Arfaethedig Derfynol 2025/26 yn erbyn pob gwasanaeth unigol, ar y gwasanaeth perthnasol;

(ii)           pwerau i gymeradwyo’r defnydd o arian gwasanaethau a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gyllido cynigion gwariant untro sy’n cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cyngor a gwella gwasanaethau;

(iii)    pwerau i drosglwyddo o’r ffynonellau incwm newydd neu uwch.

 

(dd)   Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol 2025/26 ac ar gyngor y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) – Swyddog Adran 151, y pŵer i ryddhau hyd at £250k o falansau cyffredinol i ddelio gyda blaenoriaethau yn codi yn ystod y flwyddyn.

 

(e)     Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, mewn perthynas â’r cyfnod hyd at 31 Mawrth 2026 y pwerau a ganlyn:-

 

(i)      pwerau i wneud ymrwymiadau newydd o gyllidebau refeniw y dyfodol hyd at y symiau a nodir ar gyfer blaenoriaethau newydd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol;

 

(ii)     y pwerau a’r ddyletswydd i baratoi cynlluniau i wneud arbedion cyllidebol refeniw fel yr awgrymir yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol;

 

(iii)    pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng prosiectau cyfalaf yn adroddiad Cyllideb Cyfalaf 2025/26 ac ymrwymo adnoddau yn y blynyddoedd dilynol gan gydymffurfio gyda’r fframwaith cyllidebol.

 

(f)      Pennu a chymeradwyo’r dangosyddion darbodus a rhai’r trysorlys sy'n amcangyfrifon a therfynau ar gyfer 2025/26 ac ymlaen fel sy'n ymddangos yn yr adroddiad Datganiad ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2025/26.

 

(ff)    Cymeradwyo’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2025/26 a Strategaeth Gyfalaf 2025/26.          

 

(g)    Cadarnhau y bydd eitemau 1(b) i (ff) yn dod yn rhan o’r fframwaith cyllidebol.

 

2.       PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2023/24 benderfyniad y Cyngor Sir, a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y disgownt sy'n gymwys i Ddosbarth penodedig A a Dosbarth penodedig B o anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Penodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998, fel a ganlyn:-

 

         Dosbarth Rhagnodedig A              Dim Disgownt

         Dosbarth Rhagnodedig B              Dim Disgownt

 

3.    PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2025/26 benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2007 bod y Cyngor Sir yn pennu lefel disgownt sy'n gymwys i Ddosbarth penodedig C o anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004, fel a ganlyn :-

 

         Dosbarth Rhagnodedig C             Dim Disgownt

 

4.    PENDERFYNWYD datgymhwyso unrhyw ddisgownt(au) a ganiatawyd i anheddau gwag tymor hir ac anheddau a ddefnyddir yn achlysurol (y cyfeirir atynt fel arfer fel ail gartrefi) ac i amrywio penderfyniad y Cyngor llawn a wnaed ar 28 Chwefror 2018 a gosod am y flwyddyn ariannol 2025/26 swm uwch o'r Dreth Gyngor (sef premiwm y Dreth Cyngor) o 100% o gyfradd safonol y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau gwag hirdymor neu ar gyfer anheddau a ddefnyddir o bryd i'w gilydd (y cyfeirir atynt fel arfer fel ail gartrefi) i osod swm uwch o Dreth Gyngor (sef premiwm y Dreth Gyngor) o 100% o dan Adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel y'i mewnosodwyd gan Adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

5.      Nodi bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 1996, wedi penderfynu na fydd yn ymdrin ag unrhyw gostau sy’n wynebu’r Cyngor mewn rhan o'i ardal na thalu unrhyw ardoll neu ardoll arbennig fel costau arbennig a bod y penderfyniadau i barhau mewn grym hyd oni fyddant yn cael eu diddymu'n benodol.

 

6.       Y dylid nodi bod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd 2024, wedi cymeradwyo’r symiau a gyfrifwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel sail y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/26 a nodi ymhellach bod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 11 Rhagfyr 2018 wedi cymeradwyo y bydd y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn lleol yn parhau fel y mae am y blynyddoedd dilynol oni bai y caiff ei ddiwygio’n sylweddol. Nodwyd hefyd fod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2018 wedi mabwysiadu a chymeradwyo Polisi Dewisol y Dreth Gyngor leol dan Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 gan ddirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith y pŵer i ddirymu, ailddeddfu ac/neu ddiwygio’r Polisi. Diwygiodd y Pwyllgor Gwaith y Polisi yma ar 03 Mawrth 2022

 

7.      Yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd 2024, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith, yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor)(Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y’i diwygiwyd gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau)(Cymru)(Diwygiad) 2004, a’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor)(Cymru)(Diwygiad) 2016, gymeradwyo’r symiau a gyfrifwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel sail y dreth ac ar gyfer rhannau o’r ardal, am y flwyddyn 2025/26, fel a ganlyn:-

 

a)       33,472.17 yw'r swm a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith fel sail treth gyngor Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn.

 

b)       Mae’r rhannau o ardal y Cyngor, sef y symiau a gyfrifwyd gan y Pwyllgor Gwaith fel y sail ar gyfer dreth gyngor Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal lle mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol, fel a ganlyn:-

 

 

Ardaloedd Cynghorau Tref/Cymuned

Sail y Dreth

2025/26

Amlwch

                1,558.06

Biwmares

                1,162.14

Caergybi

                4,100.82

Llangefni

                2,136.18

Porthaethwy

                1,525.77

Llanddaniel-fab

                   382.90

Llanddona

                   422.03

Cwm Cadnant

                1,234.98

Llanfair Pwllgwyngyll

                1,336.39

Llanfihangel Ysgeifiog

                   714.60

Bodorgan

                   486.31

Llangoed

                   702.13

Llangristiolus & Cerrigceinwen

                   652.47

Llanidan

                   427.80

Rhosyr

                1,061.75

Penmynydd

                   250.14

Pentraeth

                   613.98

Moelfre

                   706.87

Llanbadrig

                   716.15

Llanddyfnan

                   522.47

Llaneilian

                   652.66

Llannerch-y-medd

                   544.50

Llaneugrad

                   210.59

Llanfair Mathafarn Eithaf

                2,036.74

Cylch y Garn

                   436.31

Mechell

                   593.58

Rhos-y-bol

                   491.43

Aberffraw

                   322.08

Bodedern

                   452.11

Bodffordd

                   430.38

Trearddur

                1,519.06

Tref Alaw

                   274.15

Llanfachraeth

                   237.62

Llanfaelog

                1,456.45

Llanfaethlu

                   289.73

Llanfair-yn-Neubwll

                   587.89

Fali

                  1,085.57  

Bryngwran

                   369.72

Rhoscolyn

                   396.18

Trewalchmai

                   371.48

Cyfanswm Sail y Dreth Gyngor

              33,472.17

 

8.       Bod y symiau a ganlyn bellach yn cael eu pennu gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2025/26, yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

 

a)      £261,985,133        sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2) (a) i (d) y Ddeddf.

 

b)      £66,797,928          sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) ac (c) o'r Ddeddf.

 

c)       £195,187,205        sef y swm y mae'r cyfanswm yn 8(a) uchod yn fwy na'r cyfanswm yn 8(b) uchod, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o'r Ddeddf, fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn.

 

ch)    £135,881,460         sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn amcangyfrif a fydd yn daladwy am y flwyddyn i gronfa’r cyngor mewn perthynas â chyfraddau annomestig wedi'u hailddosbarthu, grant cynnal refeniw a grant penodol, llai unrhyw swm a gyfrifir yn unol ag Adran 33(3) o'r Ddeddf.

 

d)      £1,771.79             sef y swm yn 8(c) uchod llai y swm yn 8(ch) uchod, y cyfan wedi'i rannu â'r swm yn 7(a) uchod, a gyfrifir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 33(1) o'r Ddeddf, fel swm sylfaenol ei threth gyngor am y flwyddyn.

 

dd)   £2,203,901             sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o'r Ddeddf.

 

e)     £1,705.95               sef y swm yn 8(d) uchod llai y canlyniad a geir drwy rannu'r swm yn 8(dd) uchod â'r swm yn 7(a) uchod, a gyfrifir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 34(2) o'r Ddeddf, fel swm sylfaenol ei threth gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i hardal nad oes unrhyw eitem arbennig yn ymwneud â nhw.

f)

 

Ardaloedd Cyngor Cymuned / Tref

 

Band D cyfatebol fesul ardal gan gynnwys Cyngor Ynys Môn ac elfennau Cyngor Cymuned / Tref

Amlwch

£

                                           1,784.34

Biwmares

£

                                           1,738.17

Caergybi

£

                                           1,885.68

Llangefni

£

                                           1,868.22

Porthaethwy

£

                                           1,801.26

Llanddaniel-fab

£

                                           1,747.62

Llanddona

£

                                           1,726.11

Cwm Cadnant

£

                                           1,733.67

Llanfair Pwllgwyngyll

£

                                           1,795.77

Llanfihangel Ysgeifiog

£

                                           1,741.59

Bodorgan

£

                                           1,733.13

Llangoed

£

                                           1,744.38

Llangristiolus a Cerrig Ceinwen

£

                                           1,718.19

Llanidan

£

                                           1,748.07

Rhosyr

£

                                           1,740.60

Penmynydd

£

                                           1,745.91

Pentraeth

£

                                           1,736.19

Moelfre

£

                                           1,726.47

Llanbadrig

£

                                           1,752.57

Llanddyfnan

£

                                           1,728.90

Llaneilian

£

                                           1,743.84

Llannerch-y-medd

£

                                           1,749.69

Llaneugrad

£

                                           1,724.94

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

                                           1,740.69

Cylch y Garn

£

                                           1,724.31

Mechell

£

                                           1,724.49

Rhos-y-bol

£

                                           1,722.24

Aberffraw

£

                                           1,743.21

Bodedern

£

                                           1,739.16

Bodffordd

£

                                           1,740.78

Trearddur

£

                                           1,729.62

Tref Alaw

£

                                           1,730.52

Llanfachraeth

£

                                           1,764.90

Llanfaelog

£

                                           1,736.19

Llanfaethlu

£

                                           1,730.07

Llanfair-yn-Neubwll

£

                                           1,741.68

Fali

£

                                           1,762.11

Bryngwran

£

                                           1,746.54

Rhoscolyn

£

                                           1,726.11

Trewalchmai

£

                                           1,746.36

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu at y swm a geir yn 8(e) uchod, symiau'r eitem neu'r eitemau arbennig sy'n berthnasol i anheddau yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 8(b) uchod, a gyfrifir gan y Pwyllgor Gwaith yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, sef symiau sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.

 

Bandiau Prisio

 

sef y symiau a geir trwy luosi'r symiau yn 8(e) a 8(f) uchod a'r rhif sydd, yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf, yn berthnasol i anheddau a restrir mewn band prisiau arbennig wedi'i rannu â'r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny'n berthnasol i dai a restrir ym mand prisiau D, a gyfrifir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, yn symiau sydd i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y categorïau o anheddau a restrir yn y gwahanol fandiau prisiau.

 

 

 

 

Y Dreth Gyngor fesul band, fesul ardal, sy’n cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn ac elfennau / Praeseptau Cyngor Cymuned / Tref

 

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

Amlwch

£

1,189.56

1,387.82

1,586.08

1,784.34

2,180.86

2,577.38

2,973.90

3,568.68

4,163.46

Biwmares

£

1,158.78

1,351.91

1,545.04

1,738.17

2,124.43

2,510.69

2,896.95

3,476.34

4,055.73

Caergybi

£

1,257.12

1,466.64

1,676.16

1,885.68

2,304.72

2,723.76

3,142.80

3,771.36

4,399.92

Llangefni

£

1,245.48

1,453.06

1,660.64

1,868.22

2,283.38

2,698.54

3,113.70

3,736.44

4,359.18

Porthaethwy

£

1,200.84

1,400.98

1,601.12

1,801.26

2,201.54

2,601.82

3,002.10

3,602.52

4,202.94

Llanddaniel-fab

£

1,165.08

1,359.26

1,553.44

1,747.62

2,135.98

2,524.34

2,912.70

3,495.24

4,077.78

Llanddona

£

1,150.74

1,342.53

1,534.32

1,726.11

2,109.69

2,493.27

2,876.85

3,452.22

4,027.59

Cwm Cadnant

£

1,155.78

1,348.41

1,541.04

1,733.67

2,118.93

2,504.19

2,889.45

3,467.34

4,045.23

Llanfair Pwllgwyngyll

£

1,197.18

1,396.71

1,596.24

1,795.77

2,194.83

2,593.89

2,992.95

3,591.54

4,190.13

Llanfihangel Ysgeifiog

£

1,161.06

1,354.57

1,548.08

1,741.59

2,128.61

2,515.63

2,902.65

3,483.18

4,063.71

Bodorgan

£

1,155.42

1,347.99

1,540.56

1,733.13

2,118.27

2,503.41

2,888.55

3,466.26

4,043.97

Llangoed

£

1,162.92

1,356.74

1,550.56

1,744.38

2,132.02

2,519.66

2,907.30

3,488.76

4,070.22

Llangristiolus

a Cerrig Ceinwen

£

1,145.46

1,336.37

1,527.28

1,718.19

2,100.01

2,481.83

2,863.65

3,436.38

4,009.11

Llanidan

£

1,165.38

1,359.61

1,553.84

1,748.07

2,136.53

2,524.99

2,913.45

3,496.14

4,078.83

Rhosyr

£

1,160.40

1,353.80

1,547.20

1,740.60

2,127.40

2,514.20

2,901.00

3,481.20

4,061.40

Penmynydd

£

1,163.94

1,357.93

1,551.92

1,745.91

2,133.89

2,521.87

2,909.85

3,491.82

4,073.79

Pentraeth

£

1,157.46

1,350.37

1,543.28

1,736.19

2,122.01

2,507.83

2,893.65

3,472.38

4,051.11

Moelfre

£

1,150.98

1,342.81

1,534.64

1,726.47

2,110.13

2,493.79

2,877.45

3,452.94

4,028.43

Llanbadrig

£

1,168.38

1,363.11

1,557.84

1,752.57

2,142.03

2,531.49

2,920.95

3,505.14

4,089.33

Llanddyfnan

£

1,152.60

1,344.70

1,536.80

1,728.90

2,113.10

2,497.30

2,881.50

3,457.80

4,034.10

Llaneilian

£

1,162.56

1,356.32

1,550.08

1,743.84

2,131.36

2,518.88

2,906.40

3,487.68

4,068.96

Llannerch-y-medd

£

1,166.46

1,360.87

1,555.28

1,749.69

2,138.51

2,527.33

2,916.15

3,499.38

4,082.61

Llaneugrad

£

1,149.96

1,341.62

1,533.28

1,724.94

2,108.26

2,491.58

2,874.90

3,449.88

4,024.86

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

1,160.46

1,353.87

1,547.28

1,740.69

2,127.51

2,514.33

2,901.15

3,481.38

4,061.61

Cylch y Garn

£

1,149.54

1,341.13

1,532.72

1,724.31

2,107.49

2,490.67

2,873.85

3,448.62

4,023.39

Mechell

£

1,149.66

1,341.27

1,532.88

1,724.49

2,107.71

2,490.93

2,874.15

3,448.98

4,023.81

Rhos-y-bol

£

1,148.16

1,339.52

1,530.88

1,722.24

2,104.96

2,487.68

2,870.40

3,444.48

4,018.56

Aberffraw

£

1,162.14

1,355.83

1,549.52

1,743.21

2,130.59

2,517.97

2,905.35

3,486.42

4,067.49

Bodedern

£

1,159.44

1,352.68

1,545.92

1,739.16

2,125.64

2,512.12

2,898.60

3,478.32

4,058.04

Bodffordd

£

1,160.52

1,353.94

1,547.36

1,740.78

2,127.62

2,514.46

2,901.30

3,481.56

4,061.82

Trearddur

£

1,153.08

1,345.26

1,537.44

1,729.62

2,113.98

2,498.34

2,882.70

3,459.24

4,035.78

Tref Alaw

£

1,153.68

1,345.96

1,538.24

1,730.52

2,115.08

2,499.64

2,884.20

3,461.04

4,037.88

Llanfachraeth

£

1,176.60

1,372.70

1,568.80

1,764.90

2,157.10

2,549.30

2,941.50

3,529.80

4,118.10

Llanfaelog

£

1,157.46

1,350.37

1,543.28

1,736.19

2,122.01

2,507.83

2,893.65

3,472.38

4,051.11

Llanfaethlu

£

1,153.38

1,345.61

1,537.84

1,730.07

2,114.53

2,498.99

2,883.45

3,460.14

4,036.83

Llanfair-yn-Neubwll

£

1,161.12

1,354.64

1,548.16

1,741.68

2,128.72

2,515.76

2,902.80

3,483.36

4,063.92

Fali

£

1,174.74

1,370.53

1,566.32

1,762.11

2,153.69

2,545.27

2,936.85

3,524.22

4,111.59

Bryngwran

£

1,164.36

1,358.42

1,552.48

1,746.54

2,134.66

2,522.78

2,910.90

3,493.08

4,075.26

Rhoscolyn

£

1,150.74

1,342.53

1,534.32

1,726.11

2,109.69

2,493.27

2,876.85

3,452.22

4,027.59

Trewalchmai

£

1,164.24

1,358.28

1,552.32

1,746.36

2,134.44

2,522.52

2,910.60

3,492.72

4,074.84

 

9.       Y dylid nodi, ar gyfer y flwyddyn 2025/26, fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi'r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:-

             

            Awdurdod Praeseptio                                                              Bandiau Prisio

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

£

248.10

289.45

330.80

372.15

454.85

537.55

620.25

744.30

868.35

 

 

10.     Wedi pennu'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn 8(ff) a 9 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, drwy hyn yn pennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn 2025/26 ar gyfer pob categori o anheddau a ddangosir isod:-

 

 

 

Y Dreth Gyngor fesul Band, ym mhob ardal, sy’n cynnwys elfen Cyngor Sir Ynys-Môn, Praeseptau Cyngor Cymunedol / Tref a Phraesept Heddlu Gogledd Cymru

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

Amlwch

£

1,437.66

1,677.27

1,916.88

2,156.49

2,635.71

3,114.93

3,594.15

4,312.98

5,031.81

Biwmares

£

1,406.88

1,641.36

1,875.84

2,110.32

2,579.28

3,048.24

3,517.20

4,220.64

4,924.08

Caergybi

£

1,505.22

1,756.09

2,006.96

2,257.83

2,759.57

3,261.31

3,763.05

4,515.66

5,268.27

Llangefni

£

1,493.58

1,742.51

1,991.44

2,240.37

2,738.23

3,236.09

3,733.95

4,480.74

5,227.53

Porthaethwy

£

1,448.94

1,690.43

1,931.92

2,173.41

2,656.39

3,139.37

3,622.35

4,346.82

5,071.29

Llanddaniel-fab

£

1,413.18

1,648.71

1,884.24

2,119.77

2,590.83

3,061.89

3,532.95

4,239.54

4,946.13

Llanddona

£

1,398.84

1,631.98

1,865.12

2,098.26

2,564.54

3,030.82

3,497.10

4,196.52

4,895.94

Cwm Cadnant

£

1,403.88

1,637.86

1,871.84

2,105.82

2,573.78

3,041.74

3,509.70

4,211.64

4,913.58

Llanfair Pwllgwyngyll

£

1,445.28

1,686.16

1,927.04

2,167.92

2,649.68

3,131.44

3,613.20

4,335.84

5,058.48

Llanfihangel Ysgeifiog

£

1,409.16

1,644.02

1,878.88

2,113.74

2,583.46

3,053.18

3,522.90

4,227.48

4,932.06

Bodorgan

£

1,403.52

1,637.44

1,871.36

2,105.28

2,573.12

3,040.96

3,508.80

4,210.56

4,912.32

Llangoed

£

1,411.02

1,646.19

1,881.36

2,116.53

2,586.87

3,057.21

3,527.55

4,233.06

4,938.57

Llangristiolus a

Cerrig Ceinwen

£

1,393.56

1,625.82

1,858.08

2,090.34

2,554.86

3,019.38

3,483.90

4,180.68

4,877.46

Llanidan

£

1,413.48

1,649.06

1,884.64

2,120.22

2,591.38

3,062.54

3,533.70

4,240.44

4,947.18

Rhosyr

£

1,408.50

1,643.25

1,878.00

2,112.75

2,582.25

3,051.75

3,521.25

4,225.50

4,929.75

Penmynydd

£

1,412.04

1,647.38

1,882.72

2,118.06

2,588.74

3,059.42

3,530.10

4,236.12

4,942.14

Pentraeth

£

1,405.56

1,639.82

1,874.08

2,108.34

2,576.86

3,045.38

3,513.90

4,216.68

4,919.46

Moelfre

£

1,399.08

1,632.26

1,865.44

2,098.62

2,564.98

3,031.34

3,497.70

4,197.24

4,896.78

Llanbadrig

£

1,416.48

1,652.56

1,888.64

2,124.72

2,596.88

3,069.04

3,541.20

4,249.44

4,957.68

Llanddyfnan

£

1,400.70

1,634.15

1,867.60

2,101.05

2,567.95

3,034.85

3,501.75

4,202.10

4,902.45

Llaneilian

£

1,410.66

1,645.77

1,880.88

2,115.99

2,586.21

3,056.43

3,526.65

4,231.98

4,937.31

Llannerch-y-medd

£

1,414.56

1,650.32

1,886.08

2,121.84

2,593.36

3,064.88

3,536.40

4,243.68

4,950.96

Llaneugrad

£

1,398.06

1,631.07

1,864.08

2,097.09

2,563.11

3,029.13

3,495.15

4,194.18

4,893.21

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

1,408.56

1,643.32

1,878.08

2,112.84

2,582.36

3,051.88

3,521.40

4,225.68

4,929.96

Cylch y Garn

£

1,397.64

1,630.58

1,863.52

2,096.46

2,562.34

3,028.22

3,494.10

4,192.92

4,891.74

Mechell

£

1,397.76

1,630.72

1,863.68

2,096.64

2,562.56

3,028.48

3,494.40

4,193.28

4,892.16

Rhos-y-bol

£

1,396.26

1,628.97

1,861.68

2,094.39

2,559.81

3,025.23

3,490.65

4,188.78

4,886.91

Aberffraw

£

1,410.24

1,645.28

1,880.32

2,115.36

2,585.44

3,055.52

3,525.60

4,230.72

4,935.84

Bodedern

£

1,407.54

1,642.13

1,876.72

2,111.31

2,580.49

3,049.67

3,518.85

4,222.62

4,926.39

Bodffordd

£

1,408.62

1,643.39

1,878.16

2,112.93

2,582.47

3,052.01

3,521.55

4,225.86

4,930.17

Trearddur

£

1,401.18

1,634.71

1,868.24

2,101.77

2,568.83

3,035.89

3,502.95

4,203.54

4,904.13

Tref Alaw

£

1,401.78

1,635.41

1,869.04

2,102.67

2,569.93

3,037.19

3,504.45

4,205.34

4,906.23

Llanfachraeth

£

1,424.70

1,662.15

1,899.60

2,137.05

2,611.95

3,086.85

3,561.75

4,274.10

4,986.45

Llanfaelog

£

1,405.56

1,639.82

1,874.08

2,108.34

2,576.86

3,045.38

3,513.90

4,216.68

4,919.46

Llanfaethlu

£

1,401.48

1,635.06

1,868.64

2,102.22

2,569.38

3,036.54

3,503.70

4,204.44

4,905.18

Llanfair-yn-Neubwll

£

1,409.22

1,644.09

1,878.96

2,113.83

2,583.57

3,053.31

3,523.05

4,227.66

4,932.27

Fali

£

1,422.84

1,659.98

1,897.12

2,134.26

2,608.54

3,082.82

3,557.10

4,268.52

4,979.94

Bryngwran

£

1,412.46

1,647.87

1,883.28

2,118.69

2,589.51

3,060.33

3,531.15

4,237.38

4,943.61

Rhoscolyn

£

1,398.84

1,631.98

1,865.12

2,098.26

2,564.54

3,030.82

3,497.10

4,196.52

4,895.94

Trewalchmai

£

1,412.34

1,647.73

1,883.12

2,118.51

2,589.29

3,060.07

3,530.85

4,237.02

4,943.19

 

 

Dogfennau ategol: