Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2025/26 - Cynigion Terfynol Drafft ar gyfer y Gyllideb Refeniw

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'w ystyried gan y Pwyllgor. Amlinellodd yr adroddiad gyd-destun y broses o osod Cyllideb 2025/26 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol i Graffu arnynt wrth werthuso cynigion terfynol drafft cyllideb refeniw y Pwyllgor Gwaith. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 wedi’i atodi a oedd yn crynhoi'r cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb, a hefyd i bwrpas cymharu a chyd-destun, dadansoddiad o gyfraddau Treth Gyngor Cymru ar gyfer 2024/25 yn Atodiad 1 i'r adroddiad ynghyd â chrynodeb o'r ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cychwynnol y gyllideb refeniw a gynhaliwyd rhwng 22 Ionawr a 7 Chwefror 2025 yn Atodiad 2.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai a atgoffodd y pwyllgor o'r gwasanaethau amrywiol y mae'r Cyngor yn eu darparu ar gyfer ei gymunedau. Pwysleisiodd ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor osod cyllideb gytbwys bob blwyddyn sy'n golygu y dylai'r hyn y mae'n bwriadu ei wario fod yn unol â'r hyn y mae'n ei dderbyn mewn incwm. Cyfeiriodd at nifer o sylwadau o'r ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn argymell defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor ar gyfer y bwlch yn y gyllideb a wynebir gan y Cyngor. Dywedodd pe bai'r dull hwnnw wedi'i ddefnyddio dros y blynyddoedd yna byddai'r Cyngor wedi defnyddio ei gronfeydd wrth gefn i gyd gan achosi risg i’r Cyngor pe bai costau annisgwyl yn codi yn y dyfodol. Felly, mae'r Pwyllgor Gwaith yn cynnig cyllideb refeniw yn seiliedig ar gyfuniad o arbedion cyllidebol (£3.9m), y defnydd o gronfeydd wrth gefn (£2.0m) a chynnydd yn y Dreth Gyngor (9.5%) a chadw’r premiwm ar gyfer ail gartrefi a thai gwag ar 100%. Nid yw'r Cyngor yn wahanol o ran y lefel arfaethedig o gynnydd yn y Dreth Gyngor gan fod cynghorau eraill yng Nghymru yn bwriadu gosod cynnydd tebyg. Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at yr ymgynghoriad cyhoeddus gan ddweud nad oedd ynddo unrhyw beth annisgwyl o ran cynnwys a blaenoriaethau ac yn sgil hynny, ni wnaed unrhyw newidiadau i'r cynigion. Yng ngoleuni hyn ac o ystyried hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi setliad terfynol y gyllideb eto, nid yw'r cynigion drafft terfynol wedi newid o'r cynigion cychwynnol a gyflwynwyd i'r pwyllgor hwn ar 15 Ionawr, 2025.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd yn rhaid gwneud unrhyw welliannau a/neu addasiadau i fanylion y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer y gyllideb refeniw ac felly mae'r cynnig ar gyfer y gyllideb refeniw yn aros yr un fath â'r hyn a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Sgriwtini ar 15 Ionawr. Mater i’r Pwyllgor Sgriwtini yw ystyried a yw o’r un farn ai peidio o safbwynt y cynnig wrth bwyso a mesur canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y panel wedi cyfarfod ddoe,18 Chwefror i ystyried y cynigion terfynol drafft ar gyfer y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/26. Trafododd y panel y dogfennau a gyflwynwyd i'r cyfarfod yn ogystal â'r adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus a nododd gan nad oedd unrhyw wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ynghylch y setliad terfynol, ni wnaed unrhyw newidiadau i'r cynigion cychwynnol drafft manwl ac nid oeddent wedi cael eu diwygio o ganlyniad i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y Panel hefyd wedi nodi ei gefnogaeth i'r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniad maes o law ynghylch sut y gellid defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol pe bai'r setliad terfynol yn darparu cyllid ychwanegol. Roedd y panel wedi penderfynu cefnogi cynigion terfynol drafft cyllideb refeniw 2025/26 fel y'u cyflwynwyd ac argymell hynny i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor, Aelod Portffolio Cyllid a Thai, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i gwestiynau a materion a godwyd gan y pwyllgor yn y drafodaeth ddilynol fel a ganlyn –

 

  • Esboniwyd sut y lluniwyd cynigion y gyllideb a’r ffactorau a ystyriwyd i sicrhau eu bod yn ymateb yn ddigonol i bwysau a heriau gwasanaethau. Mae adroddiadau monitro'r gyllideb i'r Pwyllgor Gwaith wedi dangos mai gofal cymdeithasol Plant ac Oedolion yw'r meysydd sy'n gweithredu o dan y pwysau mwyaf, ac er bod gorwariant ym maes Gwasanaethau Plant oherwydd galw cynyddol a bod cost y ddarpariaeth wedi'i gynnwys yn y cynigion, mae'r galw ym maes Gwasanaethau Oedolion wedi sefydlogi yn ystod y flwyddyn ac mae'r sefyllfa ariannol yn sefydlog, felly ni ddarperir unrhyw gyllid ychwanegol y tu hwnt i chwyddiant ar gyfer pwysau demograffig. Mae cynllunio’r gyllideb yn broses gymhleth ac mae angen cydbwyso dull optimistaidd sy’n tanddarparu, ac felly’n arwain at y risg o orwariant cyllidebol a dull pesimistaidd sy'n gorddarparu ac yn gorfod cael ei ariannu drwy’r brif ffynhonnell ariannol sef y Dreth Gyngor. Yr amcan a'r gofyniad yw gosod cyllideb sy'n rhesymol, sy'n adlewyrchu sefyllfa'r Cyngor ac yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael, sy'n diwallu anghenion gwasanaethau yn 2025/26. Cadarnhawyd ymhellach y byddai'r cynnydd diweddar mewn chwyddiant i 3% yn cyfrannu at godiadau cyflog ond y byddai ei effaith ar gostau yn llai na phan gyrhaeddodd y gyfradd uchafbwynt o 11% ychydig flynyddoedd yn ôl.
  • Cadarnhawyd nad yw'r cynigion yn effeithio'n benodol ar unrhyw grŵp arbennig a bod ymdrechion wedi'u gwneud i ddiogelu gwasanaethau ar gyfer unigolion bregus. Er y cynigir rhesymoli gwasanaethau dydd a ddarperir ar gyfer cleientiaid ag anableddau corfforol a dysgu, mae gweithgareddau'r gwasanaeth dydd yn y broses o gael eu trawsnewid fel rhan o foderneiddio'r Gwasanaethau Oedolion ac ymgynghorir â chleientiaid wrth ddatblygu’r cynlluniau pan fo hynny'n briodol. Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gael i unrhyw un sy'n cael trafferth talu’r Dreth Gyngor ac mae gwybodaeth am y ffyrdd y gall pobl wneud cais i'r cynllun ar wefan y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiynau pellach, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) sut mae'r cynllun yn gweithio a sut mae'n cael ei ariannu ac eglurwyd bod sefydliadau eraill megis Canolfan J.E. O'Toole a Chyngor ar Bopeth hefyd ar gael i roi cyngor a chefnogaeth i bobl sydd mewn trafferthion ariannol.
  • Esboniwyd y cerrig milltir sy'n weddill yn y broses o osod y gyllideb. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod ar 27 Chwefror i argymell y cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb ar gyfer cymeradwyaeth y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth. Os na fydd setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi mewn pryd ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth, byddai'r Cyngor yn gosod cyllideb ar gyfer 2025/26 fel sy'n ofynnol ac yn gwneud addasiadau yn ôl yr angen unwaith y bydd y setliad yn hysbys gan gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer ag unrhyw fwlch pe bai'r setliad terfynol yn llai ffafriol. Er nad yw hynny'n cael ei ragweld, gallai’r setliad terfynol gynnwys rhywfaint o gyllid ychwanegol a byddai'r Pwyllgor Gwaith yn ystyried sut i’w ddefnyddio. Gan na chyhoeddwyd y setliad dros dro tan ganol mis Rhagfyr, ni ddisgwylir y bydd y data a ddefnyddir i baratoi'r fformiwla ariannu wedi newid yn y cyfamser ac nid yw’n debygol i gwneir unrhyw addasiadau i'r setliad. Cyfeiriwyd at y rhagolygon cyllido ar gyfer 2026/27 a thu hwnt, ac at oblygiadau’r materion byd-eang sy’n datblygu i lywodraeth leol a allai olygu bod cynghorau yn wynebu bwlch ariannu eto yn 2026/27. Byddai darparu setliadau cyllido hirdymor 3 blynedd gan Lywodraeth Cymru yn lleihau ansicrwydd a byddai'n caniatáu i gynghorau gynllunio a chyllidebu yn fwy effeithiol. Er bod cynigion y gyllideb a gyflwynwyd am flwyddyn, pwysleisiodd y Prif Weithredwr fod cryn waith hefyd wedi'i wneud i edrych ymlaen yn y tymor hir ac mae ffrwyth y gwaith hwnnw wedi'i gynnwys yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26 i sicrhau bod y Cyngor yn gynaliadwy yn y blynyddoedd nesaf a'r blynyddoedd dilynol.
  • Cadarnhawyd bod y Cyngor a'r Arweinydd yn ogystal ag aelodau portffolio unigol yn cysylltu’n rheolaidd â CLlLC i hyrwyddo buddiannau’r cyngor hwn a chynghorau eraill yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru ar amryw o faterion. Mae'r Cyngor a'r Arweinydd ynghyd ag arweinwyr cynghorau eraill drwy CLlLC wedi croesawu’r cynnydd mewn cyllid  a dderbyniwyd ar gyfer 2025/26 er nad yw’n ddigon i oresgyn yr heriau ariannu sylweddol sy'n wynebu cynghorau. Maent hefyd wedi bod yn lobïo am arian gwaelodol ychwanegol yn y setliad terfynol ar gyfer y cynghorau hynny sy'n derbyn setliad is na'r cyfartaledd yn ogystal â setliadau tymor hir gwell i barhau i ddarparu gwasanaethau awdurdodau lleol. Mae grŵp o fewn CLlLC sy'n cynrychioli cynghorau mwy gwledig wedi codi pryderon penodol am y fformiwla ariannu bresennol gan gredu ei fod o fudd anghymesur i ardaloedd trefol gyda phoblogaethau iau oherwydd ei fod yn dyrannu arian yn seiliedig ar ffactorau gan gynnwys nifer y bobl ifanc mewn ardal sy’n arwain at anfantais i ardaloedd mwy gwledig fel Ynys Môn sydd â demograffig hŷn ac sy'n derbyn llai o gyllid o ganlyniad er bod costau diwallu anghenion poblogaeth hŷn yn uchel.
  • Cadarnhawyd bod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn gynhwysol. Fe’i cyhoeddwyd ar wefan y Cyngor a'i hyrwyddo trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Rhannwyd copïau papur o'r holiadur ymgynghori yn adeiladau cyhoeddus y Cyngor a chynhaliwyd cyfarfodydd Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned, Fforwm Pobl Hŷn a'r Fforwm Cyllido Ysgolion hefyd.
  • Eglurwyd bod costau asiantaethau a gwariant ar ymgynghorwyr yn cael eu monitro a'u hadrodd bob chwarter yn yr adroddiadau monitro chwarterol ar y gyllideb refeniw sydd ar gael i'r Pwyllgor Gwaith, ac mai'r diweddaraf yw adroddiad Chwarter 3 2024/25 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror. Mae'r costau hyn yn cael eu talu'n rhannol o gyllideb graidd y Cyngor e.e. ar gyfer Cynghorwyr Trysorlys y Cyngor gyda chyfran uchel yn cael ei dalu gan gyllid grant yn enwedig prosiectau Datblygu Economaidd.
  • Eglurwyd bod y £2.6m o arian wrth gefn a ddefnyddiwyd gyda chymeradwyaeth y Cyngor Llawn wedi’i wario ar waith hanfodol i drwsio’r to yng Nghanolfan Addysg y Bont. Roedd problem hanesyddol benodol ynghylch to'r ysgol oedd angen sylw er mwyn i ddisgyblion barhau â'u haddysg yn yr ysgol heb darfu bellach. Eglurodd yr Arweinydd fod y Cyngor Llawn wedi cytuno ar sail cyngor proffesiynol, nad oedd yn bosibl adennill y gwariant trwy sianeli cyfreithiol ac y gallai arwain at gostau ychwanegol sylweddol. Eglurodd yr Arweinydd ymhellach mai'r cynnydd arfaethedig o 9.5% yn y Dreth Gyngor yw'r diffyg cyllid sy'n wynebu'r Cyngor ac mai'r unig opsiynau ar gael i gydbwyso'r gyllideb a chadw gwasanaethau i fynd yn 2025/26 yw lleihau gwariant a/neu gynyddu’r Dreth Gyngor.
  • Cadarnhawyd bod cyllidebau ysgolion yn cael eu gwarchod ac yr ariennir pwysau costau yn llawn.

 

Yn dilyn trafodaeth lawn ar gynigion terfynol drafft y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/26, roedd mwyafrif aelodau'r pwyllgor yn gefnogol i'r cynigion a gyflwynwyd, gan eu bod yn rhesymol ac yn ymateb yn briodol i anghenion gwasanaethau o fewn cyfyngiadau'r cyllid sydd ar gael. Cydnabu'r pwyllgor y gall cynyddu’r Dreth Gyngor roi straen ariannol ar breswylwyr ond roedd yn derbyn, o ystyried y pwysau cyllidebol, yr angen i gydbwyso'r gyllideb a chadw gwasanaethau i fynd yn 2025/26, bod cynyddu’r Dreth Gyngor yn un o'r ychydig opsiynau sydd ar gael os nad yw gwasanaethau am gael eu lleihau ymhellach. Nododd y pwyllgor yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud drwy CLlLC i sicrhau gwell cyllid tymor hir i gynghorau yng Nghymru a chytunwyd y dylid atgyfnerthu'r neges hon mewn llythyr gan yr Arweinydd at Lywodraethau Cymru a San Steffan i wybod beth yw’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r trefniant. Pe bai'r setliad terfynol yn darparu unrhyw gyllid ychwanegol awgrymwyd y gallai'r Pwyllgor Gwaith ystyried tynnu'n ôl y gostyngiad yng nghyfanswm y diwrnodau y mae canolfannau ailgylchu ar agor o'r cynigion cynilo.

 

Ar ôl craffu ar gynigion terfynol drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2025/26 ac ystyried y materion a godwyd yn y drafodaeth, yr ymatebion a roddwyd gan y Swyddogion a'r Aelodau Portffolio ac adborth ac argymhelliad y Panel Sgriwtini Cyllid penderfynwyd, yn dilyn pleidlais, i –

  • Gefnogi ac argymell i'r Pwyllgor Gwaith y cynigion terfynol drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2025/26 fel y'u cyflwynwyd gan gynnwys cynnydd o 9.5% yn y Dreth Gyngor.
  • Argymell bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraethau Cymru a San Steffan i bwyso am amserlen ar gyfer cyflwyno setliad ariannu tair blynedd i gynghorau yng Nghymru er mwyn iddynt allu cynllunio’n well yn ariannol a gwella cynaliadwyedd.

 

(Roedd tri wedi ymatal eu pleidlais a doedd yr un bleidlais yn erbyn)

 

Dogfennau ategol: