Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod Llywodraethau’r DU a Llywodraeth Cymru wedi gwahodd bidwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn 2022. Ardaloedd dynodedig yw Porthladdoedd Rhydd lle mae nifer o gymhellion economaidd ar gael i ysgogi’r economi leol ac annog twf a buddsoddiad. Datblygwyd Porthladd Rhydd Ynys Môn i gyd-fynd yn llawn â gweledigaeth, amcanion a gwerthoedd Cynllun y Cyngor 2023-2028, gan ganolbwyntio’n benodol ar gydweithio, yr iaith Gymraeg, hyrwyddo’r ynys a hyrwyddo cyfleoedd fydd yn creu swyddi a thwf yn yr economi. Mae’r Porthladd Rhydd yn gyfle i ddenu buddsoddiad newydd sylweddol gan y sector preifat ac mae hyn yn hynod o bwysig o ystyried y cyd-destun, gan fod nifer sylweddol o swyddi wedi eu colli yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, gan effeithio ar yr ynys. Dywedodd bod safleoedd dynodedig eraill ar yr Ynys a allai fanteisio ar statws y Porthladd Rhydd.
Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
· Gofynnwyd pa gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant allai ddeillio o’r Porthladd Rhydd a holwyd a fyddai isadeiledd yr Ynys yn gallu cynnal mewnlifiad o weithwyr? Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod rhaid i’r Awdurdod fod yn realistig ac ni ddylid codi disgwyliadau ynglŷn â chyfleoedd cyflogaeth a allai ddeillio o’r Porthladd Rhydd ar gychwyn y broses; rhagwelir y bydd y prosiect Porthladd Rhydd yn creu rhwng 3,000 a 4,000 mewn blynyddoedd i ddod. Nododd y byddai’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn ddibynnol ar y cwmnïau sy’n dewis lleoli eu busnesau yn yr ardaloedd dynodedig ar yr Ynys. Mae Grŵp Llandrillo Menai, M-Sparc a Phrifysgol Bangor, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’r Bwrdd Uchelgais yn rhan o drafodaethau ynglŷn â photensial y Porthladd Rhydd a byddant yn barod i ddarparu cyfleoedd hyfforddi pan fydd gwybodaeth ar gael ynghylch pa fusnesau fydd yn sefydlu yn yr ardaloedd dynodedig.
· Gofynnwyd a fyddai’r gyllideb flynyddol o £600k yn ddigon i gwrdd ag anghenion gweithredol Porthladd Rhydd Ynys Môn. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd y credir bod y gyllideb flynyddol o £600k yn ddigonol gan fod y Porthladd Rhydd yn gymharol fychan o gymharu â Phorthladdoedd Rhydd eraill, a bydd cwmnïau sy’n sefydlu yn yr ardaloedd dynodedig yn cyfrannu arian.
· Nodwyd y gallai denu mewnlifiad o weithwyr i ardal wledig Gymraeg ei hiaith gael effaith ar yr iaith Gymraeg. Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd y byddai sicrhau cyfleoedd cyflogaeth yn sicrhau dyfodol yr Ynys gan y byddai darparu gwaith i bobl ifanc yn gwarchod yr iaith Gymraeg. Bydd plant teuluoedd sy’n adleoli i’r Ynys yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion lleol a bydd yn diogelu’r iaith Gymraeg mewn cymunedau lleol. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mai un o dri amcan strategol y prosiect Porthladd Rhydd yw’r ymrwymiad i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ac mae’r ddwy Lywodraeth, yn ogystal â’r sefydliadau partner, wedi cydnabod yr iaith a bydd yn cael ei hadlewyrchu yn y cytundebau cyfreithiol gyda’r busnesau fydd yn sefydlu yn yr ardaloedd dynodedig.
· Gofynnwyd a fyddai’r dair swydd a nodwyd ar gyfer y cwmni yn ddigon i gyflawni’r gwaith helaeth sydd angen ei wneud er mwyn gwireddu’r Porthladd Rhydd. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r dair swydd o fewn y cwmni’n tynnu pwysau oddi ar staff yr adran Datblygu Economaidd ac y byddant yn derbyn cyfrifoldeb am waith cydymffurfiaeth ac adrodd i’r ddwy Lywodraeth.
· Cyfeiriwyd at amcangyfrifon y prosiect sy’n nodi y gallai tua 3,500 o swyddi newydd gael eu creu ar hyd a lled Gogledd Cymru. Gofynnwyd a fyddai trefniadau ar waith i wneud y mwyaf o gyfleoedd cyflogaeth lleol/rhanbarthol. Ategodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd y sylw mai amcangyfrif yw’r ffigwr o 3,500 o swyddi ac mae’r nifer gwirioneddol yn ddibynnol ar y cwmnïau fydd yn sefydlu ar yr Ynys fel rhan o’r dynodiad Porthladd Rhydd. Dywedodd y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau fod pobl Ynys Môn yn derbyn cyfleoedd am waith.
· Gofynnwyd a fyddai ffin ar draws yr Ynys mewn perthynas â’r Porthladd Rhydd. Gwnaethpwyd sylwadau hefyd fod angen gwarchod hawliau gweithwyr. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod y Cyngor yn disgwyl am gadarnhad gan y ddwy Lywodraeth ynglŷn â llacio’r rheolau yng Ngogledd yr Ynys. Cyfeiriodd at hawliau gweithwyr a nododd bod Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru’n wahanol i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr, yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod yr Ynys gyfan wedi’i chynnwys yn y statws Porthladd Rhydd, yn unol â chanllawiau cenedlaethol.
· Gofynnwyd a fyddai’r Heddlu ac asiantaethau gorfodaeth eraill yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau ynglŷn â’r statws Porthladd Rhydd, gan y gallai gweithgareddau anghyfreithlon arwain at broblemau. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mai’r Awdurdod yw’r corff atebol a phan fydd natur y busnesau fydd yn sefydlu yn yr ardaloedd dynodedig yn eglur, rhoddir trefniadau ar waith mewn perthynas â gofynion cefnogi a gorfodaeth.
· Gofynnwyd a fyddai ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau ar y safle dynodedig yn cael eu hystyried trwy broses gynllunio’r Awdurdod. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y byddai’r broses gynllunio’n digwydd trwy brosesau cynllunio’r Awdurdod. Nodwyd y byddai’r Cyngor yn gwahodd Safleoedd Ymgeisiol drwy’r broses Polisi Cynllunio wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn. Gofynnwyd a fyddai angen cyflwyno datblygiadau ar y safleoedd dynodedig fel Safleoedd Ymgeisiol? Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod yr holl safleoedd dynodedig wedi’u dynodi’n safleoedd cyflogaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith yn mynd rhagddo ar dri safle, sef safle 2Sisters yn Llangefni, hen safle Alwminiwm Môn a chaniatâd amlinellol ar gyfer ail adeilad yn Msparc.
· Nodwyd y byddai angen gweithwyr crefftus er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a grëir yn sgil y Porthladd Rhydd. Gofynnwyd a oes digon o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl ifanc yr Ynys ac a oes digon yn cael ei wneud i dynnu eu sylw at y cyfleoedd fydd yn cael eu creu gan y Porthladd Rhydd yn y dyfodol. Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd y byddai Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor, trwy Msparc a’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol, yn hanfodol er mwyn hyrwyddo’r sgiliau angenrheidiol, pan fydd yn eglur pa gyfleoedd cyflogaeth fydd ar gael.
· Gofynnwyd a fydd yr Awdurdod yn gallu dylanwadu ar y math o fusnesau fydd yn sefydlu yn y safleoedd dynodedig. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y byddai nodau ac amcanion y Porthladd Rhydd yn cael eu hadlewyrchu yn y cytundeb gydag aelodau’r Porthladd Rhydd a thirfeddianwyr.
· Gofynnwyd i ba raddau mae’r cynnydd mewn tollau ar nwyddau sy’n cael eu hallforio i’r Unol Daleithiau’n effeithio ar amcan y Porthladd Rhydd o hybu masnach ryngwladol. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Reolwr Datblygu Economaidd fod gwaith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael ag effaith bosib y cynnydd yn y tollau, a dywedodd y byddai’n adrodd i’r Pwyllgor ar y gwaith hwnnw maes o law.
PENDERFYNWYD:-
· Cydnabod rôl y Cyngor o ran datblygu Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan gynnwys cyflwyno’r Achosion Busnes Amlinellol a Llawn;
· Cydnabod cadernid y trefniadau llywodraethu a throsglwyddo o’r Bwrdd Cysgodol i’r Bwrdd Llawn;
· Nodi’r camau nesaf o ran cadarnhau’r Porthladd Rhydd, gan gynnwys yr angen i gymeradwyo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru cyn y daw’r Porthladd Rhydd yn weithredol.
Dogfennau ategol: