Eitem Rhaglen

Dogfen Gyflawni Blynyddol 2025/26

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2025/26.

 

Cyflwynwyd y ddogfen gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio - Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, ac roedd yn amlinellu’r gwaith sydd ar y gweill ar gyfer 2025/26 a’r gweithredoedd fydd yn hyrwyddo cynnydd er mwyn cyflawni’r amcanion strategol yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028. Cynlluniwyd y gweithredoedd lefel uchel hyn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn cyflawni ei ymrwymiadau o dan bob un o amcanion strategol Cynllun y Cyngor erbyn 2028. Y bwriad yw bod y gweithredoedd yn fesuradwy a’u bod yn cynnwys targedau a cherrig milltir eglur lle bynnag y bo hynny’n bosib, gan olygu bod modd iddynt gael eu monitro’n effeithiol trwy gydol y flwyddyn. Bydd cynnydd yn cael ei adolygu’n chwarterol gan y Bwrdd Rhaglen Gwella a Moderneiddio a chaiff canlyniadau’r broses hon eu hadlewyrchu yn yr Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad a Llesiant.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y Ddogfen Gyflawni, gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau ynglŷn â chynnydd y Cyngor mewn perthynas â nifer ddyheadau a gweithredoedd arfaethedig. Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr mai pwrpas cyflwyno’r ddogfen i’r cyfarfod heddiw oedd penderfynu a oedd y pwyllgor yn fodlon â bwriadau’r Cyngor, fel yr oeddent wedi’u hamlinellu yn y ddogfen ddrafft, cyn cyflwyno’r ddogfen i’r Pwyllgor Gwaith i’w chymeradwyo - nid asesu cynnydd hyd yma. Dywedodd y dylid canolbwyntio ar p’un a yw’r canlyniadau a nodwyd yn ddigon eglur a chadarn, neu a yw’r pwyllgor yn ystyried bod angen ychwanegu elfennau ychwanegol. Ar ôl ei chyhoeddi, bydd y ddogfen yn sail ar gyfer gwaith archwilio a chraffu mwy manwl.

 

Serch hynny, cyflwynwyd diweddariad i’r pwyllgor ar nifer o gynlluniau, gan gynnwys cyflwyno’r gronfa ddata Cysylltu Gofal i gymryd lle’r system WCCIS, y datblygiad Gofal Ychwanegol newydd yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy, mesurau rheoli llifogydd a pharatoadau er mwyn cefnogi Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn 2026 - yn enwedig cystadleuwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Er ei fod yn croesawu’r ddogfen, mynegodd y Cynghorydd Ieuan Williams bryder nad oedd y ddogfen yn nodi’n ddigon eglur sut fyddai’r gweithredoedd arfaethedig yn cael eu cyflawni. Gofynnodd a oedd fframwaith monitro perfformiad cynhwysfawr ar waith er mwyn sicrhau atebolrwydd, ac awgrymodd efallai nad yw cyfarfodydd chwarterol y byrddau rhaglen yn ddigonol i gynnal trosolwg o rychwant y gweithredoedd sy’n cael eu hamlinellu. Gofynnodd am sicrwydd fod bob gweithred yn weithredoedd SMART - penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac wedi’u cyfyngu o ran amser - a bod rhywun wedi gwirio eu bod yn rhesymol. Tynnodd sylw hefyd at nifer o enghreifftiau lle’r oedd yn credu bod angen i’r ddogfen fod yn fwy eglur ynglŷn â gweithredu a monitro.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr mai pwrpas y Ddogfen Gyflawni yw rhannu Cynllun y Cyngor, sy’n gynllun pum mlynedd, yn rhannau blynyddol, hygyrch. Mae’r ddogfen yn amlinellu blaenoriaethau blynyddol y Cyngor ar gyfer y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid, er mwyn cefnogi’r amcanion tymor hwy yng Nghynllun y Cyngor. Dywedodd fod ganddo hyder fod strwythurau a gallu rheoli perfformiad y Cyngor yn gadarn, safbwynt a gefnogir gan reoleiddwyr, ac mae trefniadau chwarterol ar gyfer monitro’r cerdyn sgorio yn dangos hynny hefyd. Dyluniwyd y system hon i hyrwyddo cynnydd er mwyn cyflawni nodau Cynllun y Cyngor ac mae manylion gweithredol yn cael eu rheoli gan swyddogion, gan sicrhau atebolrwydd a bod adroddiadau’n cael eu cyflwyno i uwch reolwyr. Roedd yn gobeithio bod y wybodaeth a rennir yn y maes gwleidyddol ac ymwneud aelodau portffolio yn darparu sicrwydd ynglŷn ag effeithiolrwydd y Cyngor. Er bod gan y Cyngor gyfrifoldebau amrywiol a’i fod yn wynebu pwysau ariannol a disgwyliadau parhaus, roedd yn credu bod y systemau sydd ar waith yn addas i’r pwrpas at ei gilydd, ond roedd yn cydnabod fod lle i wella bob amser.

 

Esboniodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, fod y ddogfen hon bron ar frig hierarchaeth strategol y Cyngor, a bod cynlluniau perfformiad mwy manwl yn cael eu datblygu ar gyfer meysydd gwasanaeth unigol a’u bod yn cael eu cyflwyno er mwyn craffu arnynt. Nododd y byddai cynnwys y dogfennau hyn i gyd yn y ddogfen gyflawni’n gwneud y ddogfen yn rhy gymhleth ac anhylaw. Gan dynnu ar ei brofiad fel cyn Aelod Portffolio Tai, tynnodd sylw at waith ymgysylltu’r gwasanaeth gyda thenantiaid - maes oedd angen bod yn fwy penodol yn ôl y Cynghorydd Ieuan Williams. Pwysleisiwyd y gwerth a roddwyd ar dderbyn adborth gan denantiaid, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ac roedd yn credu bod ymwneud parhaus a digwyddiadau a dargedir yn caniatáu i’r Gwasanaeth gasglu ystod eang o safbwyntiau. Oherwydd hyn mae newidiadau ystyrlon yn cael eu rhoi ar waith mewn ymateb i’r adborth hwn.

 

Yn ei sylwadau clo, diolchodd y Cynghorydd Carwyn Jones i’r aelodau am eu hadborth, a phwysleisiodd fod y ddogfen gyflawni’n fap trywydd i’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod. Pwysleisiodd y byddai gwasanaethau unigol yn gyfrifol am fonitro cynnydd eu hymrwymiadau eu hunain - a bydd y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Sgriwtini yn derbyn adroddiadau ar nifer ohonynt. Bydd hynny’n cynnig cyfleoedd pellach i wneud sylwadau tra bydd y Bwrdd Rhaglen yn goruchwylio cyflawniad cyffredinol.

 

Ar ôl adolygu’r ddogfen a derbyn sicrwydd gan swyddogion a’r Aelod Portffolio ynglŷn â’r pwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y Ddogfen Gyflawni Flynyddol 2025/26 i’r Pwyllgor Gwaith i’w chymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: