Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu’r Prif Weithredwr, ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei gyfnod yn yn swydd y mae ei dymor yn dod i ben.
Cofnodion:
Gwnaethpwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-
· Llongyfarchwyd Mr Medwyn Williams, y garddwr o Lanfairpwll, a oedd yn dathlu 50 mlynedd o werthu llysiau ar hyd a lled y DU yn ddiweddar, yn ogystal â dathlu 75 mlynedd ers iddo ddechrau garddio. Mae Mr Williams wedi derbyn llu o anrhydeddau yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys MBE, ac mae o wedi ennill y Fedal Aur 14 o weithiau yn Sioe Flodau Chelsea.
· Llongyfarchwyd Mr Roger Tebbutt a Mrs Debbie Tebbutt o Ynys Môn am ennill y gystadleuaeth gorau yn y brid yn Crufts ym mis Mawrth gyda’u Bleiddgi Gwyddelig, Tozie.
· Llongyfarchwyd Alys Bailey-Wood o Ynys Môn a gafodd ei chydnabod yn ddiweddar am ennill y Wobr King’s Scout, y wobr uchaf a roddir gan y Sgowtiaid, a hynny mewn digwyddiad yng Nghastell Windsor. Rhoddir y wobr am gyflawniad personol eithriadol ac mae’n cael ei rhoi i Sgowtiaid rhwng 16 a 25 oed.
· Dymunwyd yn dda i’r cyn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) Iona Beckman wrth iddi ymddeol o’i swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru. Bu Iona Beckman yn gwasanaethu cymunedau Ynys Môn, a Benllech ac Amlwch yn arbennig, am 18 mlynedd fel rhan o’r tîm heddlua cymunedau lleol.
· Llongyfarchwyd Laura Wannop, sydd yn weithiwr cymorth meithrin gyda thîm Maethu Cymru Môn, gan ei bod wedi cwblhau Marathon Manceinion yn ddiweddar yn ei chrys-t piws Maethu Cymru Môn arbennig.
· Llongyfarchwyd Osian Perrin o Menai Track and Field wedi iddo dorri record ras ffordd 5k Cymru ym mis Mawrth. Roedd y record flaenorol yn bodoli ers 40 mlynedd.
· Llongyfarchwyd tîm dan 14 Clwb Rygbi Llangefni a enillodd Gwpan Rygbi Gogledd Cymru yn ddiweddar a thimau dan 14 a dan 16 y genethod a enillodd gystadleuaeth y plât.
· Llongyfarchwyd y bariton Steffan Lloyd Owen o Ynys Môn a enillodd gystadleuaeth fawreddog Canwr Operatig Rhyngwladol Josep Palet ddiwedd mis Mawrth.
· Llongyfarchwyd Côr Esceifiog a enillodd y wobr am y perfformiad gorau gan unrhyw gôr yn yr ŵyl gerddoriaeth Ban Geltaidd yn Carlow, Iwerddon.
· Dywedodd y Cadeirydd bod Theatr Fach yn Llangefni wedi dathlu ei phen-blwydd yn 70 yn gynharach yn y mis. Mae’r theatr wedi diddanu a chynnig cyfleoedd i nifer o bobl leol dros y blynyddoedd, diolch i waith caled ac ymroddiad y gwirfoddolwyr.
· Llongyfarchwyd pawb fu’n cymryd rhan yn Eisteddfod Môn dros y penwythnos a dymunwyd yn dda i blant a phobl ifanc fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddiwedd y mis.
* * * *
Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn dymuno cydnabod a llongyfarch Clwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi ar eu llwyddiant diweddar o gael eu dyrchafu i haen dau yn y gynghrair bêl-droed. Roedd yn dymuno llongyfarch Mr Alex Jones hefyd, sef capten Clwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi am wasanaethu’r tîm am 25 mlynedd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans hefyd at lwyddiant Mr Jackson Hadden, Pencampwr Bocsio Cymru ym Mhencampwriaethau Bocsio Cymru a Mr Rocko Jones a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn yr un gystadleuaeth. Nododd bod Clwb Bocsio Môn Draig Goch, a sefydlwyd yn ddiweddar, yn llwyddo i gefnogi pobl ifanc i fod yn bencampwyr yn y dyfodol.
* * * *
Nododd y Cadeirydd bod y Cyngor Sir a chydweithwyr o Lu Awyr Brenhinol y Fali wedi dathlu 80 mlynedd ers Diwrnod VE ar 8 Mai, trwy gynnal seremoni codi baner tu allan i Swyddfeydd y Cyngor. Roedd aelodau wedi mynychu digwyddiad gyda’r nos i gofio Diwrnod VE hefyd, a gynhaliwyd ym Mynydd Parys. Roedd y ddau ddigwyddiad yn gyfle i gofio’r genhedlaeth a aberthodd cymaint er mwyn i ni fwynhau ein rhyddid heddiw.
* * * *
Cydymdeimlwyd â theulu Mrs Sharon Warnes, a fu farw’n ddiweddar. Roedd Mrs Warnes yn aelod uchel ei pharch o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor a bu’n aelod o’r Pwyllgor Safonau yn y gorffennol hefyd.
* * * *
Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu staff oedd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Safodd yr Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.