Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad:Adroddiad Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch4 2024/25

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4 2024/25. Mae adroddiad y cerdyn sgorio yn portreadu’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn erbyn yr amcanion strategol a nodir yng Nghynllun y Cyngor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, yr adroddiad cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer 2024/25 a nododd bod 82.5% o ddangosyddion yr oedd eu targedau’n cael eu monitro yn ystod y chwarter wedi cyflawni neu ragori ar eu disgwyliadau a’u bod wedi derbyn statws RAG gwyrdd neu felyn, gan adlewyrchu perfformiad cryf ar draws y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod y prif feysydd sy’n tanberfformio yn debyg iawn i’r meysydd oedd yn tanberfformio yn Ch3, gan gynnwys nifer y plant sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y flwyddyn (Môn Actif); darparu grantiau cyfleusterau i’r anabl, ail-osod unedau tai sy’n rhai y mae modd eu gosod, nifer y cytundebau angori blynyddol, cyfraddau ailgylchu gwastraff domestig a cheisiadau rhyddid gwybodaeth a dderbyniodd ymateb o fewn yr amserlen, er bod yr olaf wedi gwella yn ystod y chwarter olaf. Mae’r Tîm Rheoli’n cadw llygaid ar y meysydd hyn ac mae camau lliniaru ar waith neu ar y gweill. Amlygodd y Cynghorydd Carwyn Jones nifer o ganlyniadau cadarnhaol, fel y nodir yn adran 2.3 yr adroddiad. Roedd y meysydd hyn yn cynnwys cefnogaeth i fusnesau ddatblygu’r Gymraeg trwy’r rhaglen ARFOR, cynnydd o 50,000 yn nifer yr ymweliadau â Chanolfannau Hamdden Môn Actif i wneud gweithgareddau corfforol, gostyngiad yn nifer y disgyblion blwyddyn 11 sy’n gadael yr ysgol heb fynd ymlaen i waith, addysg neu hyfforddiant (NEET), canran uchel o denantiaid yn fodlon â gwaith trwsio ymatebol, perfformiad cryf wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio mewn da bryd a chyflwr ffyrdd dosbarth A, B ac C.

 

Wrth drafod yr adroddiad cerdyn sgorio ar gyfer Ch4, cododd y Pwyllgor y materion canlynol –

 

·      Nododd y pwyllgor fod nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn gwersi nofio wedi bod yn gostwng bob chwarter trwy gydol 2024/25. Gofynnodd yr aelodau am wybodaeth am y camau sy’n cael eu cymryd i annog mwy o blant i gymryd rhan yn y rhaglen a chyflawni’r targed. Codwyd cwestiwn cysylltiedig ynglŷn â phrinder hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg yng Nghanolfan Hamdden Caergybi, yn ogystal â faint o staff sydd wedi derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio - Hamdden, Twristiaeth a Morwrol, fod y gwasanaeth yn adolygu data ynghylch defnydd yn gyson a’u bod yn ceisio deall pam fod y galw wedi gostwng. Pwysleisiodd nad yw’r dangosydd yn adlewyrchu pob gweithgaredd nofio ac mae’n cyfeirio’n benodol at wersi nofio preifat ac nid yw’n cynnwys gwersi a ddarperir drwy’r ysgolion cynradd. Gallai nifer o ffactorau ddylanwadu ar y duedd, gan gynnwys cynnydd mewn costau byw a’r ffaith fod gweithgareddau eraill ar gael yn y canolfannau hamdden. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar wella hyfforddiant i hyfforddwyr er mwyn gwella ansawdd gwersi a hyrwyddo’r ffaith fod lleoedd ar gael ar y rhaglen. Er hynny, roedd yn cydnabod efallai y byddai’n rhaid adolygu’r targed yn y pendraw, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n realistig a’i fod yn adlewyrchu perfformiad yn gywir.

 

Mewn perthynas â’r Gymraeg, dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd nad oedd ffigyrau ynglŷn â’r defnydd o’r Gymraeg ymysg staff y ganolfan hamdden wrth law ganddo. Fodd bynnag, ar sail adborth anffurfiol, roedd yn cydnabod bod diffyg hyder yn ffactor allweddol sy’n atal rhai aelodau o staff rhag defnyddio’r Gymraeg, er bod y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol ganddynt. Mewn ymateb i gwestiwn dilynol ynglŷn â sut y gellir cefnogi staff i ddatblygu eu hyder er mwyn medru sgwrsio yn y Gymraeg, dywedodd y Cynghorydd Neville Evans y byddai’n bosib crybwyll y mater gyda rheolwyr canolfannau hamdden Môn Actif er mwyn ei ystyried ymhellach.

 

·      Cyfeiriwyd at y ffaith fod Cyswllt Môn wedi ymdrin â, a datrys, 40% o ymholiadau yn ystod y cyfnod. Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r 60% oedd yn weddill.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr bod Cyswllt Môn yn derbyn holl ymholiadau’r Cyngor yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, mae’r ymholiadau nad ydynt yn cael eu datrys gan Cyswllt Môn, sef y 60% sy’n weddill, yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth perthnasol oherwydd eu bod angen sylw arbenigol. Mae’r Cyngor yn mynd ati i gynyddu cyfran yr ymholiadau y mae Cyswllt Môn yn ymdrin â nhw’n uniongyrchol yn raddol o chwarter i chwarter.

 

·      Nodwyd bod Dangosydd Tai (03) yn tanberfformio o chwarter i chwarter, ac mae’n cymryd 54 diwrnod ar gyfartaledd i osod unedau, ac eithrio unedau anodd eu gosod, yn erbyn targed o 35 diwrnod. Cyfeiriwyd at gynghorau sydd yn perfformio’n well - Harlow (21 diwrnod), Rotherham (32.7 diwrnod) a North Ayrshire (26.9 diwrnod) - fel meincnodau. Awgrymwyd y gallai’r Aelod Portffolio Tai a’r Pennaeth Gwasanaethau Tai gysylltu â’r cynghorau hyn er mwyn deall y strategaethau neu ymyraethau oedd yn gyfrifol am eu perfformiad cryfach ac edrych ar wersi posib i’w mabwysiadu. Argymhellwyd camau tebyg ar gyfer dangosyddion Tai (04) a (05) - nifer y dyddiau calendr a gymerwyd ar gyfartaledd i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (bach, canolig a mawr). Cynigiwyd y dylid cysylltu â Chyngor Conwy, gan ei fod yn gyngor lleol sy’n perfformio’n well yn y maes hwn, er mwyn darganfod pa arferion y mae’n eu defnyddio a allai helpu’r Cyngor i wneud gwelliannau.

 

Nododd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio - Cyllid a Thai, fod dau newid sylweddol wedi effeithio ar berfformiad yn erbyn dangosydd Tai (03), sef cyflwyno Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023, sy’n golygu bod rhaid gwneud gwaith ychwanegol cyn ailosod eiddo, a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sy’n rhoi mwy o amser i denantiaid cyn bod rhaid iddynt roi’r allweddi’n ôl i’r Cyngor. Er bod yr eiddo’n dod yn eiddo gwag ar ddiwedd y denantiaeth, yn aml iawn nid yw’r eiddo ddod yn ôl i ddwylo’r Cyngor ar unwaith. Er enghraifft, nododd yr Aelod Portffolio mai marwolaeth y tenant oedd y rheswm dros ail-osod 35 o’r 253 eiddo oedd wedi cael eu hail-osod yn ystod y flwyddyn (ac roedd angen gwneud gwaith sylweddol ar 14 ohonynt), ac roedd wedi cymryd 87.8 diwrnod ar gyfartaledd i ail-osod yr eiddo hynny. Roedd 15 eiddo arall wedi cael eu gosod am fod y tenant wedi symud i ofal preswyl, a’r cyfartaledd yn yr achos hwnnw oedd 74.6 diwrnod. O beidio â chynnwys yr achosion hyn yn y ffigyrau mae’r cyfartaledd yn gostwng i 44.9 diwrnod ac mae hynny’n agosach at y targed o 35 diwrnod. O ran unedau anodd eu gosod, esboniodd yr Aelod Portffolio fod gosodiadau wedi cael eu gohirio ym mis Tachwedd 2024 oherwydd rhagolygon y byddai’r gyllideb yn gorwario ac mae hynny wedi cyfrannu at yr oedi. Dywedodd hefyd nad yw Safonau Ansawdd Tai Cymru na Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn berthnasol i’r 3 cyngor meincnodi yn Lloegr ac mae’n anodd gwneud cymhariaeth uniongyrchol oherwydd hynny.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor pam nad yw 1.9% o blant Blwyddyn 11 sy’n gadael ysgol mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET).

 

Esboniwyd wrth y pwyllgor fod y sefyllfa’n llawer gwell o gymharu â 2023, pan oedd 4% yn y categori NEET. O ystyried bod rhwng 700 ac 800 o ddisgyblion ysgol yn y cohort, mae’n ganran cymharol fychan. Mae’r Cyngor wedi adnabod y plant dan sylw ac mae’n eu cynorthwyo i gael mynediad at addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac mae’n gweithio’n agos â’r gwasanaethau Plant a Theuluoedd hefyd. Fodd bynnag, mae amgylchiadau personol a chymdeithasol cymhleth yn golygu nad yw bob plentyn yn gallu manteisio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddi.

 

·      Nododd y pwyllgor fod gwrychoedd wedi gordyfu ac yn flêr mewn rhai ardaloedd ar yr ynys gan ysgogi cwestiynau ynglŷn â threfniadau’r Cyngor ar gyfer cynnal a chadw a thorri’r gwrychoedd.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, fod y rhaglen torri gwrychoedd bellach wedi dechrau. Dywedodd y dylai aelodau hysbysu’r Gwasanaeth Priffyrdd os oes ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn â gwrychoedd penodol yn eu wardiau. Os yw’r gwrych ar dir cyhoeddus yna bydd y Cyngor yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol. Os ydyw ar dir preifat, yna bydd y Cyngor yn anfon llythyr at berchennog y tir, gan ofyn iddynt roi sylw i unrhyw ordyfiant a allai greu rhwystr neu broblem ddiogelwch. Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod yr amserlen torri gwrychoedd a glaswellt yn cael ei chynllunio ymlaen llaw a bod y gwaith yn mynd rhagddo trwy gydol misoedd yr haf. Roedd yn annog aelodau i gysylltu â’r gwasanaeth ynglŷn ag unrhyw faterion o’r fath.

 

·      Mynegwyd pryderon ynglŷn â chynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael eu gwahardd yn barhaol o’r ysgol, gan fod y ffigwr wedi codi i 21 yn ystod Chwarter 4. Gofynnwyd am sicrwydd fod darpariaeth ddilynol briodol yn cael ei gwneud ar gyfer y plant sy’n cael eu gwahardd a bod ysgolion yn derbyn cefnogaeth arbenigol er mwyn eu cynorthwyo i roi sylw i’r broblem a mynd i’r afael â’r hyn sy’n ei hachosi.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod y cynnydd hwn yn adlewyrchu tuedd genedlaethol ac nad yw’r sefyllfa’n unigryw i Fôn. Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i sicrhau fod plentyn sy’n cael ei wahardd dros dro neu’n barhaol o’r ysgol yn parhau i dderbyn addysg addas. Er y gellir ail-gofrestru disgyblion mewn ysgol, mae rhieni weithiau’n dewis addysgu eu plant yn y cartref. Serch hynny, mae gan bob plentyn yr hawl i dderbyn addysg ar yr ynys ar ôl iddynt gael eu gwahardd.

 

Ar gyfer plant sy’n ailymuno â’r gyfundrefn ysgolion, mae cynllun pontio pwrpasol yn cael ei lunio gan yr ysgol a’r Gwasanaeth Cynhwysiad. Mae’r cynlluniau hyn yn amrywio a gallant gynnig mynediad ar unwaith neu fesul cam, gan ddibynnu ar amgylchiadau’r plentyn ac am faint o amser y buont yn absennol o’r ysgol. Mae’r gwasanaeth yn parhau i weithio’n agos â’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd er mwyn sicrhau bod y disgyblion sy’n cael eu heffeithio’n dychwelyd i addysg yn gyflym. Mae’r Gwasanaeth Cynhwysiad hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad i ysgolion. Mae cynlluniau ar y gweill i fabwysiadu dull mwy ataliol ac integredig, gan weithio’n rhagweithiol gydag ysgolion a’r Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn yr adnoddau presennol.

Pwysleisiodd yr Arweinydd na ddylid gwahardd yr un disgybl oni bai bod pob cam arall wedi methu. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn awdurdod sy’n wybodus am drawma ac yn un sy’n blaenoriaethu llesiant ac yn ceisio cadw plant mewn addysg yn hytrach na’u cau allan.

 

·      Gofynnwyd pa mor debygol yw’r Cyngor o gyflawni’r targed o ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio 70% o wastraff domestig (Newid Hinsawdd DP 02) ac a yw’r targed yn parhau i fod yn realistig.

 

Roedd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yn cydnabod ei bod yn amlwg erbyn Chwarter 3 na fyddai’r targed yn cael ei gyflawni yn ystod y flwyddyn bresennol. Er hynny, mae perfformiad Ynys Môn mewn perthynas ag ailgylchu’n ddigon parchus o gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru, ac mae’n gryf o gymharu â chyfraddau yn y DU. Mae’r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni’r targed o 70% a bu’n treialu newid ffurf y biniau ailgylchu a threfniadau casglu cardfwrdd mewn dwy gymuned leol. Ystyrir bod addysg yn ffactor allweddol er mwyn gwella ailgylchu, yn enwedig ymysg ymwelwyr sy’n aros mewn llety gwyliau nad ydynt, o bosib, yn gyfarwydd â threfniadau ailgylchu lleol. Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd fod y Cyngor yn awyddus i hyrwyddo gwerth ailgylchu ar bob lefel, gan gynnwys mewn cartrefi, busnesau ac yn y gweithle.

 

·      Holodd y pwyllgor a oedd data hanesyddol ar gael ynglŷn ag allyriadau carbon o adeiladau’r cyngor a gofynnodd am gadarnhad ynglŷn â’r cynnydd mewn allyriadau o fflyd y cyngor.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio - Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd, fod rhywfaint o ddata hanesyddol ar gael, ond nid oedd llawer ohono ac nid yw’n mynd yn ôl mor bell ac y byddai’r Cyngor yn ei ddymuno. Er nad oedd y data wrth law ganddi, dywedodd y gallai’r Rheolwr Newid Hinsawdd gylchredeg y wybodaeth berthnasol. Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod staff sy’n defnyddio fflyd y cyngor yn teithio mwy o filltiroedd ers cyfnod y pandemig. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn ceisio cael gafael ar ddata i ddangos fod canran y teithiau sy’n cael eu gwneud mewn cerbydau trydan bellach yn cynyddu. Er bod yr allyriadau cyffredinol wedi cynyddu, mae canran y milltiroedd gwyrdd wedi cynyddu hefyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach am allyriadau carbon y Cyngor, dywedodd y Prif Weithredwr fod dadansoddiad diwedd cyfnod drafft wedi’i baratoi er mwyn adolygu cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodwyd yn y “Cynllun Tuag at Sero Net 2022-2025.” Bydd y dadansoddiad hwn yn sylfaen ar gyfer datblygu cyfnod nesaf y cynllun, sef ar gyfer y cyfnod rhwng 2026 a 2030. Awgrymodd y dylid cyflwyno’r adroddiad adolygu i’r Pwyllgor Sgriwtini ei ystyried yn yr hydref.

 

·      Nodwyd bod perfformiad mewn perthynas â chanran yr ymholiadau diogelu oedolion a gwblhawyd o fewn yr amserlen statudol wedi dirywio yn ystod Chwarter 4. Gofynnwyd am gadarnhad o’r rhesymau dros y tanberfformiad.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod cynnydd sylweddol mewn ymholiadau yn ystod ail hanner y flwyddyn wedi effeithio ar berfformiad. Er hynny, er na chyflawnwyd y targed, roedd nifer o’r ymholiadau hwyr wedi cael eu cwblhau ychydig ddyddiau yn unig ar ôl y terfyn amser. Oherwydd cymhlethdod rhai achosion, pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaeth bod sicrhau ymateb trylwyr a chywir yn bwysig a gall hynny gymryd amser. Roedd yn teimlo ei bod yn rhesymol i’r gwasanaeth gymryd yr amser angenrheidiol i ymdrin â phob cais yn gywir, yn hytrach na brysio er mwyn ymateb yn unol â’r amserlen.

 

Yn dilyn trafodaeth gynhwysfawr, croesawodd y pwyllgor yr adroddiad fel adlewyrchiad o berfformiad cryf a chyson trwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, cyfeiriodd y Cynghorydd Ieuan Williams at welliant parhaus. Awgrymodd y dylai’r Cyngor ystyried rhoi system ffurfiol ar waith i feithrin diwylliant o welliant parhaus er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r meysydd sy’n tanberfformio’n gyson. Nododd fod y Cyngor wedi buddsoddi mewn ysgolion yn y gorffennol fel canolfannau dysgu yn seiliedig ar egwyddorion gwelliant parhaus mewn addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn mesur perfformiad yn effeithiol a’i fod yn hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, er nad oes ganddo’r system ffurfiol a gynigiwyd gan y cynghorydd. O ystyried y pwysau ariannol presennol, roedd o’r farn bod y dulliau presennol yn gadarn ac yn addas i bwrpas. Serch hynny, cytunodd i edrych ar y mater gyda swyddogion er mwyn penderfynu a fyddai unrhyw welliannau’n bosib, naill ai trwy gyflwyno system newydd, ac oblygiadau hynny, neu dreialu gwahanol ddulliau mewn meysydd penodol er mwyn gweld a fyddent yn gwneud gwahaniaeth. Gorffennodd trwy bwysleisio mai diwylliant sefydliadol, yn ei farn ef, sydd yn gyrru perfformiad mewn gwirionedd, yn hytrach na systemau.

 

Ar ôl adolygu’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer 2024/25 ac yn dilyn trafodaeth lawn, penderfynwyd -

·           Nodi adroddiad y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2024/25, yn cynnwys y meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud ag Addysg (Môn Actif), Tai (darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl bach, canolig a mawr a Thai Gwag), Economi (Angorfeydd), Newid Hinsawdd (Ailgylchu Gwastraff Domestig) ac Iechyd Cyffredinol y Cyngor (Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth).

·           Argymell adroddiad y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru a gynhwysir ynddo i’r Pwyllgor Gwaith, a

·           Gofyn i’r Aelod Portffolio - Cyllid a Thai a’r Pennaeth Gwasanaethau Tai gysylltu â chynghorau Harlow, Rotherham a North Ayrshire er mwyn edrych ar sut maent yn mynd ati i ail-osod tai gwag ac archwilio gwersi y gellir eu mabwysiadu.  

 

Gweithred ychwanegol: bod y dadansoddiad diwedd cyfnod o gynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn y “Cynllun Tuag at Sero Net 2022-2025” yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini ei ystyried yn yr hydref.

 

Dogfennau ategol: