Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'w ystyried gan y Pwyllgor. Yn yr adroddiad amlinellwyd cyd-destun y broses o osod Cyllideb Gyfalaf 2025/26 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol i Graffu arnynt wrth werthuso cynigion terfynol drafft cyllideb gyfalaf y Pwyllgor Gwaith. Atodwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i'w gyflwyno i gyfarfod 27 Chwefror 2025 y Pwyllgor Gwaith sy'n crynhoi'r gyllideb gyfalaf a'r rhaglen arfaethedig ar gyfer 2025/26 yn Atodiad 1.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a Phortffolio Aelod Cyllid a Thai a nododd fod cyllideb gyfalaf o £39.309m yn cael ei chynnig gyda'r rhaglen a'r cyllid fel y nodir yn Nhabl 3 yr adroddiad. Yn ystod y flwyddyn ariannol gallai’r Cyngor dderbyn grantiau ychwanegol ar gyfer prosiectau cyfalaf ac os felly, bydd y gyllideb yn cael ei haddasu yn unol â hynny.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y strategaeth Gyfalaf sy'n sail i'r rhaglen gyfalaf ac eglurodd mai'r prif ffynonellau cyllid ar gyfer y rhaglen oedd y Grant Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru a benthyca â chymorth. Er bod y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 £401k yn uwch na'r dyraniad ar gyfer y flwyddyn flaenorol, sef y cynnydd sylweddol cyntaf y mae'r Cyngor wedi'i gael ers nifer o flynyddoedd, nid yw'n gwneud iawn am y golled yng ngwerth yr arian sydd wedi digwydd oherwydd chwyddiant ac nid yw'n ddigon i ddiwallu anghenion gwariant cyfalaf y Cyngor o ran cynnal a gwella ei asedau. Gall y Cyngor fenthyca heb gymorth ond mae'n rhaid i refeniw y Cyngor ei hun dalu'r holl gostau cysylltiedig â benthyca fel hyn. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 drosolwg o'r cynlluniau yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 ynghyd â sefyllfa cyllid cyfalaf a gwariant y Cyfrif Refeniw Tai. Eglurodd ymhellach ei fod ar ddeall, ond nad yw wedi’i gadarnhau, y gallai fod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun i gefnogi cynghorau i fenthyca i ariannu gwariant pellach ar briffyrdd, mae manylion y cynllun a'r symiau dan sylw wrthi’n cael eu trafod ond mae’n ymddangos y bydd yn gynllun dros ddwy flynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y panel yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror hefyd wedi ystyried cynigion terfynol drafft cyllideb gyfalaf 2025/26 ac wrth graffu ar fanylion y gyllideb gyfalaf arfaethedig nodwyd nad oes ffynonellau cyllid cyfalaf sylweddol ar gael i'r Cyngor i ariannu unrhyw brosiectau ar raddfa fawr ar wahân i'r CRT sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau CRT yn unig ac na ellir eu defnyddio at unrhyw ddiben arall. Cadarnhaodd fod y panel wedi penderfynu cefnogi cynigion tefrynol drafft y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2025/26 fel y'u cyflwynwyd ac argymell hynny i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
Ymatebodd yr Aelod Portffolio Cyllid a Thai a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 i bwyntiau a godwyd gan y pwyllgor ynghylch y cynigion ar gyfer y gyllideb gyfalaf fel a ganlyn –
Ar ôl craffu ar y cynigion terfynol drafft ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2025/26 ac ystyried y materion a godwyd yn y drafodaeth, yr ymatebion a roddwyd gan y Swyddogion a'r Aelodau Portffolio ac adborth ac argymhelliad y Panel Sgriwtini Cyllid penderfynwyd, yn dilyn pleidlais i gefnogi ac argymell i'r Pwyllgor Gwaith, y cynigion terfynol drafft ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2025/26 fel y'u cyflwynwyd.
(Roedd tri wedi ymatal eu pleidlais a doedd yr un bleidlais yn erbyn)
Dogfennau ategol: