Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Roedd y Ddeddf hefyd yn sefydlu’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, gyda chynrychiolaeth gan gyrff cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae sefydliadau cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi dod ynghyd i gydweithio fel un Bwrdd. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydweithio fel sefydliadau partner er mwyn sicrhau fod cynlluniau strategol yn cyd-fynd ag amcanion llesiant lleol ac yn cefnogi’r dasg o’u gwireddu. Nododd mai’r brif her i’r Bwrdd yw sefydlu ymhle y gall ychwanegu’r gwerth mwyaf a gwneud gwahaniaeth gyda’r adnoddau a’r capasiti cyfyngedig sydd ar gael. Cyhoeddwyd Cynllun Llesiant Gwynedd ac Ynys Môn 2023-2028 ym mis Mai 2023 ac roedd yn amlygu tri amcan Llesiant penodol, fel y nodir yn yr adroddiad. Mae’r Iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd ac mae’n cael ei hyrwyddo ym mhob agwedd o waith y Bwrdd. Ychwanegodd fod seremoni wedi’i chynnal ym mis Mawrth 2025 er mwyn i’r ddau Gyngor lofnodi’r Siarter Teithio Llesol ac roedd Mr Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn bresennol.
Yn dilyn sylwadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor, dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod manylion ychwanegol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynglŷn â’r prosiectau sydd ar y gweill gan y Bwrdd a’r sefydliadau sy’n eu rhoi ar waith, ynghyd â’r canlyniadau a chynlluniau pellach i’w cyflawni yn y dyfodol. Mae methodoleg System Gyfan Pwysau Iach wedi ei fabwysiadu fel ffordd o weithio drwy waith y Bwrdd, a gallai ddylanwadu ar y dewis o fwydydd iach a fforddiadwy sydd ar gael a chreu cyfleoedd i bobl ymarfer a chadw’n heini. Ychwanegodd bod yr Iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd, fel y nododd y Dirprwy Arweinydd.
Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
· Gofynnwyd sut mae’r Bwrdd wedi blaenoriaethu meysydd lle gall ychwanegu’r gwerth mwyaf o ystyried yr adnoddau a’r capasiti cyfyngedig sydd ar gael iddo. Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai fod y diffyg adnoddau a chapasiti yn her i bob sefydliad partner ac i’r ddau Gyngor Sir. Nododd fod y Bwrdd yn dymuno cyflawni’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd. Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn mai hwn yw ail Gynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae gwersi wedi’u dysgu er mwyn caniatáu i sefydliadau partner weithio’n fwy effeithlon a rhannu adnoddau. Nododd fod gwaith rhanbarthol ychwanegol yn cael ei wneud bellach er mwyn elwa ar yr adnoddau sydd ar gael.
· Nodwyd bod Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru’n ymgynghori ar y Siarter Teithio Llesol ar hyn o bryd. Gofynnwyd a ddylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus weithio’n agos â’r Bwrdd Uchelgais gan fod ganddynt fwy o adnoddau i gwblhau’r gwaith. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr, fod y Siarter Teithio Llesol wedi cael ei hystyried a’i llofnodi er mwyn hwyluso teithio llesol a llesiant ar gyfer gweithwyr yn y sefydliadau partner. Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn ymgynghori ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru. Pan sefydlwyd y Bwrdd Uchelgais a’r Bwrdd Partneriaeth roedd sicrhau nad yw gwaith yn cael ei ddyblygu yn flaenoriaeth ac mae’r Byrddau’n cydweithio gan fod Arweinyddion Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn aelodau o’r Bwrdd Uchelgais a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
· Cyfeiriwyd at y Prosiect Gweithlu Dwyieithog a sefydlwyd i ystyried pam fod sefydliadau cyhoeddus yn cael anawsterau wrth recriwtio staff i swyddi lle mae’r Gymraeg yn ofynnol. Gofynnwyd oni ddylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gydweithio â Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru oherwydd bod ganddynt Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at restr o sefydliadau sy’n aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fel y nodir yn yr adroddiad o dan 1.3, a dywedodd fod gan rai o’r sefydliadau hyn gyfrifoldebau ehangach ar lefel Gogledd Cymru. Nododd fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn yn gallu trafod y materion sydd â chyd-destun penodol yn ymwneud ag Ynys Môn/Gogledd Cymru, yn hytrach na materion rhanbarthol (h.y. Gogledd Cymru).
· Gofynnwyd i ba raddau mae sefyllfa tlodi wedi effeithio ar weithredu’r cynllun llesiant. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr mai pwrpas y cynllun tlodi yw lleihau effaith tlodi. Dywedodd fod adnoddau’n brin, ond serch hynny mae’r Awdurdod yn gweithio gyda sefydliadau partner lleol a’r trydydd sector er mwyn ceisio lleihau effaith tlodi. Nododd ei bod yn bwysig rhannu arfer dda a dysgu gan arbenigwyr h.y. Sefydliad Bevan, er mwyn sicrhau fod tlodi’n cael ei ddehongli’n gywir. Ychwanegodd fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn yn gallu sicrhau fod yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael yn cael eu defnyddio’n effeithlon a bod penderfyniadau gwybodus yn cael eu gwneud. Nodwyd y gallai asiantaethau lleol bychan ddarparu gwybodaeth bwysig am bobl sy’n wynebu tlodi. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn statudol ond, er hynny, gellid ystyried sefydlu rhwydwaith o asiantaethau llai sy’n gweithio yn y gymuned ac y mae ganddynt rôl o ran cyflawni amcanion y Bwrdd (os oes adnoddau ar gael).
· Gofynnwyd pa wersi sydd wedi’u dysgu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn seiliedig ar brofiadau’r gorffennol, a sut maent wedi dylanwadu ar ei strwythur, er mwyn osgoi dyblygu gwaith a wneir gan y sefydliadau partner. Ymatebodd y Prif Weithredwr trwy ddweud nad yw’r Bwrdd yn debygol o ddyblygu gwaith sefydliadau partner, a hynny oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau. Nododd fod gweithio gyda’r Bwrdd yn gyfle i ddylanwadu ar sefydliadau partner eraill a rhannu arferion da. Cafwyd enghreifftiau gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn o’r gwaith sydd wedi’i wneud gan y Bwrdd mewn perthynas â Phwysau Iach a Thlodi ac y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Nododd ei bod yn bwysig rhannu arferion da ac osgoi dyblygu gwaith sefydliadau eraill. Gofynnwyd rhagor o gwestiynau am gynnydd yn nifer y siopau tec-awê ar y stryd fawr a gofynnwyd a yw’r Awdurdod Iechyd yn ymateb i’r broses gynllunio pan fydd cyfleusterau o’r fath yn agor, a hynny o safbwynt materion pwysau iach. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Bwrdd Iechyd bellach yn ymateb i’r broses gynllunio. Nododd fod gan yr Awdurdod gynllun strategol, trwy Môn Actif, sy’n blaenoriaethu bod yn iach ac actif.
· Gofynnwyd sut all amcan lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cyrraedd eu potensial. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod sefydliadu partner yn cytuno fod yr ‘amcan plant a phobl ifanc’ yn flaenoriaeth, er mwyn caniatáu gwaith i gael ei wneud mewn meysydd penodol megis effaith trawma ar flynyddoedd cynnar plentyn a’u cyflawniadau, a dyfodol plant a phobl ifanc. Nododd fod pob aelod o’r Bwrdd yn derbyn hyfforddiant ar y cynllun Gwybodus am Drawma er mwyn eu galluogi i adnabod effeithiau trawma ar blant a phobl ifanc. Mae gwaith rhanbarthol yn cael ei wneud hefyd er mwyn amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael i alluogi pobl ifanc i fedru gweithio o fewn eu cymunedau lleol yn hytrach na gorfod gadael er mwyn cael gwaith.
· Cyfeiriwyd at yr amcan ‘ymgysylltu lleol’, ac yn enwedig anghenion y gymuned leol trwy wella mynediad a thrafnidiaeth ym Mro Aberffraw. Gwnaethpwyd sylw bod angen i fwy o Swyddogion o’r Awdurdod a sefydliadau eraill fynychu cyfarfodydd ymgysylltu â’r gymuned, yn enwedig ym mhentref Niwbwrch. Nodwyd y byddai’r prosiectau ym Mro Aberffraw yn parhau hyd fis Chwefror 2026, fel y nodir yn yr adroddiad. Holwyd am brosiectau yn yr ardal yn y dyfodol, ar ôl Chwefror 2026. Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod blaenoriaethau’r prosiect ‘ymgysylltu lleol’ yn effeithio ar bobl sy’n byw ac yn gweithio yn ward Bro Aberffraw. Nododd mai’r gobaith yw y byddai mesurau a gyflwynir yn y tymor byr a’r tymor hir yn mynd i’r afael â phroblemau traffig yn yr ardal oherwydd bod cynifer o bobl yn ymweld â’r ardal. Cyfeiriodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn hefyd at y cynlluniau ar gyfer ward Bro Aberffraw yn dilyn Chwefror 2026 a nododd y byddai angen cynnal adolygiad i fesur effeithiolrwydd Grŵp Bro Aberffraw. Dywedodd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithredu ar sail Tasg a Gorffen wrth roi sylw i brosiectau ac allbynnau penodol.
· O ystyried bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig newydd wedi’i sefydlu, gofynnwyd beth fydd rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac a oes perygl y gallai hynny arwain at ddyblygu. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod strwythurau llywodraethu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn weithredol a bod ganddo flaenoriaethau clir. Nododd fod ardaloedd daearyddol yng Ngogledd Cymru’n wahanol i’w gilydd ac nad yw blaenoriaethau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’u cynnwys ar hyn o bryd yng nghylch gorchwyl/llywodraethiant y Cyd-bwyllgorau Corfforedig.
· Holwyd pa brosiectau sydd heb eu cwblhau eto. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod gwaith y Bwrdd Gwybodus am Drawma wedi llithro oherwydd anhawster i ddod â’r holl sefydliadau partner at ei gilydd er mwyn derbyn hyfforddiant, ond cytunwyd ar ddyddiadau er mwyn i Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod gynnal hyfforddiant yn y dyfodol agos. Ychwanegodd fod prosiect Tlodi’r Bwrdd wedi llithro hefyd, yn ogystal â’r gweithdai gyda Sefydliad Bevan. Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i fod yn Awdurdod sy’n Wybodus am Drawma ar draws holl wasanaethau’r Cyngor a chymunedau Ynys Môn. Nododd fod bod yn rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn yn caniatáu i’r holl sefydliadau partner fod yn Wybodus am Drawma.
PENDERFYNWYD derbyn trefniadau llywodraethiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Llesiant 2023-2028 a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023.
Dogfennau ategol: