10.1 – FPL/2025/11 – Maes Merddyn, Brynsiencyn
Cofnodion:
10.1 FPL/2025/11 – Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd marchnad agored ac 19 annedd fforddiadwy ynghyd â gwaith datblygu cysylltiedig ar dir ger Maes Merddyn, Brynsiencyn
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod elfen marchnad agored y cynllun yn gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu ar y Cyd gan ei fod y tu allan i’r ffin ddatblygu, fodd bynnag mae sefyllfa y gellir disgyn yn ôl arni ac felly mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn y dylid ei gymeradwyo.
Siaradwr Cyhoeddus
Dywedodd Mr Jamie Bradshaw, asiant y cais, wrth gefnogi'r cais, mai cynnig yw hwn ar gyfer cynllun o dai fforddiadwy yn bennaf i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i ddiwallu angen tai a nodwyd ym Mrynsiencyn. Mae'r cynllun yn darparu cymysgedd o gartrefi fforddiadwy 'traddodiadol' a thai marchnad agored cost isel. Mae hyn yn dilyn datblygiad blaenorol a gymeradwywyd ar y safle ar gyfer 13 tŷ, dim ond 4 ohonynt fyddai'n fforddiadwy, a gyda'r mwyafrif yn gartrefi mawr sengl. Dechreuwyd y caniatâd hwnnw gan berchennog blaenorol y safle ac felly mae'n dal yn weithredol, neu'n bodoli, a gellid ei gwblhau ar unrhyw adeg. Mae'r cynnig ar gyfer 20 tŷ ac 8 fflat, gyda 19 o'r rhain yn gartrefi fforddiadwy traddodiadol, a 9 yn dai marchnad agored cost isel. Mae'r safle yn cael ei ddatblygu ar gyfer Clwyd Alyn, a fyddai'n cynnig y tai i bobl leol sydd angen tai fforddiadwy. Yn bwysig iawn, mae angen clir ar gyfer yr anheddau sy'n cael ei gadarnhau gan y dystiolaeth yng nghofrestri Tai Cymdeithasol a Tai Teg, ac felly byddai'r datblygiad yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y rhan hon o'r Ynys; mae'r Swyddogion Cynllunio a Thai yn gwbl fodlon bod angen clir am y cynllun. Mae'r cynnig yn cynnwys mynediad o ansawdd da i'r A4080, a lle parcio oddi ar y ffordd ar y safle ar gyfer yr anheddau a'r ymwelwyr. Mae capasiti yn y rhwydwaith ffyrdd lleol i ddarparu ar gyfer y datblygiad, ac yn enwedig felly pan fydd y caniatâd presennol ar y safle yn cael ei ystyried, ac nid yw'r Swyddogion Priffyrdd wedi gwrthwynebu'r cynnig. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn gynllun o ansawdd uchel, wedi’i dirweddu’n dda a fyddai'n gweddu’n dda o fewn yr ardal. Byddai'n ddeniadol a byddai hefyd yn darparu mesurau lliniaru ecoleg ar gyfer ei effeithiau cyfyngedig ac yn sicrhau gwelliannau. Cadarnheir hyn gan gefnogaeth y Swyddogion Cynllunio ac Ecoleg i'r cynllun a safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cais. Cynigir cynllun draenio addas ar gyfer dŵr wyneb, a fydd yn cael ei osod yn gyfan gwbl o fewn y safle; byddai dŵr draenio budr yn cysylltu â'r garthffos yn y ffordd. Mae Dŵr Cymru yn ogystal â'r Swyddogion perthnasol yn gwbl fodlon â'r cynllun draenio. Nid oes unrhyw ymgyngoreion statudol arall wedi gwrthwynebu'r cynllun. Fodd bynnag, nodir bod rhai pryderon gan breswylwyr lleol ynglŷn â’r effaith ar eu preifatrwydd a'u hamwynder, ond mae pellter digonol rhwng y datblygiad a’i gymdogion, sy’n fwy na bodloni gofynion polisi. Yn ogystal â hyn, rhaid ystyried y caniatâd sy'n bodoli ar y safle a fyddai'n cael effaith debyg i'r cynnig. Er bod rhywfaint o bryder gan nifer fach o breswylwyr lleol ynglŷn â chapasiti gwasanaethau lleol, bydd y cynnig yn diwallu angen lleol am dai, ac nid oes unrhyw wrthwynebiad gan Swyddogion yr Awdurdod ar y sail hon. Yn olaf, yn groes i'r honiadau bod perygl llifogydd ar y safle, nid yw mapiau Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos unrhyw risg o lifogydd, a chynigir cynllun draenio addas a fydd yn sicrhau bod system ddraenio dŵr wyneb yn cael ei rhoi ar waith fel rhan o'r datblygiad a fydd yn sicrhau ei fod yn cael ei ddraenio'n briodol. Felly, nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiad a wnaed, ac felly nid yw’n bwysig. Mae'r cais yn gofyn am ganiatâd ar gyfer datblygiad o ansawdd uchel a fyddai'n helpu i ddiwallu'r angen am dai fforddiadwy a chost isel yn y pentref hwn a byddai'n defnyddio safle wedi'i leoli o fewn ffurf adeiledig y pentref ac sydd â chaniatâd presennol ar gyfer datblygiad preswyl. Mae’r holl ymgyngoreion technegol yn fodlon â'r cynnig, ac mae Swyddogion Cynllunio yn fodlon ei fod yn ddatblygiad derbyniol sy'n cydymffurfio â pholisi cynllunio.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y prif bwyntiau a ystyriwyd ynglŷn â’r cais a dywedodd fod y safle yn anheddiad gwledig Brynsiencyn, sy'n cael ei ddiffinio fel Pentref Lleol yn ôl y diffiniad yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae’r safle yn union gerllaw’r A4080, sef y brif ffordd sy’n gwasanaethu De Orllewin yr ynys. Mae’r safle mewn lleoliad cefn gwlad agored yn nhermau polisi, fodd bynnag mae ffin ddwyreiniol y safle’n rhannu ffin â’r ffin ddatblygu ar gyfer yr anheddiad. Ar hyn o bryd mae gwrychoedd a choed aeddfed o wahanol rywogaethau yn tyfu ar hyd y terfynau. Nodir hefyd bod mynedfa gyda chyrbau wedi’i chreu i’r safle yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn ymgais i ddiogelu’r caniatâd blaenorol. Mae sefyllfa y gellir disgyn yn ôl arni gan fod caniatâd dilys ac wedi’i ddiogelu i godi 13 uned ar y safle, yn cynnwys 4 uned fforddiadwy, o dan gais rhif 37C26T/VAR ac RM/2018/5. Dyma gais i godi 28 annedd ar y safle, 9 annedd marchnad agored a’r gweddill (19 uned) yn fforddiadwy. Bydd y datblygiad yn cynnwys 8 fflat un ystafell wely, 13 annedd dwy ystafell wely a 2 annedd pedair ystafell wely. Bydd yr unedau’n gymysgedd o unedau marchnad agored a deiliadaeth niwtral. Bydd gan bob uned 2 lawr a tho llechi ynghyd â waliau wedi’u rendro a’u gorchuddio â chladin pren/carreg mewn mannau. Mae'r safle y tu allan i ffin ddatblygu Brynsiencyn. Polisi Cynllunio Mae TAI 16 o'r cynllun datblygu yn cefnogi ceisiadau am dai fforddiadwy ar safleoedd sy’n union gerllaw’r ffiniau datblygu. Ac eithrio'r 9 uned marchnad agored a ganiatawyd yn flaenorol, mae'r datblygiad, mae 100% o’r datblygiad yn gartrefi fforddiadwy ac mae datganiad tai wedi cael ei gyflwyno gyda’r cais, sy’n dangos bod galw clir, sydd wedi’i nodi, am dai fforddiadwy yn yr ardal leol. Nododd ymhellach bod y safle yn rhannu ei ffiniau Gogleddol a Deheuol gyda chwrtil eiddo preswyl arall, gyda datblygiad preswyl hefyd wedi’i leoli i’r dwyrain ond wedi’i wahanu gan lecyn amaethyddol. O ganlyniad, mae’r adran yn ystyried y safle i fod yn safle mewnlenwi ac felly’n estyniad rhesymol i ffurf adeiledig y pentref. O ran amwynderau preswyl yr eiddo cyfagos nododd fod pellter digonol fel y nodir yn y polisi cynllunio perthnasol. Bydd ffensys newydd yn cael eu codi yn ogystal â choridor bywyd gwyllt rhwng y safle a'r eiddo i'r gogledd o'r safle. Derbyniwyd sawl llythyr gan breswylwyr lleol yn lleisio pryderon am effaith y cynllun o ran cynyddu traffig o fewn yr anheddiad. Fodd bynnag, ni fynegwyd unrhyw bryderon o'r fath gan yr Awdurdod Priffyrdd sy'n fodlon â gallu'r rhwydwaith priffyrdd lleol i ddarparu ar gyfer y cynllun. Hefyd dywedodd nad yw'r safle mewn perygl o lifogydd ac nad oedd Dŵr Cymru na Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi unrhyw bryderon. Bydd y cynllun yn defnyddio tir llwyd a’r caniatâd a roddwyd eisoes i godi 9 annedd marchnad agored ar y safle ynghyd â 19 o dai fforddiadwy, er mwyn mynd i'r afael â’r angen am dai fforddiadwy yn yr anheddiad. Yr argymhelliad oedd bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, ac Aelod Lleol, fod pryderon yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf ynghylch datblygu'r safle gan y byddai'r anheddau i gyd yn dai fforddiadwy a bod yna deuluoedd lleol ifanc a fyddai'n well ganddynt brynu cartref neu ran berchenogaeth ym Mrynsiencyn. Nododd fod gan y cynnig hwn 9 uned marchnad agored un ystafell wely a chwestiynodd a oes hyblygrwydd i rai o'r eiddo dwy/tair ystafell wely fod yn anheddau marchnad agored. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cynnig cymysgedd o anheddau fforddiadwy a marchnad agored, a bod yr Adran Tai wedi gwerthuso'r angen am dai cymdeithasol yn yr ardal. Nododd y byddai angen iddo weld manylion y cais o safbwynt rhan berchnogaeth o'r tai.
Holodd y Cynghorydd Jackie Lewis a fyddai cytundeb cyfreithiol Adran 106 yn amod ar y datblygiad ac a fyddai cyfraniad ariannol tuag at y gymuned a'r ysgol leol. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd cytundeb cyfreithiol Adran 106 yn amod i sicrhau bod 100% o’r datblygiad yn anheddau fforddiadwy gan fod y safle y tu allan i'r ffin ddatblygu. Nododd fod ymgynghoriad wedi'i gynnal gyda'r Adran Addysg, ac maent wedi ymateb gan ddweud nad oes angen cyfraniad ariannol gan fod capasiti digonol yn yr ysgol i ddarparu ar gyfer disgyblion ychwanegol posibl.
Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: