Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried a’i graffu, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn nodi cynnydd yn ystod y chwe mis diwethaf yn erbyn yr holl feysydd gwella yr oedd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi eu nodi yn dilyn ei arolygiad o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2022, a’r adolygiad gwiriad gwella dilynol ym mis Mehefin 2024.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, Cydraddoldeb a Diogelwch Cymunedol. Cyflwynodd grynodeb o’r cefndir, gan ddweud bod AGC wedi adolygu’r Gwasanaethau Cymdeithasol (y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion) ym mis Hydref 2022 fel rhan o’i Arolygiad Gwerthuso Perfformiad arferol. Roedd yr arolygiad yn amlygu meysydd cryfder, arfer dda a datblygiadau o fewn y gwasanaeth ac ni nodwyd unrhyw risgiau arwyddocaol na materion diogelu. Roedd yr ymweliad gwiriad gwella a gynhaliwyd gan AGC ym mis Mehefin 2024 yn asesu cynnydd mewn perthynas â’r meysydd i’w gwella a nodwyd yn flaenorol ac mae’r adroddiad yn crynhoi’r canfyddiadau a thystiolaeth. Lluniwyd Cynllun Datblygu er mwyn monitro gwelliannau a chyflwynwyd y cynllun a’r adroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mis Hydref 2024. Gofynnodd y pwyllgor am ddiweddariad pellach mewn chwe mis ac mae’r adroddiad hwn yn ymateb i’r cais hwnnw ac mae’n cynnwys, yn Atodiad 1, gynllun datblygu gwasanaeth a ddiwygiwyd sydd yn manylu ar gynnydd yn ystod y cyfnod hwnnw, yn erbyn y meysydd gwella a amlygwyd gan CIW.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod adroddiadau a gwybodaeth wedi’u rhannu’n gyson ag AGC trwy gydol y broses a bod yr Arolygiaeth yn fodlon â’r hyn a gyflwynwyd. Trefnwyd cyfarfod terfynol ym mis Mai er mwyn cwblhau’r broses.
Wrth gydnabod y cynnydd cadarnhaol a’r gwelliant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a amlygir yn yr adroddiad diweddaru, codwyd nifer o faterion gan y pwyllgor yn ystod y drafodaeth a ddilynodd ac ymatebodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, Cydraddoldeb a Diogelwch Cymunedol a’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion iddynt fel a ganlyn –
· Gofynnwyd cwestiynau am yr hyfforddiant a ddarperir i staff gofal cartref a gofynnwyd am sicrwydd bod yr holl staff yn cwblhau rhaglen hyfforddi gynhwysfawr er mwyn eu galluogi i ddiwallu anghenion cleientiaid, gan sicrhau profiad cadarnhaol i’r cleient yn sgil hynny. Holwyd ymhellach am drosolwg a monitro trefniadau a gwasanaethau a ddarperir.
Hysbyswyd y pwyllgor fod gan AGC ofynion caeth o ran rheoleiddio staff ac mae ganddo ddisgwyliadau uchel o ran hyfforddi staff. Dylid dwyn unrhyw bryderon am y maes hwn i sylw’r gwasanaeth yn ddiymdroi. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y gwasanaeth yn monitro ac adolygu ansawdd y ddarpariaeth gofal cartref ac mae’n cael ei reoleiddio a’i arolygu gan gorff allanol hefyd, sef AGC.
· Holwyd am restrau aros a ph’un a fyddai unigolion yn parhau i wynebu oedi cyn derbyn gofal a chymorth.
Hysbyswyd y pwyllgor bod rhestrau aros wedi gostwng ym mhob maes ers yr arolygiad. Serch hynny, mae heriau’n parhau o ran darparu gofal, yn enwedig mewn perthynas â recriwtio staff, er bod y sefyllfa staffio wedi sefydlogi bellach. Nodwyd y gallai’r sefyllfa newid, yn dibynnu ar ffactorau megis galw, argaeledd gweithwyr, anghenion penodol unigolion ac amrywiadau tymhorol.
· Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth eiriolaeth a holwyd beth yw’r trefniadau ar gyfer cynnig gwasanaethau eiriolaeth. Holwyd hefyd a yw canran cofnodi o 65% ar gyfartaledd yn haeddu statws Gwyrdd.
Hysbyswyd y pwyllgor fod eiriolaeth yn cael ei gynnig yn ystod y cyswllt cyntaf gyda’r cleient ac mae’r cynnig yn cael ei ailadrodd yn ystod cysylltiadau dilynol, neu pan fydd pecynnau gofal yn cael eu hadolygu. Mae hyn yn sicrhau fod unrhyw newidiadau o ran amgylchiadau, anghenion neu ddewisiadau’r cleient yn cael eu hystyried. Mae’r cynnig o eiriolaeth yn cael ei gofnodi ac mae cofnodion yn cael eu cadw er mwyn monitro mynediad i’r gwasanaeth a faint o bobl sy’n derbyn y cynnig. Er bod cael 100% o gleientiaid i dderbyn eiriolaeth yn her, oherwydd bod amgylchiadau’n newid, ystyrir bod cyfradd o 65% yn llwyddiant arwyddocaol. Serch hynny, mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i geisio sicrhau gwelliannau pellach yn y maes hwn.
· Nodwyd nad oes tystiolaeth gyson o lais a dewis pobl yn yr asesiadau a chynlluniau gofal a chymorth. Gofynnwyd cwestiynau am y trefniadau sydd ar waith i gryfhau llais defnyddwyr gwasanaeth.
Hysbyswyd y pwyllgor fod gweithwyr cymdeithasol wedi derbyn canllawiau ymarfer ar gofnodi lleisiau defnyddwyr yn ystod asesiadau a bod ffurflenni wedi’u diwygio er mwyn casglu eu safbwyntiau yn well. Cydnabyddir pa mor bwysig yw cynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn trafodaethau ynglŷn â’u gofal mewn hybiau a fforymau, er mwyn sicrhau fod eu lleisiau’n cael eu clywed. Nododd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, Cydraddoldeb a Diogelwch Cymunedol fod 110 o sylwadau cadarnhaol ynglŷn â gwasanaethau wedi’u derbyn erbyn diwedd Mawrth y llynedd, yn ogystal ag 19 o gwynion, ond nid oedd angen i ymchwilydd annibynnol ymchwilio’n ffurfiol i’r un o’r cwynion hynny.
· Nodwyd y byddai system gofnodi achosion digidol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn symud i system newydd a gofynnwyd am sicrwydd na fyddai cofnodion neu dystiolaeth, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, yn cael eu colli wrth gyflwyno’r system newydd, a bod trefniadau hefyd ar waith i gwrdd ag anghenion hyfforddi defnyddwyr y system. Gofynnwyd cwestiynau hefyd am y 631 o adroddiadau diogelu a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Oedolion a gofynnwyd am fwy o eglurder ynglŷn â chanlyniad y 236 o adroddiadau yr oedd angen gwneud ymholiadau diogelu yn eu cylch, er mwyn derbyn darlun mwy cyflawn o ymarfer diogelu.
Hysbyswyd y pwyllgor bod paratoadau’n mynd rhagddynt ar gyfer trosglwyddo i system ddigidol newydd, proses sy’n digwydd ar lefel genedlaethol gyda chymorth Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru. Cwblhawyd y broses flaenorol o fudo i’r system WCCIS yn llwyddiannus heb golli data, a rhoddwyd sicrwydd y byddai gwybodaeth yn cael ei ddiogelu hefyd wrth roi’r system newydd ar waith. Cafodd staff Gofal Cymdeithasol eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio ac addasu meddalwedd er mwyn diwallu anghenion lleol, a bydd yr holl staff yn derbyn cefnogaeth er mwyn sicrhau eu bod yn gallu defnyddio’r system yn fedrus. Yn ogystal, dyluniwyd y system newydd i dderbyn adborth ar y pryd gan ddefnyddwyr gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio wedyn i wella gwasanaethau. Mae disgwyl i’r system newydd fynd yn fyw mewn 12 i 18 mis ac mae bwrdd trosolwg yn monitro ei weithrediad. Mewn ymateb i gwestiynau pellach ynglŷn â sicrhau fod adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael ei gofnodi a’i dystiolaethu, hysbyswyd y pwyllgor fod dulliau ar gyfer casglu adborth yn cynnwys prosesau ffurfiol, megis cwynion a chanmoliaeth, a dulliau anffurfiol, megis cardiau diolch a mynegiant o ddiolch ar lafar. Mae AGC hefyd yn casglu barn defnyddwyr fel rhan o arolygiadau ac fe wnaeth yr arolygiaeth nodi bod nifer yr ymatebion gan ddefnyddwyr a dderbyniodd fel rhan o’i adolygiad o Wasanaethau Oedolion Ynys Môn yn uchel iawn. Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwasanaeth yn ymgysylltu’n barhaus â defnyddwyr gwasanaeth trwy gydol y broses ofal er mwyn adnabod anghenion a dymuniadau’r unigolyn, gan ddechrau gyda’r sgwrs “Yr hyn sy’n bwysig”.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod symud i system newydd yn newid sylweddol ac mae hyn wedi cael ei nodi fel risg a chyfle i’r Gwasanaethau Cymdeithasol arfarnu arferion presennol, nodi gwelliannau a gwella effeithiolrwydd yn ystod y deuddeg mis nesaf.
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddiweddariad ynglŷn â diogelu i aelodau, gan ddweud bod 22 o ymholiadau wedi’u derbyn ym mis Chwefror eleni a bod angen gweithredu ar 19 ohonynt. Mae’r gwasanaeth yn cadw cofnodion diogelu cynhwysfawr, gan gynnwys nifer yr achosion y mae angen cynllun diogelu ar eu cyfer ac unrhyw achosion sy’n arwain at ymchwiliad troseddol. Oherwydd natur sensitif y wybodaeth hon, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gall y gwasanaeth ei ddatgelu; serch hynny, gellir cyflwyno data ar ffurf canrannau i’r pwyllgor.
· Holodd y pwyllgor am y camau a gymerwyd i sicrhau fod cynlluniau gofal a chymorth yn cael eu hadolygu’n brydlon.
Hysbyswyd y pwyllgor y gallai cyfyngiadau o ran capasiti a llwyth gwaith trwm gweithwyr cymdeithasol effeithio ar y gallu i gynnal adolygiadau, ac mae achosion newydd neu frys yn cael blaenoriaeth dros achosion hirdymor, sefydlog. Er hynny, mae achosion sefydlog yn cael eu monitro’n rheolaidd trwy’r gwasanaethau a ddarperir a byddai adolygiad yn cael ei sbarduno pe byddai’r amgylchiadau’n newid.
· Cyfeiriwyd at bwysau’r gaeaf a gofynnwyd cwestiynau am ddull y gwasanaethau cymdeithasol o ddelio gyda phwysau’r gaeaf a’r gwersi a ddysgwyd o brofiadau’r gorffennol.
Hysbyswyd y pwyllgor ei bod yn bwysig cydweithio â phartneriaid er mwyn mynd i’r afael â phwysau’r gaeaf ac amlygwyd gwerth defnyddio dull ataliol er mwyn gwella iechyd a llesiant. Mae’r gwasanaeth yn adlewyrchu’n rheolaidd ar sut mae’n rheoli pwysau’r gaeaf er mwyn nodi gwersi a gwella ymatebion yn y dyfodol. Nodwyd bod gwella sicrwydd ynghylch cyllido yn ffactor allweddol a allai arwain at gryfhau trefniadau cynllunio ar gyfer heriau’r gaeaf. Wrth ymateb i gwestiynau pellach ynglŷn ag a yw cyllideb y Gwasanaethau Oedolion yn ddigonol, dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion ei fod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi buddsoddiad diweddar yr Awdurdod yn y gwasanaethau oedolion. Er hynny, dywedodd nad yw’r buddsoddiad yn ddigon i fynd i’r afael â’r holl heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth. Pwysleisiodd y byddai cyllidebau aml flwyddyn yn well, gan alluogi’r gwasanaeth i gynllunio’n fwy hyderus ar gyfer y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiynau ychwanegol ynglŷn â gofalwyr di-dâl, pwysleisiodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion fod hwn yn bwnc o ddiddordeb cenedlaethol ac yn destun trafodaeth barhaus. Cadarnhaodd iddo gyfarfod â gofalwyr di-dâl ar sawl achlysur, gan gynnwys yng Nghanolfan Glanhwfa ar gyfer pobl sy’n byw â dementia ac mewn hybiau cymunedol, a nododd fod y profiadau hynny’n rhai addysgiadol. Canmolodd y gofalwyr di-dâl am eu hymdrechion amhrisiadwy a thynnodd sylw at ymrwymiad yr Awdurdod i gefnogi eu hanghenion a hyrwyddo eu llesiant.
Ar ôl adolygu a chraffu ar gynnydd wrth weithredu’r rhaglen waith ôl-arolygiad a nodi’r sicrwydd a ddarparwyd gan swyddogion a’r Aelod Portffolio, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dderbyn yr adroddiad diweddaru’n ffurfiol.
Dogfennau ategol: