Eitem Rhaglen

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-2055

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2025 i 2055 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Mae Cynllun Busnes y CRT yn nodi sut y bydd adnoddau yn cael eu gwario i gynnal, gwella a datblygu stoc tai'r Cyngor.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai. Esboniodd ei bod yn ofynnol i gynghorau yng Nghymru sydd â Chyfrif Refeniw Tai (CRT) baratoi Cynllun Busnes y CRT i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn bod yn gymwys i gael Lwfans Atgyweiriadau Mawr. Mae'r Cynllun yn nodi strategaethau'r Cyngor ar gyfer cynnal a gwella ei stoc tai yn ogystal â dangos ei ymrwymiad i Safonau Ansawdd Tai Cymru 2 2023. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod llunio Cynllun hyfyw eleni wedi bod yn fwy heriol oherwydd nad yw incwm rhent wedi cynyddu cymaint â chostau ac nad yw bellach yn ddigon i dalu am yr holl wariant ar dai’r Cyngor sy'n deillio o ofynion SATC 2 2023 a chostau eraill.

 

Wrth gadarnhau y bydd y Cynllun a gyflwynir i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ddiwedd y mis yn cynnwys yr holl fanylion ariannol perthnasol, cyfeiriodd Pennaeth Gwasanaethau Tai  at y prif bwyntiau yn y Cynllun o ran datblygu tai a buddsoddi mewn tai presennol, gan ddweud bod y Cyngor yn anelu at ddatblygu 1,400 o unedau ychwanegol gyda £252m o wariant ar y stoc tai presennol dros y cyfnod o 30 mlynedd. Dros bum mlynedd, bydd £38m yn cael ei wario ar waith trwsio ymatebol, bydd 225 o unedau ychwanegol yn cael eu datblygu gan gynnwys y ddarpariaeth gofal ychwanegol cynlluniedig ym Mhorthaethwy a bydd £49m yn cael ei wario ar uwchraddio'r stoc i gydymffurfio â SATC 2 2023. Bydd y lefel hon o wariant yn golygu benthyca £70m.

 

Yn dilyn, dyma’r prif bwyntiau a drafodwyd 

 

·      Gwnaed awgrymiadau ynglŷn â chysylltu polisi tai cymdeithasol y Cyngor â'r Gymraeg ac yn benodol integreiddio'r iaith o fewn y diffiniad o "lleol" er mwyn diogelu a hyrwyddo'r iaith a'r cymunedau Cymraeg ar yr ynys.

 

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod cysylltiad ag Ynys Môn yn un o’r meini prawf cymhwyso ar gyfer tai cymdeithasol a nodir yn y polisi dyraniadau tai presennol sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fod wedi bod yn byw neu'n gyflogedig yn yr ardal am bum mlynedd. Byddai gan ymgeiswyr sydd â chysylltiad cymunedol flaenoriaeth dros y rhai heb unrhyw gysylltiad yn unol â'r polisi a byddai hynny’n helpu i warchod cymunedau. Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid a Thai y byddai'n fodlon edrych ar unrhyw dystiolaeth fod cymunedau’n cael eu heffeithio o safbwynt iaith gan gymhwyso'r polisi dyrannu presennol.

 

·      Y ffyrdd y mae Cynllun Busnes y CRT yn galluogi'r Cyngor i gyflawni blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2023-2028

 

Wrth osod targedau uchelgeisiol ar gyfer datblygu tai, dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd a phrynu’n ôl hen dai’r cyngor, esboniodd Aelod Portffolio Cyllid a Thai fod Cynllun Busnes y CRT yn ceisio cyflawni gweledigaeth Cynllun Tai’r Cyngor sy'n sicrhau bod gan bawb yr hawl i alw yn rhywle gartref.

 

·      Y risgiau sy'n gysylltiedig â gweithredu rhaglen ehangu arfaethedig y Cyngor i gynyddu ei stoc tai a fforddiadwyedd y rhaglen.

 

Cyfeiriodd Aelod Portffolio Cyllid a Thai at y ffaith fod costau cynyddol yn un o'r prif risgiau sy'n berthnasol i gaffael tir, deunyddiau adeiladu a llafur. Her arall yw cap Llywodraeth Cymru ar gynnydd rhent gyda'r cynnydd uchaf mewn rhent ar gyfer 2025/26 ar draws y stoc tai wedi'i osod ar 2.7% gan arwain at wahaniaeth cynyddol rhwng incwm rhent y Cyngor a'i anghenion o ran gwariant a chostau tai. Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Tai sicrwydd bod y risg yn cael ei liniaru gan yr asesiad o anghenion tai a gynhaliwyd yn ddiweddar sy'n nodi'r anghenion tai mewn gwahanol ardaloedd o'r ynys.

 

·      Ydi'r Cyngor wedi ystyried prydlesu eiddo preifat gan/ar ran perchnogion eiddo, yn enwedig mewn achosion lle gallai person fod wedi caffael eiddo trwy berthynas ac nad yw mewn sefyllfa i’w adnewyddu, sy'n golygu bod yr eiddo yn wag ac o bosibl yn destun premiwm y Dreth Gyngor. Gwnaed awgrym hefyd ynglŷn ag ail-osod eiddo gwag - mewn achosion lle mae angen gwaith helaeth, dylai'r Cyngor anelu at sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau efo’i gilydd ar un adeg o fewn yr amserlen o 35 diwrnod yn hytrach na fesul tasg gan grefftwyr ar wahân.

 

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cyngor yn un o'r awdurdodau sy'n cymryd rhan yng Nghynllun Prydlesu Cymru sy'n galluogi perchnogion eiddo i wneud cais i brydlesu eu heiddo i'w hawdurdod lleol am rent penodol am hyd y brydles gyda grantiau ar gael i godi’r eiddo i'r safon briodol. Cadarnhaodd fod un ar bymtheg o eiddo o'r fath yn rhan o'r cynllun yn Ynys Môn a bod gwybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan y Cyngor. O ran eiddo gwag, cadarnhaodd y Pennaeth Tai fod dau gontractwr wedi'u hychwanegu at fframwaith y contractwyr a fydd yn gallu adnewyddu ceginau ac ystafelloedd ymolchi mewn eiddo gwag lle bo angen yn ogystal â chyflawni'r gwaith hynny fel rhan o'r rhaglen SATC ac uwchraddio a gynlluniwyd.

 

Awgrymwyd gan y pwyllgor bod angen cyhoeddi Cynllun Prydlesu Cymru yn ehangach fel bod cyfranogwyr posibl nad ydynt efallai'n ymwybodol ohono yn cael gwybod amdano. Awgrymwyd ymhellach y dylid cynnwys y cynllun hefyd fel pwnc mewn Sesiwn Briffio Aelodau i ddod ag ef i sylw'r holl aelodau.

 

·      Oes modd cyflawni’r flaenoriaeth o weithio tuag at Safonau Ansawdd Tai Cymru 2 2023.

 

Cadarnhaodd Aelod Portffolio Cyllid a Thai fod y Cyngor wedi ymrwymo i gyflawni SATC 2 2023 ac o ystyried yr heriau dan sylw, mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i hyn. Ail-ddywedodd yr Aelod Portffolio mai un o'r prif rwystrau yw'r cap rhent sy'n cyfyngu ar yr incwm y gall y Cyngor ei gynhyrchu o renti, sydd yn ei dro yn lleihau'r refeniw sydd ar gael i ariannu'r gwaith uwchraddio sydd eu hangen i fodloni'r SATC. Er nad oes unrhyw un eisiau cynyddu rhenti, dylai lefelau rhent adlewyrchu'r gwaith a wneir i wella'r eiddo. Mewn ymateb i gwestiynau pellach, eglurodd yr Aelod Portffolio y gallai prynu eiddo newydd ar ddatblygiadau gan gymdeithasau tai wneud mwy o synnwyr ariannol yn hytrach nag adnewyddu hen dai’r cyngor sy'n gofyn am waith sylweddol i'w codi i'r safon briodol.

 

Cafwyd rhywfaint o drafodaeth yn y pwyllgor ynghylch a oes modd cyflawni SATC 2 2023 ac er eu bod yn derbyn eu bod wedi'u hanelu at wella ansawdd tai cymdeithasol, gofynnodd yr aelodau p’un ai a oedd y cynghorau hynny yng Nghymru sydd â'u stoc tai eu hunain wedi lleisio’u pryderon i Lywodraeth Cymru am yr heriau wrth geisio bodloni'r safonau. Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y neges y bydd yn anodd cyflawni SATC 2 2023, yn enwedig mewn perthynas â datgarboneiddio heb gymorth ychwanegol, wedi'i chyfleu i Lywodraeth Cymru drwy Benaethiaid Gwasanaethau Tai. Er mwyn atgyfnerthu'r neges, gofynnodd y pwyllgor i'r Aelod Portffolio ddefnyddio sianeli/rhwydweithiau gwleidyddol i bwyso ar Lywodraeth Cymru am ddeialog ar SATC 2 2023 i ystyried ffyrdd i sicrhau bod cydymffurfiaeth yn fwy realistig.

 

Ar ôl adolygu a chraffu ar y dogfennau a nodi'r sicrwydd a ddarparwyd mewn ymateb i'r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell bod Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2025-2055 yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Camau ychwanegol –

 

·      Gofyn i'r Gwasanaeth Tai ystyried ffyrdd o roi cyhoeddusrwydd i Gynllun Prydlesu Cymru yn ehangach er mwyn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r cynllun gyda landlordiaid/perchnogion eiddo.

·      Bod Cynllun Prydlesu Cymru yn cael ei gynnwys fel pwnc mewn Sesiwn Briffio Aelodau er mwyn dod â'r cynllun i sylw'r holl aelodau.

·      Gofyn i Aelod Portffolio Cyllid a Thai ddefnyddio sianeli/rhwydweithiau gwleidyddol i bwyso ar Lywodraeth Cymru am ddeialog ar SATC 2 2023 i ystyried ffyrdd i sicrhau bod cydymffurfiaeth yn fwy realistig.

 

Dogfennau ategol: