Eitem Rhaglen

Honiad o dorri'r Cod Ymddygiad

(a)   CYFLWYNO ADRODDIAD CRYNO CYN-GWRANDAWIAD

 

Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Cyfreithiol, gan ddwyn sylw yn benodol at unrhyw bwyntiau a nodwyd gan yr Aelod lle mae’n anghytuno ag unrhyw ganfyddiad o ffaith yn adroddiad y Swyddog Ymchwilio.

 

(b)   CYFADDEF I FETHU Â CHYDYMFFURFIO

 

Gofyn i’r Aelod ac ydyw’n cyfaddef methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

 

(c)   PENDERFYNIAD

 

Penderfynu a fu methiant i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

Cofnodion:

(a)        CYFLWYNO’R ADRODDIAD CRYNO CYN-GWRANDAWIAD

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol ei Hadroddiad Cryno Cyn-Gwrandawiad.  Dywedodd bod y Cynghorydd Ieuan Williams wedi cyfeirio’i hun at OGCC ar ôl dweud mewn cyfarfod o’r Cyngor ar 12 Mehefin 2023, “bod angen saethu pob Tori”.  

 

Yn dilyn ymchwiliad gan OGCC, daeth yr Ymchwilydd i’r casgliad bod yr aelod etholedig wedi torri dau baragraff o’r Cod Ymddygiad.   Cyfeiriwyd y mater gan OGCC at Swyddog Monitro’r Cyngor, gyda chyfarwyddyd y dylai’r mater yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Safonau. 

 

Yn unol â’r broses, cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol o’r Pwyllgor Safonau ar 26 Chwefror 2025, a phenderfynwyd cynnal gwrandawiad, er mwyn galluogi’r Aelod i gyflwyno sylwadau ynglŷn â chanfyddiadau’r ymchwiliad. 

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y bydd y Pwyllgor, yn ôl pwysau tebygolrwydd, yn penderfynu p’un a yw’r Aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau ai peidio.   Ar ôl clywed sylwadau’r Swyddog Ymchwilio, bydd rhaid i’r Pwyllgor benderfynu p’un a yw’r Cod wedi cael ei dorri ai peidio, a bydd rhaid iddo hefyd benderfynu p’un a ddylid pennu cosb ai peidio, ac os felly, pa fath o gosb.   Hefyd, mae modd i’r Pwyllgor wneud argymhellion i’r Cynghorydd a/neu’r Cyngor Sir. 

 

Nododd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol bod Adroddiad y Swyddog Ymchwilio ar gael yn Atodiad 2, ynghyd â’i hadroddiad.  Dywedodd bod ei hadroddiad yn tynnu sylw penodol at y pwyntiau bwled ar waelod tudalen 2-3 yn adroddiad y Swyddog Ymchwilio.  Mae’r prif bwyntiau yn ymwneud â’r gŵyn wedi cael eu rhestru ym mharagraff 1 yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio, sef paragraff 4(b) – rhaid i [aelodau] ddangos parch at eraill” a “pharagraff 6(1)(a) – ni ddylai [aelodau] ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar [eu] swydd neu awdurdod”.

 

Fe wnaeth yr Ymgynghorydd Cyfreithiol amlygu’r elfennau perthnasol yng Nghanllawiau OGCC ar y Cod Ymddygiad yn Atodiad 8 yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio.  Dywedodd bod y digwyddiadau’n gysylltiedig â’r achos wedi cael eu crynhoi ym Mharagraffau 11-19 yn yr adroddiad.   Mae paragraffau 20-46 yn crynhoi’r dystiolaeth o ddatganiadau gan dystion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.   Mae canfyddiadau’r Swyddog Ymchwilio yn cael eu cyflwyno ym Mharagraffau 56-64, ac maent yn nodi bod yr Ymchwilydd o’r farn bod Paragraff 6(1)(a) wedi cael ei dorri.  Hefyd, nid oes unrhyw anghytuno ynglyn â ffeithiau’r achos, gan fod y gŵyn yn hunan-gyfeiriad gan yr Aelod, ac mae’n amlwg bod y Cod wedi cael ei dorri.    

 

Yn dilyn penderfyniad cychwynnol y Pwyllgor Safonau i gynnal y gwrandawiad yma heddiw, gofynnwyd i’r Aelod gwblhau ffurflenni cyn-gwrandawiad yn unol â’r broses (Atodiad 3 yn yr adroddiad).   Yn ei ymateb, mae’r Aelod yn cadarnhau nad oedd yn anghytuno â’r ffeithiau yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio ac Adroddiad Cryno Cyn-Gwrandawiad yr Ymgynghorydd Cyfreithiol. 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y bydd yn rhaid i’r Pwyllgor ddod i benderfyniad ynglyn ag unrhyw gosb neu argymhellion, pe byddai’n penderfynu bod y Cod wedi cael ei dorri. 

 

Mae’r opsiynau sydd ar gael i’r Pwyllgor Safonau fel a ganlyn: - 

 

(a)  Peidio â chymryd unrhyw gamau;

(b)  Rhoi cerydd i’r Aelod;

(c)  Atal yr aelod yn rhannol am gyfnod o ddim mwy na chwe mis;

(d)  Atal yr aelod am gyfnod o ddim mwy na chwe mis.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y byddai unrhyw gosb yn dod i rym  21 diwrnod wedi i’r Aelod dderbyn hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y Pwyllgor Safonau. 

 

Cynghorodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y bydd cyfle i’r Cynghorydd Williams a’r Swyddog Ymchwilio gyflwyno sylwadau cyn i’r Pwyllgor Safonau ystyried unrhyw gosb, ac y bydd cyfle i aelodau’r Pwyllgor Safonau ofyn cwestiynau. Yna, bydd y Pwyllgor yn gadael yr ystafell i drafod y dystiolaeth a gyflwynwyd mewn sesiwn preifat.

 

Cynghorodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y bydd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth yng nghyd-destun Canllawiau Panel Dyfarnu Cymru, ac unrhyw achosion tebyg sydd wedi cael eu cyhoeddi ar wefan OGCC.  Pe bai’r gosb yn cynnwys gwahardd yr aelod neu ei wahardd yn rhannol, bydd yn nodi pryd y bydd y gwaharddiad hwnnw’n cychwyn.  Hefyd, bydd yn ystyried a yw’n dymuno  gwneud unrhyw argymhellion i’r Aelod neu’r Cyngor Sir. 

 

Yn dilyn sesiwn breifat y Pwyllgor Safonau bydd y Pwyllgor yn dychwelyd i gyhoeddi ei benderfyniad a’r prif reswm dros y penderfyniad, a fydd yn cael ei gyhoeddi wedi hynny.  

 

Yn olaf bydd rhaid i’r Pwyllgor Safonau ystyried yr argymhellion canlynol: - 

 

(a)    Bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Aelod gadarnhau ei fod wedi methu â

      chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

(b)   Bod y Gwrandawiad yn cael ei gynnal yn unol â Gweithdrefn y Cyngor ar

 gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol;

(c)  Bod y Pwyllgor yn dod i benderfyniad ynglyn â’r canlynol: -    

 

i)     Yn ôl pwysau tebygolrwydd, p’un a yw’r Aelod wedi methu â

     chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, a

ii)     Pe byddai’r Pwyllgor yn dod i’r penderfyniad bod y Cod wedi cael ei

     dorri, a ddylid pennu unrhyw gosb neu argymhelliad, ac os felly, beth

     fydd y gosb

     iii)  Unrhyw argymhellion eraill.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

(b)  CYFADDEFIAD O DDIFFYG CYDYMFFURFIO

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Williams p’un a oedd yn cyfaddef ei fod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.   Roedd y Cynghorydd Williams yn derbyn ei fod wedi torri’r Cod. 

 

(c)  PENDERFYNIAD

 

Fe wnaeth y Cadeirydd annerch y Cynghorydd Williams a dywedodd, gan ei fod wedi cyfaddef ei fod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad yn y modd a ddisgrifir yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio, ac Adroddiad Cryno Cyngyfarfod yr Ymgynghorydd Cyfreithiol, y bydd y Pwyllgor Safonau’n derbyn y ffeithiau yn adroddiad y Swyddog Ymchwilio.  

 

Felly, penderfynodd y Pwyllgor bod y Cynghorydd Williams wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad yn y modd a ddisgrifir yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio.  Eglurodd y Cadeirydd y bydd y Gwrandawiad yn mynd ati’n syth i ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau yn gysylltiedig ag ymddygiad yr Aelod.

Dogfennau ategol: