Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried a’i graffu, adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn cynnwys ymateb arfaethedig Cyngor Môn i’r ymgynghoriad ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Cyflwynodd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, ac roedd yn amlinellu ymateb arfaethedig y Cyngor i ymgynghoriad Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn sefydlu blaenoriaethau ac ymyraethau ar gyfer gwahanol rannau o’r system drafnidiaeth ac mae’n gosod y cyfeiriad ar gyfer y bum mlynedd nesaf. Bydd Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’n cael ei reoli a’i lywodraethu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig sydd â dyletswydd statudol i greu Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi sefydlu Is-bwyllgor Cynllunio Trafnidiaeth Strategol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau statudol. Mae’r is-bwyllgor wedi cyfarfod ac mae gwaith wedi’i wneud er mwyn drafftio’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Anogodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas bawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol cyn y dyddiad cau, sef 14 Ebrill 2025, a nododd fod tua 1,400 o bobl wedi cymryd rhan yn barod a bod dros 500 o bobl wedi ymweld â’r neuadd gymuned rithwir. Cynhaliwyd dwy sesiwn galw heibio hefyd fel rhan o’r broses ymgynghori, yng Nghaergybi a Llangefni.
Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ddogfen lefel uchel sydd yn amlinellu’r weledigaeth ar gyfer y rhanbarth. Nod ymateb arfaethedig y Cyngor i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yw cyd-bwyso blaenoriaethau strategol y rhanbarth gydag anghenion unigryw Ynys Môn, sydd, oherwydd ei natur wledig, yn wahanol iawn i rannau eraill y rhanbarth. Bydd yr ymateb drafft hefyd yn ymgorffori safbwyntiau aelodau etholedig, cynghorau tref a chymuned, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd. Gan fod disgwyl i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru: Llwybr Newydd - Strategaeth Trafnidiaeth i Gymru 2021, mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau fod y dyheadau’n rhai y gellir eu cyflawni o fewn cyfyngiadau polisi Llywodraeth Cymru. Er hynny, mae adolygiad Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, ac adolygiad o wytnwch pontydd y Fenai dan arweiniad yr Arglwydd Burns, yn darparu man cychwyn cadarn. Yn y pendraw, mae llwyddiant y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn dibynnu ar argaeledd adnoddau a chapasiti i roi’r Cynllun Cyflawni ar waith yn ystod y bum mlynedd nesaf. Mae’n hanfodol felly nad yw’r Cynllun yn codi disgwyliadau’n ormodol.
Codwyd y materion canlynol gan y pwyllgor yn ystod y drafodaeth ddilynol ynglŷn â’r ymateb arfaethedig i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol –
· Oherwydd pwysigrwydd strategol Porthladd Caergybi o ran gwasanaethu Cymru, y DU ac ar lefel ryngwladol er mwyn cysylltu Iwerddon â thir mawr Ewrop, holwyd am amserlen ar gyfer ailagor y porthladd yn llawn ar ôl iddo gael ei ddifrodi yn ystod Storm Daragh.
Hysbyswyd y pwyllgor bod disgwyl i’r ail angorfa a ddifrodwyd ailagor erbyn haf 2025, ond mae’n hynny’n amodol ar dderbyn cadarnhad gan Stena. Ffurfiwyd grŵp tasg gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru er mwyn archwilio pwysigrwydd y porthladd ac mae Arweinydd y Cyngor yn aelod o’r grŵp hwnnw. Nododd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo nad yw’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys rheilffyrdd a phriffyrdd ond, serch hynny, mae ymateb drafft y Cyngor wedi manteisio ar yr ymgynghoriad cyhoeddus i amlygu pryderon ynglŷn â gwytnwch pontydd y Fenai, ansawdd y rhwydwaith ffyrdd i Borthladd Caergybi a diffyg cyfleusterau ar gyfer gyrwyr lorïau, a hynny oherwydd arwyddocâd y materion hynny i’r Ynys.
· I ba raddau fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dylanwadu ar fersiwn derfynol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ac a fydd gan y Cyngor unrhyw ddylanwad ar y fersiwn derfynol.
Hysbyswyd y pwyllgor y byddai ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu casglu a’u dadansoddi gan grŵp ymgynghorol Arup a byddant yn defnyddio dull adborth ‘Dywedoch chi, Gwnaethom ni’. Cyflwynir adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i’r Is-bwyllgor Cynllunio Trafnidiaeth Strategol ym mis Mehefin ac i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mis Gorffennaf 2025.
· Holwyd am y berthynas rhwng y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a Bil Gwasanaethau Bysiau Cymru a chynigion masnachfreinio.
Rhannwyd gwybodaeth gyda’r pwyllgor am y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac sy’n diwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Mae’r bil yn cynnig symud gwasanaethau o reolaeth cwmnïau masnachol a’u rhoi o dan drosolwg cyhoeddus gan ddefnyddio model masnachfreinio ranbarthol mewn pedwar rhanbarth - Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru. Bydd y newidiadau’n cychwyn yn Ne-orllewin Cymru yn 2027 ac yng Ngogledd Cymru yn 2028. Er ei fod yn cyd-fynd â gweledigaeth y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, mae llwyddiant y bil yn dibynnu ar ddarparu cyllid digonol, yn arbennig er mwyn gwella cysylltedd mewn ardaloedd gwledig lle mae prinder o wasanaethau. Mewn ymateb i gwestiynau am ddarparu adnoddau, pwysleisiodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bwysigrwydd rhoi sylw dyledus i drafnidiaeth addysg, cyllid i’r trydydd sector, grantiau a thrafnidiaeth gymunedol, law yn llaw â’r prif wasanaethau bysiau, pan fydd yr arian yn cael ei ddyrannu. Bydd integreiddio’r agweddau hyn mewn trefniadau yn y dyfodol yn allweddol er mwyn creu system drafnidiaeth unedig. Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn ag i ba raddau fyddai’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn creu gwasanaeth di-dor, esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai awdurdodau lleol, o dan drefniadau masnachfreinio, yn rheoli llwybrau, amserlenni a ffioedd gan wella cydlyniad ac, o bosib, ganiatáu i deithwyr ddefnyddio un tocyn yn unig ar gyfer eu taith gyfan gan ddefnyddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth.
Nododd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod ymateb arfaethedig y Cyngor i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn amlygu’r diffyg ffocws ar ryng-gysylltedd, rhywbeth sy’n hanfodol er mwyn datblygu system drafnidiaeth integredig er mwyn mynd i’r afael ag anghenion cymunedau gwledig. Yn hytrach, ymddengys fod y cynllun yn canolbwyntio ar y gwahanol ddulliau trafnidiaeth ar wahân i’w gilydd.
· Mynegwyd pryderon nad yw’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft yn rhoi digon o sylw i anghenion unigolion sy’n byw mewn cymunedau gwledig ac sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus at ddibenion gwaith a busnes. Holwyd a oes unrhyw gynlluniau trafnidiaeth cymunedol yn bodoli neu a oes bwriad i’w datblygu.
Hysbyswyd y pwyllgor fod ymateb arfaethedig y Cyngor yn codi pryderon ynglŷn ag i ba raddau mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn mynd i’r afael â’r heriau unigryw a wynebir gan gymunedau gwledig sydd ag anghenion gwahanol iawn o gymharu â threfi a dinasoedd. Mae’n pwysleisio bod rhaid canolbwyntio mwy ar ddatrysiadau pwrpasol er mwyn goresgyn yr heriau hyn. Mae’r Cyngor wedi treialu cynlluniau trafnidiaeth cymunedol mewn rhannau o’r Ynys ac mae’n ymwybodol bod cynghorau eraill wedi edrych ar wahanol gynlluniau. Mae’r Cyngor yn bwriadu gofyn i Drafnidiaeth Cymru a’r Is-bwyllgor Cynllunio Trafnidiaeth Strategol gynnal astudiaethau i nodi’r model mwyaf addas ar gyfer ardaloedd gwledig, er mwyn sicrhau nad yw ateb trefol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer problem wledig.
· Gofynnodd y pwyllgor a oedd ymateb arfaethedig y Cyngor yn rhoi digon o bwyslais ar yr angen am gyllid digonol, gan nodi fod cyfyngiadau cyllido yn debygol o lesteirio’r hyn y gall y Cyngor ei gyflawni.
Hysbyswyd y pwyllgor fod pryderon ynglŷn â chyllido’n cael sylw yn y ddogfen wreiddiol a bod y Cyngor wedi cyfrannu at y ddogfen honno, gan godi’r pwyntiau a nodwyd. Mae newidiadau diweddar yng nghabinet Llywodraeth Cymru’n awgrymu newid posib mewn meddylfryd, gan godi gobeithion y gallai cyllido rhanbarthol yn y dyfodol gynnig mwy o hyblygrwydd er mwyn blaenoriaethu anghenion lleol. Byddai hyn yn caniatáu i’r Cyngor roi mwy o bwyslais ar fynd i’r afael ag anghenion cymunedau lleol a rhoi cynllun pwrpasol ar waith er mwyn diwallu’r anghenion hynny.
· Gofynnwyd a fyddai sylw digonol yn cael ei roi i anghenion unigolion sydd ag anableddau.
Hysbyswyd y pwyllgor fod asesiad anghenion penodol yn cael ei gynnal ar gyfer pob cynllun unigol a weithredir. Yn ei ymateb arfaethedig, mae’r Cyngor wedi gofyn a fyddai’r Arfarniad Llesiant Integredig yn berthnasol i’r rhaglen gyffredinol neu brosiectau unigol.
· Mae niferoedd teithwyr ar fysiau’n adfer yn araf ledled Cymru yn dilyn y pandemig a gofynnodd y pwyllgor a oedd hynny wedi cael ei ystyried. Gofynnodd aelodau gwestiynau hefyd ynglŷn â faint o gwymp a welwyd yn y defnydd o fysiau, ar Ynys Môn yn benodol.
Hysbyswyd y pwyllgor bod cael gafael ar ddata cywir ynglŷn â nifer teithwyr yn heriol, gan ei fod yn nwylo gweithredwyr masnachol. Yn gyffredinol, mae niferoedd teithwyr ar fysiau wedi bod yn fwy araf i ddychwelyd i’w lefelau arferol mewn ardaloedd gwledig. Ar yr Ynys, mae’r ffaith fod gweithredwyr wedi newid amserlenni yn aml a thorri gwasanaethau wedi cymhlethu’r broses o gasglu data. Er bod y data wedi’i gyhoeddi ddoe, mae’n anodd ei ymgorffori yn yr ymateb i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Awgrymodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y byddai’n fwy priodol rhoi sylw i’r mater hwn yn yr ymateb i’r Bil Gwasanaethau Bysiau y mae’r Llywodraeth yn ymgynghori arno tan fis Mai 2025. Byddai hynny’n caniatáu amser i graffu’r data, a’i ddefnyddio i gefnogi’r egwyddor o fasnachfreinio, wrth bwysleisio pwysigrwydd darparu atebion realistig nad ydynt yn codi gobeithion yn ddiangen.
· Holwyd am gynlluniau i wella gwytnwch pontydd y Fenai.
Hysbyswyd y pwyllgor bod llythyrau a anfonwyd at Lywodraeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru sydd ynghlwm i’r ymateb arfaethedig i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn amlygu’r effeithiau helaeth y gall unrhyw amharu ar Bont Menai neu Bont Britannia gael ar yr ynys. Mae’r Cyngor yn mynnu mai’r broblem sylfaenol yw diffyg gwytnwch yn hytrach na diffyg capasiti. Mae astudiaethau presennol yn archwilio atebion posib, megis gosod taflwyr gwynt a allai godi’r trothwy ar gyfer cau’r pontydd oherwydd gwynt. Er hynny, efallai y bydd rhaid trafod effeithiau mesurau o’r fath gyda CADW ac mae’r gwaith yn parhau i fynd rhagddo. Mae’r Cyngor wedi mynegi pryderon ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru pe byddai mesurau o’r fath yn aneffeithiol neu’n anymarferol, ac mae’n gofyn onid adeiladu trydedd bont yw’r datrysiad yn y pendraw.
Yn dilyn trafodaeth gynhwysfawr, daeth y pwyllgor i’r casgliad bod yr ymateb arfaethedig i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gadarn a realistig a’i fod yn mynd i’r afael â’r prif faterion sy’n berthnasol i Ynys Môn. Mynegodd yr aelodau eu diolch i Swyddogion am eu hymdrechion wrth baratoi’r adroddiad. Gwnaethpwyd cais ychwanegol, sef bod aelodau’n derbyn diweddariad blynyddol ar gynnydd a statws cynlluniau trafnidiaeth/ teithio a gwaith yn eu hardaloedd eu hunain.
Penderfynwyd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cymeradwyo ymateb arfaethedig Cyngor Sir Ynys Môn i’r ymgynghoriad ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, fel y caiff ei nodi yn Atodiad A i’r adroddiad a gyflwynwyd. (Ataliodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ei bleidlais.)
Gweithred ychwanegol a gytunwyd - Bod aelodau’n derbyn diweddariad blynyddol ar gynnydd a statws cynlluniau trafnidiaeth/ teithio a gwaith yn eu hardaloedd eu hunain.
Dogfennau ategol: