Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Tai.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, yn ymgorffori Cynllun Busnes y CRT 2025 - 2055, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, Gynllun Busnes y CRT, sef cynllun y mae’n rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn derbyn Lwfans Atgyweirio Mawr y Cyngor sydd werth tua £2.7m yn 2025/26. Paratowyd y Cynllun Busnes gan Swyddogion yn y Gwasanaethau Tai a Chyllid, a dyma’r prif offeryn ariannol ar gyfer rheoli a darparu stoc dai’r Cyngor. Mae’n dangos sut mae’r Cyngor yn sicrhau fod ei stoc yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), sut mae’n bwriadu gweithio tuag at gyflawni SATC 2023 a’r buddsoddiad sydd angen i ariannu ei raglen ar gyfer datblygu tai cymdeithasol newydd. Nododd y Cynghorydd Robin Williams bod disgwyl twf o dros 25%, i dros 5,000 o eiddo, yn stoc dai’r Cyngor yn ystod cyfnod y Cynllun, er mwyn mynd i’r afael â’r galw cynyddol am dai cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae dros 852 o bobl ar y rhestr aros, gan gynnwys 94 o deuluoedd sy’n byw mewn llety dros dro, ffigwr na welwyd ei debyg o’r blaen.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cynllun Busnes yn amlinellu’r buddsoddiad sydd ei angen i gynnal stoc dai’r Cyngor er mwyn diwallu anghenion tenantiaid a chyflawni disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â sicrhau gwelliant parhaus trwy ddatgarboneiddio’r stoc dai a datblygu tai cymdeithasol newydd. Yn ogystal â’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr gwerth £2.7m ar gyfer 2025/26, bydd y Cyngor yn derbyn swm ychwanegol o £1.1m er mwyn cefnogi ei fuddsoddiad sylweddol yn y stoc dai. Mae’r Cynllun yn cynnwys rhaglen gyfalaf o thua £13m ar gyfer 2025/26, gyda £3m ar gyfer ariannu 500 o baneli solar ynghyd â batris storio trydan. Mae swm o £3.76m wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2025/26 er mwyn datblygu tai cyngor newydd a phrynu hen dai cyngor. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai at y tensiwn sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng nodau tai uchelgeisiol Llywodraeth Cymru a’r cap ar renti sy’n cyfyngu’r refeniw sydd ar gael i fuddsoddi mewn tai. Methodd prawf cadernid, oedd yn ystyried y risgiau ar wahân a gyda’i gilydd er mwyn sicrhau hyfywedd y cynllun busnes trwy gydol y cyfnod 30 mlynedd, oherwydd y cyfyngiadau rhent a’r galw am wariant cyfalaf sy’n deillio o SATC 2023. Mae’r Gwasanaeth Tai’n bwriadu codi pryderon gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r gofynion anghynaladwy a osodir ar y CRT.
Cyflwynodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, grynodeb o drafodaeth y pwyllgor ar Gynllun Busnes y CRT yn ei gyfarfod ar 11 Mawrth 2025. Roedd y trafodaethau wedi canolbwyntio ar aliniad y cynllun â Chynllun y Cyngor, risgiau’r rhaglen ehangu arfaethedig a’i fforddiadwyedd, a pha mor debygol yw SATC 2 2023 o gael ei gyflawni. Holodd y pwyllgor hefyd am y posibilrwydd o brydlesu eiddo preifat gan/ar ran perchnogion yr eiddo a chyfeiriwyd at Gynllun Lesio Cymru. Ar ôl ystyried y dogfennau a nodi’r sicrwydd a dderbyniwyd mewn perthynas â’r materion a godwyd, penderfynodd y pwyllgor argymell Cynllun Busnes y CRT 2025-2055 i’r Pwyllgor Gwaith, yn ogystal â gweithredoedd ychwanegol mewn perthynas â rhoi cyhoeddusrwydd i Gynllun Lesio Cymru a chysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch gosod gofynion mwy realistig ar gyfer cydymffurfio â SATC 2 2023.
Addawodd y Cadeirydd y byddai’n tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y diffyg cydbwysedd cynyddol rhwng incwm rhenti a gofynion gwariant, yn enwedig o ran cyflawni SATC 2 2023.
Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2025-2055 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ategol: