Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwatraff ac Eiddo.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, yn ymgorffori’r Cynllun Strategol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo. Mae’r Cynllun yn nodi uchelgais y Cyngor o ran rheoli perygl Llifogydd ar Ynys Môn dros gyfnod o chwe blynedd.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, a thynnodd sylw at bwysigrwydd y Cynllun i Ynys Môn, a phwysigrwydd cydweithio gydag Awdurdodau Rheoli Perygl er mwyn mynd i’r afael â’r heriau y mae llifogydd yn eu creu a lleihau perygl Llifogydd. Mae gofyn statudol ar y Cyngor i baratoi cynllun lleol i reoli perygl Llifogydd ac mae manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ynghlwm. Cynhaliwyd gweithdy gydag aelodau etholedig hefyd er mwyn rhoi cyfle iddynt gyfrannu at y cynllun strategol drafft. Mae’r cynllun hefyd wedi cael ei graffu’n fanwl gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol pan gyfarfu ar 11 Mawrth 2025.
Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y byddai cynllun gweithredu blynyddol yn cael ei ddatblygu ar gyfer bob un o’r chwe blwyddyn ariannol fel rhan o’r Cynllun Strategol, er mwyn rhoi sylw i dasgau refeniw a chyfalaf.
Rhannodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, safbwynt Sgriwtini ar y Cynllun Strategol Rheoli Llifogydd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor hwnnw ar 11 Mawrth 2025. Roedd yr aelodau wedi codi materion yn ymwneud ag ymateb y cyhoedd i’r ymgynghoriad, aliniad y Cynllun â Chynllun y Cyngor a chynnydd cynlluniau a gwaith yn ardaloedd Dwyran a Phorthaethwy. Ar ôl adolygu cwmpas a chynnwys y Cynllun Strategol Rheoli Llifogydd, roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi penderfynu argymell y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn iddo gael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu, a nododd bod angen cynnwys atodiadau’n dangos rhestr o waith cynnal a chadw a gynlluniwyd a’r cynllun cyfalaf ar gyfer 2025/26, gan gynnwys gwariant a gynlluniwyd ar gynlluniau lliniaru llifogydd yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Mynegodd y Pwyllgor Gwaith ei gefnogaeth lawn i’r Cynllun Strategol Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ac roedd yn canmol y tîm a’r gwasanaeth am eu hymdrechion. Pwysleisiodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith werth y cynlluniau lliniaru llifogydd a gwblhawyd yn eu hardaloedd a gymaint y mae’r cymunedau dan sylw’n eu gwerthfawrogi, oherwydd yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei gael ar bobl, cartrefi a busnesau. Amlygwyd hefyd bwysigrwydd gwybodaeth leol er mwyn tynnu sylw at amodau lleol ac ardaloedd bregus, ynghyd â chydweithio ag asiantaethau partner. Gofynnwyd cwestiynau am ariannu cynlluniau lliniaru llifogydd yn gyffredinol yn y dyfodol, yn ogystal ag argaeledd arian i wneud gwaith mewn ardaloedd lle mae isadeiledd ffyrdd, yn hytrach nag eiddo, mewn perygl, er enghraifft, mewn rhai ardaloedd ym Miwmares. Gofynnwyd hefyd a oes arian ar gael i gynorthwyo tirfeddianwyr preifat i gynnal cyrsiau dŵr ac a fyddai’n bosib dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy yn y cyswllt hwn.
Esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod y gyllideb atal llifogydd yn blaenoriaethu cartrefi sydd mewn perygl o lifogydd, ond er hynny, gellir cyflwyno ceisiadau i Gronfa Ffyrdd Gwydn Llywodraeth Cymru am gyllid i wella gwytnwch ffyrdd. Yn ogystal, ymdrechir i gynyddu arwyddocâd gwytnwch ffyrdd ym mhrosesau ariannu Llywodraeth Cymru oherwydd effaith bellgyrhaeddol achosion o amharu ar y rhwydwaith ffyrdd ar gymunedau, tebyg i’r rhai a brofwyd yn ne-ddwyrain yr ynys ac a effeithiodd ar drafnidiaeth, ysgolion, teithio i’r gwaith ac apwyntiadau ysbyty. Y nod yw sicrhau bod y fformiwla ariannu’n ystyried effeithiau ehangach ar y gymuned yn hytrach nag ar eiddo ac unigolion yn unig. O ran darparu cymorth i dirfeddianwyr preifat, nododd y Swyddog bod gwaith atal llifogydd y Cyngor sy’n cael ei ariannu’n flynyddol yn cael ei wneud gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, ond nid yw’n effeithio ar berchnogaeth na chyfrifoldebau. Er y gallai fod yn ofynnol adolygu deddfwriaeth draenio tir hanesyddol ar lefel genedlaethol yn y dyfodol, mae rôl y Cyngor yn canolbwyntio ar warchod unigolion ac eiddo lleol sydd mewn perygl, yn hytrach na mynd i’r afael â chyfrifoldebau cyfreithiol a allai fod yn fater cymhleth. Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd yn ymwybodol bod unrhyw grantiau ar gael i unigolion, ond dywedodd efallai y byddai’r undebau amaeth yn gallu darparu rhagor o wybodaeth.
Mewn perthynas â’r rhagolygon ar gyfer derbyn arian yn y dyfodol, dywedodd y Peiriannydd Grŵp (Rheoli Strwythurau, Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol) fod system sgorio newydd Llywodraeth Cymru yn golygu nad yw’r Cyngor wedi ennill arian grant ar gyfer cynlluniau mawr yn ystod blwyddyn ariannol 2025/26. O’r £30m sydd ar gael, dyrannwyd £30m i gynlluniau sy’n parhau ac mae cynghorau yng Nghymru’n gorfod cystadlu am gyfran o’r £20m sy’n weddill. Mynegodd y Swyddog bryderon bod y cyllid yn gostwng er bod mwy o’i angen nag erioed, a chadarnhaodd y byddai’r Cyngor yn chwilio am ffynonellau ariannol eraill.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Strategol Rheoli Perygl Llifogydd Lleol.
Dogfennau ategol: