Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Rheoli Perygl Llifogydd

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Perygl Llifogydd i'w ystyried gan y Pwyllgor, a chraffu arno.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd ar ran y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd wedi ymddiheuro am ei absenoldeb. Adroddodd fod gan y Cyngor fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ddyletswydd i ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol o dan Ddeddf Llifogydd a Dŵr 2010. Mae'r Cynllun Strategol Rheoli Perygl Llifogydd yn nodi uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Ynys Môn am gyfnod o chwe blynedd, yn gyson â'r amcanion, y mesurau a'r polisïau a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, cododd y pwyllgor y materion canlynol –

 

  • Ydi'r Cyngor wedi ystyried ffyrdd y gall gynnwys y cyhoedd yn well â'r broses ymgynghori.

 

Esboniodd Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd fod yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal dros chwe wythnos a'i fod wedi defnyddio sawl sianel i sicrhau ei fod yn hygyrch gan gynnwys digwyddiadau galw heibio, e-bost, cyfryngau cymdeithasol, holiadur ar-lein a chyfweliad radio. Cadarnhaodd Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y broses ymgynghori wedi'i chynnal yn unol â chanllawiau'r Cyngor sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd i weld os ydyn nhw’n effeithiol. Mae'n bosibl fod pobl nad ydynt yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y pwnc yn llai tueddol o gymryd rhan.

 

  • Y ffyrdd y mae'r Cynllun Strategol yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor a'i berthynas â Nodyn Cyngor Technegol Cynllunio 15 (Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol)

 

Cyfeiriodd Pennaeth Gwastraff ac Eiddo Priffyrdd at y ddeddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol sydd wedyn yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor o ran amcanion y Cyngor ar gyfer Newid Hinsawdd. Tynnodd Pennaeth Gwastraff ac Eiddo Priffyrdd sylw at y cyfeiriad yn y strategaeth at y Bwrdd Cymeradwyo SuDS sydd ar wahân i'r broses gynllunio ac yn sicrhau bod safleoedd datblygu arfaethedig yn addas o safbwynt rheoli llifogydd ar y safle ac o fewn y gymuned ehangach.

 

  • Cyfeiriwyd at y sefyllfa yn Nwyran ac ym Mhorthaethwy ac at gynnydd a statws cynlluniau a gwaith yn yr ardaloedd hynny, cyfrifoldebau'r asiantaethau dan sylw ac a ddylid gwell ymdrechion i gyflymu pethau.

 

Rhoddodd Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y wybodaeth ddiweddaraf

i'r aelodau am y sefyllfa yn y ddwy ardal benodol a chadarnhaodd fod gan y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldebau gwahanol o ran rheoli perygl llifogydd a'u bod yn cydweithio i amddiffyn cymunedau rhag llifogydd. Cadarnhaodd y gall y Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd a chyfeiriodd at y ffactorau dan sylw. Hefyd esboniodd y gall fod mwy o her sicrhau bod achosion busnes ar gyfer cynlluniau mewn ardaloedd gwledig yn llwyddiannus o gymharu â rhai trefol oherwydd dwysedd uwch y boblogaeth yn yr olaf.

 

Er mwyn sicrhau bod y Cynllun Strategol yn gyflawn cynigwyd a chytunwyd y dylai hefyd gynnwys yr amserlen gynnal a chadw cynlluniedig yn ogystal â chopi o'r cynllun cyfalaf ar gyfer 2025/26 sy'n dangos y gwariant arfaethedig ar gynlluniau lliniaru llifogydd yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Ar ôl adolygu cwmpas a chynnwys y Cynllun Strategol Rheoli Llifogydd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell bod y Cynllun yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, a'i fabwysiadu, gydag argymhelliad ychwanegol ei fod hefyd yn cynnwys yr amserlen gynnal a chadw gynlluniedig ynghyd â'r cynllun cyfalaf ar gyfer 2025/26 sy'n dangos gwariant arfaethedig ar gynlluniau lliniaru llifogydd yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Dogfennau ategol: