Eitem Rhaglen

Log Gweithredoedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys log gweithredu’r pwyllgor, i'w ystyried. Mae'r adroddiad yn diweddaru'r Pwyllgor ar statws a chynnydd y camau gweithredu a'r penderfyniadau yr oedd wedi cytuno arnynt.

 

Cyflwynwyd y diweddariadau ychwanegol canlynol ar lafar yn y cyfarfod –

 

·      Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ar fanteision cydweithrediad y Cyngor â cholegau lleol a rhanbarthol, yn enwedig ei rôl wrth fynd i'r afael ag anghenion recriwtio a sgiliau yn ogystal â llenwi swyddi gwag (eitem 21 ar y log gweithredu). Dywedodd wrth y pwyllgor fod gan y Cyngor femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai a'i fod wedi bod yn gweithio'n helaeth gyda'r Grŵp dros y deunaw mis diwethaf.

 

Y mis nesaf, bydd y Cyngor yn lansio menter "Cam i'r Gwaith" mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai. Bydd y fenter hon yn rhoi cyfle i bum person ifanc heb unrhyw brofiad gwaith blaenorol weithio yn y Cyngor i ddechrau am un diwrnod yr wythnos gan roi profiad iddynt o rolau ymarferol na fyddent efallai wedi'u hystyried fel arall.

 

Drwy Grŵp Llandrillo Menai mae'r Cyngor yn cynnig rhaglen brentisiaeth dreigl gyda naw prentis sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y Gwasanaethau Tai sydd â pherthynas agos â'r grŵp. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor yn cydweithio â Phrifysgol Bangor ar raglen MA Gwaith Cymdeithasol sydd â deuddeg o fyfyrwyr ar hyn o bryd ac sy'n gyfrwng allweddol ar gyfer recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Mae'r Cyngor hefyd wedi ail-lansio ei gynllun graddedigion, ac yn ddiweddar hysbysebwyd tair swydd sydd ar gael yn 2025. Ar ben hynny, mae wedi cymryd rhan weithredol mewn sesiynau cynllunio gweithlu dan arweiniad y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid hefyd at Raglen Denu Talent y Cyngor sy'n cynnig profiad gwaith â thâl yn ystod misoedd yr haf. Roedd y rhaglen yn arbennig o lwyddiannus y llynedd pan arweiniodd tri o'r pum lleoliad o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol at apwyntiadau parhaol o fewn gwasanaethau gofal. Er bod cynlluniau i symud ffocws y rhaglen i faes gwasanaeth arall, mae'r heriau recriwtio parhaus ym maes gwasanaethau cymdeithasol yn golygu bod ei phwyslais parhaus ar y maes hwnnw yn parhau i fod yn werthfawr.

 

Nododd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid y gall colegau ond gynnal cyrsiau a rhaglenni os ydynt yn denu nifer ddigonol o fyfyrwyr, sy'n rhywbeth na all y Cyngor fel awdurdod llai, bob amser ei warantu. Mewn ymateb i gwestiynau am fylchau recriwtio sy’n dal i fodoli, cydnabu fod yr adran gwasanaethau cyfreithiol yn wynebu heriau ar hyn o bryd. O ystyried ei maint, nid yw’r adran yn gallu cefnogi datblygiad hirdymor ac mae atebion posibl yn cael eu hystyried.

 

·      Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar yr incwm/arbedion a gynhyrchir yn sgil gosod paneli solar ar adeiladau'r cyngor drwy gyllid Salix (eitem 22 ar y log gweithredu). Mae'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr adran Gwasanaethau Eiddo yn dangos bod 45 o brosiectau ynni solar wedi'u cwblhau ers 2020 am gyfanswm cost o £1.6m wedi'i ariannu gan fenthyciadau di-log gan Salix. Dechreuodd y prosiectau hyn ar adegau gwahanol dros y pum mlynedd diwethaf ac amcangyfrifir bod y trydan a gynhyrchir yn dod i 3.49GW sydd, yn ôl gwerthoedd presennol, yn cyfateb i £700,000. O ran prif adeilad swyddfa'r Cyngor, tynnodd Swyddog Adran 151 sylw at y ffaith bod y system baneli solar a osodwyd ym mis Hydref 2020 am gost o £78,000 hyd yn hyn wedi cynhyrchu 266,000 KW o drydan, gwerth £56,000. Os yw'r gyfradd hon o gynhyrchu trydan yn parhau, disgwylir i'r system glirio’r costau erbyn 2027. O ystyried mai oes y paneli solar fydd 25 mlynedd, byddai hyn yn arwain at 18 mlynedd o ostyngiad mewn costau ynni i'r Cyngor. Mae gwaith dadansoddi’n parhau a gellir darparu adroddiad ychwanegol ar gais. Nodwyd na fydd benthyciadau Salix bellach yn cael eu cynnig yn ddi-log yn y dyfodol ac yn hytrach byddant ar gael ar sail cyfradd llog o 2.5%. Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi llwyddo i sicrhau benthyciadau di-log ychwanegol gwerth £400,000 a fydd yn cael eu dyrannu i gynlluniau arbed ynni.

 

Nododd y Pennaeth Archwilio a Risg mewn perthynas ag eitem 10 ar y log gweithredu fod dadansoddiad economaidd-gymdeithasol ac adroddiad effaith Quod Ynys Môn wedi'i gwblhau ond nad yw wedi'i gyhoeddi eto. Cadarnhaodd fod eitem 23 wedi'i chwblhau a nododd nad yw'r eitemau sy'n weddill ar y log i'w cwblhau tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Penderfynwyd nodi'r camau gweithredu y manylir arnynt yn y tabl log gweithredu a chadarnhau bod y Pwyllgor yn fodlon bod y camau gweithredu wedi'u gweithredu’n foddhaol.

 

Dogfennau ategol: