Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4 2024/25, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynwyd yr adroddiad cerdyn sgorio olaf ar gyfer 2024/25 gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a nododd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu’n fanwl ar yr adroddiad yn ei gyfarfod yr wythnos gynt.
Cyfeiriodd at feysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn mynd ati i’w monitro er mwyn sicrhau gwelliant yn y dyfodol, fel y nodir yn adran 2 yn yr adroddiad. Maent yn cynnwys nifer y plant sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y flwyddyn (Môn Actif); darparu grantiau cyfleusterau i’r anabl, ail-osod unedau tai sy’n rhai y mae modd eu gosod, nifer y cytundebau angori blynyddol, cyfraddau ailgylchu gwastraff domestig a cheisiadau rhyddid gwybodaeth a dderbyniodd ymateb o fewn yr amserlen. Nodwyd bod gwelliant amlwg yn chwarter 4 mewn perthynas â’r pwynt olaf, a dim ond 14 cais rhyddid gwybodaeth, o gyfanswm o 260, oedd wedi derbyn ymateb hwyr.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones hefyd at berfformiad cryf mewn sawl maes, gan gynnwys cefnogaeth i fusnesau ddatblygu’r Gymraeg trwy’r rhaglen ARFOR, cynnydd o 50,000 yn nifer yr ymweliadau â Chanolfannau Hamdden Môn Actif ar gyfer gweithgareddau corfforol, gostyngiad yn nifer y disgyblion blwyddyn 11 sy’n gadael yr ysgol heb fynd ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant (NEET), canran uchel o denantiaid sy’n fodlon â gwaith trwsio ymatebol, ceisiadau cynllunio sy’n cael eu penderfynu mewn pryd a chyfraddau cadarnhaol ar gyfer cyflwr ffyrdd dosbarth A, B ac C.
I gloi, dywedodd bod perfformiad wedi bod yn gyson trwy’r flwyddyn a phwysleisiodd werth y cerdyn sgorio wrth fonitro perfformiad.
Croesawyd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Gwaith a gofynnwyd iddo gyflwyno adborth o gyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Mehefin. Er bod y pwyllgor wedi nodi bod 82.5% o’r dangosyddion perfformiad allweddol sy’n cael eu monitro wedi cyflawni eu targedau yn ystod y pedwerydd chwarter, gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn â’r dangosyddion sy’n tanberfformio a gallu’r Cyngor i wella’n barhaus. Roedd y materion a godwyd yn ystod y drafodaeth yn cynnwys yr amser a gymerir i ailosod unedau tai, disgyblion blwyddyn 11 sydd ddim yn mynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant, allyriadau carbon, gwahardd disgyblion a’r amser a gymerir i ymateb i ymholiadau diogelu oedolion. Ar ôl adolygu’r cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 ac yn dilyn trafodaeth lawn, penderfynodd y pwyllgor nodi’r adroddiad, gan gynnwys y meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn sicrhau gwelliannau, ac argymell y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru i’r Pwyllgor Gwaith. Cytunwyd hefyd y dylid cyflwyno’r dadansoddiad diwedd cyfnod drafft o’r “Cynllun Tuag at Sero Net 2022-2025” i’r Pwyllgor Sgriwtini yn yr hydref ac y dylid gofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai a’r Aelod Portffolio Cyllid a Thai holi awdurdodau lleol eraill, er enghraifft, Harlow, Rotherham a North Ayrshire, am arferion gorau ar gyfer lleihau’r amser a gymerir i ailosod unedau tai sy’n rhai y gellir eu gosod.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Jeff Evans am adrodd yn ôl o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac am y drafodaeth adeiladol yn y cyfarfod ar 17 Mehefin. Cyfeiriodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith at y dangosyddion oedd yn tanberfformio o fewn y meysydd yr oedden nhw’n gyfrifol amdanynt.
Eglurodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai ei fod yn bwriadu cysylltu â’r tri chyngor y cyfeiriwyd atynt er mwyn dysgu gwersi, ond dywedodd hefyd bod rheoliadau sy’n berthnasol i eiddo gwag yn wahanol yng Nghymru a Lloegr. Roedd yn cydnabod bod angen adolygu dangosydd tai (03) - nifer y dyddiau calendr a gymerwyd ar gyfartaledd i osod unedau llety sy’n rhai y mae modd eu gosod, er mwyn adlewyrchu perfformiad y gwasanaeth Tai yn well - sef o’r adeg y mae’r allweddi’n cael eu dychwelyd i’r adran, yn hytrach na phan ddaw’r denantiaeth i ben. Nododd fod oedi’n digwydd yn aml mewn achosion megis marwolaeth tenant, lle gallai cryn amser fynd heibio cyn bod y Cyngor yn gallu cael mynediad i’r eiddo er mwyn gwneud unrhyw waith angenrheidiol.
Dywedodd y Cadeirydd bod dysgu ar y cyd a rhannu arfer orau ymysg cynghorau yn bwysig, a chyfeiriodd at gyfarfod CLlLC a gynhaliwyd yn Llandudno yr wythnos ddiwethaf.
Esboniodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, fod y dangosydd Addysg (07) - nifer y plant ar gyfartaledd sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y flwyddyn, yn cyfeirio at wersi nofio preifat yn unig ac nid yw’n cynnwys y 3,845 o blant a gymerodd ran mewn gwersi nofio gyda’u hysgolion mewn bloc o 30 wythnos. Mae gostyngiad yn nifer y plant sy’n derbyn gwersi nofio preifat yn duedd cyson mewn awdurdodau lleol eraill, ac mae’r gwasanaeth yn ceisio darganfod beth yw’r rhesymau am y dirywiad. Nid yw’r dangosydd chwaith yn cynnwys nifer y plant sy’n cymryd rhan yn y sesiynau Nofio’n Diogel/Swim Safe a drefnwyd gan Môn Actif, cynllun sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol am hyrwyddo diogelwch dŵr ac addysg nofio. Roedd dros 500 o blant wedi mynychu digwyddiadau Nofio’n Ddiogel/Swim Safe y llynedd.
Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad o waith Môn Actif fel rhan o’r cynllun Nofio’n Ddiogel/Swim Safe. Diolchodd hefyd i holl swyddogion y rhaglen ARFOR am eu hymdrechion trwy gydol cyfnod y cynllun. Roedd Ynys Môn yn un o bedair sir wnaeth elwa ar y ffynhonnell gyllido ARFOR sydd bellach wedi dod i ben. Fel Aelod Portffolio dros dro gyda chyfrifoldeb am Briffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, cadarnhaodd ymrwymiad y Cyngor i gynyddu cyfradd ailgylchu gwastraff domestig presennol y Cyngor, sef 65%, er mwyn cyflawni targed Llywodraeth Cymru o 70%.
Penderfynwyd cytuno i’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4 2024/25 a nodi’r meysydd o welliannau ynghyd â’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn rheoli a sicrhau gwelliant pellach yn y dyfodol. Roedd y rhain mewn perthynas ag Addysg (Môn Actif), Tai (Darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, a Thai Gwag), Economi (Contractau Angori Cwsmeriaid), Newid Hinsawdd (Ailgylchu Gwastraff Domestig) a Iechyd Cyffredinol y Cyngor (Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth).
Dogfennau ategol: