Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a ddangosodd fod 87% o'r dangosyddion oedd â thargedau a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio'n dda yn erbyn y targedau hynny a bod eu statws yn Wyrdd neu Felyn. Mae hwn yn ganlyniad cadarnhaol sy'n adlewyrchu perfformiad cryf yn gyffredinol ar draws y Cyngor. Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones at y meysydd lle'r oedd perfformiad y Cyngor wedi gwella a/neu ragori ar y targed sef gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion - does yr un ysgol mewn categori dilynol / statudol Estyn, gwaith cynnal a chadw ymatebol, gosod unedau busnes y cyngor, cyflwr ffyrdd A, B a C a gofynion sgiliau Cymraeg wrth recriwtio. Tynnodd sylw hefyd at feysydd a nodwyd yn yr adroddiad fel rhai sydd angen eu gwella i gyrraedd eu targed. Roedd y rhain yn cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth. Mae'r meysydd hynny'n ymwneud â nifer y plant sy'n cael gwersi nofio ar hyd y flwyddyn (Môn Actif), darparu grantiau cyfleusterau i'r anabl - addasiadau mawr ac ail-osod unedau llety sy’n rhai y mae modd eu gosod yn y sector Tai, nifer y contractau angori, canrannau ailgylchu gwastraff ac ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth o fewn yr amserlen. Roedd yr adroddiad yn nodi'r cyd-destun i'r materion hynny ac yn amlinellu'r camau lliniaru a gynlluniwyd ac a weithredwyd.
Wrth adolygu adroddiad cerdyn sgorio corfforaethol Chwarter 3 cafodd y materion canlynol eu trafod gan y pwyllgor –
· Ydi'r Tîm Arweinyddiaeth yn gallu darparu sicrwydd bod ei fewnbwn a'i ymyrraeth mewn perthynas â meysydd sy'n tanberfformio yn llwyddiannus ac a ystyriwyd defnyddio gwahanol ddulliau i wella perfformiad fel Vanguard, Rheolaeth Lwyr ar Ansawdd (TQM) a gwelliant parhaus.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod yn fodlon bod y dulliau a gymerwyd i ymdrin â meysydd sy’n tanberfformio yn briodol ac yn drylwyr. Mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn adolygu adroddiadau’r cerdyn sgorio chwarterol drafft yn rheolaidd ac yn canolbwyntio ar feysydd lle nad yw'r canlyniadau'n cyrraedd y targedau a osodwyd a/neu lle mae'r duedd ar i lawr, gan gynnal trafodaethau gyda phenaethiaid gwasanaeth a rheolwyr i nodi unrhyw faterion sylfaenol a/neu amgylchiadau lliniarol a chytuno ar gamau cywiro. Yn achos rhai DP mae angen neilltuo adnoddau neu wneud newidiadau pellach sy'n cysylltu â chamau gweithredu yng Nghynllun y Cyngor ac yn digwydd ochr yn ochr â rheoli a monitro perfformiad. Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yn credu bod y Cyngor mewn sefyllfa ariannol i gyflwyno systemau newydd ar draws y bwrdd a bod perygl yn y tymor byr y gallai trosglwyddo i system newydd darfu ac effeithio ar ddarparu gwasanaethau a pherfformiad, yn enwedig mewn meysydd gwasanaeth lle mae'r pwysau eisoes yn uchel. Serch hynny, gellid treialu dulliau eraill mewn ffordd fwy cyfyngedig i weld a ydynt yn gwneud gwahaniaeth. At hyn, eglurodd y bydd DP a thargedau yn cael eu hadolygu ar ddiwedd Chwarter 4 i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn briodol wrth baratoi ar gyfer drafftio cerdyn sgorio 2025/26.
· Perfformiad Dangosydd Tai 03 – nifer cyfartalog y diwrnodau calendr i osod unedau llety sy’n rhai y mae modd eu gosod ac eithrio Eiddo Anodd eu Gosod sy'n Goch ar 47 diwrnod yn erbyn targed o 35 diwrnod. Holwyd i ba raddau y mae'r Gwasanaeth Tai yn hyderus y bydd y newidiadau a gyflwynwyd yn cael effaith ar leihau nifer y diwrnodau i ail-osod unedau a bu rhywfaint o drafod ynghylch p’un ai a yw’r targed o 35 diwrnod yn bosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid a Thai fod yn rhaid ystyried y perfformiad yn erbyn y targed yng nghyd-destun ehangach pwysau gwaith, cyflwr presennol eiddo – bod rhai angen gwaith atgyweirio mwy sylweddol a’i bod yn cymryd mwy o amser i'w hailosod, p’un ai a oes adnoddau ar gael, gweithwyr medrus a deunyddiau – mae’r rhain oll yn ffactorau sy’n gallu effeithio ar yr amserlen. Felly, efallai bod lle i ystyried p’un ai a yw'r targed yn realistig yn yr amgylchiadau hynny. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn deall bod trefniadau i edrych ar ddangosydd DP 03 i sicrhau ei fod yn effeithiol a/neu p’un ai a oes angen ei addasu ychydig.
· Tanberfformiad y Dangosydd Addysg 07 Môn Actif - nifer cyfartalog y plant sy'n cael gwersi nofio ar hyd y flwyddyn, sy’n Ambr ar 1,773 o'i gymharu â tharged o 1,900. Holwyd pa gamau sy'n cael eu cymryd gan y gwasanaeth i fynd i'r afael â'r targed a fethwyd.
Rhoddodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol sicrwydd bod y gwasanaeth yn adolygu data ynghylch ddefnydd yn rheolaidd ac yn casglu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth ar draws y tair canolfan hamdden a chadarnhaodd fod Môn Actif yn marchnata ac yn rhoi cyhoeddusrwydd eang i’w weithgareddau. Gall pwysau costau byw yn ogystal â gweithgareddau eraill sydd ar gael fod yn ffactorau yn y gostyngiad yn y galw am wersi nofio. Yn ogystal â hyn, mae'r targed yn seiliedig ar wybodaeth hanesyddol ac efallai y bydd angen ei adolygu i sicrhau ei fod yn adlewyrchu gwir berfformiad. Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans ei fod yn falch o allu dweud bod Môn Actif wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei Raglen Nofio'n Ddiogel ac y byddai fideo newydd yn hyrwyddo nofio a phyllau'r Cyngor yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill.
· Trafodwyd y rhagolygon ar gyfer cyrraedd y targed o 70% ar gyfer canran y gwastraff domestig a gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio (Newid Hinsawdd DP 02) gyda statws y perfformiad presennol yn Goch ar 66.05%. Holwyd am drefniadau casglu wrth ymyl y palmant ac a oes angen adolygu'r rheini i'w gwneud hi'n haws i drigolion ailgylchu yn ogystal ag annog ailgylchu glân fel bod yr eitemau a gesglir heb eu halogi a’i bod yn haws eu gwerthu i gynhyrchu refeniw i'r Cyngor. Codwyd cwestiwn hefyd ynghylch y 48% o wastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio o adeiladau'r Cyngor a dywedwyd bod y perfformiad wedi aros yn ei unfan dros y tri chwarter diwethaf.
Tynnodd y Cynghorydd Gary Pritchard, yr Arweinydd, sylw at y ffaith bod cyfraddau ailgylchu Ynys Môn yn uchel o'u cymharu â chyfraddau y DU a bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ailgylchu heriol i gynghorau yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn awyddus i'w gyflawni ac mae wedi bod yn trafod y ffordd orau o wneud hynny yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys drwy dreialu newidiadau i finiau ailgylchu a chasglu cardbord mewn dwy ardal o'r Ynys. Mae rhai rhwystrau i'w goresgyn gan gynnwys nifer y llety gwyliau ar osod nad ydynt yn ailgylchu, o bosibl am nad ydynt yn gyfarwydd â’r drefn ailgylchu leol. Mae'r Pwyllgor Gwaith hefyd yn ymwybodol o ddwy ardal benodol ar yr ynys lle mae'n anodd pennu ffynhonnell y gwastraff oherwydd bod biniau gwastraff cyffredinol a blychau ailgylchu yn cael eu casglu a'u gwagio o un pwynt canolog gan ei gwneud hi'n anodd addysgu'r trigolion hynny nad ydynt yn ailgylchu. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi glasbrint casglu ar gyfer sut mae'n dymuno gweld gwastraff cartref yn cael ei gasglu ledled Cymru a bod trefniadau Ynys Môn yn unol â'r glasbrint. Dywedodd hefyd fod gwella cyfraddau ailgylchu a sicrhau bod ailgylchu yn cael ei wneud yn iawn yn fater o atgoffa trigolion yn barhaus o bwysigrwydd a manteision ailgylchu, addysgu trigolion sut i wneud hynny'n gywir a sicrhau bod trigolion yn gefnogol i hyn. Mae'r Cyngor hefyd yn annog trigolion i roi adborth ac mae'n hapus i glywed eu syniadau ar gyfer gwella. Cadarnhaodd y Cynghorydd Gary Pritchard fod y Pwyllgor Gwaith wedi trafod ffyrdd y gellir addysgu plant a phobl ifanc mewn ysgolion am werth ailgylchu fel y gallant rannu'r neges gartref gyda'u teulu, yn ogystal ag integreiddio addysg ailgylchu i'r cwricwlwm newydd. At hyn dywedodd wrth y pwyllgor fod angen gwneud mwy o waith i wella cyfraddau ailgylchu ar draws adeiladau'r Cyngor gan gynnwys ysgolion, canolfannau hamdden a’r pencadlys ac mai dim ond ym mis Ebrill 2024 y daeth y ddeddfwriaeth sy'n gofyn am ailgylchu yn y gweithle i rym.
Ymatebodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo hefyd i fater penodol a godwyd gan aelod yn ymwneud â phroblemau a gododd wrth geisio ailgylchu tanc olew plastig a chadarnhaodd y byddai'n ymchwilio i'r mater. Dywedodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ei fod yn awyddus i ddiolch i'r staff casglu ac ailgylchu gwastraff am eu gwaith ar hyd y flwyddyn ym mhob tywydd.
· Yr effaith ar gynhyrchu incwm yn sgil y perfformiad islaw’r targed o ran nifer yr angorfeydd blynyddol a werthwyd. Holwyd a yw hwn yn bryder hirdymor ac a yw'n dangos gostyngiad parhaol yn y galw.
Eglurodd y Cynghorydd Neville Evans ei fod yn deall bod gostyngiad wedi bod yn y galw am gontractau angori yn gyffredinol drwy Ogledd Cymru yn ystod y tair blynedd diwethaf. Gall gwelliannau mewn angorfeydd eraill fod yn ffactor o ran y nifer a werthwyd ar Ynys Môn yn ogystal â gwahaniaethau yn y system a weithredir gan y Cyngor. Mae adolygiad manwl o'r gwasanaeth morwrol yn cael ei gynnal sy'n cynnwys lefelau ffioedd, prosesau casglu incwm a seilwaith. Yn ogystal â hyn, mae'r targed DP yn seiliedig ar wybodaeth hanesyddol ac mae angen ei adolygu hefyd.
· Trafodwyd y targed a fethwyd ar gyfer ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlen a holwyd faint o geisiadau a gafwyd, p’un ai a oedd cynnydd ac os felly a oedd unrhyw batrymau oedd yn amlwg i’r ceisiadau, a pham.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod y targed o 90% wedi'i osod gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a'i fod yn heriol. Mae perfformiad y Cyngor yn erbyn y targed hwn dros y naw mlynedd diwethaf wedi amrywio o 67% i 80% fel yr adlewyrchir yn adroddiad blynyddol SIRO ar gyfer 2023/24 i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i ymdrin â cheisiadau ynghylch Rhyddid Gwybodaeth gan dynnu sylw at y ffaith mai dim ond un swyddog gwybodaeth gorfforaethol sydd ar gael i gydlynu a chynghori ynghylch ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a bod y swydd hon wedi bod yn wag ers peth amser er gwaethaf ymdrechion i recriwtio. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith chwilio ac adolygu cofnodion sy'n gysylltiedig ag ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei wneud gan staff gwasanaethau yn ogystal â'u llwyth gwaith o ddydd i ddydd, sy'n gallu bod yn heriol, yn enwedig os yw'r cais am wybodaeth yn gymhleth ac yn cynnwys cyfres o gwestiynau. Mae tua 1,000 o geisiadau rhyddid gwybodaeth yn dod i law bob blwyddyn gyda thua 6,500 o gwestiynau. O fis Ebrill, 2025 bydd y Cyngor yn defnyddio system CRM i'w helpu i reoli ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ac er y bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws olrhain statws ceisiadau gan ddarparu gwybodaeth mewn amser real, ni fydd yn golygu bod mwy o adnoddau i allu ymateb iddynt. Mewn ymateb i gwestiynau pellach am geisiadau dienw, ceisiadau a wneir o dan enw ffug a cheisiadau sy’n bla / ailadroddus ac awgrym y dylid defnyddio'r system CRM newydd i dynnu'r wybodaeth benodol hon o’r system er budd y gwasanaeth, cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod ceisiadau o'r fath eisoes yn cael eu nodi. Esboniodd sut maent yn delio â’r rhain gan gadarnhau y gellir gwrthod ceisiadau sy'n bla ac apelio i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac nad oes unrhyw ddyletswydd ar y Cyngor i ymateb i geisiadau dienw. Mewn achosion lle credir bod yr anfonwr wedi defnyddio enw ffug, gwneir cais i brofi pwy yw’r unigolyn.
· Trafodwyd y cymorth sydd ar gael i wella canran yr holl swyddi a hysbysebwyd gan y Cyngor fel rhai sy'n gofyn am lefel 4 ac uwch (34%) a’r ffaith nad oes targed.
Dywedwyd wrth y pwyllgor fod pob swydd yn cael ei hasesu'n unigol ac yn wrthrychol a bod rheolwyr yn cael canllawiau ar sut i asesu sgiliau Cymraeg ar gyfer pob swydd a bod ganddynt fynediad at gyngor arbenigol o fewn y Cyngor. Mae canllawiau'r Cyngor yn unol â Pholisi Cymraeg newydd y Cyngor a gellir cael canllawiau allanol hefyd drwy Gomisiynydd y Gymraeg. Mae sgiliau Cymraeg o fewn y Cyngor yn dda gyda chyfraddau uchel - lefelau 4 a 5. Cafodd y pwyllgor wybod hefyd am yr adnoddau sydd ar gael i staff wella eu sgiliau Cymraeg gan gynnwys cymorth tiwtoriaid a chysylltiad â'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg. Yn ogystal â hyn, mae 66% o staff wedi derbyn hyfforddiant i wella eu sgiliau Cymraeg. Cadarnhawyd, gan fod hwn yn DPA newydd ar y cerdyn sgorio, nad oedd unrhyw ddata blaenorol ar gael ar gyfer gosod targed.
Awgrymodd yr Arweinydd y byddai'r aelodau yn dymuno ystyried p’un ai y byddai esboniad o'r hyn y mae pob un o'r lefelau sgiliau Cymraeg yn ei olygu yn eu helpu i asesu sefyllfa a chynnydd y Cyngor.
· Trafodwyd y sefyllfa mewn perthynas â gwefrwyr cerbydau trydan y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt a gofynnwyd pam nad yw'r seilwaith wedi datblygu dros y tri chwarter diwethaf.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd at rai o'r heriau sy'n wynebu'r Cyngor wrth fwrw ymlaen â'r seilwaith gan gynnwys cyllideb gyfyngedig a’r ffaith eu bod yn dibynnu ar gyllid grant. Mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i osgoi dyblygu pwyntiau gwefru EV preifat mewn ardaloedd lle mae'r rheini wedi'u gosod. Mae yna hefyd chwech ar hugain o bwyntiau gwefru y tu allan i adeiladau'r Cyngor a chartrefi gofal preswyl ac er bod cynlluniau i ehangu’r ddarpariaeth mae'r Ynys yn cymharu'n gymharol dda o ran nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael. Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Cyngor yn ceisio cydbwyso'r ddarpariaeth â'r galw gan ystyried y ddarpariaeth yn y sector preifat yn ogystal â’r costau parhaus o gynnal a chadw'r gorsafoedd gwefru ar ôl eu gosod. Er bod y ffocws yn 2024/25 wedi bod ar adeiladau'r Cyngor, bwriedir gosod pwyntiau gwefru pellach ar gyfer 2025/26 yn bennaf mewn ardaloedd arfordirol a llunio cytundeb prydlesu gyda'r darparwr allanol i rannu'r risg pe bai llai o ddefnydd ohonynt. Cadarnhaodd y Swyddog ymhellach fod y Cyngor yn monitro lle mae pwyntiau gwefru EV preifat wedi'u gosod rhag dyblygu’r ddarpariaeth ac eglurodd, er nad elw yw prif flaenoriaeth y Cyngor, ei fod yn ceisio sicrhau bod ei brisiau'n ddigonol i dalu costau ac i gynhyrchu digon o warged i dalu costau gorsafoedd gwefru mewn lleoliadau mwy gwledig lle gall y defnydd, ac felly’r refeniw, fod yn llai.
· Gofynnodd aelod am eglurhad ynghylch y Dangosydd Gofal Cymdeithasol a Lles (06) - y cyfnod cyfartalog ar gyfer yr holl blant sy'n dal i fod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd y chwarter. Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sut mae'r Cyngor yn rheoli ac yn gweinyddu'r gofrestr a'i amcanion wrth geisio sicrhau nad yw plant yn aros ar y gofrestr am fwy o amser nag sydd ei angen. Cyfeiriodd at y gefnogaeth a ddarperir i blant ar y gofrestr ac i'w teuluoedd i wella eu hamgylchiadau ac i weithio tuag at dynnu plant oddi ar y gofrestr unwaith y bydd yr holl risgiau wedi'u datrys.
Ar ôl adolygu'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2024/25 ac yn dilyn trafodaeth lawn, penderfynwyd –
· Nodi adroddiad y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2024/25 gan gynnwys y meysydd y mae'r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio ac yn ymchwilio iddynt i reoli a sicrhau gwelliannau pellach i'r dyfodol. Roedd y rhain yn gysylltiedig â meysydd o dan Addysg (Môn Actif), Tai (darparu Grant Cyfleusterau i'r Anabl – Addasiadau Mawr a Thai Gwag), yr Economi (Angorfeydd), Newid Hinsawdd (Ailgylchu Gwastraff) ac Iechyd y Cyngor Cyfan (ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ), ac
· Argymell adroddiad y cerdyn sgorio a'r mesurau lliniaru a amlinellir ynddo i'r Pwyllgor Gwaith.
Dogfennau ategol: