Eitem Rhaglen

Adolygu Polisi Iaith Gymraeg

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod Polisi Iaith Gymraeg presennol y Cyngor wedi’i fabwysiadu yn 2016, pan ddaeth y safonau iaith Gymraeg statudol i rym. Mae dealltwriaeth o’r safonau wedi aeddfedu ers hynny, ac mae arferion yr Awdurdod mewn perthynas â’r iaith wedi datblygu’n sylweddol.  Mae’r polisi’n effeithio ar bawb sy’n delio â’r Cyngor, a lluniwyd y polisi drafft er mwyn cyflawni gofynion statudol y safonau iaith Gymraeg. Ychwanegodd fod y polisi drafft yn cyfrannu at nodau Cynllun y Cyngor a’r strategaeth hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol yn ystod trafodaeth y Pwyllgor :-

 

·     Gofynnwyd beth yw’r prif heriau o ran rhoi polisi iaith Gymraeg ar waith.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod 55.8% o boblogaeth yr Ynys yn gallu siarad Cymraeg ac mae’r Awdurdod yn ffodus wrth recriwtio i swyddi ei fod yn gallu denu pobl leol fel arfer, sy’n gallu cyrraedd y meini prawf iaith Gymraeg. Wrth gydnabod ei bod yn anodd penodi pobl sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddynt i rai swyddi, mae’r Awdurdod yn darparu hyfforddiant er mwyn gwella gallu staff yn y Gymraeg. Ychwanegodd fod llawer o frwdfrydedd ymysg staff yr Awdurdod tuag at y Gymraeg ac mae nifer o staff hefyd yn cofrestru ar gyrsiau i wellau eu sgiliau iaith. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth mai adolygiad o’r Polisi Iaith Gymraeg yw hwn ac mae staff yn gyfarwydd â safonau iaith Gymraeg yr Awdurdod. Yn ystod sesiynau cynefino ar gyfer staff newydd, tynnir sylw at y safonau iaith Gymraeg ac mae gwybodaeth hefyd ar wefan fewnol yr Awdurdod ar gyfer staff. 

·     Holwyd sut mae arferion y Cyngor wedi newid ers i’r safonau iaith Gymraeg ddod i rym yn 2016? Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod sgiliau iaith Gymraeg wedi’u hymgorffori yn y swyddi sydd ar gael yn y Cyngor. Ychwanegodd fod diwylliant yr Awdurdod wedi newid ac mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y Gymraeg. Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael ar gyfer unrhyw un sydd ddim yn siarad Cymraeg. Yn ystod cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, nodwyd bod aelodau wedi mynegi pryderon am gyfrwng iaith rhai o’r sesiynau hyfforddi ac at ddiwylliant cyffredinol a allai ymddieithrio pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod y mater wedi bod yn destun trafodaeth fewnol a chyflwynir adroddiad yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.  Bydd y sesiynau hyfforddi’n cael eu cyflwyno i Aelodau Etholedig yn y Gymraeg a’r Saesneg, a dyma yw’r trefniadau presennol ar gyfer staff hefyd.  Ychwanegodd bod y Cyngor wedi cysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynglŷn â’r mater a godwyd, ond ni dderbyniwyd ymateb eto.

·     Gofynnwyd beth yw’r prif wahaniaethau rhwng y polisi drafft a’r Polisi Iaith Gymraeg presennol? Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg bod y Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig wedi’i symleiddio trwy gynnwys egwyddorion cyffredinol er mwyn cadarnhau sut mae’r Awdurdod yn gweithio mewn gwahanol gyd-destunau. Ychwanegodd nad oes fawr o newid yn y polisi o ran y ffordd o gynnal gwasanaethau’r Cyngor, ond er hynny, ymdrechwyd i hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg, h.y. mae defnyddio gwasanaeth cyfieithu mewn cyfarfodydd wedi cael ei hyrwyddo yn dilyn awgrym a wnaed yn y Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg. Cyfeiriodd hefyd at ddymuniad i gryfhau ymrwymiadau polisi er mwyn hyrwyddo a gwarchod enwau lleoedd Cymraeg. Cyfeiriwyd hefyd at newidiadau yn y polisi diwygiedig i adlewyrchu arferion recriwtio a dethol presennol er mwyn gwneud y Gymraeg yn sgil, ar wahanol lefelau, ar gyfer y gwahanol swyddi o fewn y Cyngor. 

·     Nodwyd bod gan bob Cyngor Tref/Cymuned Bencampwr y Gymraeg.  Gofynnwyd cwestiynau am rôl Pencampwr y Gymraeg o fewn y Cynghorau Tref a Chymuned a beth yw rôl Pencampwr y Gymraeg yn y gymuned, a beth yw’r disgwyliadau? Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod trafodaethau ynglŷn â dynodi Pencampwyr y Gymraeg mewn Cynghorau Tref a Chymuned ar yr Ynys wedi’u cynnal yn y lle cyntaf yn y Fforwm Iaith Gymraeg. Nododd fod y Cyngor yn aelod blaenllaw o’r Fforwm Iaith Gymraeg ac ystyrir bod dynodi Pencampwr y Gymraeg yn hanfodol er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, ond cydnabyddir bod angen darparu cefnogaeth ychwanegol i Bencampwyr y Gymraeg a byddant, felly, yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod o’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned. 

·     Gofynnwyd i ba raddau mae’r polisi iaith Gymraeg yn cael effaith andwyol ar fusnesau lleol ar yr Ynys? Cyfeiriwyd at erthygl yn The Times yn ddiweddar oedd yn honni bod cynlluniau i adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd ar Ynys Môn wedi’u hatal am fod swyddogion wedi codi pryderon am yr effaith ar y Gymraeg.  Derbyniwyd sicrwydd gan y Prif Weithredwr nad oedd y datblygwr wedi tynnu’n ôl o’r datblygiad yn Wylfa oherwydd yr effaith ar y Gymraeg. Roedd y Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn amlygu mesurau lliniaru o fewn y prosiect i warchod yr iaith Gymraeg, ond materion amgylcheddol oedd yn rhwystro’r datblygiad yn Wylfa ar y pryd. Ychwanegodd fod busnesau ar yr Ynys o’r farn bod gwarchod y Gymraeg yn gryfder i’r busnes.

·     Gofynnwyd i ba raddau y mae arian grant i fusnesau gan Lywodraeth Cymru’n seiliedig ar feini prawf yn gysylltiedig â’u defnydd o’r Gymraeg? Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod y meini prawf ar gyfer derbyn arian grant gan Lywodraeth Cymru’n dibynnu ar ofynion rhaglenni grant penodol. Cyfeiriodd at y prosiect ARFOR sy’n derbyn arian grant gan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn gallu hyrwyddo’r Gymraeg trwy gyfrwng prosiectau eraill ar gyfer busnesau o fewn y cynllun. Nododd y byddai angen anfon manylion am yr arian grant ar gyfer prosiectau, ynghyd â gofynion y meini prawf iaith Gymraeg, at Aelodau.

·     Cyfeiriwyd at swyddi penodol o fewn yr Awdurdod sy’n anodd recriwtio iddynt.  Gofynnwyd a fyddai’n fanteisiol nodi ar y fanyleb swydd y gallai fod yn ofynnol i ddarpar ymgeiswyr ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg, yn hytrach na gorfod ail-hysbysebu swyddi fwy nag unwaith. Ymatebodd y Pennaeth Democratiaeth trwy ddweud mai eithriadau yw’r swyddi sy’n anodd recriwtio iddynt, ac er y gellir nodi ymrwymiad i ddysgu’r Gymraeg, rhaid cofio bod angen amser ar berson i ddysgu’r iaith. Roedd yn derbyn nad oedd angen cymaint o hyfedredd yn y Gymraeg ar gyfer rhai rolau o fewn y Cyngor, megis swyddi nad ydynt yn delio â chwsmeriaid.  

·     Gofynnwyd sut all y Cyngor ddylanwadu ar hyrwyddo’r Gymraeg a threftadaeth yr Ynys. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg nad oes deddfwriaeth benodol i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg, a dim ond annog datblygwyr i roi enw Cymraeg ar ddatblygiad all y Cyngor ei wneud. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr Awdurdod yn ceisio amddiffyn enwau lleoedd hanesyddol Cymraeg, ond mae gan berchnogion newydd eiddo hawl i newid enwau hanesyddol eu heiddo. Roedd y Pwyllgor o’r farn y dylid anfon llythyr at Lywodraeth Cymru i ofyn am ddeddfwriaeth newydd i warchod enwau lleoedd hanesyddol Cymraeg, ac i bwysleisio’r angen am ddeddfwriaeth o’r fath, ynghyd â gofyn i’r Arweinydd godi’r mater gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

·     Gofynnwyd a yw Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod unrhyw ofynion ychwanegol o ran y Gymraeg? Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod 160 o safonau iaith Gymraeg wedi eu gosod ar yr Awdurdod ers 2016. Er y byddai’n bosib ailymweld â rhai o’r safonau, byddai angen dilyn proses statudol er mwyn gosod safonau ychwanegol. Nododd fod Comisiynydd y Gymraeg wedi cydnabod arferion effeithiol y Cyngor mewn perthynas â hyrwyddo’r Gymraeg, ac mae rhannu arfer dda gyda chyrff cyhoeddus eraill wedi cael ei gydnabod hefyd.

·     Gofynnwyd faint o staff y Cyngor sy’n manteisio ar y cynnig i ddysgu’r Gymraeg?  Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod 43 o ddysgwyr yn manteisio ar gyrsiau ar hyn o bryd, ar lefel sylfaenol, canolradd ac uwch, ac mae hyn yn gynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd bod cyrsiau iaith Gymraeg hefyd ar gael i Aelodau Etholedig ac aelodau cyfetholedig.  

·     Gofynnwyd i ba raddau mae’r grŵp o swyddogion ac Aelodau Etholedig trawsbleidiol, fel y cyfeirir ato yn yr adroddiad, wedi’i sefydlu i gynnal trosolwg o ddefnydd y Cyngor o’r iaith Gymraeg a rhoi’r polisi hwn ar waith, a gwneud argymhellion er mwyn hyrwyddo’r iaith. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg yn cyfarfod yn rheolaidd a’i fod yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ddau bwyllgor sgriwtini. Cytunodd i rannu gwybodaeth bellach am y grŵp gydag aelod o’r Pwyllgor, sef y Cynghorydd Pip O’Neill.  

·     Gofynnwyd pa gymorth all y Cyngor gynnig i fusnesau lleol er mwyn cynorthwyo i hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o’r broses dendro? Ymatebodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg trwy ddweud y gall contractwyr gyflwyno dogfennau tendr yn eu hiaith ddewisol. Nododd fod y Fforwm Iaith Gymraeg yn defnyddio arian grant i greu dogfen ganllaw ar gyfer busnesau. Fel Swyddog Polisi a’r Gymraeg, dywedodd y bu’n gweithio’n agos â chynrychiolwyr ARFOR i hyrwyddo manteision defnyddio’r Gymraeg ymysg busnesau yn y sector preifat. 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         derbyn y Polisi Iaith Gymraeg drafft ac argymell ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn er eu cymeradwyaeth;

·         anfon llythyr at Lywodraeth Cymru i ofyn am ddeddfwriaeth newydd i warchod enwau lleoedd Cymraeg hanesyddol, a phwysleisio’r angen am ddeddfwriaeth o’r fath;

·         gofyn i Arweinydd y Cyngor godi’r mater gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: