Eitem Rhaglen

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 3, 2024/25

Cyflwyno adroddiad gan y Pennath Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3 2024/25, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a chadarnhaodd fod y rhan fwyaf (87%) o’r dangosyddion a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio’n dda a’u bod yn Wyrdd neu’n Felyn yn erbyn eu targedau, gan ddangos fod y perfformiad cyffredinol yn gadarn. Cyfeiriodd at y chwe dangosydd sydd yn tanberfformio ac sy’n Goch neu’n Ambr yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd. Mae rhai ohonynt yn tanberfformio o chwarter i chwarter, ac awgrymodd efallai bod angen ail-arfarnu targedau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r adnoddau a’r amgylchiadau. Nododd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi adolygu’r adroddiad cerdyn sgorio Ch3 2024/25 yn fanwl ar 11 Mawrth 2025, gan drafod gosod targedau ac eglurder y dangosyddion perfformiad allweddol (DPA), ac awgrymwyd bod angen ailddiffinio DPA 07 Addysg - Môn Actif (nifer y plant ar gyfartaledd sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y flwyddyn) er mwyn cyfeirio at wersi Swim Time. Awgrymodd y Cynghorydd Carwyn Jones hefyd y dylid archwilio’r dangosyddion sy’n perfformio’n dda yn gyson er mwyn deall yn well y ffactorau sy’n cyfrannu at y perfformiad cryf a nodi unrhyw arferion y gellir eu trosglwyddo i feysydd eraill o fewn y Cyngor.  Diolchodd y Cynghorydd Carwyn Jones i’r Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Rhaglen Corfforaethol am dynnu holl elfennau’r cerdyn sgorio ynghyd bob chwarter, yn ogystal â phawb arall a gyfrannodd at y gwaith.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Rhaglen Corfforaethol fod y dasg o adolygu’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer 2025/26 wedi dechrau’n barod.

 

Gan fod y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn absennol am gyfnod, rhannodd y Pennaeth Democratiaeth adborth ynglŷn â thrafodaeth y pwyllgor ar adroddiad monitro’r cerdyn sgorio Ch3 yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2025. Roedd y prif faterion a godwyd yn cynnwys targedau y bu i’r Cyngor fethu â’u cyflawni a gweithredoedd er mwyn gwella perfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol perthnasol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Douglas Fowlie wedyn fod y Pwyllgor, ar ôl derbyn sicrwydd gan Aelodau Portffolio a Swyddogion ynglŷn â’r materion a godwyd, wedi penderfynu nodi adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Ch3 2024/25, ynghyd â’r meysydd y byddai’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau yn y dyfodol, ac argymell yr adroddiad a’r mesurau lliniaru a amlinellwyd i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno bod rhaid i dargedau barhau i fod yn realistig a pherthnasol, bod angen iddynt addasu i amgylchiadau sy’n esblygu a dylid eu seilio ar ddata cyfredol sy’n adlewyrchu newid yn y galw am wasanaethau a chyfyngiadau o ran adnoddau. Awgrymwyd efallai bod angen ailasesu dau ddangosydd perfformiad yn y cyd-destun hwn, sef DPA 07 Addysg - Môn Actif (Nifer y plant ar gyfartaledd sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y flwyddyn) a DPA 03 - Tai (nifer y dyddiau calendr a gymerwyd ar gyfartaledd i osod unedau llety sy’n rhai y mae modd eu gosod). Cydnabuwyd hefyd bod tuedd i ganolbwyntio ar feysydd Coch ac Ambr ac mae’n bosib nad yw gwersi gwerthfawr yn cael eu nodi mewn perthynas â meysydd sy’n perfformio’n dda. Cyfeiriodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, at yr ymdrechion parhaus i gyrraedd y targed o 70% ar gyfer ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio gwastraff domestig (DPA 02 - Newid Hinsawdd), sydd â pherfformiad o 66% ar hyn o bryd, ac awgrymodd y gallai ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o ailgylchu fod yn fuddiol ac yn amserol. Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith fod gan bawb ran i’w chwarae er mwyn helpu’r Cyngor i gyflawni ei darged ailgylchu gwastraff.

 

Penderfynwyd cytuno i’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3 2024/25 a nodi’r meysydd o welliannau ynghyd â’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn rheoli a sicrhau gwelliant pellach yn y dyfodol. Roedd y rhain mewn perthynas ag Addysg (Môn Actif), Tai (Darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a Thai Gwag), Economi (Contractau angori cwsmeriaid), Newid Hinsawdd (Ailgylchu Gwastraff) ac Iechyd Cyffredinol y Cyngor (Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth).

 

Dogfennau ategol: