Cyflwyno adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.
Cofnodion:
Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, y Cynghorydd Gwilym O Jones, mai hwn yw pumed adroddiad cynnydd y panel ac mae’n cyfeirio at y cyfnod rhwng Hydref 2024 ac Ionawr 2025. Nododd i’r Panel gyfarfod ar bedwar achlysur yn ystod y cyfnod hwn ac ystyriwyd y materion canlynol :-
· Yr Iaith Gymraeg;
· Gwella Dysgu ac Addysgu;
· Fframwaith Iechyd Meddwl a Llesiant;
· Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant;
· Rhaglen Waith y Panel Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Hydref 2024 - Ionawr 2025.
Nodwyd y pwyntiau canlynol yn ystod trafodaeth y Pwyllgor :-
· Gofynnwyd pa awgrymiadau y gellir eu gwneud i gryfhau gwaith y Panel ymhellach. Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod y panel wedi gofyn i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc baratoi adroddiad i’r panel ynglŷn â diogelwch mewn ysgolion ar yr Ynys, a hynny’n dilyn dau ddigwyddiad trasig mewn dwy ysgol yn ddiweddar.
· Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor oni fyddai’n fwy priodol i’r Panel Sgriwtini Addysg, yn hytrach na’r Panel Sgriwtini Cyllid, graffu ar wariant ysgolion. Mewn ymateb, dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod y panel yn ystyried pynciau amrywiol a’i fod yn ystyried ariannu ysgolion. Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn y dylai Swyddogion proffesiynol drafod ariannu ysgolion ac adrodd i’r Panel Sgriwtini Cyllid. Nodwyd y dylai cofnodion y tri Phanel Sgriwtini gael eu dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o drafodaethau’r panelau hyn. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg ei fod o’r farn bod y Panel Sgriwtini Addysg yn cryfhau’r Gwasanaeth Addysg. Nododd fod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu peidio â lleihau’r cyllid i ysgolion yn y cynigion ar gyfer cyllideb 2025/26, ac un o’r prif resymau dros hynny oedd y pwysau ar y gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad. Nododd fod pwysau’n cael ei roi ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio cael rhagor o arian ar gyfer addysg a’r gwasanaeth anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Gweithgor Sgriwtini wedi’i gynnal yn ddiweddar a bod rolau a chysylltiadau rhwng y Panelau Sgriwtini wedi cael eu trafod. Pan roddir cam 2 yr Adolygiad Sgriwtini ar waith, nododd y bydd trafodaeth ynghylch sut mae’r tri Phanel Sgriwtini yn adrodd i’r rhiant Bwyllgor Sgriwtini. Ychwanegodd mai rôl y Panel Sgriwtini Cyllid yw monitro’r gyllideb, ac na ddylid gwanhau rôl y Panel. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai Swyddogion perthnasol drafod y sylwadau am waith y tri Phanel Sgriwtini ymhellach ac adrodd i’r Fforwm Cadeiryddion/Is-gadeiryddion maes o law.
· Cyfeiriwyd at bwysau ar ysgolion yn gysylltiedig â disgyblion bregus ac anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad. Gofynnwyd pa gefnogaeth a darpariaeth sydd ar gael i staff addysgu os ydynt yn gorfod delio â sefyllfaoedd anodd a all godi mewn ysgol. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod y Gwasanaeth Addysg yn cyflogi Swyddogion Lles i gefnogi staff addysgu, ac mae’r Gwasanaeth Cwnsela Medra ar gael i staff hefyd. Ychwanegodd fod Diwrnod Llesiant yn cael ei drefnu ar gyfer staff ar ôl hanner tymor ac y byddai nifer o asiantaethau allanol yn darparu cefnogaeth i staff addysgu.
PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod diwethaf o ran gwaith y Panel Sgriwtini Addysg.
Dogfennau ategol: