Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2024/25

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2024/25.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod thema’r adroddiad yn adlewyrchu ei flaenoriaethau wedi iddo gael ei ethol yn Arweinydd ym mis Medi 2024 ac maent yn cyd-fynd a chwe amcan strategol y Cyngor sydd wedi eu nodi yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028. Nododd bod parch tuag at y Cyngor yn amlwg ledled y rhanbarth. 

 

Cyfeiriodd at y maes addysg a dywedodd fod Uned Graig Fach wedi agor yn Ysgol y Graig ym mis Mehefin 2024 a bod gwaith atgyweirio adeiladau, gan gynnwys gwaith yn gysylltiedig â choncrit RAAC yn Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes, wedi’i gwblhau. Roedd yn dymuno diolch i wasanaethau’r Cyngor a fu’n gweithio’n effeithiol i sicrhau fod yr ysgolion yn gallu parhau i ddarparu addysg a chefnogaeth i’r disgyblion. Cyfeiriodd hefyd at y Canolfannau Iaith sydd yn gwbl weithredol a dywedodd iddo gael y pleser o ymweld ag Ysgol Gynradd Llanfairpwll yn ddiweddar. 

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr elfen gofal cymdeithasol a nododd bod yr Awdurdod wedi buddsoddi mewn 4 Cartref Clyd. Mae hynny’n sicrhau bod plant yn derbyn gofal o’r ansawdd orau heb orfod gadael eu cymunedau.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr economi a thynnodd sylw at arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin gwerth £16m a dderbyniwyd tuag at brosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol. Mae bron i 400 o fusnesau, mentrau a sefydliadau wedi derbyn grantiau trwy’r cynllun ac mae 631 wedi derbyn cymorth ychwanegol. Nododd bod caniatâd cynllunio wedi’i roi i 10 busnes newydd yn Amlwch. Ychwanegodd bod gwaith yn parhau i fynd rhagddo mewn perthynas â’r statws Porthladd Rhydd a bydd yn gyfle i wella economi Gogledd Cymru. 

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr elfen dai a nododd bod 63 o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd fel cartrefi. Nododd fod gwaith wedi’i wneud i warchod Fflatiau Plas Alltran, Caergybi, sy’n adeilad rhestredig Gradd II a fu mewn cyflwr gwael ers nifer o flynyddoedd. Mae datblygiadau wedi’u cwblhau yn Llys Llwydiarth, Ffordd Kyffin a Chilfach Gwta ac mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn wedi cwblhau 45 uned yn y Fali hefyd.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y statws a roddir i’r Gymraeg fel nod strategol yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028 ac mae’n gam pwysig o ran cadarnhau statws y Gymraeg o fewn y Cyngor. Mae Fforwm y Gymraeg wedi dathlu ei deg mlwyddiant, yn dilyn ei sefydlu yn 2014, ac roedd yn bleser gweld cymaint o bobl yn gwrando ar gyfraniadau rhai o aelodau’r Fforwm yn Sioe Môn fis Awst diwethaf, er mwyn dathlu’r garreg filltir. Dywedodd bod y gefnogaeth barhaus trwy Fforwm y Gymraeg yn dyst i’r dymuniad a’r penderfyniad i sicrhau fod y Gymraeg yn parhau i ffynnu a sefydlu’r iaith fel prif elfen Cynllun y Cyngor. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones i’r Arweinydd am ei adroddiad a gofynnodd am gyfarfod brys mewn perthynas â materion addysg, ac yn benodol methiant plant i gael eu derbyn i’r ysgol gynradd a ffafrir ganddynt oherwydd bod polisïau addysg yn pennu bod rhaid cludo’r plant i ysgol arall. Mae digon o leoedd yn yr ysgol a ffafrir gan y plant ac mae’n fodlon derbyn. Rhoes yr Arweinydd sicrwydd y byddai’n gwneud trefniadau i drafod y mater.

 

Dogfennau ategol: