Yn unol â pharagraff 10.8(b) o’r Weithdrefn ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol.
Cofnodion:
Adroddodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Safonau wedi dod i benderfyniad ynglyn â phob un o’r pwyntiau yr oedd gofyn iddo ddod i benderfyniad yn eu cylch. Cadarnhaodd bod y Pwyllgor Safonau wedi ystyried Canllaw Panel Dyfarnu Cymru ar Gosbau, a’i fod wedi sicrhau bod ei benderfyniad wedi ystyried yr egwyddorion isod:
• Tegwch
• Budd y cyhoedd
• Cymesuredd
• Cysondeb
• Cydraddoldeb a didueddrwydd
• Hawliau Dynol
Roedd y Pwyllgor Safonau hefyd yn ystyriol o bwrpas y cosbau wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â’r mater hwn. Fel y crynhoir yng Nghanllaw Panel Dyfarnu Cymru ar Gosbau pwrpas y gosb a roddir yw:
• darparu ymateb disgyblaethol i achos lle mae aelod unigol wedi torri’r Cod;
• gwneud cofnod cyhoeddus o’r camymddwyn a’r gosb briodol;
• sicrhau nad yw’r unigolyn na neb arall yn camymddwyn yn y dyfodol;
• hybu diwylliant o gydymffurfio ar draws yr awdurdodau perthnasol;
• meithrin hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol.
Hefyd, roedd y Pwyllgor Safonau wedi ystyried yr isod wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â chosb: -
• asesu difrifoldeb y tor-amod ac unrhyw ganlyniadau i unigolion a/neu’r
cyngor;
• nodi’r math cyffredinol o gosb y mae’r Tribiwnlys yn credu ei bod yn fwyaf
tebygol o fod yn briodol o ystyried y tor-amod;
• ystyried unrhyw amgylchiadau lliniarol neu waethygol perthnasol a sut y
gallai’r rhain effeithio ar lefel y gosb sy’n cael ei hystyried;
• ystyried unrhyw addasiad pellach sydd ei angen er mwyn sicrhau bod y
gosb yn cael effaith briodol, o ran cyflawni dibenion y gosb;
Yn unol â budd y cyhoedd, ystyriodd y Pwyllgor Safonau gosbau a roddwyd gan Bwyllgorau Safonau eraill, ar gyfer achosion tebyg o dorri’r cod. Cadarnhaodd y Pwyllgor Safonau ei fod wedi myfyrio ar faterion blaenorol y mae OGCC wedi cyhoeddi adroddiadau arnynt ac sydd ar gael ar ei gwefan wrth benderfynu ar y gosb.
Ar ôl ystyried manylion yr achos fel y nodwyd yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio, yng nghyd-destun yr egwyddorion sydd wedi eu disgrifio uchod, roedd penderfyniad y Pwyllgor fel a ganlyn: -
• Dylid rhoi cosb;
• Y byddai’r Aelod yn cael cerydd.
• Gwnaed yr argymhellion canlynol i’r Cyngor: -
• Yn gyntaf, bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau’n trafod cymorth ffurfiol
pellach gyda’r Cynghorydd Williams yn gysylltiedig â rheoli ei emosiynau
a’i rôl wleidyddol yn gyhoeddus.
• Yn ail, bod y Cyngor yn sicrhau bod pob aelod yn glir ynglyn â’r Cod
Ymddygiad, a’i fod yn berthnasol i gyfarfodydd preifat yn ogystal â
chyfarfodydd cyhoeddus.
Eglurwyd y byddai’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniadau uchod yn cael eu hamlinellu yn y penderfyniad ffurfiol a fyddai’n cael ei anfon at y Cynghorydd Williams maes o law, ac y byddai’n cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor yn dilyn y broses hon. Fodd bynnag, gellir crynhoi’r prif resymau y tu ôl i’r penderfyniadau hyn fel a ganlyn: -
Roedd y Pwyllgor o’r farn bod difrifoldeb yr achos hwn yn arwain at gosb a oedd yn disgyn rhwng pen uchaf dim camau pellach a phen isaf atal dros dro ac eglurodd bod y ffactorau lliniarol yn yr achos hwn yn uwch o lawer na’r ffactorau gwaethygol.
Roedd y ffactorau lliniarol a ystyriwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn: -
• Mae gan y Cynghorydd Williams hanes o ymddygiad da dros gyfnod hir.
• Digwyddodd y camymddygiad unwaith yn unig.
• Yr Aelod roddodd wybod am y digwyddiad.
• Mae’r Aelod yn cydnabod ac yn edifarhau’r camymddwyn ac unrhyw
ganlyniadau a ddeilliodd o’r sylw a wnaethpwyd ganddo.
• Ymddiheurodd y Cynghorydd yn gynnar i unrhyw un a gafodd eu heffeithio
gan ei sylw.
• Mae’r Aelod hefyd wedi cymryd camau i wneud iawn am ei ymddygiad ac
wedi cydweithredu â’r Swyddog Ymchwilio a’r Pwyllgor Safonau.
• Mae’r Aelod yn derbyn ei fod angen newid ei ymddygiad ac mae wedi
cydymffurfio â’r Cod yn dilyn y digwyddiad.
O ran y camau nesaf adroddodd y Cadeirydd y byddai Gweithdrefn y Cyngor ar gyfer Gwrandawiadau Lleol yn parhau i gael ei dilyn.
PENDERFYNWYD: -
• Bydd y Cynghorydd Williams yn derbyn e-bost gan yr Ymgynghorydd
Cyfreithiol yn cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor ac yn dilyn hynny
hysbysiad ysgrifenedig ffurfiol gan y Pwyllgor. Bydd y Cynghorydd
Williams yn derbyn cadarnhad o’r cyfnod sydd ganddo i gyflwyno
apêl, yn unol â pharagraff 11 yng Ngweithdrefn y Cyngor ar gyfer
Gwrandawiadau Safonau Lleol.
• Unwaith y bydd y broses wedi cael ei chwblhau, bydd yr hysbysiad
ysgrifenedig ffurfiol yn cael ei rannu a’i gyhoeddi.
Yn olaf, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol ac a oedd wedi cyfrannu at y Gwrandawiad a daeth â’r cyfarfod i ben.