Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb:: 2023/2024

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fod yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys amlinelliad o’r gwaith a wnaethpwyd yn ystod 2024 er mwyn cyflawni amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 ac mae cysylltiad â Chynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028 hefyd. Yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, mae’n rhaid i’r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol erbyn 31 Mawrth yn y flwyddyn yn dilyn y cyfnod adrodd. Mae gofynion penodol ynglŷn â’r hyn y mae’n rhaid adrodd arno yn flynyddol. Yn unol â’r gofynion hyn, mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am gyflogaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024; trosolwg o’r camau a gymerwyd yn 2024 i nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol, a sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn perthynas â’r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, a hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda gyda gwahanol grwpiau.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·     Gofynnwyd sut y gellir mynd i’r afael â’r bwlch yn y data o ran nodweddion gwarchodedig staff presennol, wrth barchu hawl unigolion i beidio â datgelu gwybodaeth bersonol. Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol bod hawl gan unrhyw un i beidio â datgelu gwybodaeth bersonol. Mae’r Cyngor yn annog staff i ailymweld â’u data personol, gan sicrhau fod y wybodaeth yn gwbl gyfrinachol. Dywedodd bod y Cyngor yn dymuno creu diwylliant o ymddiriedaeth a pharch er mwyn i staff fod â’r hyder i rannu gwybodaeth bersonol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod data yn bwysig a sefydlwyd grŵp llywio newydd - Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb - i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r gofynion, yn ogystal â monitro gweithgareddau er mwyn sicrhau fod pob aelod o staff yn cael ei drin yn gyfartal. Bydd y Grŵp yn ystyried sut y gellir lleihau’r bylchau yn y data.

·     Nodwyd bod ffigwr y Cyngor ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sef 9.7% ar 31 Mawrth 2024, yn gadarnhaol. Gofynnwyd pa gamau y gellir eu cymryd i ddileu’r bwlch yn gyfan gwbl. Sicrhaodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol y Pwyllgor nad oes gwahaniaeth o gwbl yn y raddfa gyflog i weithwyr ar gyfer unrhyw swyddi cyfatebol o fewn y Cyngor.  Nododd ei bod yn amlwg fod merched yn tueddu i weithio mewn swyddi sydd â chyflog is, ac mae hyn yn gyffredin hefyd mewn awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill. Mae’r Cyngor yn dymuno hyrwyddo cyfleoedd i ferched ymgeisio am swyddi lefel uwch.

·     Gofynnwyd a oes proses ar waith i ymdrin â gwahaniaethu a bwlio staff oherwydd eu hunaniaeth rhywedd. Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol nad yw’r Cyngor yn goddef unrhyw fath o fwlio ymysg staff nac aelodau etholedig. Dywedodd y Prif Weithredwr fod polisïau a phrosesau cadarn ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw wahaniaethu ac mae diwylliant yr Awdurdod yn golygu bod staff yn gallu trafod unrhyw broblemau gyda’u rheolwyr. Pe byddai digwyddiad difrifol yn codi, byddai swyddogion annibynnol yn delio â’r mater cyn i Banel priodol drafod y mater.   Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod y Polisi Atal Bwlio ac Aflonyddu yn berthnasol mewn unrhyw achos o fewn y Cyngor o danseilio a bwlio unrhyw berson oherwydd eu hunaniaeth rhywedd. 

·     Nodwyd y byddai’n fanteisiol cynnwys cymhariaeth o un flwyddyn i’r llall yn yr adroddiad, mewn perthynas â chanran y staff sy’n ymateb i gais i ddiweddaru eu data personol. Byddai gwybodaeth am nifer y staff sydd wedi cwblhau cyrsiau byr yn fanteisiol hefyd. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod yr hyfforddiant cydraddoldeb yn orfodol i aelodau etholedig.

·     Gofynnwyd a gasglwyd data i ganfod pam fod merched yn fwy cyndyn o ymgeisio am uwch swyddi o fewn y Cyngor. Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol y byddai Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb yn cael ei sefydlu, a bydd yn canolbwyntio, ymysg pethau eraill, ar sicrhau fod pob aelod o staff yn cael ei drin yn gyfartal. Nododd y byddai’r Grŵp yn cynnwys croestoriad o aelodau.

·     Gofynnwyd a oes data ar gael mewn perthynas â’r unigolion a dderbyniodd gefnogaeth gan Gyngor Ar Bopeth wedi’i ariannu gan grant o £250,000 o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn cynorthwyo gyda’r argyfwng costau byw. Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol nad yw’r manylion ar gael ar hyn o bryd a bydd angen eu hanfon ymlaen at Aelodau’r Pwyllgor.  

·              Cyfeiriwyd at y broses gynefino gorfforaethol ar gyfer gweithwyr newydd o fewn y Cyngor. Gofynnwyd a oes cyfle i Aelodau Etholedig fynychu cyfarfodydd cynefino corfforaethol ar gyfer gweithwyr newydd. Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn cymryd rhan yn y broses gynefino gorfforaethol yn ei rôl fel Arweinydd er mwyn esbonio rôl aelodau etholedig a phrosesau democrataidd o fewn y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yntau hefyd yn cymryd rhan yn y sesiynau cynefino corfforaethol a dywedodd ei bod yn briodol i’r Arweinydd fod yn bresennol er mwyn rhoi trosolwg o drefniadau gwleidyddol y Cyngor. Nododd y bydd angen trafod â’r Adran Adnoddau Dynol er mwyn gwella’r wybodaeth a roddir i Aelodau Etholedig mewn perthynas â’r broses gynefino.

·     Gofynnwyd a yw teitl a chwmpas y Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb newydd yn addas o ystyried y gwahanol feysydd gwaith. Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant a Diogelwch Cymunedol ei fod yn cytuno bod angen cryfhau’r llwyfan cydraddoldeb, a mater i’r Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb fydd trafod cylch gorchwyl a theitl y Grŵp maes o law. Gofynnodd y Cadeirydd a ystyriwyd cynnwys Aelodau Cyfetholedig sy’n aelodau o Bwyllgorau’r Cyngor ar y Grŵp newydd? Dywedodd y Prif Weithredwr y gellir ystyried ehangu aelodaeth Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb ar ôl iddo gael ei sefydlu. Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod y rhanddeiliaid yn bwysig, yn enwedig mewn perthynas â’r Cynllun Strategol, er mwyn cryfhau’r cysylltiadau a sefydlwyd. Nododd bod rhwydwaith cydraddoldeb sector cyhoeddus o fewn y rhanbarth a cheir deialog barhaus gyda Swyddogion ac asiantaethau perthnasol sy’n gweithio ar ran y grwpiau a warchodir gan ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Gofynnodd y Cadeirydd sut fyddai’r Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb yn monitro ei berfformiad. Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol y byddai’r Grŵp, ar ôl ei sefydlu, yn gyfrifol am fonitro ei berfformiad yn erbyn y dangosyddion perthnasol.

·     Gofynnwyd a fyddai’r canrannau a gofnodir yn yr adroddiad yn wahanol pe byddai staff ysgolion yn cael eu hepgor, gan fod nifer uchel o staff ysgolion yn ferched. Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg y byddai’n bosib ystyried y data a gasglwyd yn yr Adroddiad Blynyddol nesaf, mewn perthynas â darparu data ar wahân ar gyfer y gwahanol broffesiynau a sectorau o fewn y Cyngor.  

·     Nodwyd bod nifer yr ymgeiswyr yn y categori 65+ oed wedi cynyddu’n sylweddol (13 o gymharu â 2 yn 2022/2023). Gofynnwyd beth yw’r rheswm am y duedd hon a sut all y Cyngor annog pobl yn y grwpiau oedran eraill i ymgeisio? Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod pobl, o bosib, yn ymddeol yn gynnar o’u swyddi a’u bod wedyn yn teimlo eu bod angen swydd arall, am nifer o resymau, e.e. cynnydd mewn costau byw. 

·     Gofynnwyd pa gynlluniau sydd ar waith i gynnwys data ynglŷn â chontractwyr sy’n gweithio i’r Cyngor yn yr Adroddiad Blynyddol, ac ystyried polisïau ac arferion cydraddoldeb o fewn eu sefydliadau. Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol fod disgwyliadau o ran cydraddoldeb yn cael eu gosod ar gontractwyr. Nododd y byddai cynnwys data ynglŷn â chontractwyr yn yr Adroddiad Blynyddol nesaf yn cael ei ystyried ymhellach. 

·     Gofynnwyd hefyd a fyddai’n bosib darparu mwy o wybodaeth ynglŷn â’r sesiynau Ymwybyddiaeth Menopôs, gan gynnwys y cwmpas ac argaeledd staff.  Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod hyfforddiant Ymwybyddiaeth Menopôs yn cael ei ddarparu ar gyfer unigolion, ac yn bwysicach fyth, Rheolwyr, er mwyn iddynt fod yn fwy sensitif ac ystyriol o amgylchiadau pobl.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2023/2024.

 

GWEITHREDOEDD:

 

·         Bod y Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb yn ystyried ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chryfhau’r data sylfaenol am staff, gan ddefnyddio gwybodaeth o’r Sgwrs Flynyddol er mwyn monitro tueddiadau.

·         Ailystyried cyflwyno hyfforddiant Cydraddoldeb newydd ar gyfer staff ac aelodau etholedig, yn dilyn cymeradwyo’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2024;

·         Archwilio ffyrdd o wella dealltwriaeth aelodau etholedig o’r broses gynefino gorfforaethol ar gyfer staff newydd, ar y cyd ag Adnoddau Dynol;

·         Ailystyried teitl a chwmpas y Grŵp Hyrwyddo’r Gymraeg a Chydraddoldeb.

 

Dogfennau ategol: