Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADY a Ch) wedi’i sefydlu ym Medi 2017 fel gwasanaeth ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd. Mae’r gwasanaeth wedi datblygu ers hynny er mwyn ymateb i newid yn y galw a’r cyd-destun ehangach. Roedd y gwasanaeth yn destun adolygiad allanol yn 2020, ac eto yn 2023. Mae pob ysgol yn derbyn arian i ddarparu ar gyfer dysgwyr sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol.
Nodwyd y pwyntiau canlynol yn ystod trafodaeth y Pwyllgor :-
· Gofynnwyd i ba raddau mae’r gwasanaeth ADY a Ch yn cynnig gwerth am arian, a pha gynlluniau sydd ar waith i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i leihau biwrocratiaeth a gwella effeithlonrwydd a gwerth am arian? Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc nad yw deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio yn y gwasanaeth ADY a Ch ar hyn o bryd, oherwydd y goblygiadau diogelwch a chyfreithiol, ond mae ymchwil yn cael ei wneud fydd yn cynorthwyo i gyflwyno deallusrwydd artiffisial yn y dyfodol. Dywedodd yr Uwch Reolwr - Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad fod ymdrechion yn canolbwyntio ar leihau biwrocratiaeth mewn perthynas â’r cynlluniau datblygu unigol a hwyluso gwaith y Cydlynwyr o ran diweddaru’r cynlluniau hynny. Nododd fod Penaethiaid yn gofyn am fanciau o dargedau y gall ysgolion eu defnyddio gyda disgyblion sydd ag anghenion penodol er mwyn lleihau biwrocratiaeth, a gobeithir y bydd symud i ddull cyllido newydd, trwy fformiwla, ym mis Mawrth 2025 yn lleihau biwrocratiaeth hefyd.
· Gofynnwyd a oes unrhyw effeithiau andwyol posib yn gysylltiedig â’r dull ariannu trwy fformiwla a gyflwynir ym mis Mawrth 2025, ac a fyddai defnyddio fformiwla’n annog anghydfod ymysg ysgolion. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai modd trefnu Sesiwn Friffio ar y dull cyllido newydd trwy fformiwla a manylion y Cynllun Gweithredu ADY a Ch. Nododd nad yw’r dull cyllido trwy fformiwla ond yn berthnasol i’r sector cynradd ar hyn o bryd. Dywedodd yr Uwch Reolwr - Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad y byddai’r fformiwla newydd yn cynnig mwy o sefydlogrwydd ariannol er mwyn cynnal lefelau staffio ac y byddai’n gyfundrefn fwy cyson o fewn ysgolion. Nododd bod y fformiwla’n seiliedig ar nifer y dysgwyr sydd â Chynllun Datblygu Unigol, yn ogystal â difrifoldeb anghenion y dysgwyr. Bydd y fformiwla newydd yn seiliedig ar unigolion a chymhlethdodau disgyblion. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynglŷn â phryd fydd y fformiwla newydd yn cael ei gyflwyno yn y sector uwchradd. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr - Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad, mai’r gobaith yw cynnal trafodaeth y flwyddyn nesaf ynglŷn â chyflwyno system debyg yn y sector uwchradd.
· Holwyd a oes mwy o rieni plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn dewis addysgu eu plant yn y cartref. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y gwasanaeth addysg yn creu cynlluniau unigol ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ond os yw rhieni’n dewis addysgu eu plant yn y cartref, yna nhw sy’n gyfrifol am gefnogi eu plant a darparu ar gyfer eu hanghenion. Mae’n rhaid i’r Gwasanaeth Addysg sicrhau fod yr elfen ddiogelu yn gadarn ac mae ymweliad yn cael ei gynnal â’r cartref cyn pen chwe wythnos ar ôl i riant benderfynu addysgu ei blentyn yn y cartref, a chynhelir ymweliad blynyddol wedi hynny. Nododd fod nifer y plant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref ar Ynys Môn wedi gostwng ychydig yn ddiweddar, gyda rhai plant yn dymuno ailymuno â’r gyfundrefn addysg.
· Gofynnwyd pa mor effeithiol yw’r gwasanaeth o ran darparu ar gyfer anghenion ysgolion a rhoi lle canolog i ddysgwyr yn y broses, ac a yw’r galw am y gwasanaeth wedi cynyddu. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg fod gan bob disgybl gynllun datblygu unigol fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd, ac mae hynny’n sicrhau fod lle canolog i’r plentyn yn y ddarpariaeth addysg. Nododd y bwriedir i’r ddeddfwriaeth newydd fod yn niwtral o ran costau, ond mae’r costau wedi cynyddu, efallai am fod pobl yn ymwybodol o anghenion plant unigol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod mwy o alw am y gwasanaeth ledled Cymru, ond nid yw’r capasiti na’r adnoddau wedi cynyddu. Nododd bod rhaid i’r gwasanaeth fod yn hyblyg er mwyn ymateb i’r gwahanol heriau ac mae’r pandemig wedi cael effaith aruthrol, fel y nodwyd mewn adroddiad diweddar gan Estyn. Mae gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau plant, y gwasanaeth iechyd a theulu plentyn yn hanfodol, oherwydd agweddau cymdeithasol anghenion cymhleth rhai plant.
· Cyfeiriwyd at ddiffyg cyllid ar gyfer cynnal y gwasanaeth ADY a Ch yn genedlaethol a lleol a chyflwynwyd cais i anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn gofyn am arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth. Nodwyd hefyd bod angen cefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod angen i bob plentyn dderbyn addysg ddigonol, ac nid yw’n dderbyniol bod rhai plant yn gorfod aros cryn amser i gael eu hasesu, ac mae rhai plant yn gadael y system cyn cael eu hasesu. Roedd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg yn cytuno bod angen adnoddau ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth ADY a Ch.
· Nodwyd bod rhai plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu lleoli mewn ysgolion prif lif, ond nid yw’r cyfleusterau’n addas bob amser gan fod angen iddynt fod mewn ysgol arbennig sydd â’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt. Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yn yr Awdurdod mewn perthynas â’r ‘hybiau’ a leolir yn y bum ysgol uwchradd, ac a sefydlwyd ar y cyd gan y gwasanaeth Addysg a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae Swyddogion Lles, Swyddogion Ieuenctid ac Athrawon arbenigol yn gweithio yn yr hybiau hyn er mwyn cefnogi disgyblion. Ychwanegodd bod rhai disgyblion sydd ag anghenion arbennig wedi’u lleoli mewn ysgolion prif lif ac mae enghreifftiau hefyd o rai disgyblion na fyddent yn elwa o fod mewn ysgol arbennig. Gan fod y Cyngor yn Awdurdod bychan, gall gwahanol wasanaethau weithio gyda’i gilydd ac mae sefydlu’r ‘hybiau’ wedi profi fod y Cyngor yn gallu bod yn arloesol ac yn fwy effeithiol, er gwaetha’r diffyg cyllid a dderbynnir tuag at anghenion dysgu ychwanegol. Nododd y Prif Weithredwr fod cael arbenigedd o fewn y gwasanaeth ADY a Ch hefyd yn hanfodol i’r gwasanaeth er mwyn caniatáu i blant dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. Ychwanegodd bod y ddeddfwriaeth newydd wedi’i sefydlu ac mae’n rhaid i’r Awdurdod ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth i’r plant, ond mae angen darparu mwy o adnoddau ar gyfer y gwasanaeth ADY a Ch.
· Cyfeiriwyd at brinder cenedlaethol o Seicolegwyr Addysg, a seicolegwyr dwyieithog yn arbennig. Gofynnwyd a fu unrhyw drafodaethau gyda phrifysgolion yng Nghymru, a Phrifysgol Bangor yn arbennig, mewn perthynas â hyfforddi Seicolegwyr Addysg. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod darparu llwybr hyfforddi ar gyfer Seicolegwyr Addysg dwyieithog wedi’i godi â Phrif Weinidog Cymru a gydag Is-ganghellor Prifysgol Bangor.
PENDERFYNWYD :-
· derbyn yr adroddiad;
· anfon llythyr at Lywodraeth Cymru i nodi bod angen darparu cyllid ychwanegol i’r gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad;
· bod angen sicrhau cefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru, ar ran y 22 awdurdod lleol, i ddarparu rhagor o arian tuag at Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.
Dogfennau ategol: