Eitem Rhaglen

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i'r cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11-18 oed a chynnal ymgynghoriad statudol arno, i'w ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yr adroddiad ac eglurodd fod Rhaglen Amlinellol Strategol y Cyngor (Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu) sy'n gynllun treigl naw mlynedd yn amlinellu’r cynlluniau a nodwyd ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf a chyflawni dros y cyfnod. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod concrit RAAC drwy adeilad ysgol Ysgol Uwchradd Caergybi yn golygu bod angen mynd i'r afael â'r sefyllfa yn y tymor byr neu ganolig. Yn dilyn newidiadau yng nghanllawiau'r DU ym mis Awst 2023 ar RAAC, mae gwaith adfer helaeth wedi'i wneud i ddiogelu strwythur yr ysgol yn y tymor canolig, ond mae angen ateb hirdymor. Mae'r papur cynnig yn cyflwyno canlyniad y gwaith i ystyried nifer o opsiynau ar gyfer dyfodol Ysgol Uwchradd Caergybi ac mae wedi'i ddrafftio yn unol â disgwyliadau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig (O11/2018).

 

Nododd y Cynghorydd Dafydd Roberts, pe bai'n cael ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad statudol, y gallai'r cynnig i adleoli dysgwyr yr ysgol i adeilad newydd fod yn gychwyn ar bennod newydd gyffrous i'r ysgol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y cynnig yn cydymffurfio â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig ac yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i wella ysgolion a chreu amgylcheddau dysgu modern sy'n cefnogi cymunedau a'r Gymraeg. Mae'r cynnig yn cynnwys adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i ysgol newydd sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr rhwng 11 a 18 oed gyda lle i 900 o ddisgyblion. Wrth ddatblygu'r cynnig, ystyriodd y Cyngor nifer o ffactorau fel yr amlinellir yn y papur a'r prif ffactor sy’n sbarduno’r cynnig yw cyflwr yr adeilad presennol - wedi'i ddosbarthu fel Gradd C (gweithredol ond mae angen gwaith atgyweirio mawr arno neu godi adeilad newydd yn ei le yn y tymor byr i'r tymor canolig). Mae'r costau cynnal a chadw presennol a'r rhai a ragwelir ar gyfer adeilad presennol yr ysgol yn y dyfodol yn dod i swm o bron £29m. Er bod opsiynau eraill ar gyfer dyfodol Ysgol Uwchradd Caergybi wedi'u hystyried, fel y manylir yn adran 6 o'r adroddiad, ystyrir mai adleoli dysgwyr yr ysgol i ysgol bwrpasol newydd ar gyfer plant 11-18 oed yw'r ateb mwyaf effeithiol i’r heriau sy’n wynebu’r ysgol. Mae'r goblygiadau o ran cost wedi'u nodi yn adran 7 o'r adroddiad.

 

Disgrifiodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc hwn fel cyfnod cyffrous, ac yn gyfle i sefydlu ysgol fodern sy'n ategu ac yn cefnogi arferion addysgu a dysgu cyfoes, a fydd o fudd i staff a disgyblion. Mae'r cynnig yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n ymwneud â chyflwr adeilad yr ysgol, yn enwedig RAAC a gallai arwain at arbedion hirdymor o ran costau atgyweirio a chynnal a chadw dros y 25 mlynedd nesaf pe bai'n cael ei weithredu drwy Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, mae hefyd yn cefnogi amcanion y Cynllun Amlinellol Strategol. O dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig, mae adleoli ysgol i safle mwy na milltir i ffwrdd o'r safle presennol yn cael ei ystyried yn newid rheoledig, sy'n golygu bod angen proses statudol i gasglu ac ystyried barn dysgwyr a rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniad terfynol. Gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo'r cynnig ac awdurdodi swyddogion i gychwyn yr ymgynghoriad statudol angenrheidiol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sonia Williams, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, farn y pwyllgor sgriwtini ar ôl iddo drafod y papur cynnig yn ei gyfarfod ar 21 Mai. Dywedodd fod y pwyllgor yn cydnabod y cynnig fel cyfle cyffrous i sefydlu ysgol uwchradd fodern, ddiogel ac addas i'r diben yn ardal Caergybi a’i fod hefyd yn cynnig arbedion posibl o ran costau atgyweirio a chynnal a chadw. Roedd aelodau'r pwyllgor wedi ceisio sicrwydd bod y cynnig yn cydymffurfio'n llawn â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig, yn diwallu anghenion addysg uwchradd presennol ac yn y dyfodol yn ardal Caergybi, a'i fod yn fforddiadwy. Ar ôl adolygu'r papur cynnig a derbyn sicrwydd boddhaol, roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi penderfynu argymell y cynnig a'r broses ymgynghori statudol angenrheidiol i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Croesawodd Aelodau'r Pwyllgor Gwaith y cynnig gan awgrymu y byddai'n cyfrannu ochr yn ochr â datblygiadau eraill yn yr ardal, at adfywio'r dref. Pwysleisiodd, er bod adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi yn strwythurol ddiogel, fod angen buddsoddiad sylweddol yn y tymor hir i ddatrys yr heriau cynnal a chadw y mae'n eu hwynebu. Roedd yr aelodau yn credu y byddai'r adnoddau hynny'n cael eu gwario'n well ar adeiladu ysgol newydd sbon – un sy'n cynnig cyfleusterau dysgu modern, mwy o le yn yr awyr agored a digon o gapasiti i ateb y galw yn y dyfodol. Tynnodd y Pwyllgor Gwaith sylw ymhellach at y ffaith fod y cynnig yn buddsoddi mewn pobl ifanc a'r gymuned ehangach, ei fod yn gwella addysg ac yn cefnogi'r strategaeth Gymraeg. Wrth gefnogi'r cynnig, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynghylch yr amserlen gan nodi na fyddai'r ysgol newydd, pe bai'n cael ei chymeradwyo, yn weithredol tan 2030. Esboniodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio a Pherfformiad, yn ogystal â'r broses ymgynghori statudol chwe mis, bod yn rhaid paratoi achosion busnes a chynlluniau manwl yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, sicrhau cymeradwyaeth ariannol a'r tir sydd angen ei brynu cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.

 

Wrth gydnabod cymhlethdod a hyd y broses o’u blaenau, ceisiodd y Prif Weithredwr annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eu barn, eu disgwyliadau a'u pryderon trwy sianeli cyfathrebu ac ymgysylltu ffurfiol y cyngor.

 

Yn ogystal â hyn, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod bod angen uwchraddio adeiladau ysgolion eraill ar yr ynys. Er nad yw'r adnoddau presennol yn caniatáu gwelliannau ar unwaith, nid yw'r ysgolion hyn wedi cael eu hanghofio a byddant yn cael eu cynnal dros amser. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa yn Ysgol Uwchradd Caergybi a’r ffaith bod RAAC yn adeilad yr ysgol, mae’r oes sy'n weddill yn gyfyngedig sy'n golygu ei bod yn flaenoriaeth y mae'n rhaid mynd i'r afael â hi.

 

Penderfynwyd 

 

  • Cymeradwyo’r cynnig i “Adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol uwchradd newydd ar gyfer dysgwyr 11-18 oed,” ac
  • Awdurdodi Swyddogion i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig.

 

 

Ar ddiwedd busnes ffurfiol y cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i'r cyn-aelod o’r Pwyllgor Gwaith, y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor Gwaith. Roedd y gydnabyddiaeth hon yn dilyn ei benodiad yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Mawrth.

 

Dogfennau ategol: