Eitem Rhaglen

Adroddiad Ymgysylltu - Darpariaeth Addysg Ôl-16

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar ganlyniad yr ymarferiad ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn â dyfodol darpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn i'w ystyried a'i adolygu gan y pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg, yr adroddiad gan egluro bod y Cyngor wedi penderfynu cynnal ymarferiad ymgysylltu â'r cyhoedd ar y ddarpariaeth addysg ôl-16 ar gyfer Ynys Môn a gynhaliwyd rhwng 20 Ionawr a 7 Mawrth 2025. Yn hytrach nag ymgynghoriad ffurfiol, dewiswyd yr ymarferiad ymgysylltu oherwydd nad oedd unrhyw gynnig penodol yn cael ei gyflwyno ac oherwydd bod y Cyngor eisiau cynnwys ystod ehangach o randdeiliaid a meithrin sgwrs ehangach i ddeall gwahanol safbwyntiau a barn. Gwahoddwyd rhanddeiliaid i roi adborth ar sawl opsiwn fel y nodwyd yn yr adroddiad a chawsant gyfle i gynnig opsiynau eraill. Yn ogystal â'r arolwg ymgysylltu, cynhaliwyd sesiynau wyneb yn wyneb ar gampws Coleg Menai yn Llangefni ac ar draws y pum ysgol uwchradd. Cafwyd ymateb sylweddol i’r ymarferiad ymgysylltu â’r cyhoedd fel y manylir yn yr adroddiad ymgysylltu.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr adroddiad yn elfen allweddol o ymrwymiad y Cyngor i adolygu'r ddarpariaeth addysg ôl-16, fel yr amlinellir yn Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu y Cyngor a'i Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg.  Mae'r ddwy ddogfen yn pwysleisio'r angen i ailasesu'r model darpariaeth addysg ôl-16 presennol i sicrhau ei fod yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn gallu ymateb i brofiadau dysgwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau presennol o fewn y sector gan gynnwys maint dosbarthiadau, newidiadau demograffig a hyfywedd ariannol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (54%) yn yr ymarferiad ymgysylltu’n gefnogol i adolygu'r ddarpariaeth addysg ôl-16, a'r opsiwn a ddewiswyd oedd Opsiwn 2 – datblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr presennol. Nododd ymatebwyr sawl blaenoriaeth ar gyfer dyfodol darpariaeth ôl-16 gan gynnwys hygyrchedd lleol, ansawdd addysgu a’r dewis o bynciau’n lleol. O ystyried yr adborth a gafwyd drwy ymgysylltu cyhoeddus, argymhellir i'r pwyllgor eu bod yn cefnogi Opsiwn 2 fel y ffordd fwyaf priodol ymlaen ac awdurdodi swyddogion i baratoi cynllun strategol i'r perwyl hwn. Bydd y cynllun hefyd yn anelu at fynd i'r afael â'r heriau presennol o ran darpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn gan gryfhau hawliau a phrofiad dysgwyr ôl-16. Mae'r weledigaeth hon yn cyd-fynd â'r uchelgais ehangach o sicrhau addysg o'r ansawdd uchaf posibl ar yr Ynys ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

 

Wrth adolygu'r adroddiad ymgysylltu, trafododd y pwyllgor y materion canlynol –

·      Gofynnodd aelodau am eglurhad ynghylch beth fyddai perthynas waith agosach rhwng darparwyr presennol yn ei olygu, manteision y dull hwn ac a fyddai'n arwain at gostau ychwanegol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion, y coleg, rhieni a dysgwyr i ddatblygu fframwaith ar gyfer cydweithredu agosach. Deilliodd nifer o syniadau o'r ymgysylltu cyhoeddus ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddod â'r rhanddeiliaid at ei gilydd i greu cynllun strategol i fynd i'r afael â'r heriau hyn dros amser. Mewn ymateb i gwestiynau pellach am wella’r dewis a’r pynciau sydd ar gael ym mhob sefydliad gan leihau'r angen i ddysgwyr deithio rhwng safleoedd, cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg a Sgiliau fod gwaith i'w wneud i wella profiadau dysgwyr. Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid i sicrhau'r gwelliannau hyn.

 

·      Holodd yr Aelodau am yr heriau a'r risgiau posibl o beidio â gweithredu'r cynnig a ph’un ai a oes gan y Cyngor gynllun wrth gefn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai peidio â mynd i'r afael â'r heriau a nodwyd nawr yn ei gwneud hi'n llawer anos rhoi ystyriaeth iddyn nhw yn y dyfodol.  Mae'r ymarferiad ymgysylltu wedi creu disgwyliad ymhlith rhanddeiliaid y bydd y mater yn cael ei ddatrys. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr fod y broses ymgysylltu wedi rhoi cyfeiriad clir i'r Cyngor. Yn unol ag argymhelliad yr adroddiad, bydd y cynllun strategol yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael ac yn darparu'r manylion angenrheidiol. Cyn y gall unrhyw ymgynghoriad ffurfiol ddigwydd, rhaid cynnal yr asesiadau effaith angenrheidiol. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, bydd angen dilyn proses drylwyr cyn y gellir cyflawni unrhyw un o'r nodau a'r amcanion.

 

·      Er bod y pwyllgor yn cydnabod bod yr ymarferiad ymgysylltu’n gynhwysfawr, gan ganmol yn benodol yr ymateb cryf gan ddysgwyr, ceisiwyd sicrwydd ei fod wedi llwyddo i gyrraedd dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a diddordebau academaidd. 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y sesiynau ymgysylltu a gynhaliwyd trwy'r ysgolion a'r coleg wedi cynnwys dysgwyr o wahanol grwpiau blwyddyn gyda chyfle ychwanegol i gymryd rhan trwy'r arolwg ymgysylltu. Pwysleisiodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Cyngor yn gwerthfawrogi safbwyntiau plant a phobl ifanc yn fawr. Un o'r themâu a ddaeth i'r amlwg o'r ymarferiad ymgysylltu oedd yr angen i roi mwy o bwyslais ar farn pobl ifanc. Os cymeradwyir yr argymhelliad, bydd gan y Cyngor amser i ddatblygu'r dull hwn ymhellach, o bosibl drwy sefydlu grwpiau ffocws a chael mewnbwn dysgwyr sydd wedi cwblhau eu haddysg ôl-16.

 

·      Codwyd cwestiynau ynglŷn â sut mae'r newidiadau yn cyd-fynd â Chynllun y Cyngor ac yn cyfrannu at ei gyflawni.

 

Esboniodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod cysylltiad agos rhwng yr ymarferiad ymgysylltu, yr adroddiad a'r canlyniadau posibl ar gyfer darpariaeth addysg ôl-16 â sawl amcan allweddol o Gynllun y Cyngor. Un o'r rhain yw rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgu a siarad y Gymraeg - amcan sy'n rhedeg drwy'r ymgysylltu fel llinyn aur. Amcan allweddol arall yw darparu addysg effeithiol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol - mae'r ymarferiad ymgysylltu a'r gwaith sy'n deillio o hynny yn anelu at ei gyflawni yn y sector ôl-16.

 

·      Holodd yr aelodau am y sylw a roddwyd i'r Gymraeg yn yr ymarferiad ymgysylltu â'r cyhoedd.

Cadarnhaodd y Pennaeth Democratiaeth fod Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi'i gynnal ynglŷn â'r cynnig i ddatblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr addysg ôl-16 presennol. Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi holi am gwmpas yr asesiad. Mewn ymateb, eglurwyd mai ymgysylltiad cyhoeddus a gynhaliwyd yn hytrach nag ymgynghoriad ffurfiol. Os bydd angen ymgynghoriad ffurfiol ar gamau yn y dyfodol, bydd asesiad effaith ychwanegol yn cael ei gynnal.

 

Cododd aelod bryderon ynglŷn â'r berthynas rhwng ysgolion a'r cwrs TAR ym Mhrifysgol Bangor, gan nodi ei fod yn ymwybodol o ysgol sy'n amharod i gynnig lleoliadau i raddedigion sy'n chwilio am brofiad addysgu fel rhan o'u hyfforddiant a'u mynediad i'r proffesiwn. Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y byddai'n mynd ar drywydd y mater penodol gyda'r aelod a phwysleisiodd fod gan ysgolion yr Ynys berthynas gadarn â'r Brifysgol. Cyfeiriodd at bartneriaeth CaBan a sefydlwyd sawl blwyddyn yn ôl rhwng y brifysgol, ysgolion a'r consortiwm addysg rhanbarthol. Trwy’r bartneriaeth cyflwynwyd rhaglen yn dynodi ysgolion penodol fel ysgolion/hybiau blaenllaw ar gyfer hyfforddiant athrawon, gan gynnwys ysgolion ar Ynys Môn.

 

Mynegodd aelod bryder hefyd nad oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod, o ystyried arwyddocâd y pwnc. Gofynnodd a yw cyfarfodydd y pwyllgor yn cael digon o gyhoeddusrwydd.

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod ymgysylltu â'r cyhoedd wedi bod yn rhan allweddol o'r adolygiad sgriwtini. Er bod camau wedi'u cymryd i wella cyfranogiad y cyhoedd, mae angen gwaith pellach a bydd yn cael ei wneud yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd y pwyllgor yn cael ei ddiweddaru maes o law.

 

Ar ôl adolygu Adroddiad Ymgysylltu Darpariaeth Addysg Ôl-16 a derbyn sicrwydd ynghylch y materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y canlynol i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith –

 

·         Datblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr presennol, ac

  • Awdurdodi Swyddogion i baratoi cynllun strategol ar gyfer datblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr ôl-16 presennol a fydd yn ceisio mynd i’r afael â neu liniaru’r heriau sy’n wynebu darpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn ar hyn o bryd, ac i gryfhau hawl i ddysgu a phrofiad dysgwyr ôl-16.

 

Dogfennau ategol: