Eitem Rhaglen

Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod Llywodraeth y DU wedi lansio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gymryd lle rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Roedd Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn ffynhonnell gyllido sylweddol yng Nghymru am ddegawdau ac arferai Ynys Môn dderbyn arian sylweddol o’r cronfeydd hyn er mwyn cefnogi busnesau, datblygu sgiliau, gwella cyflogadwyedd, yn ogystal ag ariannu rhaglenni cyfalaf seilwaith. Arian, gwerth £2.6 biliwn, a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i’w fuddsoddi’n lleol ledled y DU rhwng Rhagfyr 2022 a Mawrth 2025 yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Roedd dyraniad Ynys Môn trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn £16,081,937 (gyda £2.78M yn cael ei neilltuo ar gyfer y cynllun Lluosi). Roedd y cyllid yn cael ei gymeradwyo a’i ryddhau gan Lywodraeth y DU yn flynyddol. Y flaenoriaeth oedd sicrhau fod holl wariant y prosiect a ddyrannwyd yn cael ei ddefnyddio, a bod buddion ystyrlon yn cael eu cyflawni, er budd trigolion a busnesau ar Ynys Môn. Darparwyd cymorth ariannol i 496 o fusnesau, mentrau a sefydliadau, cynorthwywyd 913 o breswylwyr i wella eu sgiliau rhifedd, cafodd 80 o swyddi eu creu neu eu diogelu ar yr ynys, a chefnogwyd 361 o bobl i ennill cymhwyster. 

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·     Gofynnwyd beth yw’r camau nesaf ar ôl cwblhau’r rhaglen bresennol ym mis Mawrth 2025 ac a oes unrhyw brosiectau, nad oeddent wedi llwyddo i dderbyn arian o dan y cynllun presennol, yn barod i fanteisio ar y cyllid sydd ar gael.  Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod yr amserlenni gwreiddiol ar gyfer y Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin wedi cael eu hymestyn i 2025/2026, ond mae’r cyllid sydd ar gael y flwyddyn nesaf yn sylweddol is o gymharu â’r cynllun gwreiddiol. Dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd fod £5m o gyllid ar gael ar gyfer 2025/2026, a bydd rhaid ei wario yn ystod y flwyddyn honno. Nid oes sicrwydd faint o gyllid fydd ar gael wedi hynny, ond mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau fod Ynys Môn yn derbyn cyfran o’r arian fydd ar gael. 

·     Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r 80 o swyddi a grëwyd neu a ddiogelwyd gan ddefnyddio arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod yr Awdurdod hwn wedi manteisio ar y Cynllun Lluosi. Roedd hyn yn gam cadarnhaol a oedd yn dangos gallu’r Partneriaid Cyflawni perthnasol i wario arian ychwanegol a gwireddu buddion ychwanegol ar gyfer yr Ynys. 

·     Nodwyd fod disgwyl i 76 o bobl dderbyn cefnogaeth iechyd meddwl ac iechyd corfforol fyddai’n arwain at gyflogaeth, ond y nifer gwirioneddol a gofnodwyd oedd 0. Gofynnwyd beth yw’r rhesymau am y bwlch sylweddol hwn. Dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd fod 46 o bobl yn derbyn cefnogaeth ar hyn o bryd. Bydd gwaith yn cael ei wneud gyda sefydliadau partner i ddarganfod pa rwystrau sy’n wynebu pobl ifanc wrth geisio symud o addysg i fyd gwaith. 

·     Nodwyd y byddai pobl yn wynebu ansicrwydd ynglŷn ag a fyddant yn parhau i gael eu cyflogi pan ddaw arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ben. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2025/2026 yn sylweddol is na’r arian a dderbyniwyd yn flaenorol, a bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â faint o brosiectau y gellir eu cefnogi, ac mae’n bosib na fydd contractau rhai pobl yn cael eu hymestyn. Ychwanegodd fod arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn berthnasol i’r Awdurdod hefyd, gan fod y Cyngor yn arwain rhai o’r prosiectau ac mae’n cyflogi staff o fewn y prosiectau perthnasol hyn. Dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd fod yr arian a dderbyniwyd ar gyfer 2025/2026 wedi cyrraedd yn hwyr a bod rhaid gwneud penderfyniadau’n gyflym er mwyn i Swyddogion yr adran Datblygu Economaidd sgorio’r prosiectau; bydd y sefydliadau perthnasol yn cael eu hysbysu am y penderfyniadau cyn gynted â phosibl. Pwysleisiodd fod angen pwyso i sicrhau fod gwybodaeth yn cael ei rannu am ffynonellau ariannu yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y prosiectau’n parhau. Dywedodd yr Arweinydd fod yr arian grant a dderbyniwyd yn llawer llai, er i Lywodraeth y DU roi sicrwydd y byddai’r cyllid ar lefel debyg i’r arian Ewropeaidd a fu’n cefnogi prosiectau dros nifer o flynyddoedd. Nododd bod contractau gweithwyr yn nodi y byddai eu contractau’n dod i ben ddiwedd Mawrth 2025. Er hynny, derbyniwyd arian ychwanegol, hyd at 2026, ond mae’n llawer is na’r arian blaenorol. Dywedodd ei bod yn holl bwysig defnyddio arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin i greu cyfleoedd cyflogaeth er mwyn caniatáu i bobl ymgeisio am swyddi parhaol, yn hytrach na dibynnu ar brosiectau sy’n cael eu hariannu gan grantiau. 

·     Gofynnwyd a fydd y cydweithio gyda’r trydydd sector yn parhau mewn perthynas â phrosiectau sy’n cael eu hariannu gan grantiau. Oherwydd yr argyfwng costau byw a thlodi, dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn hanfodol i’r cydweithio a’r trydydd sector barhau ar lefel strategol, foesegol ac ariannol. Er hynny, gan fod yr arian grant yn sylweddol is nag yn y gorffennol, bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â phwy fydd yn derbyn yr arian, er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiectau a gefnogir. Pwysleisiodd yr Arweinydd fod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn cefnogi prosiectau mewn cymunedau lleol.  Nododd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i sefydlu ffynhonnell ariannu ar gyfer y cyfnod o Ebrill 2026 ymlaen, gan fod ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn ag arian grant yn y dyfodol.

·     Gofynnwyd pa sicrwydd y gellir ei roi y byddai’r holl brosiectau’n llwyddo i gyrraedd eu cerrig milltir arfarnu a’u hymrwymiadau cyn cau’r prosiectau, a gofynnwyd beth yw’r broses fonitro. Dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd ei fod yn ffyddiog y byddai’r holl brosiectau’n cael eu cyflawni gan eu bod eisoes yn cyflwyno adroddiad cynnydd misol. 

·     Gofynnwyd pa gynlluniau a wnaed i roi cynlluniau Cynllunio Lle ar waith yn ystod y cyfnod cyflawni nesaf, a phwy fydd yn arwain y prosiectau. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd fod y cynlluniau Cynllunio Lle yn fater ar wahân i arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin a bod arian grant wedi’i sicrhau ar gyfer Amlwch a Chaergybi trwy broses ariannu’r cynllun Trawsnewid Trefi.   Nododd y byddai’r tair dref arall yn cael eu hystyried pan fydd capasiti ar gael a’i fod yn fodlon rhannu cynlluniau drafft gydag Aelodau mewn perthynas â phrosiectau Amlwch a Chaergybi.

·     Nodwyd nad yw’r ardaloedd gwledig yn derbyn cymorth ac ymddengys nad oes cynlluniau ar y gweill i fuddsoddi er mwyn caniatáu i bobl fyw a gweithio yn eu cymunedau. Gofynnwyd pam na chafodd y Strategaeth Dai ei chynnwys yn y cynlluniau ar gyfer arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn haws denu arian grant ar gyfer trefi’r Ynys na’r ardaloedd gwledig.  Nododd bod gwaith yn cael ei wneud i wella’r economi mewn ardaloedd gwledig e.e. adeiladu unedau diwydiannol. Dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd y byddai’n ceisio darganfod pam na chafodd y Strategaeth Dai ei chynnwys yn y cynlluniau ar gyfer arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yna’n adrodd yn ôl i Aelodau Etholedig. Nodwyd hefyd y gobeithir y bydd y weledigaeth ar gyfer yr arian grant yn 2026/2027 ac wedi hynny yn cynnwys ymestyn yr arian i gynnwys y pentrefi mwyaf ar yr Ynys. Dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd mai’r bwriad yw gweithio gyda sefydliadau partner i ddarganfod ym mhle y bu arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin o werth i gymunedau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·       Nodi cyflawniad llwyddiannus Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn a’r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd rhwng 2022 a 2025;

·       Nodi bod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn wedi’i gweithredu’n unol â chanllawiau Llywodraeth y DU;

·       Cydnabod rôl barhaus y Cyngor o ran rheoli’r cyllid ar yr Ynys, yn ogystal â chefnogi partneriaid cyflawni lleol;

·       Gofyn i Swyddogion am ddiweddariadau pellach mewn perthynas â chyflawni’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ystod 2025/2026.

 

GWEITHREDOEDD: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: