Eitem Rhaglen

Adroddiad Ymgysylltu – Darpariaeth Addysg ôl-16

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar ganlyniad yr ymarferiad ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch dyfodol darpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg, yr adroddiad gan esbonio bod yr adolygiad a'r posibilrwydd o ailstrwythuro'r ddarpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn wedi'i nodi fel ystyriaeth allweddol o fewn Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu y Cyngor a'r Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg. Cynhaliodd y Cyngor ymarferiad ymgysylltu â'r cyhoedd ar ddyfodol darpariaeth addysg ôl-16 rhwng 20 Ionawr a 7 Mawrth 2025, ac mae manylion amdano wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Yn hytrach na chynnal ymgynghoriad ffurfiol ar hyn o bryd – gan nad yw’n gynnig penodol, dewisodd y Cyngor gynnal ymarferiad ymgysylltu er mwyn cynnwys mwy o randdeiliaid ac i gael sgwrs ehangach er mwyn deall gwahanol safbwyntiau a barn. Bydd yr adborth a gesglir yn cael ei ddefnyddio i lywio camau nesaf y Cyngor a'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch darpariaeth addysg ôl-16.

 

Tynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts sylw at natur gadarnhaol y broses a ddenodd gyfanswm o 779 o ymatebion. Yn benodol, daeth 30% o'r ymatebion gan ddysgwyr a phobl ifanc rhwng 16 a 21 oed. Yr ateb a ddewiswyd oedd cadw'r ddarpariaeth ôl-16 gyda phob un o'r darparwyr presennol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu y Cyngor a'i Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg yn cydnabod yr angen i adolygu'r model darpariaeth addysg ôl-16 presennol i sicrhau bod y system yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn ymateb i brofiadau dysgwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau presennol yn y sector addysg ôl-16 gan gynnwys maint dosbarthiadau, newidiadau demograffig a hyfywedd ariannol. Fel rhan o'r ymarferiad ymgysylltu cyflwynwyd nifer o opsiynau a gwahoddwyd rhanddeiliaid hefyd i gynnig atebion eraill. Cytunodd mwyafrif yr ymatebwyr fod angen adolygu'r ddarpariaeth addysg ôl-16, gyda 79% o blaid cadw’r ddarpariaeth gyda phob un o'r darparwyr presennol. O ran ymatebwyr cyffredinol, a phobl ifanc, y blaenoriaethau allweddol ar gyfer dyfodol darpariaeth ôl-16 yw argaeledd lleol, ansawdd yr addysgu a’r dewis sydd ar gael o bynciau’n lleol. O ystyried yr adborth yn sgil yr ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus, y dull a argymhellir yw datblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr presennol a bod swyddogion yn paratoi cynllun strategol i gefnogi'r cyfeiriad hwn. Bydd y cynllun hefyd yn ceisio lliniaru a mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu darpariaeth addysg ôl-16 ar hyn o bryd ar Ynys Môn a chryfhau hawl a phrofiad dysgwyr ôl-16. Mae'r weledigaeth hon yn rhan o'r uchelgais ehangach i sicrhau darpariaeth addysg o'r ansawdd uchaf posibl ar yr Ynys ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Sonia Williams, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ddiweddariad o gyfarfod y pwyllgor ar 21 Mai 2025 lle adolygwyd yr Adroddiad Ymgysylltu ar Ddarpariaeth Addysg Ôl-16. Roedd y pwyllgor wedi nodi bod y broses ymgysylltu a'r gwaith darpariaeth addysg ôl-16 yn integreiddio sawl llinyn o Gynllun y Cyngor. Er bod aelodau'n nodi bod yr ymarferiad ymgysylltu wedi bod yn gynhwysfawr, ceisiodd sicrwydd bod yr ymarferiad wedi cyrraedd ystod amrywiol o bobl ifanc yn effeithiol a holwyd am ystod oedran, galluoedd a diddordebau ymatebwyr i sicrhau persbectif eang. Holodd yr Aelodau hefyd am y risgiau a'r heriau o beidio â gweithredu'r cynnig a thrafodwyd ei oblygiadau i'r Gymraeg. Ar ôl craffu ar yr adroddiad a derbyn sicrwydd boddhaol ynghylch y materion hyn, roedd y pwyllgor wedi penderfynu argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r bwriad i ddatblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr presennol ac awdurdodi swyddogion i baratoi cynllun strategol i gefnogi'r bwriad hwn, a fydd hefyd yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r ddarpariaeth addysg ôl-16 ar hyn o bryd ar Ynys Môn.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith fod yr adroddiad yn gam cadarnhaol a chroesawodd yr ymateb eang i'r ymarferiad ymgysylltu, gan ei gydnabod ei fod yn brawf o waith y Gwasanaeth Dysgu, yn enwedig wrth gynnal sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb gydag ysgolion uwchradd a Grŵp Llandrillo Menai i gasglu adborth gan ddysgwyr ôl-16 presennol a dysgwyr yn y dyfodol.

 

Fodd bynnag, gofynnwyd am sicrwydd bod yr ymarferiad ymgysylltu yn ymestyn y tu hwnt i gampysau Coleg Menai, Llangefni a Bangor a grybwyllir yn yr adroddiad, o ystyried y gallai dysgwyr Ynys Môn fod wedi'u lleoli ar draws safleoedd eraill yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y gwasanaeth wedi gofyn i'r coleg sicrhau bod dysgwyr o Ynys Môn yn cael mynediad i'r holiadur, a bod yr ymarferiad ymgysylltu yn cael ei hyrwyddo'n ganolog. Awgrymodd y Pwyllgor Gwaith y dylid egluro hyn yn yr adroddiad. Yn ogystal â hyn, pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith mai dim ond y cam cyntaf i adolygu'r ddarpariaeth addysg ôl-16 yw'r adroddiad ymgysylltu ac wrth i'r broses ddatblygu, bydd ystod ehangach o safbwyntiau yn cael eu casglu. Yn bwysicaf oll, mae ymgysylltu ac adborth parhaus gan ddysgwyr ôl-16 presennol a'r rhai sydd wedi cwblhau eu haddysg ôl-16 – boed yn yr ysgol neu'r coleg, yn flaenoriaeth. Nododd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, yn amodol ar gymeradwyaeth, y gellid ymgorffori'r disgwyliadau hynny ar gyfer ymgysylltu rheolaidd yn y cynllun strategol i helpu i lywio'r rhaglen yn y dyfodol.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith ymhellach bwysigrwydd darparu'r cyfleoedd addysgol ôl-16 gorau posibl, gan gynnwys elfennau academaidd a galwedigaethol, gan sicrhau bod dysgwyr yn gallu dewis pynciau sydd o ddiddordeb iddynt heb gyfyngiadau diangen ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau pan fyddant yn dewis eu llwybrau ar gyfer y dyfodol. Er mwyn gweithredu'r cynnig yn llwyddiannus, mae cefnogaeth ac ymrwymiad penaethiaid, timau arweinyddiaeth a chyrff llywodraethu darparwyr presennol yn hanfodol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y gwasanaeth yn cynnal perthynas waith dda gyda'r ysgolion a'r coleg a'i fod yn hyderus y bydd modd cydweithio’n llwyddiannus ar y cam cychwynnol hwn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol fel y ffordd fwyaf priodol ymlaen yng ngloeuni’r adborth o’r ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus -–

 

·      Datblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr presennol ac,

·      Awdurdodi Swyddogion i baratoi cynllun strategol ar gyfer datblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr ôl-16 presennol a fydd yn ceisio mynd i’r afael â, neu lliniaru’r heriau sy’n wynebu darpariaeth ôl-16 ar Ynys Môn ar hyn o bryd, ac i gryfhau hawl i ddysgu a phrofiad dysgwyr ôl-16.

 

Dogfennau ategol: