Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, a
oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed hyd yma i
weithredu argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Sgriwtini ar eiddo gwag a dyraniadau y Gwasanaethau
Tai i'w ystyried gan y pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams,
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai fel adroddiad
interim yn cofnodi’r camau a gymerwyd hyd yma.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod llawer iawn o
waith wedi'i wneud ers sefydlu'r Grŵp Tasg a Gorffen a bod
argymhellion y grŵp yn derbyn sylw drwy'r cynllun gweithredu
Gwella’r Amser a Gymerir i Ailosod Eiddo Gwag fel y nodir yn
atodiad 2 yr adroddiad sy'n dangos y tasgau a’r amserlenni
gwella y cytunwyd arnynt. Mae'r gwasanaeth o'r farn bod angen mwy o
amser i weld effaith y canlyniadau a gyflawnir ar ddangosyddion
perfformiad yn dilyn gwaith y grŵp tasg a gorffen a'r
ymyriadau dilynol a roddir yn eu lle gan y Gwasanaeth
Tai.
Ymatebodd yr Aelod Portffolio a Phennaeth
Gwasanaethau Tai i faterion a godwyd yn y drafodaeth ddilynol fel a
ganlyn –
- Cydnabuwyd
pwysigrwydd hysbysu darpar denantiaid am newidiadau a/neu gynnydd
sy'n gysylltiedig â'u tai, gan gynnwys amserlenni os ydynt yn
aros am denantiaeth a gadarnhawyd. Ni fydd cyn-eiddo'r cyngor sydd
wedi'u hadfeddiannu gan y Cyngor yn cael eu gosod ar unwaith hyd
nes y cwblheir yr holl waith angenrheidiol i sicrhau eu bod yn
cyrraedd y safon wrth eu dyrannu.
- Cadarnhawyd bod
adnoddau ychwanegol wedi'u cynnwys yn y gwasanaeth i fynd i'r afael
â'r heriau a nodwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen ac ysgogi
gwelliant mewn perfformiad yn erbyn y dangosyddion ar gyfer yr
amser a gymerir i baratoi eiddo gwag ac ail-osod eiddo. Mae
Goruchwyliwr Eiddo Gwag wedi'i benodi yn ogystal â Swyddog
Systemau Gwybodaeth Cynnal a Chadw. Mae peintiwr ac addurnwr
ychwanegol wedi cael eu recriwtio ynghyd â dau gontractwr
ychwanegol i wneud gwaith sylweddol ar eiddo gwag. Mae statws eiddo
gwag yn cael ei olrhain a'i fonitro.
- Cadarnhawyd bod yr
her o fodloni gofynion y gyfran newydd o Safonau Tai Ansawdd Cymru
2023 yn ogystal â chyfyngiadau adnoddau yn golygu nad oes
llawer o gyfle i fynd i'r afael â materion tai yn y sector
preifat/eiddo sy’n is na’r safon.
- Eglurwyd bod yr
anghysondeb o ran perfformiad rhwng Chwarteri 1 a 2 o ran nifer y
diwrnodau a gymerwyd i baratoi eiddo gwag (26 diwrnod a 49 diwrnod
yn y drefn honno) oherwydd yr adnoddau oedd ar gael a nifer yr
eiddo y rhoddwyd sylw iddynt yn y chwarter cyntaf, gyda mwy o eiddo
ar gael i'w cwblhau yn yr ail chwarter gan gynnwys eiddo a oedd
wedi bod yn wag am gyfnod o amser oedd angen mwy o waith arnynt a
thrwy hynny’n cynyddu’r amser a gymerwyd ar gyfartaledd
i baratoi / ail-osod eiddo.
Yn dilyn y drafodaeth,
penderfynwyd –
-
Nodi'r adroddiad fel adroddiad interim ar y cynnydd a wnaed
hyd yma yn dilyn yr argymhellion a wnaed gan y grŵp tasg a
gorffen ar yr amser a gymerwyd i baratoi eiddo gwag a diwrnodau a
gymerwyd i ail-osod eiddo.
-
Nodi'r cynllun gweithredu Gwella’r Amser a Gymerir i
Ail-osod Eiddo Gwag fel y nodir o dan atodiad 2 i'r
adroddiad.
Camau ychwanegol - gofyn
i'r Pennaeth Gwasanaethau Tai ddarparu adroddiad cynnydd pellach
i'r pwyllgor hyd at ddiwedd Chwarter 2, i gynnwys cadarnhad o'r
camau a gwblhawyd ac a lwyddwyd ai peidio i gyflawni'r heriau a'r
amcanion a nodwyd.