Eitem Rhaglen

Os penderfynir bod yr Aelod wedi methu â Chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad

(a)   RHAGARWYDD Y CADEIRYDD O’R MATH O GOSB

 

Y Cadeirydd i nodi’r math o gosb y mae’n ei hystyried yn briodol.

 

(b)   SYLWADAU’R AELOD MEWN PERTHYNAS Â CHOSB

 

Gwahodd yr Aelod i wneud sylwadau ynglŷn â chosb.

 

(c)   SYLWADAU’R SWYDDOG YMCHWILIO MEWN PERTHYNAS Â

        CHOSB

 

Gwahodd y Swyddog Ymchwilio i wneud sylwadau ynglŷn â chosb.

 

(d)   Y PWYLLGOR SAFONAU I GADARNHAU FOD GANDDYNT DDIGON

        O WYBODAETH I DDOD I FARN YNGLŶN Â CHOSB

 

Caniatáu i aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau i’r Aelod a/neu’r Swyddog Ymchwilio.

Cofnodion:

(a)  RHAGARWYDD Y CADEIRYDD O’R MATH O GOSB

 

Dywedodd y Cadeirydd bod gofyn i’r Pwyllgor ystyried y canlynol gan ei fod wedi dod i’r casgliad bod y Cynghorydd Williams wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad: - 

 

a.  A ddylid pennu cosb;

b.  Ystyried Canllaw Panel Dyfarnu Cymru ynglyn â chosbau (os bydd cosb)

     a’r math o gosb fydd yn cael ei phennu;

c.  Pryd y daw’r gosb honno i rym; ac

d.  Unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod Gweithdrefn y Cyngor ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol yn nodi bod pedwar penderfyniad ar gael i’r Pwyllgor, a allai fod yn addas yn gysylltiedig â’r mater hwn, sef:

 

a.  Peidio â chymryd unrhyw gamau;

b.  Rhoi cerydd i’r Aelod;

c.  Atal yr Aelod yn rhannol am gyfnod o ddim mwy na chwe mis neu weddill

     ei gyfnod yn y swydd, pa un bynnag yw’r cyfnod byrraf;

d.  Atal yr Aelod am gyfnod o ddim mwy na chwe mis neu weddill ei gyfnod yn

     y swydd, pa un bynnag yw’r cyfnod byrraf.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd ailadrodd penderfyniad y Pwyllgor Safonau'n gynharach i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r drafodaeth yn ymwneud â phennu cost.

 

Awgrymodd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Williams a Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon yn cyflwyno eu sylwadau yn gyntaf, a bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn dilyn hynny er mwyn gwrando ar y sylwadau pellach a fydd yn cael eu trafod yn breifat.

 

(b)  SYLWADAU’R AELOD MEWN PERTHYNAS Â CHOSB

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd Williams gyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r cosbau.  Dywedodd nad oedd yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau ar yr adeg honno.

 

(c)  SYLWADAU’R SWYDDOG YMCHWILIO MEWN PERTHYNAS Â CHOSBAU

 

Rhoddwyd cyfle i Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon gyflwyno sylwadau mewn perthynas â chosbau, a manteisiodd ar y cyfle i wneud hynny.

 

Adroddodd Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon, Llinos Lake, bod gofyn i’r Pwyllgor benderfynu a ddylid pennu cosb ai peidio, ac os felly, pa fath o gosb, a hynny’n seiliedig ar y ffaith bod yr Aelod wedi derbyn ei fod wedi torri’r cod a bod hynny wedi cael ei amlygu gan y Pwyllgor heddiw.

 

I helpu’r Pwyllgor ddod i benderfyniad, cyfeiriodd at Ganllaw Panel Dyfarnu Cymru ar Gosbau.   Cynigodd anfon copi o’r Canllaw i’r Pwyllgor Safonau.  Mae paragraff 18 yn y Canllaw yn amlinellu’r rhesymau y tu ôl i’r broses gosbi:-

 

(a)  Darparu ymateb disgyblaethol pan fo aelod unigol wedi torri’r Cod;

(b)  Darparu cofnod cyhoeddus o’r camymddygiad a’r gosb briodol;

(c) Sicrhau nad yw’r unigolyn nac unrhyw un arall yn ymddwyn yn amhriodol

      yn y dyfodol;

(d)  Hyrwyddo diwylliant o gydymffurfiaeth ar draws yr awdurdodau

      perthnasol, a meithrin hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol. 

 

Adroddodd y Swyddog Ymchwilio ei bod hi’n glir, yn gysylltiedig â difrifoldeb yr achos hwn, ac o ystyried Canllaw Panel Dyfarnu Cymru, nad yw’r achos hwn o dorri’r cod yn ddibwys.  Mae’r Canllaw yn nodi ffactorau megis natur a nifer yr achosion, y canlyniadau gwirioneddol a’r effaith bosib ar unrhyw unigolyn neu unigolion, y cyhoedd yn ehangach a/neu y Cyngor cyfan, ac i ba rannau mae ymddygiad yr Aelod wedi dwyn anfri ar ei swydd, neu’r awdurdod perthnasol, neu faint o botensial sydd yno iddynt wneud hynny. 

 

O ystyried y ffactorau hyn, awgrymodd yr Ombwdsmon bod cosb yn briodol dan yr amgylchiadau hyn.   Hefyd, byddai penderfyniad i beidio â chymryd unrhyw gamau yn amhriodol yn yr achos hwn, o ystyried yr effaith negyddol ar enw da’r Aelod, yn sgil ei sylwadau. 

 

Aeth y Swyddog Ymchwilio ymlaen i egluro, er mwyn helpu’r Pwyllgor ymhellach, y dylid nodi bod yr Ombwdsmon wedi ystyried yr amgylchiadau lliniarol yn yr achos hwn.   Eglurodd bod gan y Cynghorydd Williams hanes o wasanaeth da gyda’r Awdurdod; roedd ei ymddygiad yn ddigwyddiad anarferol ac yn deillio o ddicter neu rwystredigaeth, nid oedd ei sylw wedi cael ei gyfeirio at unigolyn penodol nac er mwyn achosi niwed; nid oedd tystion yn meddwl bod y Cynghorydd Williams yn golygu hynny’n llythrennol, ac roedd y Cynghorydd Williams wedi cymryd camau ar unwaith i wneud iawn am ei ymddygiad.

 

Roedd y Cynghorydd wedi ymddiheuro’n syth i’r rhai a oedd yn bresennol; wedi ymddiswyddo o’i rôl fel Dirprwy Arweinydd ac wedi cyfeirio’i hun i’r Ombwdsmon; roedd wedi cydweithio â’r Ombwdsmon a’r Pwyllgor Safonau ac wedi derbyn bod ei sylw wedi torri’r Cod;  mae wedi dweud ei fod yn difaru gwneud y sylw ac mae’n cydnabod y dylai fod yn fwy gofalus yn y dyfodol wrth fynegi ei farn. 

 

Wrth symud ymlaen i’r ffactorau gwaethygol, dywedodd y Swyddog Ymchwilio bod y Cynghorydd Williams yn aelod profiadol, ei fod wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers 2008; ar yr adeg roedd mewn uwch swydd yn y Cyngor ac mae hefyd wedi bod yn aelod o’r pwyllgor Safonau yn ystod ei gyfnod fel Cynghorydd.  Dywedodd bod natur danbaid a sarhaus y sylw hefyd yn berthnasol, yn ogystal ag effaith y sylw, a’r sylw a gafodd y digwyddiad yn y wasg.   Felly, mae’r sylw wedi dwyn anfri ar yr Awdurdod Lleol. 

 

Aeth y Swyddog Ymchwilio ymlaen i ddweud y dylai’r Pwyllgor ystyried Erthygl 10 o’r Ddeddf Hawliau Dynol wrth ystyried cosbi’r Cynghorydd Williams.  Awgrymwyd, gan fod yr achos yn ddifrifol, y dylai’r gosb fod yn gymesur er mwyn amddiffyn hawliau eraill a hawliau’r Cynghorydd Williams dan Erthygl 10.  Wrth ystyried rhoi cosb, cyfeiriodd yr Ombwdsmon at achos Heesom.  Mae’r Dyfarniad yn nodi bod rhaid cael cydbwysedd rhwng atebolrwydd am dorri’r rheolau a sicrhau bod gan y cyhoedd yr hawl i gynrychiolaeth leol, a chynnal hyder y cyhoedd mewn aelodau etholedig.

 

Awgrymodd y Swyddog Ymchwilio yn barchus bod gan y Cyngor nifer o aelodau etholedig y gallai’r cyhoedd gysylltu â hwy, pe byddai’r Cynghorydd Williams yn cael cosb, heb achosi rhagfarn i’r unigolion hynny, pe na fyddai’r Cynghorydd Williams ar gael am gyfnod.   

 

Dywedodd y Swyddog Ymchwilio bod yr Ombwdsmon fel arfer yn rhannu penderfyniadau ynglŷn ag achosion tebyg gyda’r Pwyllgor Safonau  Cadarnhaodd bod hysbysiadau penderfyniadau ar gael ond nad oes modd eu cymharu’n uniongyrchol, a’u bod yn dangos pob math o benderfyniadau a bod gwahanol gosbau’n cael eu defnyddio.  Cynigodd rannu’r penderfyniadau hynny gyda’r Pwyllgor, cyn gorffen rhoi sylwadau ynglŷn â chosbau.   Adroddodd y Cadeirydd bod y Swyddog Monitro wedi rhannu achosion tebyg gyda’r Pwyllgor. 

 

Yn dilyn awgrym y dylai’r Pwyllgor dderbyn copi o achos Heesom, PENDERFYNWYD y byddai’r Swyddog Monitro’n darparu copi o’r adroddiad i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a’r cyhoedd er mwyn i’r Cynghorydd Williams gael siarad mewn sesiwn preifat.

 

Rhannodd y Cynghorydd Williams ei sylwadau yn gysylltiedig ag effaith yr achos ar ei les personol gyda’r Pwyllgor Safonau.

 

[Ar ôl rhannu’r sylwadau hyn, fe wnaeth y cyfarfod ailgychwyn gyda’r wasg a’r cyhoedd yn bresennol].

 

d) AELODAU’R PWYLLGOR SAFONAU I GADARNHAU FOD GANDDYNT DDIGON O WYBODAETH I DDOD I FARN YNGLŶN Â CHOSB

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno cael cadarnhad gan bob aelod o’r Pwyllgor Safonau bod ganddynt ddiogon o wybodaeth i’w galluogi i wneud penderfyniad ynglyn â p’un a ddylid rhoi cosb ai peidio, ac (os yn briodol) pa fath o gosb. 

 

PENDERFYNWYD bod gan y Pwyllgor ddigon o wybodaeth i ddod i benderfyniad ynglyn â chosb.

 

Fe aeth y Pwyllgor Safonau i ystafell arall i ystyried y mater a dod i benderfyniad ynglŷn â’r isod: -

 

a.  A ddylid pennu cosb;

b.  Ar ôl ystyried Canllaw Panel Dyfarnu Cymru ynglyn â chosbau (os bydd

     cosb yn cael ei phennu), pa gosb i’w rhoi;

c.  Pryd fydd y gosb yn dod i rym, ac

d.  Unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor.

 

[Dychwelodd y Pwyllgor Safonau i’r brif ystafell gyfarfod; cadarnhaodd y Cadeirydd pwy a oedd yn bresennol a bod y dechnoleg yn gweithio].