Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor hyd at ddiwedd Chwarter 4, 31 Mawrth 2025, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad ac mae’n nodi bod y Cyngor yn rhagweld tanwariant o £3.873m ar gyfer 2024/25, yn cynnwys Cyllid Corfforaethol a’r gronfa Treth Gyngor, ac mae hynny gyfystyr â 2.15% o gyllideb net y Cyngor. Dywedodd bod yr alldro drafft gryn dipyn yn well na’r rhagolwg yn Chwarter 3 ac mae’r dadansoddiad o’r amrywiannau yn Nhabl 5 yn yr adroddiad yn dangos symudiad cadarnhaol o £3.11m. Mae’r ffactorau sydd wedi cyfrannu’n bennaf at wella’r sefyllfa yn cynnwys tanwariant o £936k yn y Gwasanaethau Oedolion, yn bennaf o ganlyniad i dderbyn incwm grantiau ychwanegol, swyddi gweigion, arbedion yn gysylltiedig â chontract cyfleustodau newydd a chynnydd mewn incwm ffioedd a thaliadau, yn enwedig yn y gwasanaethau Priffyrdd, Cynllunio ac Oedolion.
Nododd y Cynghorydd Robin Williams fod newidiadau yn y rheolau cymhwyso ar gyfer trethi busnes ar lety hunanarlwyo yn golygu bod nifer o eiddo wedi trosglwyddo’n ôl i’r gofrestr Treth Gyngor, gan olygu fod mwy o eiddo’n gorfod talu’r premiwm ar ail gartrefi. Mae’r Cyngor yn rhagweld y gallai nifer o apeliadau yn erbyn y penderfyniadau hyn fod yn llwyddiannus, a gallai eiddo gwrdd â’r trothwyon newydd ar ôl cael eu hail-asesu, gan olygu eu bod yn symud yn ôl i’r gofrestr trethi busnes. Oherwydd hyn, mae’r Cyngor wedi neilltuo £900k o arian ychwanegol mewn cronfa glustnodedig er mwyn gwneud ad-daliadau yn 2025/26 os bydd angen.
Mae’r alldro drafft a’r tanwariant a nodwyd, a’i effaith ar falansau cyffredinol y Cyngor, yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor a bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddo wrth gynllunio cyllideb refeniw 2026/27. Cyflwynir adroddiad pellach i’r Pwyllgor Gwaith ar ôl cwblhau’r Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2024/25.
Nododd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod buddsoddiadau diweddar yn adeiladau’r Cyngor oedd â’r nod o leihau allyriadau carbon, wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn costau ynni yn ystod Chwarter 4.
O ran y tanwariant yng nghyllideb gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2024/25, esboniodd bod nifer o ffactorau unwaith ac am byth wedi cyfrannu at y tanwariant, megis grantiau ychwanegol nad yw’r Cyngor yn debygol o’u derbyn eto, swyddi gweigion dros dro a chynnydd mewn incwm oherwydd cynnydd yn y galw a allai ostwng eto yn 2026/27. Pwysleisiodd nad yw’r datblygiadau yn 2024/25 wedi newid fawr ar sefyllfa ariannol sylfaenol y Cyngor, na’r heriau y mae’n eu hwynebu. Bydd yr alldro a ragwelir ar gyfer cyllideb 2024/25 yn atgyfnerthu balansau cyffredinol y Cyngor, gan gynnig mwy o ddewisiadau wrth gynllunio cyllideb 2026/27, ond nid yw’r datrys y pwysau sylfaenol, yn arbennig ym maes gofal cymdeithasol i Oedolion a Phlant. Rhagwelir gorwariant o £1.948m yn y Gwasanaethau Plant yn 2024/25, er bod y Cyngor wedi buddsoddi’n sylweddol wrth bennu’r gyllideb. Mae arian ychwanegol wedi’i gynnwys ar gyfer y gwasanaethau hyn yn y gyllideb ar gyfer 2025/26, a’r gobaith yw y byddant yn llwyddo i wario yn unol â’r adnoddau sydd ganddynt. Mae balansau cyffredinol y Cyngor wedi elwa hefyd yn sgil derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â chynnydd yng nghyfraniadau’r cyflogwr tuag at bensiynau athrawon, ynghyd â chymorth gyda chostau tâl uwch a chostau uwch yn y gwasanaethau cymdeithasol a digartrefedd. Gan fod y gyllideb eisoes yn cynnwys darpariaeth ar gyfer costau pensiwn a chostau staff, mae’r symiau hyn wedi’u hychwanegu at y balansau cyffredinol.
Wrth edrych i’r dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn cynnydd uwch na chwyddiant o ganlyniad i adolygiad gwariant y Llywodraeth yn San Steffan, ac os yw hyn yn dilyn y patrwm hanesyddol, a bod y cynnydd yn cael ei neilltuo’n bennaf ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, gallai olygu gostyngiad o 1.4% mewn termau real yng nghyllid llywodraeth leol yng Nghymru yn 2027/28 a 2028/29, yn ôl asesiad Dadansoddi Cyllid Cymru. Trwy ymgorffori’r rhagolwg hwn ym model ariannol y Cyngor ar gyfer y tair blynedd nesaf, mae’n awgrymu y gallai’r bwlch cyllido fod dros £15m, cyn cynyddu’r dreth. Er y gallai balansau cyffredinol y Cyngor helpu i liniaru’r effaith yn y tymor byr, bydd y Cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd ynglŷn â gostwng gwariant ar ôl gwario’r balansau.
Dywedodd y Cadeirydd fod nifer o sylwadau wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn pwysleisio y byddai’n haws i gynghorau gynllunio’n strategol pe byddai arian grant annisgwyl, sy’n aml yn cael ei dderbyn yn hwyr yn y flwyddyn ariannol ac sy’n newid y sefyllfa ariannol yn sylweddol, yn cael ei ymgorffori yn y Grant Cynnal Refeniw. Tynnodd sylw hefyd at fanteision setliadau ariannol aml-flwyddyn fyddai’n rhoi mwy na blwyddyn yn unig o sicrwydd i gynghorau ynglŷn â’u cyllid.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at asesiad Archwilio Cymru o gynaliadwyedd ariannol y Cyngor, a ddaeth i’r casgliad nad oes gan y Cyngor strategaeth ffurfiol ar hyn o bryd ar gyfer ei gynaliadwyedd ariannol yn y tymor hir. Nododd fod cynllunio ar gyfer y tymor hir yn heriol pan fod cyllidebau’n cael eu gosod yn flynyddol. Ychwanegodd fod sefyllfa ariannol y Cyngor yn ymddangos yn iach ar hyn o bryd, ond gallai wynebu bwlch ariannu o £15m yn ystod y tair blynedd nesaf, a gallai hynny wagio ei gronfeydd wrth gefn oni bai bod mesurau i ostwng gwariant yn cael eu nodi a’u gweithredu.
Penderfynwyd
· Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas ag alldro ariannol yr Awdurdod ar gyfer 2024/25.
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2024/25, y manylir arnynt yn Atodiad CH.
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau D a DD.
· Nodi bod amcangyfrif o falansau cyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2025 yn £18.166m.
Dogfennau ategol: